Hide Articles List

21 articles on this Page

Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL…

NYTH YR ERYR.

PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU.

AMRYWION.

CAERFYRDDIN.

MERTHYR CYNOG.

ABERHONDDU.

GLYNCEIRIOG.

[No title]

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

News
Cite
Share

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst FESTRI GYNHYREUS Nawn Mawrth yr oedd Neuadd Dref ol Llan- rwst yn orlawn o drethdalwyr ar yr achlysur o gynhaliad y festri flynyddol er etbol swyddogion plwyfol. Drwy bleidlais unfrydol etholwyd y y Parch. T. Tudno Jones yn gadeirydd, ac wrth agor y gweithrediedau sylwodd nad oedd ef yno yn y cymeriad o drethdalwr, ond yn hytrach fel cynrychiolydd y Rheithor. Yna aeth ymlaen i ddarllen y rhybudd o'r cyfarfod, a dywedodd mai gorchwyl cyntaf y festri oedd nodi a phen- odi y gwarcheidwaid am y flwyddyn. Ar hyn safodd gwr ieuanc o gyfreithiwr, o'r enw David Jones, ar ei draed, a dywedai fod llyfr y gyf- raith oedd ganddo yn ei law yn dangos fod penodiad Mr. Jones yn anghyfreithlon, oher- wydd nas gallai curad gynrychioli ei Reithor, ac am nad oedd hyd yma yn drethdalwr yn y plwyf. Cododd, Mr. James, cyfreithiwr arall, i gadarnhau sylwadau ei gymrawd cyfreithiol. Y cadeirydd a ddywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo ef i'w benodiad unfrydol achosi unrhyw dramgwydd i'r frawdoliaeth gyfreithiol ond meiddiai ddweyd eu bod yn cyfeiliorni yn eu hesboniad o'r gyfraith, neu yn hytrach llunio cyfraith newydd o'r eiddynt eu hunain. Mewn plwyf a fu o dan ei ofal am agos i bum' mlynedd ni chynhaliwyd cynifer ag un festri heb iddo ef fod yn y gadair fel cynrychiolydd y Ficer. a meiddiai ddweyd nad oedd yn angenrheidiol i gadeirydd a etholid drwy bleidlais fod yn dreth- Idalwr o gwbl. Modd bynag, yn hytrach nag atal y gweithrediadau a gwastraffu amser mewn cyndyn-ddadleu, yr oedd ef yn hollol barod i roddi y gadair i fyny. Y Parch. J. Gower, ficer Trefriw, a ddywedai fod penodiad Mr. Jones yn hollol rfeolaidd a chyfreithlon, a dadleuai nad oedd y twrneiod yn iawn-ddarllen y gyfraith ar y pwnc. Gwasgai ar i Mr. Jones beidio gadael y gadair ar un cyfrif. Dadleuai Gwilym Cowlyd nas gallent ddadwneyd y penodiad heb wneyd yr holl weithrediadau yn ddirym ac a hyn y cytunai y cyfarfod. Cynygiwyd ar fod i Mr. James gymeryd y gadair, ac ar gymhelliad y Parch. T. Tudno Jones cydsyniodd y cyfarfod i'r cais. Yna pasiwyd penderfyniad yn datgan y teimladau goreu tuag at Mr. Tudno Jones yn bersonol a'u diolchgarwch iddo am y deheu- rwydd a ddangosodd o dan amgylchiad lied an- hawdd, a'i ymddygiad boneddigaidd. Yna aethpwyd ymlaen i benodi y gwahanol swydd- ogion plwyfol mewn festri a barhaodd yn lied boethlyd hyd y diwedd. Yn y rhifyn nesaf o'r LLAN, vmddengys ilythyr eglurhaol ar safle gyf- reithiol y curadiaid yn absenoldeb yr ebrwyad. YSFA NEWYDD. Yn ngwyneb printer cyrddau te, cyngherdd- au, a difyrion poblogaidd eraill, y mae afionydd- wch ysbryd wedi ymaflyd yu rhai o oleuadau arweiniol Llanrwst am. sefydlu Bwrdd Lleol yn y lie. Bu yr un ysfa am rywbeth newydd yn meddianu dosbarth o drethdalwyr Llandudno lawer o flynyddoedd yn ol ond wedi bwrw'r draul yn bwyllog, daeth y dref anturiaethus a ffasiynol hono i'r penderfyniad mai canlyniad ymgymeryd ag iau drom y Bwrdd Llywodraeth Leol fuasai cwtogi eu rhyddid ac ychwanegu yn ddirfawr at eu beichiau trethol. Wedi rhdddi ystyriaeth ddyladwy i'r pwnc, di- ameu y daw synwyr cyffredin Llanrwst i'r un penderfyniad-. Ychydig nosweithiau yn ol cyn- haliwyd: cyfarfod i drafod y pwnc, o dan lywyddiaeth Mr. O. Isgoed Jones ond nid oedd y gwrdd mor gytunol a nythaid o golomenod. Nid oedd Gwilym Cowlyd a Mr. W. G. Jones—dau o arweinwyr y bobl-yn flafriol i'r syniad, ac hebddynt hwy ni bydd llawer o lewyrch ar y symudiad. Yr oil a wnaed oedd dewis pwyllgor i wneyd ymholiad- au pellach ar y pwnc, a mwy na thebyg yw y derfydd yr ystwr hwn, fel llawer o'i flaenoriaid byrhoedlog, mewn mwg. Y DWFR ETO. Y mae y Milwriad Luard, dirprwywr y Llyw- odraeth, newydd roddi tro arall i edrych am danom yn Llanrwst. Yn ei ymchwiliad cyntaf, mewn perthynas i'r priodoldeb o fenthyca X800 er ychwanegu'r cyflenwad o ddwfr, nid oedd wedi cael ei foddlani ac yn awr, wedi gwrando tystiolaethau pellach, daeth i'r penderfyniad o wrthod y cais hyd onis gwneir prawf priodol ar y gyfundrefn bresenol. Anogai i'r awdurdodau lanhau y pibellau sydd bron wedi eu llenwi gan rwd yn ystod y tymhorau sychion. ac edrych na fyddo i'r dwfr gael ei gamddefnyddio. Ymhellach, cymhellai osod meters mewn manau lie y defnyddir y dwfr at unrhyw amcanion amgen nag iechydol.. Felly, dyna ben am ryw hyd ar helynt y dwfr, a rhai yn gofidio ac eraill yn llawenhau qherwydd y canlyniad. ETHOLIAD GWARCHEIDWAID. Serch i'r festri flynyddol ddewis nifer o fon- eddigion i wasanaethu fel gwarcheidwaid plwyfol, ymddengys nad ydym i gael osgoi etholiad, gan fod pump o foneddigion eraill wedi eu nodi yn ddilynol. Ymddengys mai y rheswm dros nominatio y rhai diweddaf ydyw y gellid sicrhau gwasanaeth cynrychiolwyr a gymerent fwy o ddyddordeb yn ngweithred- iadau y Bwrdd Iechydol, o dan ofal pa un y mae pob materion lleol hyd yma. YSGOL GANOLRADDOL. Hysbys ydyw fod Llanrwst eisoes yn meddu Ysgol Ramadegol, ynghyd a chyllid o tua £ 800 yn y flwyddyn a'r amcan presenol ydyw ei throi yn Ysgol Ganolraddol, Ymwelodd Pwyllgor Addysg Unedig sirodd Dinbych ac Arfon a'r lie ddydd lau, a chafwyd cyfarfod ymchwiliadol, dan lywyddiaeth Mr. Thomas Gee, Dinbych. Bwriedir i'r ysgol fod ar gyfer poblogaeth o 16,776 oddeutu afon Gonwy, ac i gyflenwi eyfieusderau addysg ganolraddol i 100 o fechgyn a 60 o enethod. Tuedd gyffredinol y cyfarfod oedd defnyddio yr adeilad presenol i'r bechgyn, ac adeiladu ysgoldy newydd ar gyfer y genethod. Dywedid fod gan yr ymddiriedol- Vyr £1,510 mewn Haw, a gofynent i'r Dirprwy- wyr Elusenol ganiatau defnyddiad £ 800 o'r swm hwn at amcanion addysg, i'r gweddill o £1,200 at adeiladu ysgoldy i'r genethod. Hys- byswyd nas gallai y pwyllgor ganiatau unrhyw grant at y perwylion hyn, ac mai eu hunig orchwyl oedd gwneyd ymchwiliad i mewn i'r hyn a wnelai pob lie drosto ei hun. Y gor- chwyl nesaf, mae'n debyg, fydd agor rhestr y tanysgrifwyr, a diameu y prawf yn ddigonol er sicrhau sefydliad un o'r Ysgolion Canolraddol yn Llanrwst.-Gwydir.

[No title]

Advertising

AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG."

YR AELODAU CYMREIG YN NADL…

YMREOLAETH I GYMRU.

[No title]

ABERDAR.

IABERAMAN.

LLANGOLLEN,

LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN.

GARTHBRENGY,