Hide Articles List

17 articles on this Page

EGLWYS Y OYMRY.

News
Cite
Share

EGLWYS Y OYMRY. EI HYNAFIAETH A'l DYLANWAD. ANWIREDDAU EI GELYNION YN CAEL EU DINOETHI. Lhfthyr I. Yn ami iawh clywir gelynion yr Eglwys hen- afol hon yn dweyd am dani mai Eglwys estron- ol ydyw hi i Gymru ac i genedl y Cymry, ond ni fu y fath gamgymeriad erioed yn erbyn hen sefydliad ag sydd wedi gwrthsefyll tymhestl- oedd ac ystormydd yr oesoedd. Ac y mae yn amlwg iawn mai ystryw a dichell ei gelynion yw dweyd y fath beth haerllug am dani hi. Nis gall neb ddweyd mai Eglwys estronol yw hon ag sydd yn iawn ddeall hanesiaeth Eglwysig, ac yn enwedig hanes Eglwys henafol y Cymry, canys y mae hi wedi gwneuthur daioni an- nhraatholymhlithy Cymry er's oesoedd lawer bellach. Wrth ddarllen hanesiaeth yr Eglwys hon, agie yn angenrheidiol i ni edrych ar yr Eg- lwys yr un er pan ei phlanwyd hi gyntaf yn yr yays hon hyd yr awr hon. Mae yn angenrheid- iol i ni wybod rhywbeth am dani yn y canrif- eedd cyn y Diwygiad Protestanaidd, canys yr oedd yn llewyrchu er's canoedd 01 flynyddoedd A cyn y cyfnod hwnw, ac wedi gwareiddio a Christioneiddio y Cymry i raddau anghyffredin. Sefydlwyd y ffydd Gristionogol yn Mhrydain er yn foreu iawn, ac yr oedd ymaieglwys Apostol- aidd mewn urddau Apostolaidd am lawer o flyn- yddoedd cyn dyfodiad Awstin Fynach, yn y flwyddyn 596, i'r ynys hon. Felly yn wir, nid Eglwys estronol yw hi. Nid Eglwys estronol yw Eglwys ag sydd wedi bod yn llafurio am ganrifoedd ymhlith y Cymry cyn bod na Chalfin- iaeth, Wesleyaeth, Cynulleidfaoliaeth, na Baptistiaeth, nae unrhyw sect arall wedi cael bodolaeth yn yr ynys hon. Pa fodd y gall yr Eglwys, gan hyny, yn ngwyneb hanesyddiaeth fel hya, fod yn Eglwys estronol i'r Brythoniaid a'r Cymry ? Na, adnabyddus ydyw hi wedi bod i'r Cymry ar hyd yr oesoedd. Y mae ei hargraff- ladau hi brllidd Ilr oob peth, a'i dylanwad yn cyraedd ymhell ac yn agos. Mae hi wedi bod yn lefeinio y genedl hon, ac yn ei. lefeinio hi o hyd, ac wedi lefeinio yr oesoedd a fu. Mae 1\'edi ac yn gwneyd dirfawr ddaioni i genedl y Cymry. Os ebtronol, fel ag y dywed ei gelyn- ion, yw hi i'r Cymry, onid mwy estronol o lawer yw y sectau a godasant yn ddiweddar, canys gwyddom yn dda am hanes dechreuad a genedig- aeth Calfiniaeth, Wesleyaeth, a'r seetau eraill a dorasant allan o'r Eglwys. Hen Eglwys y Cymry yw yr Eglwys a bregethodd Gristionog- aeth gyntaf i'r Cymry yn Mhrydain, a hyny am lawer canrif cyn i Babyddiaeth na Sectariaeth erioed blanu eu traed na gosod eu hunain i fyny yn yr ynys hon. Pa fodd, gan hyny, y gall un- rhyw ddyn sefyll i fyny o flaen cynulleidfa o bobl a dweyd mai Eglwys estronol i'r Cymry yw yr henafol Eglwys hon, sydd bwnc tuhwnt i'm hamgyffrediadau i. Mae dynion fel hyn yn gwyrdroi hanesyddiaeth yr Eglwys, ac yn euog o hau anwireddin a chyfeiliornadau haerllug, canys dywed hanes yr Eglwyshon mai anwir- eddau noeth a'r haeriadau mwyaf digywilydd ydynt. Mae yr Eglwys hon wedi bod yn ein plith yn ei pherffeithrwydd a'i phurdeb er amser yr Apostolion i lawr hyd yr awr hon, ac wedi bod yn ofalus iawn am gadw y tair gradd yn y Weinidogaeth yn ddilwgr. Ond yr wyf yn teimlo fod fy erthygl ar yr Eglwys yn myned yii rhy faith eisioes, ac felly caf yr hyfrydwch a r pleser yn fy llythyr nesaf o ddangos a plirofi dyfodiad boreuol Cristionogaeth i'r ynys hon. IFY unig amcan a'm dymuniad drwy y llythyrau flyfl fydd gwasanaethu gwirionedd a dinoethi yr SjHwjredda^ a Ijaifir mof haerllug, a chyda'r fath 4di^Fdr\V'ydd ac )sofndra yn y blynyddoedd. hyn am y g-ange,4 hon o> Eglwys Apostolig, a blan- ^yd mor forcu ymhljth ein cenedl. Yr ydym yn dlOlth i Dduw am y llwyddiant anarf erol ag sydd yn weledig yn yr Eglwys hon. Y mae yn 6, ro' y° gwneyd y gwaith mawr ag sydd ganddi l w gyflawni. Y mae' yr offeiriaid yn effro, gweithgar, penderfynol, ymegniol, a liunan- vr p a^°^' ac fellJ y mae yn rhaid i waith mawr giwys fyned ymlaen yn llwyd'dianus, caxys gwait-h Duw yw. D. LL. JAMES1, D.D. Pont Robert. a.

[No title]

Ymddiddanion Siop y Crydd

FFEIRIAU Y BALA AM 1890.

METHDALIADAU.

ESGOBAETH BANGOR.

CRICCIETH.

HENDY GWYN AR DAF.

NODION 0 HIRWAUN.

DOWLAIS.

ODION 0 FANGOR A'R CYLCHOEDD.

PONTLOTTYN.

LLANLLECHID.

NODION 0 DDEONIAETH CEDEWAIN.

LLITH 0 LANELLI.

NODION 0 DDEONIAETH WYDDGRUG,

LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG.