Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
yjU AN TElk Lay leader for Parish of Machym^eth.—AP^LY to RECTOR. ASAPH NATIONAL SCHOOL.—Wanted, • an Ex-P.T. for the Boys' School. Salary, S36 per annum.-Apply, Rev. THOMAS LLOYD, S. Asaph. A CERTIFICATE! MASTER desires a School; under 60. Single.— Master, c/o Mr. E|«M. Jones, Bookbinder, Portland Place, Deffifgh. UT"ANTED, a Curate, immediately good Welsh Preacher. A title can be given to a graduate.—Address, The RECTOR, Llan- deiniolen, Carnarvon. A RESPECTABLE YOUTH Wanted as Apprentice to the Bookselling and Station- ery Trades,—Apply to Messrs. FARRANT AND FROST, Stationers, &c., Merthyr Tydfil. WANTED-A Certificated Master for a Mixed School. Salary, S20, and two- thirds of grant and pence harmonium.—Apply Vicar, Prestatyn Vicarage, Rhyl. A STUDENT leaning Welsh wishes to hear from some gwitleman who wilt receive him into his house a short time to practise speaking. — Addres^f Astudiwr," Office of him into his house fat a short time to practise speaking. Addres4 "Astudiwr," Office of Llan. f', ~l ANTED, as soon as CURATE to assist in the charge of two Rural Parishes in Anglesey, where thi duties are Welsh, with occasional English. Priest pre- ferred, or a Title may be givedf for the next Trinity Ordination to an appioved Candidate. An efficient Welsh preacher required, and a practical knowledge of Church Mum 3 desirable. Stipend, £100 a year.—Apph with references to Clericus Monensis," at the Office of this Paper. WELSH GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.— » All applications for ensuing election to foundation and intermediate pay scholarships must be made upon special forms, which must be returned to the Secretary, on or before April the 1st. Foundation Scholars obtain their education and board free of all cost. Inter- mediate pay Scholars pay £ 16 per annum. A limited number of higher pay Scholars at ^32 per annum can be admitted after Easter. The cost of Board and education is over i 50. Forms of application and full information can be obtained from the Secretary of the Welsh .Softool, 127, St. George's-road, London, S.W. CYFRINGELL Y GOLYGYDD G.H. (Rhuthyn).—Danfonasom eich barddon-, iaeth at y Golygydd Barddol. Y MAE syrthiad y Groglith yn yr wythnos hon wedi ein gorfodi i ddal y gohebiaethau can- lynol drosodd hyd ein hargraffiad nesaf:— Nodion o Fon, Hendy Gwyn ar Daf, Rhyl, Caerdydd, Llanelwy, Excelsior, Deoniaeth Gwrecsam, Rhuthyn, Bedwellty, Llangadwal- adr. Erfyniwn ar ein cyfeillion caredig fod yn amyneddgar ac yn dosturiol. fiW" D. S.-Rhoddir y flaenoriaeth bob amser €r adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn fyr a chymvysfawr.
DADL Y DEGWM.
DADL Y DEGWM. Nos Iau diweddaf, cynygiodd Syr MICHAEL HICKS-BEACH ail ddarlleniad Mesur y Degwm yn Nhy y Cyffredin. Gwnaeth hyny mewn araith dymherus, deg, ac anwrthwynebol, a gosododd o flaen y Ty gyfres o resymau o blaid y Mesur nas gellid yn rhwydd eu gwrth- sefyll. Cydnabyddai fod y pwnc yn un mor ddyrus ac anhawdd, fel na fuasai yr un lywodraeth yn argymell Mesur o'r fath i sylw y Ty, oni buasai fod angen yn galw yn uchel am ryw gyfnewidiad yn y gyfraith. Gwrthodai ymdrin a'r defnydd a wnaed o'r Degwm, gan nad oedd a fynai'r Mesur ond a'r degwm fel eiddo cyfreithiol ond wrth basio, dywedai ei fod yn ystyried nad eiddo'r genedl" ydoedd, ond eiddo'r Eglwys a'i gweinid- ogion. Methai efe a gweled gonestrwydd y bobl a wrthodent dalu yr hyn oedd yn ddyledus arnynt, ac a gadwent yn eu llogellau eu hunain arian nas gallent, mewn un modd, fod yn eiddo iddynt hwy. Cyfeiriodd at gyflwr pethau yn Nghym- ru. Yr oedd ganddo fanylion o 75 o blwyfi yn EiJgobaeth Llanelwy. Yn y rhai hyn yr oedd £ 38,918 o ddegwm Eglwysig yn cldyledus yn 1888-8), ac o'r cyfanswm hwnw yr oedd £ 10,230 yn arcs heb eu talu, ac yr oedd casglu y gweddill Wedi costio £ 3,000. Er fod y Mesur ar gyfer yr holl deyrnas, JTwyddis mai y eyffro gwrth-ddegymol yn -Nghymru ydoedd yr achos o'i ddygiad i fewn, a disgwyliem y buasai gan yr ael- odau Radicalaidd Cymreig lawer i'w ddweyd ar y pwnc, ond rhaid ini gyd- ftabod nad oeddem wedi rhagwejed y buasai mor lleied o sylwedd yn eu hareithia.- A.rweinid y blaid wrthwynebol gan Mr. un o'r aelodau dros Gymdeithas Ryddhad, a'r hwn a anfonwyd i'r Senedd gan dref Leicester. Nid oedd fawr newydd-deb yn araith Mr. PICTON, ac ychydig berthynas oedd rhyngddi a'r Mesur oedd o flaen y Ty. Pe Dadgysyllt- iad a Dadwaddoliad yr Eglwys fuasai'r pwnc mewn dadl, buasai ei araith i'r pwynt, ac y mae hyn yn wir am areith- iau yr aelodau Cymreig a'i dilynodd, mai "eiddo'r genedl" ydyw'r Degwm, ac nad teg ei ddefnyddio at wasanaeth sect. Clywsom yr un peth ganoedd o weithiau o'r blaen, a dangoswyd yn wahanol gynifer a hyny o weithiau. Ond ni waeth hyny, codai y naill aelod ar ol y llall, a gwrthwynebent y Mesur yn mron yn yrungeiriau. Nidydymyneu beio amhyn, er y gwyddent nas gallent ddwyn yr un rheswm sylweddol yn erbyn y Mesur, eto nis gallent oddef cael eu galw yn gwn mudion gan y Wasg Gymreig, ac felly rhaid oedd sefyll i fyny. Addefwn fod cryn lawer o wreiddiolder yn nghynygiad Mr. SAMUEL EVANS fod i'r Cynghorau Sirol gael penodi swm y rhent-dal ddegymol! Nid rhyfedd i rhywun ddweyd fod Mr. EVANS yn aelod ieuanc addawol. Yn ddiau ni fydd dim yn annichonadwy i un sydd wedi dechreu mor rhagorol-pwy a wyr na ddadblyga yn wleidyddwr mor eg- wyddorol a Mr. OSBORNE MORGAN cyn gorphen ei yrfa. Digrif i'r pen ydoedd clywed y siaradwyr yn maentumio na wnai y Mesur, pe y pasiai yn ddeddf, yr un mymryn o les i'r Eglwys. Os felly, paham y gwrthwynebid ef gan Mr. PICTON a'i gyffelyb ? Os mai pasio y Mesur yw y ffordd sicraf i ddinystrio'r Eglwys, fel yr haera Mr. 0. MORGAN os na wna hyrwyddo casgliad y Degwm, fel y dywed Mr. STUART RENDEL os ydyw mor ddi-fudd a di-werth ag y myn Syr W. HARCOURT i ni gredu-yna, yn enw pob rheswm, paham y mae y gwyr da hyn yn gwastraffu cymaint 0 nerth, ac yn ymddarostwng i gynifer o ystrywiau er ei orchfygu ? Na na gwyddant o'r goreu fod y Llywodraeth a'i Haw ar wddf yr ymgais ddiegwyddor a wneir i niweidio'r Eglwys trwy gam-atal y degwm, a chreu anghydfod rhwng yr amaethwyr a'r offeiriaid plwyfol—gwyr y cynhyrfwyr gwrthddegymol mai yn y dydd y daw y Mesur hwn yn ddeddf, bydd gobaith eu helw hwynt yn diflanu. Hyn sydd yn cyfrif am eu gwrthwyn- ebiad, ac os nad oes ganddynt well rhesymau yn nghadw erbyn y tro nesaf, ni fydd ond ychydig anhawsder i'w basio trwy y Ty. Pasiwyd yr ail-ddarlleniad trwy fwyafrif o 125. Y mae y rhan boethaf o'r frwydr eto yn ol, ond yr ydym yn hyderus. Y mae meddwl y Llywodraeth wedi ei wneyd i fyny ar y pwnc, a mynant gyfiawnder i'r rhai sydd wedi dioddef cyhyd.
[No title]
16 Ni ddarf u ilib liynaf.i,aid, pa un ai Gymry ai S'aeson, ond rhoddi i'r Eglwys yr hyn o roddent o'r blaen at gynal gau- grefydd, ac nid oedd achos am weit'hred seneddol, pe buasai y fath beth i'w gael, er gorfodi plant y ffydd i gyfiaivm eu dyledsivydd fel Oristionogion.Parch. T. Moore, M.A.
GWEISION FFERMWYR. --
GWEISION FFERMWYR. MAE y Werin, papyr dimai a gyhoeddir yn Nghaernarfon, wedi bod am wythnos- au yn galw sylw at gyflwr gweision ffermydd Cymru. Dengys y llythyrau a z,Y gyhoeddwyd yn y Werin na theyrnasa gwaseidd-dra ar hyn o bryd ymhlith gweisionffermwyr Cymru. Ysgrifenodd amryw o honynt lythyrau call a theg i'r Werin, ac ymddangosodd llythyr galluog oddiwrth un forwyn fferm. Yn awr, mae hwn yn bwnc yn haeddu ei drafod, er mai peth anhawdd yw siarad yn gyffredinol, heb gamgymeryd, am gyflwr dosbarth o bobl. Nid ydym yn credu fod ffermwyr Cymru fel dosbarth yn dewis ymddwyn yn galed at eu gweision na'u morwynion. Boddlonant ar adael pethau fel y gwel- sant hwy gyda'u tadau a'u teidiau. Ynghylch cyflog, dibyna hyny ar amgylch- iadau neillduol ardal, ac amrywia yn fawr yn ol fel yr ydym wedi gallu cael allan. Ond nid oes un amheuaeth na ofynir, fel rheol, i weision ffermwyr weithio gormod o oriau yn y dydd, ac hefyd eu bod, lawer o honynt, heb ystaf- elloedd o'r fath ag a ddylid ddymuno. Fel y cofia ein darllenwyr, cyflwr gweision ffermwyr Cymru oedd un o brif faterion pregeth Esgob LLANELWY yn Eglwys Gadeiriol St. Paul's. Gwawdiai y Faner y bregeth, a gofynai yn guchiog beth oedd a wnelai yr ESGOB a, gweision fferm- wyr. Yn ol ein barn ni, y mae yr Esgob a phob Clerigwr, wrth ei swydd, a gwneyd ei oreu i gael chwareu teg i bob dosbatth. dderbyn hamdden a chyfle i ddiwyllio eu hunain. Gwelsom fod y Parch. D. REES, gweinidog Annibynol yn Sir Fon, wedi anfon llythyr cymedrol a doeth ar y pwnc i'r Werin. Gresyn fyddai i fudiad a ym- ddengys yn amcanu at beth sydd yn hollol resymol arwain i deimladau an- hyfryd ar y naill ochr na'r Hall. Gobeith- iwn y gellir cwtogi oriau llafur gweision ffermwyr. Wrth gwrs, ar amser cynhauaf, rhaid i bawb wneyd ei oreu. Ond ynghylch ystafelloedd cysurus i eistedd ynddynt, nis gwyddom am un ffordd i gyraedd hyn ond y ffordd a gynyg- iwyd gan Esgob LLANELWY yn St. Paul's, sef darparu ty cyhoeddus a chysurus, agored i weithwyr, ymhob plwyf yn Nghymru. Cyst tai fel hyn lawer, ac ofnwn nad hawdd am amser cael dynion i'w defnyddio. Ond gyda phwyll a phen- derfynlad gorchfygid yr anhawderau yn raddol. Y mae hyn, beth bynag, yn nod llawer mwy teilwng o wladgarwch Cymru na gwag-faldordd ynghylch Ymreolaeth. Ymffrostia y Faner mai dyna bapyr y ffermwyr. Beth sydd gan y Golygydd i'w ddweyd wrth weision ? Yr ydym yn adnabod amryw weision fferm- wyr sydd cystal dynion o ran egwyddor a thalent naturiol ag a gyfarfyddwn ymysg unrhyw ddosbarth. Chwareu teg i bob dyn ddiwyllio ei hun hyd y gellir. Bydd- ent yn well gweision mewn ffermydd pe caent fwy o seibiant a lie hwylus i ym- gymdeithasu. Bu yr amseroedd yn galed ar ffermwyr. Nid oes dosbarth mwy di- wyd a chynil i'w cael mewn un wlad na ffermwyr Cymru, na neb yn gweithio yn galetach. Ond ar yr un pryd tybiwn fod modd gwella gronyn ar gyflwr gweision Cymru heb wneyd colled i'r ffermwyr, ac, os oes modd, dylid gwneyd a ellir yn ddi- oedi.
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. Gyda'ch cenad, Mr. Golygydd, anfonaf i chwi yn awr ac eilwaith, hyd y caf hamdden, lythyr ar y pynciau cartrefol a thramor fyddo yn tynu mwyaf o sylw yn Llundain. Nid wyf fi yn "wleidyddwr penboetli, ond bydd&f yn ceisio barnu pob plaid wrth ei gweithredoedd, ac nid wrth ei phroffes. "Measures, not menfel y dywed y Sais, neu waith, ac nid addewidion, yw fy arwyddair. Byddaf yn cymeryd dyddordeb —fel y rhan fwyaf o'm cydwladwyr-mewn materion tramor. Byddwn, er's llawer dydd, pan yn fachgen, mewn ardal anghysbell yn Nghymru, yn cael pleser mawr wrth ddarllen llythyrau Y Gohebydd." A chan y byddaf yn d'Qd ar draws llawer o newyddion Llundain, y naill ifordd a'r Hall, ceisiaf roddi y prif bethau i'ch darllenwyr, cyhyd ag y byddo hyny yn dderbyniol genych. YMDDISWYDDIAD BISMARCK. Dyma brif destyn yr wythnosau hyn. Er's ugaiu mlynedd bu Bismarck, gwr gwaed a haiarn," y dyn blaenaf yn Ewrop. Ni fu erioed yn siaradwr mawr fel Mr. Gladstone neu Gam- betta. Ond pan fyddai angen, disgynai ei ym- adrodd ar ei wrthwynebwyr fel gordd haiarn. Efe a Moltke—yr hen filwr di-siarad-oedd y ddau sylfaenydd ymerodraeth gadarn yr Almaen. Ac yn awr, wele ymerawdwr ieuanc yr Almaen, ei ddisgybl hoffiaf ei hunan, y bachgen y bu mor bryderus yn ei addysgu, yn troi o'i swydd hen bilot profiadol ei dad. Yr wythnos ddiweddaf, desgrilir mewn cartooti yn Punch, Bismarck yn ymadael i'r Hong, yn araf a thrist. a'r ymer- awdwr ieuanc yn edrych dros ochr y llestr ar ei ol. Beth ddaw o hyn oil ? Nis gwyr neb. Yr oedd Bismarck wedi cylymu Awstria ac Itali mewn cyngrair a'r Almaen yn erbyn Rwssia a Ffrainc. Sibrydir fod ar yr ymerawdwr flys ymgyfeillachu mwy a Rwssia. Anhawdd iawn fydd iddo newid cyfeillion yr Almaen, heb dynu eyf andir Ewrop yn bendramwnwgl i ryfel. Y mae hyd yn nod y Ffrancod-er cased ganddynt Bismarck-wedi eu sobri gan ei gwymp rhag ofn digwydd iddynt beth a fyddo gwaeth nag a gawsent yn 1870. Yr achos o'i ymddiswyddiad oedd penderfyniad yr ymerawdwr ieuanc i ddal awenau y Llywodraeth yn dyn yn ei ddwylaw ei hun. Ni fynai yr hen wr ymostwng i ollwng yr awenau o'i law. Y mae yn ddifrifol meddwl fod tynged cyfandir Ewrop heddyw, i olwir ddynol, yn gorphwys ar ewyllys dyn mor ddi- brofiad ag Ymerawdwr yr Almaen. Pan y mae gan ddyn brif fyddin y byd wrth ei air, nid cysurus clywed mai full steam ahead yw ei gynllun. Yn araf deg yr aiif gwr ymhell," medd yr hen air Cymraf'g. Ond Jehu o ddyn yw yr Ymerawdwr William yn gyru yn ei ger- byd trwy heolydd Berlin—naw milldir mewn haner awr. Amser a ddengys beth ddaw ar ol Bismarck. CYNHADLEDD LLAFUR YN BERLIN. Mae ar yr Ymerawdwr awydd gwneyd ei oreu dros y gweithwyr. Y mae traul y fyddin, a'r amser y rhaid i bob dyn-boneddig a gwreng— dreulio yn y fyddin, yn pwyso yn drwm ar weithwyr yr Almaen. Oherwydd hyny, mae y "cyffro Sosialaidd yn ymledu yn gyflym yno, fel y dangoswyd yn eglur yn yr etholiadau di- weddar. Cymerodd yr Ymerawdwr y bull by the horns trwy wahodd gwledydd Ewrop i yru cenhadwr i gyd-ystyried beth ellir wneyd gan lywodraethau gwahanol wledydd dros y gweith- iwr. Bu ar Ffrainc flys pwdu. A pheth rhyfedd oedd fod ymerawdwr yn fwy zelog dros les gweithwyr na gwerin-lywodraeth. Ond ildio wnaeth llywodraeth Ffrainc. Nis gallasai beidio, gan fod cynllun yr Ymerawdwr—er cased gan y Ffrancod yr Almaen—yn gymeradwy gan ly weithwyr Ffrainc. Gyrodd Prydain hefyd gynrychiolwr i Berlin. Y mae y gynhadledd drosodd erbyn hyn. Nid wyf yn meddwl y gellir gwneyd fawr yn gyffredinol i ddeddfu 11 11 yndxylch oriau llafur na chyflogau, heblaw cefnogi Byrddau Cyflafareddiad. Ond ym- ddengys fod gobaith da y deuir i gyd-ddealltwr- iaeth gyffredinol i gadw y Sul yn ddydd o orphwys, ac i osod merched a phlant ar yr un tir, mewn gwledydd eraill, ynglyn a llafur ag y maent ynddo yn Mhrydain. Wedi'r cwbl, erbyn edrych, saif Prydain ymtaen o ddigon ar bob gwlad yn Ewrop mewn deddfau er lies gweithwyr. A'r cwbl ellir wneyd yn Berlin yw cael gan wledydd eraill efelychu Prydain. Pan y sonir am ddiwygiadau pellach yn ein gwlad, eithaf peth cofio ein bod, yn ol fel y gwelir yn Nghynhadleddfawr Llafur yn Berlin, ar y blaeni bob gwlad arall. Mae'n debyg fod ar Bismarck ofn gweled yr Ymerawdwr mor ryddfrydig yn ei gynlluniau mewn perthynas i lafur, a mater- Ily ion eraill cartrefol. Nis gallai hoffi darganfod mai mab ei dad—Frederick Dda, yr hwn f u farw er galar y byd, ar ol teyrnasiad mor fyr—yw y llanc penderfynol sydd yn awr wrth y llyw. Digon tebyg fod Bismarck yn iawn amser yn ol, ond erbyn hyn yr oedd rhaid gwneyd llawer o ddiwygiadau cartrefol yn yr Almaen, ac felly, os cyrner yr Ymerawdwr bwyU rhag rhuthro i ryfel mewn nwyd, efallai mai lies i'r Almaen colli Bismarck. Ond, yn ol yr arddangosiadau angerddol wnaed er anrhydedd iddo yn Berlin, Hamburg, a manau eraill, amlwg yw fod ar yr Almaenwyr ofn i'r llong daro ar y creigiau heb yr hen bilot cyfrwys a chryf Iu wrth ei llyw am ugain mlynedd. YMDDISWYDDIAD M. TISZA. Prif Weinidog Hungari oedd Tisza hyd yn ddiweddar. Gwyr eich darllenwyr mai y wlad gryfaf yn ymerodraeth Awstria yw Hungari. Cenedl ddewr, falch, dwymn yw yr Hungariaid. Mae ganddynt Home Rule, ac anhawdd iawn yw dal y ddysgl yn wastad rhwng Hungari a'r gweddill o Awstria. Andrassy oedd y prif weinidog o flaen Tisza. Gwladweinydd o'r radd gyntaf oedd Andrassy, ac yr oedd ganddo ddy- lanwad mawr yn Nghynhadledd Berlin pan fu Bismarck, Beaeonsfield, Gortsachoff, ac yntau yn trefhu seiliau heddwch yn Ewrop. Yr oedd gan Tisza hefyd ddylanwad anghyffredin, ago ystyried mai hen wr syml, dirodres, cynil a di- athrylith ydyw. Ni fuasai neb yn meddwl y buasai y lath ddyn wrth fodd cenedl mor falch a bywiog a'r Hungariaid. Ni chadwai gerbyd o'i eiddo ei hun, ond elai o gwmpas mewn cab. Dymunai ei wraig, un tro, iddo droi ymaith y cabman, gan ei fod mor arw ei fargen. Druan, meddai Tisza, pe trown ef ymaith ni chai waith gan neb arall. Ni roddai Tisza giniaw i neb. Siaradwr bach ydoedd ond yr oedd yn llwyr onest, oc oherwydd hyny gorchfygodd bob gwrthwynebiad, a rhoddid ymddmed diderfyn ynddo. Yr oeddyn gryf dros gadw i fyny y cyngrair rhwng Awstria a'r Almaen. Pan fu Ymerawdwr yr Almaen yn Vienna dangosodd barch mawr, oherwydd hyn, i Tisza, ond ni wnaeth fawr sylw o Brif Weinidog Awstria ei hun. Bydd colled fawr i Awstria a Hungari ar ol Tisza. Blino ar ddichellion ei ganlyuwyr yn ei erbya oedd achos ei ymddiswyddiad. Da fod Ymerawdwr A wstria-Francis J oseph ddyn mor neillduol o ddoeth a chymedrol, ac yn bersonol yn boblogaidd iawn yn Hungari. Y mae yntau yn bygwth rhoi swydd Ymerawdwr i fyny Bydd yn bur anhawdd dal Awstria wrth ei gilydd pan giiia ef o'r maes. I- Sylwaf ar Crispi, Prif Weinidog Itali, a gwlad- weinwyr Ffrainc y tro nesaf. MESUR TIR MR. BALFOUS, Mesur pwysig yw hwn. Ei amcan yw gallu- ogi tenantiaid yn yr Iwerddon i berchenogi eu ffermydd. Y maent yn rhy dlawd i'w prynu. Felly cynygia Mr. Balfour rhoi benthyg 33 miliwn o bunau iddynt. Gadewir i'r tenantiaid a'r meistri tir fargeinio a'u gilydd ar yr amod na fyddo y pris yn uwch nag ugain gwaith y rhent clir. Dwy waith ar bymtheg swm y rhent a dybir fydd y pris fel rheol. Creir Swyddfa Dirol i dalu i'r tirfeddianwyr mewn Consols, sef bonds yn talu 2f y cant o log. Am y pum' mlynedd gyntaf tal 4 y tenant 16 swllt y bunt o'i rent presenol, ac yna gostyngir i 14 swllt am 44 mlynedd. Ar ol hyny ni raid iddo dalu dimai. a chaiff y tir yn rhyddfeddiant, am ei fod wedi talu yr hawl i gyd a'r llog. Y mae y telerau yn dra ffafriol i'r tenant, canys caiff y tir am lai o rent o'r dechreu, ac yn rhydd cyn pen 50 mlynedd iddo ei hun neu ei deulu. Y mae y Mesur yn fantais hefyd i'r meistr tir, gan fod mor anhawdd cael rhent fel y mae pethau yn yr Iwerddon. Nid oes berygl ychwaith i'r trethdalwr Prydeinig, gan fod deg y cant o'r rhent am y pum' mlynedd cyntaf, y burned ran o'r t/il i'r tirfeddianwyr, a threthi neillduol yn yr Iwerddon yn llaw y Trysorlys yn ateb i'r arian a fenthycwyd er llawn ddi- ogelwch i'r trethdalwyr Prydeinig. Gobeithio y pesir y Mesur, gan nad oes golwg am dawel- wch yn yr Iwerddon hyd nes y bydd cadw heddwch yn fantais i'r tenantiaid. Helaethiad o egwyddor Cyfraith Arglwydd Ashbourne, yr hon a weithiodd yn dda, yw Mesur Mr. Balfour, gydag amryw gyfnewidiadau manteisiol.. Gan i Mr. Gladstone gynyg Mesur yn peryglu mwy ar awdurdodau y deyrnas, dylai pob plaid uno i gefnogi y Mesur hwn. Dengys y Mesur fod Mr. ny Balfour yn wladweinydd o'r radd flaenaf. Bernir gan lawer mai pwnc y tir sydd wrth wraidd Home Rule. Os felly, gwrthwynebir y Mesur gan Mr. Parnell. Condemniwyd ef eisoes gan Mr. Davitt. Cewch hanes Mesur y Degwm gan rywun arall yn ddiau. GERAINT.
Dinbych a'r Cylchoedd.
Dinbych a'r Cylchoedd. DYCHRYX I FAM.—Boreu Mawrth diweddaf cyfedodd un Mrs. W. Jones, Beacon's Hill, o'r dref hon, ac aeth i lawr er cyflawni ei gwaith, gan adael ei phlentyn yn y gwely, yr hwn a ymddangosai yn berffaith iach. Ymhen ychydig amser aeth i fyny gyda'r bwriad o wisgo am y bychan, ond er ei mawr ddychryn canfyddodd fod y plentyn wedi marw. BREINT GYMDEITHAS YR EGLWYS.— Nos Fawrth, cyfihaliodd y gymdeithas hon ei chyf- arfod wythnosol arferol. Mr. Cotton oedd y llywydd y tro hwn, a chafwyd dadl fuddiol a difyr ar Yfed, ai ysmygu yw y mwyaf niweid- iol ? Condemniwyd y ddiod gan Mr. Buller, a'r myglys gan Mr. W. H. Parry. Parhawyd y y ddadl gan y Parch. D. Griffiths, a'r Mri. Howard', Longfield, a'r cadeirydd. Cafwyd cyf- arfod buddiol ac adeiladol. CoNFFiRMAsnvN.—Mae ein parchus Reithor wedi bod wrthi yn fwy prysur nac arferol yr wythnos ddiweddaf yma yn parotoi yr ymgeis- wyr gogyfer a'r conffirmasiwn, yr hwn a gymer le yn Eglwys St. Mair, nos Fercher, yr 2il o EbrillJ WYTHNOS Y Dioi)DEFAINT.-Clywais fod y Rheithor wedi dwyn allan circular, yn cynwys trefn y gwasanaethau am ddydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg, ond gan na f reintiwyd- fi a'r un o honynt, nis gallaf ddweyd yr wythnos hon y modd mae Rheithor teilwng Dinhych am dreulio y dyddiau pwysig hyn ond fe fydd i mi ufuddhau i wys y clychau, os byw ac iach, a gadawaf i ddarllenwyr Y LLAX wybod yr wyth- nos nesaf y modd y treuliodd Eglwyswyr Dinbych y cyfnod hwn o'r Flwyddyn Eglwysig. LLANKHAIADR.—Neithiwr (nos Wener), bu y Parch. W. Williams, Dolgellau, yn traddodi an- erchmd darluniadol ar "Ddioddefiadau ein Harglwydd," yn yr Ysgoldy Gendlaethol. Yr wyf yn deall fod y Parch. W. Williams yn ffafrddyn gan liaws mawr yn y plwyf hwn. Ai tybed, pe deuai Mr. Williams i'r plwyf yma i roddi darlith ar Ysgrythyroldeb a chyfreithlon- deb y Degwm, na fyddai modd darbwyllo yr amaethwyr gwrth-ddegymol sydd yma eu bod yn ymddwyn yn anghyfiawn, yn anonest, Ye, ac yn cyflawni cysegr-ysbeiliad hollol yn eu gwaith yn gwrfchod talu y degwm. TUEFNANT.—Cynhaliwyd gwasanaethau neill- duol yn yr Eglwys hon trwy ystod y Garawys, a darfu i'r Parch. Canon Lewis sicrhau gwas- anaeth dynion dieithr erbyn bob wythnos, set y Parchn. T. LI. L. Williams, Llanelwy W. E. Jones, Bylchau J. Davies, D. Griffiths, Dinbych a T. Lloyd, Llanelwy. Cafwyd CYll- ulliad da bob wythnos.—Da genyf ddeall fod yr Ysgol Sul mewn cyflwr mor nodeuog mewn cy- sylltiad a'r Eglwys hon. Synwyd fi pan ddy- wedwyd wrthyf fod ei rhif ar gyfartaledd yn 70. Campus.—Dymunol yw gweled fod cy- maint 0 sylw yn cael ei dalu i'r Wasg Eglwysig Gymreig gan Ficer galluog y plwyf hwn, ac nid oes unrhyw draul na thrafferth yn ormod ganddo er lledaenu cynyrchion y Wasg Gymrei". ac hyderaf nad gormod o hyfdra ynof fyddai gofyn i Canon Lewis, os oes ganddo ychydig ar law o Y gwaddoliadau Eglwysig," anfon nifer i'r phvyfi cylohynol i'w dosbarthu, oblegid byddai eu darllen yn lies i Eghvyswyr ac. Ym- neillduwyr.
[No title]
Boneddwr Alr, Thomas, edrychwch ar y sign yna, a chwi welwch nad oes hawl genych i bysgota ar y tiroedd hyn," Mr. Thomas: z, Begian eich pardwn, syr, nid ar y tiroedd yr 11 wyf yn pysgota, eithr yn y dwfr."
NODION 0 LANELWY.
NODION 0 LANELWY. EGLWYSIG. Nos Wener, bu y Parch. Dan. Edwards, rheithor y Bala, yn pregethu yn'yr Eglwys Gadeiriol. Da oedd genym weled nad oedd yr anwydwst wedi gadael fawr o'i 61 arno. Yr wythnos hon-yr Wythnos Sanctaidd—cynhelir gwasanaeth arbenig bob nos am saith, a thraddodir anerchiad ynddynt. Gwneir yr un fath yn Eglwys y plwyf. Hon yw y flwyddyn gyntaf i wneyd hyn yn yr Eglwys Gymraeg, a gobeithiwn y gwelir cynulleidfaoedd lliosog yn y ddwy Eglwys eleni. Ni ddylai y Saeson fod ar y blaen arnom yn hyn, mwy nag mewn pethau eraill.
Y GYMDEITHAS AMDDIFFYNOL EGLWYSIG.
Y GYMDEITHAS AMDDIFFYNOL EGLWYSIG. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Cangen Llanelwy.o'r gymdeithas uchod, nos Wener diweddaf. Hon, yn ddiau, yw y gangen fwyaf lewyrchus yn yr Esgobaeth-rhifa rhwng tri a phedwar cant o aelodau. Y mae llawer o'r llwydd- iant hwn i'w briodoli i'r Col. Standish Horc, y llywydd. Gweithiwr brwdfrydig a diflino yw efe ymhob cylch, ac nid gorniod dweyd mai efe yw asgwrn cefn y gymdeithas amddiffynol yn y ddinas. Gwneir llawer o waith sylweddol ganddi. Dosbarthir nifer liosog o'r National Church yn fisol, a gofelir fod llenydd- iaeth Eglwysig yn cael eu gwasgar gyda chysondeb. Penderfynwyd fod te yn cael ei roddi i'r holl aelodau ar y 23ain o Ebrill, ac ar ol y te bydd Mr. Mason yn traddocli darlith ar ryw agwedd o'r cwestiwn Eglwysig. Credwn fod hwn yn symudiad doeth er dwyn yr aelodau ynghyd, a chreu mwy fyth o ddyddordeb yn eu gwaith. Ym- ddiriedwyd darpar y te i Mrs. Howes- Roberts a Mrs. Grimsley-dwy foneddiges a feddant gymwysderau neillduol at y gorchwyl. TRO GALARUS. Yr wythnos ddiweddaf taflwyd y. ddinas i gyffro gan amgylchiad hynod o drist. Boreu dydd Sadwrn, darganfydd- wyd corff George Deed, mab i Thomas Deed, river-watcher, Glandwr Terrace, mewn beudy naill ochr i Rhyllon, heb fod ymhell oddiwrth yr afon Clwyd. Taenwyd y newydd ei fod naill ai wedi ei lofruddio, neu ynte wedi cyflawni hunan-laddiad trwy gymeryd gwenwyn. Symudwyd y corff i'r Railway Inn, a chynhaliwyd trengholiad boreu dydd Llun. Ar ol ei agor yn ffurfiol, gohir- iwyd ef nes i'r meddygon gynal eu harchwiliad Nis gwyddom eto beth yw y ffeithiau ond clywsom na ddarganfu y meddygon na gwenwyn, nac ol cam- drin ar y corff. Bernir iddo gael ei fygu gan awyr afiachus oddiwrth wair oedd wedi haner Uosgi yn y beudy. Diau y ceir gwell goleuni ar y mater yn y trengholiad goliiriedig dydd Llun. Cladd- wyd corff yr anffodus ddydd Mercher, a daeth llawer ynghyd er amlygu eu cyd- ymdeimlad a'r rhieni yn eu profedig- aeth. AMAETHYDDOL. Cynhaliodd Cymdeithas Amaethyddol Dinbych a Fflint ei chyfarfod blynyddol yn Rhuthyn, dydd Gwener. Aeth dirprwyaeth o Lanelwy, sef Mri. Joseph Lloyd, John Jones, J. Webster, a Power, yno a chais ar fod i arddangosfa 1891 gael ei chynal yn Llanelwy. Dy- wedai Mr. Lloyd fod adfywiad neillduol yn cymeryd lie yn y ddinas, a phriodolai hyny i raddau helaeth *i'r Esgob. Yr oedd yn adnabyddus fel codwr boreu, ac un a chydymdeimlad a'r amaethwyr. Nid oes dadl nad yw Llanelwy yn fan campus i gynal yr arddangosfa, ac y mae genym bob ymddiried yn y pwyllgor sydd wedi ei ff urao, na fydd iddynt or- phwys nes llwydpo yn ei amcan.
[No title]
Y mae 120,000 o benaduron yn un dunell o bwysau. Y mae yn costio un rhan o dair yn rhagor i fyw yn Paris nag yn Llundain. Y plwyf'mwyaf yn Lloegr tydyw Helmsley. Yorkshire, yr hwn sydd yn Uti o filldiroedd ysgwar. Y mae dros saitlI mil o foneddigesau a bonedd- igion yn y wlad hon yn enill eu cynhaliaeth yu hollol oddiwrth gerddoriaeth. Y mae mwy o bobl yn marw rliwng tri a chwech 0 r gloch yn y prydnawn nag ar unrhyw amser arall. Y mae 160 0 glercod menywaidd yn Ariandy Ffrainc. Ymddengys nad oes augen profiad bob amser i ysgrifoiiii ar bwnc neillduol. Danfanodd bachgen 15 mlwydd oed draethawd maith ar 11 Fanteision ac anfanteision bywyd priodasol i olygydd papyr Seisnig yn ddiweddar, yr liwn a gynghorodd yr awdwr i ysgrifenu ar yr un pwnc I pan y byddai ddeng mlynedd yn lienach, ac yna y byddai ei waith yn defcyg o gael ei gyhoeddi. Y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd 950 o filltir- oedd o dramlfyrdd yn y Deyrnas Gyfunol. Morwyn olygus: Nid ydych yn rhoddi ,u digon o bwysau." Y grocer cyfrwys (yn oclien- eidio) "Mi wn ond atnoch chwi eich hun- an mae'r bai." Y forwyn Sut hyny ?" Y grocer (yn gwenu yn serchus arni) Yr wyf am wneyd eich baich mor ysgafn ag sydd. bosibl, fy anwylyd."
FFEIRIAU Y BALA AM 1890.
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. IAU Ebrill 3 MERCHER Mai 14 MAWRTH Mehefin 3 lAU.Gorphenaf 10 Awst 11 IAU Medi 11 SADWRN.Medi 27 GWENER Hvdref 24 SADWRN Tacliwedd 8 GWENER Rhagfyr 19
METHDALIADAU.
METHDALIADAU. Yn unol a Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Mawrth 22ain, fel y canlyn 1890 1889 188 Builders, & Building Materials 18 21 23 Chemists and Drysalters. 3 5 3 China. Glass, & Earthenware I 1 1 Confectionery, Toys, &c. 4 5 2 Corn, Coals, Minerals 9 3 H Drapery, Clothing Trades 22 20 37 Farmers. 9. 9. 10 Furniture, Upholstery. G 5 6 Horses, Vehicles 1 3 3 Jewellery, Watches 6 2 1 Leather 9 15 11 Metals 6 10 5 Paper, Printing, &c. 3 3 10 Provisions 30 33 37 Wines. Spirits, beer, &c. 12 23 24 Miscellaneous 37 21 4 17G 179 188
jMARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU. —Gwenith, 4s 9C i 5s 3c am 75 pwys haidd, 55 6c i 5s gc ceirch, 3s 3c i 3s gc; ymenyn, is 3c i is 5c am 16 wns wyau, 12 i 14 am swllt ieir, 3s 6c i 5s y cwpl hwyaid, 4s oc i 5s oc y cwpl pytatws. is gc am 120 pwys. WYDDGRUG, DYDD AIERCHF-R. Gwenith melyn, 10s oc i 105 6c yr hobed haidd, gs 6c i 105 oc yr hobed ceirch, 6s 6c i 7s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 14 am is. ELLESMERE, DYDD MAWRTH. — Gwenith gwyn, 4s 7c i 4s 8c am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc; ceirch, 2s 4c i 3s oc wyau, 13 i 15 am is ymenyn, is 4c i is 5c am 16 wns ieir, 4s 6c i 55 6c y cwpl. DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.— Gwenith, 13s 6c i 15s am 240 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys ceirch, 145 6c i 16s oc am 220 pwys wyau, 16 am is ymenyn, is I-C i is 2^c y pwys 2 ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl hwyaid, 5s 6c i 6s 6c y cwpl; pytatws, IS pwys am is. CREWE, DYDD LLUN.-Cig eidion, 6k i 7c y pwys cig moch, gs 3c am 20 pwys; heffrod, £ 15 i i, 24 yr un cig myharen, glc i ice y pwys. 2 LERPWL, DYDD LLUN.-Cig eidion goreu, 71c y pwys; ail oreu, 6c trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, 91-c ail, 8c. trydydd, 6tc y pwys. 2 TRALLWM, DYDD LLUN.—Gwenith, 4s 6c i 4s gc am 75 pwys ceirch, 14s oc i 15s 6c wyau, 00 i 14 am is. ymenyn, is ic i is 2C am 16 wns ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 6s oc y cwpl pytatws, 18 pwys am I 's. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. —Gwenith gw)n, 4s ice i 5s oc am 75 pwys melyn, 4s 8c i 4s 9c am 75 PwYs haidd, 4s 9c i 5s 3c am 70 pwys; haidd at falu 4s 3c i 4s 6c am 70 pwys; ceirch, 155 6c i 17s 6c am 225 pwys; ymenyn, is 2c i is 3C y pwys; wyau, 15 i 17 am swllt; cig eidion, Z, 6tc i 7c y pwys cig myharen, 8c i 9C v 2 pwys cig llo, 8c i oc y pwys pore, 5c i I t, 5-c y pwys. CAERLLEON, DYDD SADWRN. — Gwenith, 4s 9c i 5s oc am 75 pwys ymenyn, is 4c i is 5C y pwys wyau, 10 i 12 am swllt. DINBYCH, DYDD AIEPCilf-,P,. -leir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 5s 6c y cwpl ymenyn, is 6c i is 7c y pwys wyau, 13 am swllt. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Gwenith Seisnig, 32s i 36s y chwarter am wenith gwyn melyn, 30s i 33s haidd at falu, 6c yn uwch na'r wythnos flaenorol ceirch, 6s yn uwch na'r wythnos ddi- weddaf pys, 6c yn rhatach. SALFORD, DYDD MAWRTH.Cig eid- ion, 6^c i 7^c pwys; cig myharen, g!yci 2 10hc y pwys cig 110, 7c i 9c y pwys cig moch goreu, 8s 2c ail oreu, 7s 6c i 7s 10 trydydd, 6s ic i 7s oc am 20 pwys. WHITCHURCH, DYDD GWENER.— Gwenith, 4s 4c i 4s 10c am 75 pwys haidd, 4s 8c i 5s 6c am 70 pwys wyau, 13 i 15 am swllt; ymenyn, is 2C i is 4c am 16 wns ieir, 4s i 5s y cwpl hwyaid, 6s 6c i 7s y cwpl. WELSHPOOL, DYDD LLUN.—Gwenith 4s 3c i 4s 9c am 75 pwys ceirch, 15s oc i 16s 6c; wyau, 14 i IS am swllt; ymenyn, is ic i is 2C y pwys ieir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl hwyaid, 4s oc i 5s 6c y cwpl. RHUTHYN, DYDD MAWRTH.—Ieir, 4s 6c i 5s oc y cwpl ymenyn, is 6c y pwys wyau, 12 am swllt.
[No title]
Heb unrhyw betrusder, cvdnabyddir gan y cyhoedd mai Y LLA A'R DYWYSOGAETH yw y cyfrwng hysbysiadol rliagoraf a fed dwn. George: « Beth yn bump-ar-hugain oed heddyw ? Dim ond blwyddyh yn ol, cyn i ni briodi, Jane, y dywedaist mai ugain oeddet r' Jane (yn edifeiriol): "ODd ti weli mor fuan yr wyf wedi heneiddio ar ol priodi!" Ceir fod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn cael ei dderbyn gan deulueedd parchusaf Cymru, a 11 chynghorem bawb i roddi prawf arno fel cyf- rwng hysbysiadol digymar. 11 Boneddwr mewn bwyd-dy a dtlarganfyddodd fiewyn 0 wallt ar ei ddysgl,* Gan ei roddi o'r 6 neilldu, aeth ymlaen i fwyta, ond mewn ychydig y If, funydau daeth ar draws un arall. "Weinyddes! dewch yma," meddai mewn tymer ddrwg, yr ydych wedi anghofio d'od a chrib i mi!" Nis gall masnachwyr, ac eraill a ddymunant ychwanegu eu derbyniadau drwy sicrhau rhagor o gwsmeriaid wneyd yn well na cliyhoeddi eu hysbysiadauyn Y LLA A'R DYWYSOGAETH, y cyfrwng liysbysiadol goreu yn Nghymru