Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL…

NYTH YR ERYR.

PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU.

AMRYWION.

CAERFYRDDIN.

MERTHYR CYNOG.

ABERHONDDU.

GLYNCEIRIOG.

[No title]

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

[No title]

Advertising

AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG."

YR AELODAU CYMREIG YN NADL…

YMREOLAETH I GYMRU.

News
Cite
Share

YMREOLAETH I GYMRU. Bu y papyrau Radicalaidd Cymreig yn dadleu yn ddiweddar yn boeth pa un ai Ymreolaeth ai Dadgysylltiad ddylid ei gael gyntaf. Gan nad ydyw y naill na'r llall yn eu gafael, buasai yn ddoethach iddynt aros ychydig yn hwy cyn gwalltio eu gilydd. Nid oedd Mr. Lloyd George, Criccieth—ymgeisydd am sedd wag Bwr- deisdrefi Arfon—yarhoddi Dadgysylltiad ddigon ymlaen i foddhau y Barch. Evan Jones, Caernarfon, Dywedai Mr Jones yn groew os na frysient gymaint fyth ag a allent na welent Ddadgysylltiad am ugain mlynedd, Digiodd llawer wrth Mr. Jones am ddweyd ei farn mor ddi- floesgni, ond ceir gweled ef fod yn ei le. Gwyr Mr. Jones beth yw pwys a gwres y dydd, ac mor anhawdd dal i gadw cynwrf am flynyddoedd. Y mae cynydd prysur yr Egl wys yn sicr o ddisodli y Dadgys- ylltwyr, os nad allant, drwy ryw ystryw neu gilydd, enill drwy ruthr disymwth. Ond nid oes golwg ar hyn o bryd yr enill- ant o gwbl, rhuthro neu beidio. Y mae amryw o'r prif arweinwyr yn trwsio eu hesgyrn dolurus ar ol ergydion Silur- lad." 0 bob ffolineb glywyd eto son am dano yn Nghymru, Ymreolaeth i Gymru yw y ffolaf. Yr wyf yn Gymro mor zelog a'r Ymreolwr penaf o honynt, ond gwn beth olygir wrth Ymreolaeth yn rhy dda. Dyma yw Ymreolaeth-Gallu a rhwysg i gilcydclion. DarHener" Siluriad am ddiniweidrwydd y Cymry o dan ddwylaw clicyddion, ac os myner goleuni ar glic- I yddiaeth wleidyddol, ymofyner a Mr. Pritchard Morgan, A.S. dros Ferthyr Tydfil. Bwriodd ef glic gwleidyddol Merthyr yn bendramwnwgl. Y middle- lnen-fel y geilw y Sais hwynt-y dynion bywiog, call, gorlawn o hunan-hyder, sydd a'u bysedd ar linynau gwleidyddol byth a hefyd, a hwy yn unig, enillai drwy Ymreolaeth. Byddai Ymreolaeth yn sicr o wneyd gwleidyddiaeth yn Nghymru yn fusnes cjieiau, fel y mae yn yr Unol Dal- eithiau. Hawdd iawn chwareu ar dannau gwladgarol y Cymry, Fel Eglwyswr, nid oes genyf wrthwynebiad yn y byd i fyddin y Dadgysylltwyr ymranu ar Ymreolaeth. Ond fel Cymro nid wyf yn hoffi gweled gwladgarweh Cymru yn cael ei wneyd yn destyn gwawd ac yn arf clic. Cadwer gwladgarwch yn glir ag ymbleidiaeth wleidyddol a sectol, a defnyddier ef i ddyrchafu y genedl oil, ac nid cliciau cyfyng, Y mae digon o waith i'r teimhid gwladgarol ynglyn A Ilenyddiaetli, addysg, a bywyd cymdeithasol Cymru. Genedig- aeth-fraint pob Cymro y w, ac nid shibbol- eth plaid. Y mae teimlad calon Cymru yn rhy, wbeth rhy gysegredig i wneyd busnes o hono.

[No title]

ABERDAR.

IABERAMAN.

LLANGOLLEN,

LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN.

GARTHBRENGY,