Hide Articles List

24 articles on this Page

Llith o Lerpwl.

News
Cite
Share

Llith o Lerpwl. (GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG). WAYERTREE. Saif y dref fechan ond cyflym-gynyddol hon o fewn dwy filldir a haner i'r gorllewin o Lerpwl, hyny yw, o'r Exchange. Ddeng mlyn- edd ar hugain yn ol nid oedd ond pentref bychan, di-nod, ond y mae y boblogaeth erbyn hyn yn rhifo o wyth i naw mil. Mae yma Neuadd Drefol, a Bwrdd L-ieol i lywodraethu ei hachosion. Dywedir ei fod ya un o'r lleoedd lachaf yn yr holl wlad, ac yr oedd amryw gleifion yn dyfod yma flynyddau yn ol pan Inewn sefyllfa wellhaol am adgyfnerthiad ly iechyd. Y mae twr cloch ardderchog yn mhen nehaf y pentref, yr hwn a roddwyd gan y di- weddar Syr James Picton yn Goffadwriaeth am ei wraig. Nid rhyw lawer o olion yr hen Gymry (y cyn-frodorion) a geir yn y parthau yma o Swydd Gaerbirfryn, oddieithr mewn enwau lleoedd. Rhyw dair milldir a haner o'r Exchange, ar ffordd Woolton, mae hen gylch Derwyddol a elwir Calder Stones. Mae yno bump o geryg mawrion yn sefyll ar eu penau, ac yn gerfiedig arnynt lunian cwpanau a niodrivyau. Bydd ein hanffodion cenedlaethol yn dyfod yn gryf i fy meddwl bob tro y byddaf yn syllu ar yr hen olion hynafiaethol byn. Collodd yr hen Frythoniaid etifeddiaeth deg; do, do, ddarllenydd mwyn, ond pa ddiben crÏo uwchben Uaeth colledig? Mae llawer o G-ymry yma eto, yn mysg cenedloedd eraill, ac ni ddaeth y syniad erioed i fy meddwl, wrth rodio y ffyrdd a'r heolydd, fy mod mewn gwlad estronol. Ond i beidio crwydro oddiwrth y Pwnc, mae yn Wavertree dair o eglwjsi, capel Pabyddol, ac amryw gapeli Ymneillduol. Eglwys y plwyfyw Eglwys y Drindod Sanctaidd, lie bu y diweddar Barch. Aneurin Lodge, A.C., yn gweinidogaethu am lawer o flynyddau. Gwr genedigol o Lanelwy oedl Mr. Lodge, ac yr oedd yn Gymro gwladgarol. Yr oedd yn ddyn dysgedig, boneddigaidd, a chymwynasgar, ac yn e 0 fawr ei barch yn Wavertree gan Eglwyswyr ac YInneillduwyr. Bu yn hynod Iwyddianus yma tra y parhaodd ei iechyd. Efe a adeiladodd Eglwys St. Bridget ryw ugain mlynedd yn ol. Ond at < ST. MARY'S CHURCH, yn Sandown Park, yr oeddwn yn awyddus i alw sylw yn benaf yn fy llith, ac yr wyf yn falch o'r ] pyfleusdra i dalu teyrnged o barch i goffadwr- iaeth ei sylfaenydd- ( Y PARCH. SAMUEL FENTON, A.C. ] Yr oedd Mr. Fenton yn enedigol o Cilrhedyn, Yn swydd Gaerfyrddin, ac yn un o ddisgyn- yddion Mr. Richard Fenton, awdwr "Tour through Pembrokeshire." Derbyniodd ei ] addysg i'r weinidogaeth yn Ngholeg yr Iesu, j l^hydychain. Bu am rai blynyddau yn gwas- ( aQaethu fel curad yn Eglwys y Drindod SLtuct ] ftidd, ac yn y cyfamser priododd foneddiges ] Syfoethog, yr hyn a'i galluogodd i adeiladu Eg- j lwys St. Mary ar ei draul ei hun, oddieithr y < twr, yr hwn a orphenwyd y flwyddyn ddiweddaf. ] Burn yn ei dy amryw weithiau ryw ugain i Mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o'r dynion ] I-aredicaf y daethum i gyffyrddiad a hwy erioed, 1 yn dwyn mawr zel dros Gl-ymru, y bobl a'r J 1aith, ac yn enwedigol yr liwyl Gymreig yn y t y Pwlpud. Yr oedd ei haelioni at bob aelios da Yn ddiarebol, ac y mae enw Samuel Fenton yn Warogl yn y gymydogaeth i'r dydd hwn. Ei ( olynydd oedd ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. I Snowden Smith, A.C., yr hwn a benodwyd gan Yr Esgob ryw bedair blynedd yil ol i Eglwys- t flidd St. Philip, Seaforth. Mae St. Mary's yn j o'r ychydig eglwysi yn nawddogaeth Esgob ( ■^erpwl. Dilynwyd ef yn y rheithoriaeth gan ( Y PARCH. CHARLES W. RIDLEY, A.C., ( y* hwn a fu yma am yn agos i beduir blynedd i yn fawr ei barch a'i gymeradwyaeth gan y plwyf- ( Qliou, yn enwedig gan y werin bobl. Yr oedd ] y*1 cynal gwasanaethau wythnosol yn yr Ystafell i! (lelibadol yn misoedd y gauaf i'r dosbarthiadau gweithiol, ac yn pregethu yn yr awyr agored, 1 neu yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, o fewn ergyd < caveg i'r lie yr wyf yn ysgrifenu fy llith, yn yr ( hat Yr oedd yn dyrchaf u ei lais fel taran yn erbyn pechoiau yr oes, yn enwedig cyfeddach ac ailghymedroldeb, a thwyll a hoced o bob math, < a thrwy hyny yn creu rhai gelynion. Mewn cyfarfod o blwyfolion ac edmygwyr a gynhal- l\Vyd ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, yn i y festri, i ddymuno yn dda i'r Parch. C. W. k Ilidley ar ei ymadawiad, dywedodd y cadeirydd y boneddwr parchedig, yn ystod yr amser y Uasai yn rheithor St. Mary's, wedi anwylo ei ■ hun i bawb. Cyfeiriwyd gan eraill at y gwaith Pysig oedd wedi ei gyflawni, a'i garedigrwydd Odedig i bawb o'r plwyfolion yn ddiwahan- lfteth, ac anrhegwyd Mr. Ridley ag anerchiad goreuredig a cherbydan (PJiaiton) hardd. Cyf- ] lyuwyd iddo hefyd, ar ran y Women's Branch ■ of the Junior Communicants' Union, ac ar ran athrawon ac ysgolheigion yr Ysgolion Sul, am- gyfrolau o lyfrau gwerthfawr. Gwnaeth y farch. T. A. Howard, Ficer St. Matthews, Tox- teth Park, diweddar gurad St. Mary's, a'r curad presenol, y Pareh. Walter W. Thomas, gyfeir- iadau effeithiol at y caredigrwydd a'r parch a ddangoswyd iddynt gan Mr. Ridley yn ystod eu cysylltiad a'r Eglwys. Anrhegwyd Mr. Thomas, yr hwn sydd hefyd yn ymadael, ar ran mfer o danysgrifwyr, a llestri Cymun arian at wasan- aeth preifat. Dywedodd Mr. Ridley mewn tsimladau drylliog, wrth ddiolch am y caredig- r^ydd mawr oeddynt wedi ddangos iddo, ei fod yn hyderu y gwnaent barhau i'w olynydd, y a-rch. Dr. Harrison, y cydymdeimlad gwresog 3,11 cydweithreaiad calonog oeddynt wedi I ddangos iddo ef. Mae Mr. Ridley wedi derbyn < bywoliaetli Erlestoke, swydd Wilt, ac ymadaw- odd ddydd Mercher gyda dymuniadau goreu a §^eddiau gwresocaf ei hen blwyfolion. Duw yn rWydd iddo.

FESTRI Y PASG.

FERNDALE.

GLYN CEIRIOG.

MAERDY.

ABERTEIFI.

LLANGYFELACH.

LLANGYNDEYRN.

[No title]

Y FOCHRIW.

CWMAFON.

GLYNTAF.

CILGERRAN.

ABERMAW.

Y FERWIG.

- YSTRADYFODWG.

ABERHONDDU.

HIRWAUN.

BRYNEGLWYS.

LLANSANTFFRAID, CEREDIGION.

CLYDACH.

RHYL.

LLANSAMLET.

HENDY GWYN AR DAF.