Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL…

NYTH YR ERYR.

PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU.

News
Cite
Share

PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU. Gwelais yn y papyrau ddetholion o draethawd Proffeswr Henry Jones, 0 Fangor, ar Gymru. Mae genyf bob parch i'r Proffeswr Jones, Mae ei alluoedd yn amlwg, a'i wladgarwch yn ddiledryw. Ei amcan yw dyrchafu ei wlad, Ond cyn darllen ei lyfr, temtir fi gan y detholion a welais o hono i wneyd un sylw, Yni- ddengys fod y Proffeswr-os nad wyf wedi camddeall—yn drwm iawn ar was- etdd-dra y Cymry. Ei sail yw hyn :—Y mae wedi cael allan i'w foddlonrwydd ei hun-nis gwn pa fodd, hwyrach fod goleuni ar weledigaeth rifyddol y Pro- ffeswr yn y llyfr—fod hyn a hyn o Ryddfrydwyr yn Nghymru. Yna rhifa Mr. Jones nifer y pleiclleiswyr. Rhydd- frydol, a chaiff nad yw llu o'r rhai sydd, yn ol ei farn ef, yn Rhyddfrydwyr, wedi pleidleisio dros Ryddfrydwyr. Amlwg fod rhyw ddrwg yn y caws. Yf achos o hyn, medd y Proffeswr, ydyw gwaseidd- dra. Yn sicr, y mae Proffeswr Jones yn athronydd gyda'r blaenaf o'i oedran yn y deyrnas. Gwyr yn dda y dichon fod mwy nag un achos i ffaith, Rhyfedd 11a buasai yn ameu mai efe, feallai, sydd heb weled- igaeth eglur ar nifer Rhyddfrydwyr Cymru, yn lie penderfynu yn syth mai gwaseidd-dra y llu mawr o Ryddfrydwyr dychymygol na phleidleisiasaut dros! Ryddfrydwr. Byddaf yn sylwi yn fyn- ych fod y Wasg Radicalaidd yn N ghymru yn dra pharod i gyhuddo eu cydwladwyr o waseidd-dra. Cam-gyhuddiad yw hyn yn ol fy adnabyddiaeth i o werin Cymru. Y ffaith, yn ol fy marn i, yw fod y Cymro yn foneddwr naturiol yn yr ystyr o ddy- muno, hyd y gall, rhwng dyn a dyn, beidio tramgwyddo y sawl y byddo yn ei gwmni. Nodwedd brydferth yw hon yn nghymeriady Cymro, rhinwedd gwerth ei gadw, rhinwedd y byddai yn werth i'r cyff Teutonaidd fod yn fwy hyddysg ynddo. I'r neb sydd yn deall y Cymro, nid oes perygl camgymeryd y boneddig- eiddrwydd hwn am waseidd-dra cenedl- aethol. Gwir mai hawdd i fodeddigeidd- rwydd redeg dros y llinell derfyn i was- eidd-dra. Mae i'r rhinwedd hwn, fel pob rhinwedd, ei ochr wan. Dyledswydd gwladgarwyr yw dangos yn glir y llinell derfyn rhwng boneddigeiddrwydd a gwaseidd-dra. Ond ni wneir hyn drwy ganfod gwaseidd-dra lie nad yw. Teimlo egwyddor y bydd y Cymro yn hytrach na'i hymresymu allan. Ni chanfyddais erioed hyd yn hyn Gymro, unwaith y cyffyrddid a'i deimlad gan egwyddor neu nwyd, yn dangos dim byd yn debyg i waseidd-dra. I'm tyb i, profa Proffeswr Jones, os profa rywbeth ar y pwnc, nid fod llawer o Gymry yn wasaidd, ond fod llawer o honynt na theimlant fawr ynaill ffordd na'r llall ynghylch pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn eu cymerad- wyo na'u condemnio, na dim ond sylwi nad gwasoidd-dra yw diffyg chwaeth at ddadleuon pleidiau gwleidyddol. Ond nid drwg genyf, os yw ffigyrau y Pro- ffeswr yn gywir, feddwl y dichon fod miloedd o Ymneillduwyr Cymru eto heb feddwi ar ddiod gadarn Radicaliaeth. Hir y parhaont yn sobr, serch cael eu cam- ddeall a'u cernodio hyd yn nod gan athronydd mor graff a gonest a'r Proffeswr Henry Jones. SYLWEDYDD.

AMRYWION.

CAERFYRDDIN.

MERTHYR CYNOG.

ABERHONDDU.

GLYNCEIRIOG.

[No title]

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

[No title]

Advertising

AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG."

YR AELODAU CYMREIG YN NADL…

YMREOLAETH I GYMRU.

[No title]

ABERDAR.

IABERAMAN.

LLANGOLLEN,

LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN.

GARTHBRENGY,