Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

AT Y BEIRDD.

DOSBABTH I.

AFONYDD CYMRU.

CYMDEITHAS Y PRIMROSE LEAGUE.

DOSBABTH II.

DISGRIFIAD O'R DIAFOL.

Eglwys a Gwladwriaeth.

FFEIRIAU Y BALA AM 1890. \

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

HANES CAPEL SEION.

News
Cite
Share

HANES CAPEL SEION. ANGHYDFFURFIAETH YN MHENTRESPLIT. GAN "ARSYLLYDD." PENOD II. Hyn oedd y dechreuad,! Yr oedd Nebo, yr eglwys ddechreuol, yn gapel o gryn faintioli, a'r gynulleidfa yn un I liosog iawn. Y mae yr aelodau yn medru cyf- eirio gyda boddhad neillduol at res o ddynion mawr ac enwog sydd wedi bod yn gwasanaethu iddynt fel gweinidogion ac os digwydd i un o'r cyfryw ymadawedig godi i sylw neillduol yngolwg y wlad fel dyn llwyddianus a thalentog, y mae rhai dynionach yn N ebo yn hoff iawn o gyfeirio ato yn ei isel radd gyda hwy; am ei feiau bychain, a'i annibyniaeth an- nioddefgar, oblegid ;peth ofnadwy yw annibyn- iaeth meddwl ac ysbryd mewn bugail" i'r bobl hyn. 0 fel y maent yn anesmwytho pan yn clywed am ei lwyddiant, oherwydd yr an- rhydedd y mae y bobl yn bentyru arno tu draw i Glawdd Offa. Un o ddynion mwyaf poblog- aidd tref arall wedi bod yn gweinidogaethu iddynt hwy. Un a geisiasant ei wneyd yn was bach" i'w mympwyon I Y Parch. Ephraim Llwyd oedd eu gweinidog ar yr adeg yr ydym yn bwriadu cyfeirio ato. Tua blwyddyn yn ol, yr oedd wedi derbyn galwad oddiwrth y frawdoliaeth i ddyfod i'w "bugeilio yn yr Arglwydd," ac yr oedd y Parch. Ephraim Llwyd, ar ol gwneyd yr alwad" yn faterl gweddi am ddiwrnodau lawer, wedi ateb yn gadarnhaol. Addawyd iddo, yn ngwres y" cariad cyntaf," wyth punt y mis, a chodiad o ddwy bunt ymhen blwyddyn. Ar yr adeg pan addawyd y gyflog hon, yr oedd yr eglwys yn cael gwaith casglu chwech punt; ond oher- wydd fod rhai o'r diaconiaid wedi syrthio mewn cariad ag Ephraim, ac oherwydd eu bod yn medru siarad yn weddol weniaethus am y llwyddiant mawr fyddai yn sicr o ganlyn ei ddyfodiad, am y cynulleidfaoedd anferth, am helaethiad y capel fel canlyniad, a I wel, yr oedd hyawledd y parchedig Llwyd i anadlu anadl einioes, a hwnw yn un ysbrydol, i esgyrn sychion Pentresplit, ac yn wir, nid y oedd y brodyr ymhell iawn o'u lie. Yr oedd gweinidogaeth y Parch. E. Llwyd wedi bod yn hynod Iwyddianus. ac yr oedd y gynulleidfa wedi cynyddu yn ddirfawr; gan hyny, ni phetrusodd y gweinidog, ar ddiwedd y flwyddyn, i adgofio y brodyr am yr addewid-y ddwy bunt y mis codiad. Galwyd y brodyr ynghyd, neu i ddefnyddio iaith briodol, cyhoeddwyd "cwrdd eglwys i gymeryd i ystyriaeth apeliad ein gweinidog am godiad yn ei gyflog." Yn awr, yr oedd yn ffaith wybyddus i lawer fod John Jones, y glowr, yr hwn oadd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i wahodd y Parchedig Ephraim Llwyd i Nebo, ar y tir fod ganddo dalcen" yn iawn, yn gwrthwynebu y codiad, am fod y gweinidog wedi ei gael yn euog o siarad llawer o ysbwriel." Dyna Dafydd Williams, y siopwr, eto. Yn ei siop ef, mewn gwirionedd, y cynhaliwyd y cynadleddoedd mwyaf pwysig mewn cysylltiad a'r alwad." Yr oedd yn dotio ar y Parch- edig E. Llwyd y pryd hwnw. Dyna ddyn call! Dyna ddyn penderfynol! Dyna bregethwr A hwyl!" meddai y siopwr flwyddyn yn ol. Ond erbyn lieddyw, cawn fod Dafydd Wil- liams wedi newid ei fa,rn i ryw raddau, oblegid pan gafodd ar ddeall fod Mr. Llwyd wedi anfon apel am y codiad addawedig,dywedai—"Codiad cyflog yn wir Beth pe b'ai ganddo siop fel fi, a dal o dan golledion mawr mis ar ol mis gan wvr yr hen gownt ? Wyth punt y mis am lefaru dipyn bach o'r pwlpnd ar y Sul, a dim ond gwraig i gadw! Beth pe b'ai ganddo fagad o blant i'w cynal ? Ie, beth pe b'ai- wel, buasai'r archebion y mae yn eu rhoi i mi am fwyd dipyn bach yn fwy, ac wed'yn-wel, yr ydych yn gwel'd, f'aswn i ddim yn hidio rhyw lawer fod ef yn cael dwy bunt arall! Dyna hwy! Yr oedd tua haner dwsin o honynt a digon o weniaeth yn eu tafodau i arwain llawer o'r aelodau gerfydd eu trwynau. Dynion yn llawn o fympwyon oeddynt, a digon o ystyfnigrwydd ynddynt wrth iiaturiaetli i hawlio y sylw priodol i'w mympwyon. Fe ddaeth y nason i siarad ar y pwnc holl- bwysig, ac yr oedd y capel yn weddol lawn. Y mae yn ffaith nodedig fod rhyw swyn atdyniadol iawn mewn cyfarfodydd o'r fath hyn mewn capeli Ymneillduol. Y mae llu yn medru fforddio fod yn bresenol mewn cyfarfod sydd yn debyg o fod dipyn yn bersonol, na thrafferthant roddi cam i gyfeiriad y capel er mwyn cyfarfod gweddi, neu gyfeillach grefyddol. Yr oedd aelodau Nebo, neu y rhan bwysicaf o honynt, wedi ymgynull mewn nerth, oblegid gwybyddid fod dadl i fod, ac y mae dadl mewn cyfarfod eglwysig Ymneillduol yn golygu y math hwnw o ymddiddau a ddisgrifir gan y reporters Seisnig, A Breeze." Cyiihaiiwyd cyfarfod gweddi o flaen y cyfar- fod holl bwysig, ac yr oedd rhywbeth yn ddon- iol iawn yn yr anesmwythdra oedd yn nodweddu rhan fawr o'r gynulleidfa, tra yr oedd sly glances y diaconiaid i wahancl gyfeiriadau yn arwyddocaol iawn. Gweddiodd Wm. John, y diacon, yr hwn a bleidiai godiad cyflog y gwein- idog, ar ol John Jones, y glowr, yr hwn a wrth- wynebai y codiad, ac yr oeddwn yn teimlo fod rhywbeth yn bectut,ital iawn yn y fath olygfa. Yr oedd yn peri i mi esgor ar lu o ddrych- feddyliau am ogoniant y mil flwyddiant. Ond- Un rhyfedd yw'r Ond," chwedl Mynyddog, terfynodd y cwrdd gweddi yn swn can a moliant. Yr emyn a ganwyd i ddiweddu yr act gyntaf a ddechreuai—- Mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd," a gyda bod y saki olaf o'r hen emyn yn diflanu, dyna y gynulleidfa yn esmwytho y maent fel pe yn teimlo yn fwy cartrefol. Mae y gwyneb hir wedi ymgolli yn y wen a'r siarad prysur sydd rhwng pob dau. Clywir ambell besychiad yn tori ar y distawrwydd, ac amtell i symudiad yn cyfleu y syniad o'r cyifroad oedd yn meddianu y symudydd, ac yna dyna George Pendew yn codi ar ei draed, ac yn cynyg fod William John i gymeryd y gadair. Yna gesyd y William John crybwylledig ei gorpws yn y gadair frelchiau, ac o wedi codi ar ei draed, a chlirio ei wddf, clywir y llais yn cyhoeddi :— Mae'r Parch. Ephraim Llwyd, ein hanwyl weinidog, o gartref heno, ac yr ydych yn gwy- bod i gyd ei fod wedi actio yn ddoeth iawn drwy fyned o gartre' ar achlysur mor bwysig, ac un yn dal cysylltiad mor agos a'i ddyfodol ef a'r eglwys. (le'n wir," meddai llais). 'Does dim dadl nad ydyw wedi bod yn hynod o ddoeth i gadw ymaith o'r cyfarfod. (Llais 14 Ydi'n wir, William.") 'Nawr, rwy'n gobeithio nad oes dim row i fod yma heno rwy'n gobeithio hyny er mwyn y rhai sydd wedi dyfod yma gyda'r unig amcan o gael difyrweh, fel mae'n bechod meddwl. 'Nawr, coded rhywun i gynyg y penderfyniad cyntaf." Yna cododd dyn tal, ysgyrnog, ac nn llygad, i fyny, ac mewn llais main o.lrheiniodd lafur a llwyddiant y parchedig Llwyd yn eu mysg. Siaradodd yn frwdfrydig ac yn faith am ei allu- oedd meddyliol a chorfforol; Dywedodd fod anrhydedd yr eglwys yn dibynu ar y swm oedd- ynt yn roddi i'r gweinidog fod yn gywilydd meddwl mai dim ond wyth punt oedd eu gwein- idog yn gael, tra yr oedd gweinidog Bethel, ger- llaw, yn derbyn deg. Fod yn rhaid cadw ifyny ag eglwysi eraill, neu buasai y bobl yn edrych i lawr ar Ephraim, ac felly yn y blaen. Ar hyn, cododd Dafydd William, y siopwr, ar ei draed, a dymunodd ar y dyn tal, ysgyrnog, gau ei geg," ac am iddo beidio siarad ynfyd- rwydd." Ar hyn, ymfflamychodd y dyn tal, ysgyrnog, a chwerthinodd John Jones, y glowr, right hand man y siopwr. Dylai fod c'wilydd ar bob un o honoch," crochlefai y dyn ysgyrnog. Braidd y credwyf eich bod wedi eich gwareiddio." Ar hyn dyma fenyw fer, lydan, yr hon oedd yn dal cadach wrth ei llygad, fel pe i dderbyn y dagrau oedd ar fin bwrlymu allan yn codi ar ei thraed, ac yn beiddio dweyd eu bod hwy lawn mor wareiddiedig a'r gwr tal, ysgyrniog, neu rywun arall. Beth oedd ef o ran naturiaeth ? Un peth a wyddai, yr oedd yn euog o ystranciau ysmala iawn ar nos Sadyrnau, ac ar yr aelwyd gartref. Rhag cywilydd i chwi I Rhag cywilydd i chwi I" oedd y gydgan greffenywaidd ddilynodd y dynoethiad annymunol hwn o gymeriad y dyn ysgyrniog. Pwy wyt ti (yr oedd wedi d'od i'r ti o'r diwedd) mi hoffwn wybod ?" gofynai Mari Jones, menyw tua chwe' troedfedd o daldra, ac o bwysau aufei-th ae annymunol pan y meddylir am yr amgylchiadau cynhyrfus. Beth sydd genyt ti i'w ddweyd ? Rhag cywilydd!" "Gadewch eich twrw, chwi fenywod," gwaeddai'r siopwr, "buasai yn ddoethach ar eich rhan i dalu eich hen gownt' na dyfod yma i gweryla a'ch gilydd." Yr oedd y fenyw chwe' troedfedd mewn dyled trwm gyda Dafydd William. Darfu i'r cyfeir- iad olaf gwrdd 4 theimladau mwyaf cybegredig mwy nag un. Y canlyniad oedd i'r lie fyn'd yn Fabel o dafodau cwerylgar. Yr oedd y ddau "glic" yn pigo "crach" eu gilydd gyda'r lleisiau mwyaf aflafar; cymeriadau personol y ddau glic yn cael lie pwysig yn yr ymddi- ddan. Yn nghanol y dwndwr cododd dyn ieuanc boneddigaidd ar ei draed, gan ddywedyd, Ht-ddwch yn enw y lie cysegredig. Pe buasech wedi defnyddio yr iaith a ddefnyddir yma heno yn Nhy y Cyffredin, buasech wedi cael eich ysgymuno bob un. Ai dyma'r esiampl yr ydych yn roddi i'r ieuenctyd sydd yn codi. Nid oes haner awr er pan oeddech yn gweddio am fendith y Nefoedd. Ond cofiwch, nis medr y Nefoedd wneyd dynion o asynod. Y mae yn warthus meddwl nas medr dynion sydd yn proffesu crefydd-dynion sydd yn proffesu eu bod yn byw o dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, siarad a dadleu ar bwnc bychan, dibwys i raddau, fel hwn, heb ddiraddio eu gilydd. Pe byddaihanes y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi, buasai pob gwrandawr synwyrol yn cadw draw o'r capel am byth. Nid wyf ond dyn ieuanc, ond yr wyf yn dweyd yn groew y dylai fod cywilydd arnocb. Os nad oes digon o ras yn eich calonau i ddadleu pwnc yn frawdol, gwell o lawer fyddai i chwi anfon Ephraim o'r lie, a gwertliu'r capel, hyd nes y deallir yn iawn beth yw natur a dylanwad y grefydd yr ydych yn ei phroffesu." Yn y distawrwydd a ganlynodd y geiriau hyn, cynygiwyd fod y gweinidog i gael y codiad. Cynygiodd un arall nad oedd. Gbsodwyd y pwnc i'r vote, a chafodd pleidwyr y gweinidog fwyafrif, a thra yr oedd tua haner dwsin o'r ochr arall yn son am 4 gapel newydd," galwyd ar frawd i weddi, ac wedi canu "Dan dy fendith wrth ymadael," ymadawodd y brodyr (?), a.rhedais gartref dros y caeau tra yr oedd ymddiddan boeth yn llawn. o ti a thithau yn cael ei gario ymlaetn tuallan. Hyn oedd y dechreuad! Ceir gwei'dyr wyth- nos nesaf beth wna'r "clie gafodd eu euro.

[No title]

[No title]