Hide Articles List

12 articles on this Page

AT Y BEIRDD.

DOSBABTH I.

AFONYDD CYMRU.

CYMDEITHAS Y PRIMROSE LEAGUE.

DOSBABTH II.

DISGRIFIAD O'R DIAFOL.

Eglwys a Gwladwriaeth.

News
Cite
Share

Eglwys a Gwladwriaeth. EU CYSYLLTIAD YN OL HEN DDEDDF- AU'R WLAD. LLYTHYR III. Nis gall neb a ddarlleno yr hen ddeddfau hyn lai na chydaabod fod dylanwad_yr Eglwys yn fawr ymhob rliyw lodd yn ei ffurfiad. Drwy gydol y deddfau, tynir ein sylw at y ffaitli ddy- ddorol tod dull y wlad 0 GYFRIF DYDDIAU A THYMOHAU wedi ei fenthyca oddiar yr Eglwys. Gwelir yn amIwg mat yn ol Gwyliau yr Eglwys y byddid, arferol o gyfrif dyddiau a thymorau yn Llysoedd Barn y wlad. Nodwn engreifftiau i brofi hyn. Mewn deddf a basiwyd yn O.C. 1266, set' yr unfed flwyddyn ar ddeg a deugain o deyrnasiad Harri y Trydydd, o berthynas i ddyddiau arferol gwrandawiad achosion cysylltiedig ag EIDDO, dywedir Os y daw gwrit i mewn yn wyth- nos Gwyl Fihangel, rhodder diwrnodar ei cliyfer yn wythnos S. Hilary: ac os y daw o fewn pythefnos i Wyl Fihangel, yna rhodder dydd o fewn pythefuos i S. Hilary. Os y daw yn ystod tair wythnos ar ol Gwyl Fihangel, y dydd fydd tranoeth y Puredigaeth." Gwneir darpariadau cyffelyb mewn pertliynas i wyliau eraill, megis S. Martin, y Dyrchafael, y Pasc, a Gwyl y Drindod# Dengys hyn fod dylanwad yr Eglwys yn cael ei deimlo yn y Senedd fel ymhob man arall drvvy y wlad. Ei threfniadau a'i thymorau hi oedd y f-tnedd a'r wlad yn eu inabwysiadu, a delw ei thymorau hi a welir ar dymorau y Llys- oedd Barn hyd heddyw i raddau pell iawn. Yr ail ystatyd o'r senedd-dymor yna ydoedd yr uchod. Eto, yn y ddeddl nesaf ati coir trefn- iadau o'r un natur mewn cysylltiad a Gwrit yn ACHOSION CYNYSGAETH. Hefyd, yn y burned ddeddf gwneir cylrif cyitelyb o berthynas i'r adegau a'r prydiau y gofynid i amrywiol sivycld- ogion y brenin waeydi lyny eu cyfrilon. Dengys y 11 hyn oil mai trefn yr Eglwys oedd y cynlluu wrth ba lU1 y fiurfid trefn y Wladwriaeth. Cyn- lluu yr Eglwys yn gyntaf, acliynllun y Wladwr- iaeth wedi ei sylfaenu arno. Yr Eglwys a'r YYÜdwriaeth" ydoedd yr arwyddair gynt yn gyson, ac nid y Wladwriaeth a'r Eglwys." Yr Eglwys oedd ar y blacn ymhob peth, a'i huchel- swyddwyr hi opddynt yu dysgu uchel-swyddwyr y "Wiadwriaetii pa fodd i drefnu eu materion y I gwladol. Fel yna, hyln i'u yn sefydlu y Llyw- odraeth, ac nid y Llywodraeth yn ei sefydlu hi. Ac y mae hi hyd iieddyw yn sefydledig, nid gan ddeddf na, thrwy ddeddf, eithr yn imol ffr deddiau oil. Yn yr un modd hefyd y byddid arferol o gyfrif AMSER TAL) G W N E TJ TH U RIA D Y DEDDFAU ac eisteddiad y Senedd. Bydd engraifft neu ddwy yn ddigon i ddangos hyn eto. Mewn per thynas i'r deddfau a basiwyd yn Merton yn O.C. 12:35, fe Darparwyd yn Llys ein Harglwydd y Brenin, a gynhaliwyd yn Merton dranoeth ar ol Gwyl S. Vincent, yr ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Harri, mab y Brenin loan, gerbron Archesgob Caer- gaint a'r Eagobion Cynorthwyol l episcopis mffragancis), a cher bron y rhan l'wyaf o leirll a Barwniaid Lloegr oeddynt yno yrn ymgynull- edig ar Goroniad y dywededig Frenin ac Alianor y Frenhines (ynghylch yr hyn y galw- asid hwy), lie yr ymdrafodwyd parth lies cyffredin y deyrnas ar yr erthyglau ysgrifenedig isod felly y darparwyd ac y caniatawyd yn gystal gan y rhag-ddywedig Arcliesgobion. Esgobion, leirll, Barwniaid, a chan y Brenin ei hun ac eraill. Cymreigiad llythyrenol o rag- draith y deddfau ydyw hwnyna. Mae yn ofynol cofio mai nid tyb hwn neu y Hall, nac ychwaith farn un dyn pwy bynag ydyw y pethau hyn. Cofnodiad, air yn air, ydyw ag sydd eto ar gael o'r byna wnaed ar y pryd. Ie, geiriau swydd- ogol ac awdurdodedig y deddfau ydynt; ac. felly, wrth ymdrin a hwy yr ydys yn ymwneyd il freithiau celyd, ac nid a mympwyon dych- ymygol. Yn y deddfau hyn gallwn weled drosom ein hunain beth a wnai yr hen bob], ac ni raid i ni ddim dibynu ar farn neb. Ni ddy- lem anghofio chwaith nad oedd y Senedd yn yr hen gyfnod yn yr hen gyfnod yna ddim yn ym- gynull bob amser yn yr un fan megis y gwna yn ein dyddiau ni. Yn hytrach, symudol ydoedd, yn cael ei galw ryw bryct ac yn rhywle, fel y byddai yn fwyaf manteisiol a chyfleus o dan am- gylchiadau y wlad ar y pryd. A chadw hyn mewn cof, beth a ddysgir i ni yn y rhagdraith uchod? Hyn yn ddiau, bod yr Archesgob y pryd hyny yn cael ei alw i GORONI Y BRENIN yr un modd ag y gwna yn y dyddiau presenol. Y pryd hyny derbyniai y teyrn ei goron o law gweinidog Duw, er mwyn dangos ei fod yn cyd- nabad bod yr Arglwydd yn llywodraethu yn mrenhiniaeth dynion, ac y dylai ef ymdrechu rheoli y doiliaid yn unol ag ewyllys Duw. Dyna y drefn dros chwe' chant a haner o flynyddoedd yn ol. Ac, yn mhellach, gwelir fod adeg eis- teddiad y Senedd yn cael ei ddynodi yn ol tymor Eglwysig, sef dranoeth ar ol Gwyl S. Vincent," a bod Archesgob Caergaint yn cael ei osod ar ben rhestr y seneddwyr. Darllenwn gyfeiriadau o'r un natur yn rhag- draith deddfau eraill o eiddo yr un brenin. Dyma un Yn y flwyddyn o Ras un mil dau gant chwe' deg a saith, y ddeuddegfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Brenin Harri, mab y Brenin loan, yn wythnos S. Martin, &c. Eto, ychydig ilynyddoedc1 ar ol hyn, fe ddywedir,-— Dyma ddeddfau y Brenin Iorwerth, awnaeth- pwyd yn Westminster yn ei Senedd gyntaf ar ol ei goroniad, ar ddydd Llun, wythnos ar ol y Pasg, yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, gan ei Gyngor ac efo cydsyniad yr. Arcliesgobion, Abbadau, Priorwyr, leirll, Barwniaid, a holl Gyffredia y Deyrnas, a wysiasid yno, oherwydd bod gan ein Harglwydd y Brenin fawr zel a dy- muniad i ddiwygio cyflwr y deyrnas yn y pethau lIe yr oedd eisinu gwelliant er lies cyffredin yr Eglwys Lân a'r Deyrnas," &c. Yr ydys yn tybied fod hyn yna yn ddigon o engreifftiau er dangos mor fawr y rhaid fod dylanwad yr Eg- Iwys ar Senedd ein gwlad yn y cyfnod dan sylw, gan ei fod yn cyraedd hyd yn nod at y cofnodiad o'r amserau a'r prydiau y byddid yn arfer ym- gynull er deddfu. Yn ychwanegol at gyfeiriad a wuaethpwyd eisoes, yr ydys am alw sylwpellach at y ffaith NAD ANGHOFID BYTH MO'R EGLWYS yn ncddfwriaeth y canol-oesau. Mewn gair, y mae yr egwyddor o gysylltiad rhwng Eglwys a G wladwriaeth yn weladwy fel gwe euraidd yn gyfrodeddedig trwy y cyfanwaith. Ni ddeddfid I byth o'r bron heb grybwyll yr Eglw^ Y mae rhagdraith pob deddf o'r bron yn brawf eglur o hyn ac y mae y geiriad yn dangos y rhaid y byddai yr hen Seneddwyr ynystyried yr angen- rheidrwydd o seilio eu holl waith ar egwyddor- ion y grefydd Gristionogol; ac, ond iddynt wneyd hyny, y byddai ffrwyth eu hymdrech yn ei ganlyniadau u er gogoniant i Dduw, a ties i'r Eglwys." Y mae yr engreiiltiau o'r natur yma yn afriled braidd. Digon fydd cyfeirio at rai o honynt. Yn rhagdraith y 28 Ed. 3, yn o.c. 1354, dywedir i'r Senedd ddeddfu" eranrhyd- edd Duw a'i Sanctaidd Eglwys, ac er lies cyff- redin y bobl." Am betliau bydol y mac pymtheg adran y ddeddf yna yn ymdrin oddi- gerth y gyntaf, yn yr hon y cadarnheir y Freiulen Fawr. Amlwg yw, ynte, nad oedd yr un ddeddf yn cael ei phasio heb i'r Seneddwyr hyn fod o'r farn nad oedd. ynddi ddim yn groes i wir les yr Eglwys, a'u bod hwy yn cydnabod yn hyn na ddylai yr un ddeddf gael ei phasio os na byddai'n gydfynedol fi dysgeidiaeth yr Eglwys Gristionogol. Ithaid eu bod yn golygu bod hyd yn nod deddfau gwladolda yn sier o fod er lies i'r Eglwys yn y pen draw a'u bod yn credu mai yr hyn a fyddai yn llesol i'r Eg- lwys fyddai yn llesol i'r WIadwriaeth hefyd. Ac i'r gwrthwyneh, diau y dalient mae yr hyn a ddrygai yr Eglwys a ddrygai y Wladwriaeth ar yr un pryd, oherwydd bod cyfiawnder, frrwyth crefydd, yn dyrchafn cenedl, ac anghyf- iawnder, prawf o absenoldeb dylanwad crefydd, yn sicr o'i darostwng. Nid oes odid ddeddf yn yr hen amserau na cheir yn ei rhagdraith gyfeiriad at yr Eglwys. Ond trown at 31 Ed. 8, st. 1., a basiwyd yn o.c. 1357, fe'n dysgir mai er anrhydedd Duw a'i Eglwys Sanctaidd y caniateir gan ein Harglwydd y Brenin, yr Esgobion, leirll, Barwniaid. a holl Gyffredin Teyrnas Lloegr," yr hynjoll a gynwysir yn y ddeddf, Ac eto, cymysg odiaeth yw ei chynwysiad. Y mae'n trafod prisiau, pwysau, a marchnad gwlan, eiddo bradwyr, profi ewyllysiau gan swydd- ogion yr Esgob, &c. Pethau tymhorol yr ym- drinir a hwy gan mwyal yn y ddeddf hon ond er hyny ystyrid y cyfanwaith fel yn hyrwyddo llesiant crelyddol a thymhorol y deiliaid. Ym- ddengys y byddid yn cadw y ddau beth yma mewn golwg bob amser pan yn HJurfio yr hen gyfreithiau. Y mae'r 88 Ed. 3, st. 2, yr hon a basiwyd yn O.C. 1363, yn !fwy pendant fytli ar y pwnc yma. Yn rhagymadrodd y ddeddf hon hysbysir i ni mai nod ac amcan arbenig y weitlired ydoedd hyn:—"Er mwyn meithrm cariad. a thangnef- edd, a chydgordiad rhwng yr Eglwys Sanctaidd a'r WladwriaethDyna i chwi ddatganiad difloesgni o ddibeu clodwiw Seneddwyr ein gwlad dros bum' can' mlynedd yn oJ. Y pryd yna yr cedd ymyriadau treisiol Rhufaiu yn peri, yn ol geiriad y ddeddf hon, bod hen gyf- reithiaugda, arferion a rhyddfreintiau y deyrnas wedi ac yn cael eu dirfawr luddias, eu hanafu a'u drygu Coron ein Harglwydd Frenin yn cael ei darostwng, a'i Berson yn cael ei fawr a'i dwyllodrus sarhau," ynghyd ag amryw ddrygau eraill. Yn y geiriau yna gwelir yr un gwyn yn union ag a geir gan Harri yr Wythfed dros wyth ugain ndynedd yn ddiweddarach. Ym- yriadau tramor oeddynt yn difreinio'r Brenin a'i ddeiliaid o'u liawlfreintiau cyfiawn a chyf- reithlon ac er mwyn dwyn yr Eglwys a'r Wladwriaeth i gydgordiad priodol a'u gilydd, yr oedd yn anhebgorol angenrlieidiol gwneyd i Swrdd a'r ymyriadau tramor hyn. LLYW ODRAE T H IAD CART RE F OL, a llwyr ddiddymiad pob ymyriad tramor oedd y feddyginiaetli a gynygid er gwella yr anhwyl- derau lliosog y dioddefid oddiwrthynt. A dyna y moddion y bu'r Senedd yn ei ddarparu y tro yna, fel ar lawer adeg arall. Nodwn yn fyr ryw ychydig yn rhagor o'r deddfau lie y cydnabyddir fod diben y Senedd- wyr wrth ddeddfu yn foesol a chrefyddol, yn gystal ag yn wladol neu dymhorol. Mae eu gwaith yn profi nad oeddynt yn anghofio crefydd wrth ymwneyd a'rbyd. Yn o.c. 1376 yn yn y 50 Ed. 3, ceir fod maddeuant a gollyngant y Jubili wedi ei fwr- iadu er anrhydedd Duw a'r Sanctaidd Eglwys a thawelwch y bobl." Eto, yn ol teyrnasiad Rhisiart yr Ail gwelir mynych grybwylliad o'run peth. Yn rhagdraith y 1 Rich. 2, dywedir mai er anrhydedd i Dduw ac o barch i'r Sanctaidd Eglwys, ac i feithrin heddweh, undeb, a chydgordiad yn holl ranau y deyrnas hon o Loegr," yr ordeinid ei darpariad- au. Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ceir eu bod yr un modd yn deddfu er anrhydedd Duw a'r Eglwys Sanctaidd, ac er budd cyffredin y Wladwriaeth." Deddfau eraill o'r un natur ydynt y 5 Rich. 2, st. 1 y 7 Rich. 2; a'r 13 Rich. 2, st. 1. Ac nid oes ond ychydig iawn o wahaniaeth i'w gael yn ngeiriad y 6 Rich. 2, st. 6. Dyma'r ymadrodd: E-c mawl ac anrhydedd i'r Hollalluog Dduw a'n mam Sanctaidd yr Eglwys, ac er bndd a lies i deyrnaa Lloegr." Eto yn y 21 Rich. 2, ceir rhyw ychwanegiad bychan arall, mewn ffordd o arall- eiriad, sef,—" Er anrhydedd Duw a'r Sanctaidd Eglwys, ac er cadwraeth, iechydwriaeth, a diogelwch y Deyrnas," Nid anhebyg i'r uchod ydyw geiriad Deddf y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Harri'r Pedwer- ydd —" Er mawl ac anrhydedd i Dduw, ac o barch i'r Eglwys Sanctaidd, ac er meithrin undeb, tangnefedd, a chydgordiad ymhlith holl bleidiau y deyrnas hon o Loegr." Y rheawm paham y sonir yma am bleidiau, ydyw bod Rhyfeloedd y Rhosynau wedi peri mawr flinder, anghydfod chwerw, a rhwygiadau enbydus rhwng pleidwyr yr amrywiol ymgeiswyr a hawl- ient yr Orsedd. Yn awr, oddiwrth y dyfyniadau blaenorol, un ac oil, gwelir mai nodwedd arbenigol yr holl ddeddfau yna ydyw bod yr Eglwys a'r Wlad- wriaeth yn gysylltiedig ynddynt byth ac hefyd. Nid aethai erioed i fecldwI yr hen Soneddwyr gynt y dylesid byth eu gwahanu. Mor ofer ynte ydyw'r breuddwyd mai yn amser Harri yr Wythfed y dechreuodd y cysylltiad l'hwng Eglwys Loegr a'r Wladwriaeth! Pe elid i drafod y pwnc yn hauesyddol, hawdd fyddai dangos na fu yn y wlad hon erioed gyfnod ar nad oedd yr Eglwys yn gysylltiedig a'r Wlad- wriaeth ynd do. Eithr fy amcan yn awr, fodd bynag, yw dangos oddiwrth eiriau pendant ein hen gyfreitliiau, bod y cysylltiad yr un mor gadarn cyn amser Harri yr Wythfed ag y bu erioed ar ol hyny—ac o hyn nid oes ball ar brawfion diamwys a digamsyniol o eglur. (Yw barhau.)

FFEIRIAU Y BALA AM 1890. \

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

HANES CAPEL SEION.

[No title]

[No title]