Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
CYFRINGELL Y GOLYGYDD
CYFRINGELL Y GOLYGYDD DERBYNIWYD— Siroedd Ffiint a Dinbych, Llith o Lerpwl, Eglwys y Cymry, Hen Dy Gwyn ar Daf, Eglwys Gyniraeg St. Nathaniel (Lerpwl). Cant ymddangos yr wythnos nesaf. 09 D. S.-Rhoddir y fiaenoriaeth bob amser i'r adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn fyr a chynivysfctivr.
[No title]
Beth am y tiroedd ag sydd yn gwneyd rhan o ivaddol yr Eglwys ? Mae llawer o anwybodaeth yn bodoli ar y pen yma, a dynion yn cael eu camarwain yn ei gylch. Mae genyf fi oym blaen lyfr a elwir 11 Chronicle of the Religious House of Abingdon." Cyrhaedda dros gyfnod o tua 600 o flyiiyddoedd, a givelir fod pob ysgrif a braint-lythyr ynddo yn perthyn naill ai i rodd y brenin o'i eiddo ei knit i ryw grefydd-dy, neu i Eghvys, neu ynte eu bod yn sicrhau rhoddion wedi eu cyf- lwyno o'r blaen ar ivahanol amserau. Ac nid oes gymaint ag ysgrif neu f raint- lythyr o'r rhai hyn oll dan law neb fel gweithred wedi ei harwyddo yn enio y Wladwriaeth, yn rhoddi tir i'r Eglwys.— Parch. T. Moore. M.A.
MESUR Y DEGWM.
MESUR Y DEGWM. MAE Mesur y Degwm ag mae y Llyw- odraeth wedi ei ddwyn i'r Senedd, wedi rhoi boddlonrwydd mawr i bawb a garant gyfiawnder a heddwch. Fe ddarpara'r Mesur well dull i hyrwyddo casgliad y rhent-dil (rent-charge) a gam-enwir yn ddegwm, a gesyd ef ar y tirfeddianwyr, fel y mae wedi bod er y fLwyddyn 1836, a gwna yn anghyfreithlawn iddynt ei osod ar y tenantiaid, megis y gwna y rhan fwyaf yn bresenol. Heblaw hyn, darpara'r Mesur ddull i alluogi y tir- feddianwyr i adbrynu (redeem) y rhent- dal gyda chynsyniad perchen y rhent-dal a hwythau, cydsyniad y ddwy blaid. Y dull a gynwysa i hyrwyddo casgliad a gorfodiad y rhent-dal ydyw ei osod ar Lye y Sir (County Court) i drefnu hyny. Rhydd hawl i berchenog y rhent-dal i wysio y tirfeddianwyr i'r County Court os gwrthodant dalu, ac i'r Llys atafaelu ar y tir. Bydd hyn yn welliant dirfawr ar y dull presenol. Mae hawl perchen y rhent-dal i atafaelu wedi profi yn fethiant mewn llawer o achosion. Mae yn hawdd i ddynion afreolus wrthsefyll a rhwystro goruchwyliwr yr offeiriad neu berchen lleygol, ac mae y draul o atafaelu mor fawr nes gwneuthur y gyfraith yn ddi- rym. Ond peth hollol wahanol fydd gwrthsefyll gweision y Llys. Mae dirwy drom iawn am rwystro y County Court yn nghyflawniad ei ddyledswydd dim llai na dirwy o bum' punt ar y neb a feiddio wneuthur hyny. Fe rydd hyn atalfa effeithiol ar ymddygiad dynion afreolus. Bydd hefyd yn fantais bwysig ei wneuthur yn eglur mai nid mater rhwng y ffermwr a'r offeiriad ydyw y rhent-dal, ond rhyngddo a'r tirfeddianwr. A He bynag y byddo les ar fferm yn rhwymo'r tenant i dalu y rhent-dal yn gystal a'r rhent, rhydd y Mesur hwn ryddid i'r perchen dalu y rhent clal a'i gael yn ol gan y tenant. Bydd perchen y tir yn rhwym o dalu y rhent-dal neu'r degwm, a gall ei godi ar y tenant tra parhao'r les. Hefyd, os bydd gwerthblyn- yddol fferm, megis y mae wedi digwydd yn Lloegr, yn llai na'r degwm, bydd hawl gan y Barnwr ostwng y degwm a phe b'ai fferm yn hollol ddiwerth, ac yn wag, bydd hawl gan berchen y degwm, yr un fath ag mae y gyfraith yn awr, i gym- eryd y fferm i'w ddwylaw ei hun, nes cael y rhent-dal a fyddo yn ddyledus iddo. Gyda golwg ar ad-brynu y rhent- dAl, lie bynag y byddo dan bunt yn y liwyddyn, bydd y tir-feddianwr yn rhwym o'i ad-brynu, gorchymynir i'r offeiriad ddodi'r arian ar log yn y fttnds er budd offeiriad y plwyf tra b'o dwfr yn rhedeg. A bydd ad-brynu symiau mwy yn gyfreithlawn, os bydd y ddwy blaid yn cytuno. Bydd yn orchymynedig gyda golwg ar sym- zn ian bychain dan bunt, yn gyfreith- lawn ac yn ganiataol gyda golwg ar y Weill. Llongyfarchwn Eglwyswyr ar y t,Y gobaith o weled y gwelliantau tra gwerth- fawr hyn yn dyfod i ben y Sessiwn hwn. Bydd yn fantais ddirfawr gosod y taliad ar y tir-feddianwr, ac yn anghyfreith- lawn iddo gytuno a'r tenant, ac ir offeiriad sefyll naill ochr, a gadael i berehen y tir benderfynu'r mater o flaen Barhwr y County Court, yr hwn a rydd y Costau ar y sawl fyddo yn gwrthod talu Dynion cyfiawn y gyfraith.
I YR EGWYDDOR WIRFODDOL YN…
YR EGWYDDOR WIRFODDOL YN LLAW GYFREITHWYR. ARFERWN yr ymadrodd Yr Egwyddor -Wirfod(lol uwchben ein herthygl yn yr ystyr gyfyngedig a roddir iddo gan yr Ymneillduwyr politicaidd pan siaradant am gynorthwyon arianol y capel mewn gwrthgyferbyniad i gynorthwyon arianol yr Eglwys. Mynant hwy i bobl an- llythyrenog ac annysgedig gredu fod gwaddoliadau yr Eglwys yn cael eu dechreuad mewn gorfodaeth, neu Weith- red Seneddol; ac er eu bod wedi eu herio laweroedd o weithiau i ddangos y Weithred hono, y maent hyd yn hyn wedi methu, ond nid ydynt wedi rhoi heibio haeru mai felly y mae. Flynydd- oedd yn ol, cynygiwyd HANER CAN' PUNT i bwy bynag a ddygai'r Weithred i'r amlwg, ond nid oes neb eto wedi enill y wobr. Nid yw'r gwaith yn anhawdd, pe byddai Gweithred o'r fath erioed wedi bod, oblegid nid oes yr un Weithred Seneddol wedi ei phasio o ddechreuad Parliament Prydain nad yw yn bosibl cael gafael arni. Absenoldeb bodolaeth pob Gweithred o'r fath ydyw achos absen- oldeb ei hymddangosiad. Y mae pob dimai. o feddianau yr Eglwys mor wir- foddol yn ei dechreuad ag ydyw pob dimai o feddianau y capeli. Yn eu dechreuad nid oes dim gwahan- iaeth rhyngddynt. Diau i'r Eglwys arfer pob gallu moesol ac ysbrydol yn ei medd- iant i ddylanwadu ar ein hynafiaid duwiol i ddegymu eu tiroedd yn ffafr crefydd, ac i sicrhau gweinyddiad y Gair a'r Sacramentau yn gyaon a rheolaidd, ond nid gorfodaeth yw hyn. Od oedd gorfodaeth yn bod o gwbl, cariad at yr Eglwys Apostolig a chadwedigaeth eneid- iau ynddi a thrwyddi yn unig oedd yn gorfodi. Gwyr yr Ymneillduwyr rywbeth am orfodaeth o'r natur yma, ac os nad ydynt yn feddianol ar gymaint o eiddo a'r Eglwys, byddent amyneddgar, nid ydynt wedi cael cymaint o amser i gasglu, ac nid ychwaith mor ddoeth yn nhrefniad darpariaethau ar gyferanghenion ysbrydol y bobl ag yr arferai'r Eglwys a bod. Pan na byddai angen am ddim mwy nag un addoldy, ni byddai yr Eglwys byth yn adeiladu dan, nac yn darparu cyflog i ddau weinidog pan y byddai un yn gallu gwneyd y gwaith. Mewn llawer o bentrefi Cymru, lie y byddai un capel yn ddigon i gynwys yr holl addol- wyr Ymneillduol, ceir yno bump, a dau neu dri o weinidogion lie byddai un yn ddigon. Y canlyniad, fel y mae yn hys- bys ddigon, yw fod y capeli bron yn ddi- eithriad yn gruddfan dan faich dyledion, a chyflogau y gweinidogion yn ami yn llai nag a enillir gan y mwnwr a'r crefft- wr. Nid gorfoledd sydd yn peri i ni ysgrifenu fel hyn, ond yn hytrach o lawer gofid ysbryd. O'r anhawsderau a'r cyfyngderau y cyfeiriwn atynt y tardda llawer iawn o'r gelyniaeth a'r erlid ar yr Eglwys yn y dyddiau presenol. Ceir engraifft nodedig o'r drwg sydd yn tarddu oddiar y ffolineb o amlhau capeli lie nid oes eu hangen, ac o adeiladu capeli llawer mwy eu maint nag y gellir disgwyl eu llenwi, yn hanes Salem, Cwmfelin, yn mhlwyf Gelligaer. Rhodd- wn o flaen y darllenydd y rhan flaenaf o'r "Apel Neillduol a wneir ar ran y capel hwn, megis yr ymddengys yn Seren Cymru am Mawrth 14eg, 1890 :— Taer ddymunir am sylw neillduol at, a chydymdeimlad ymarferol a'r eglwys uchod yn ei chyfyngder mawr presenol. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1877, a'i werth ydyw £ 1,500. Rhif yr aelodau yn awr ydyw 70. Ni chynyddodd y lie fel y disgwylid a rhwng bod yr eglwys yn wan, yn gyfansoddedig o weithwyr tlodion, ac wedi cwrdd a siomedigaethau lawer, yr ydym wedi methu, er ceisio ymhob modd, talu dim o gorff y ddyled, ac yn fynych iawn yn methu talu y Hog. Y mae gal wad am Y.600 yn awr ar un- waith, gan ein bod yn llaw cyfreithwyr er's misoedd am y swm a nodwyd. Mae y ddyled bresenol dros £ 1,500, fel y mae angen arnom am t900 er ein galluogi i fyned ymlaen yn llwyddianus ond gan ein bod wedi arfer, bellach ag ymdrechu ac ymorchestu yn nerth ein Duw, credwn, os llwyddwn i gasglu £600, y bydd i'r Hwn a'n cynhaliodd hyd yma, ein gallu- ogi yn y dyfodol i dynu y ddyled i lawr yn raddol. Ond, os na lwyddwn i gasglu £ 600 ar unwaith, bydd eiddo y machneion (sureties) yn cael eu gwerthu, a'r capel yn cael ei osod ar arwerthfa (auction)." Dywedir fod y capel yn ddigon eang i gynwys 1,200. Rhifedi yr aelodau yw 70, ac nid yw'r gynulleidfa, yn ol y clywsom, ddim dros 120. Wedi adeiladu Salem, y mae dau dau gapel eraill, o leiaf, wedi eu hadeil- adu, ac y mae'r boblogaeth wedi cynyddu eymaint ag y disgwylid gan y rhan fwyaf a adnabyddent yn y lie. Darllenasom yn y Western JIail, tua blwyddyn yn ol, fod y Bedyddwyr yn colli tir yn mhlwyf Gelligaer, ac y mae yn ddigon posibl fod y Bedyddwyr yn Nghwmfelin wedi cael eu siomi yn eu disgwyliadau am gynydd eu hachos yn y lie, ond rhy brin y gellir cydymdeimlo a hwynt pan y dywedant na chynyddodd y lie fel y disgwylid. Pa fodd y gall y bobl hyn glodfori yr Egwyddor Wirfoddol, megis y'i dehonglir ganddynt hwy eu hunain, yn ngwyneb y fath hanes a hwn ? Eto esgynant lwyfan Di-waddolwyr yr Eglwys, a chymeradwyant eu trefn eu hunain yn lie trefn ardderchog yr Eglwys. Y maent yn gyffelyb i'r cadno oedd wedi colli ei gynffon ei hun yn galw ei frodyr ynghyd ac yn ymffrostio mor gysurus yr oedd efe heb gynffon. Torer eich cynffonau, frodyr, a gad- ewch i ni i gyd fod yr un fath. Byddwch yn llawer mwy rhydd a dedwydd heb eich cynffonau." ;Nid cydymdeimlad a'i frodyr oedd yn peri i Reynard eu cymell i ysgafnhau eu hunain o'u cynffonau. Gwyddai yr hen gadno yn lied dda fod yn llawer hawddach tori cynffonau ei frodyr nag i'w gynffon ef dyfu. Mae'r ysbryd hwn yn ddigon annheilwng, ond y mae yn ddigon cyffredin ymhlith y Di- waddolwyr.
Pethau Rliyfedd Mewn Capel
Pethau Rliyfedd Mewn Capel YR ydym yn hen gyfarwydd A darlithiau, cyngherddau, eisteddfodau, cyfarfodydd etholiadol, a thaplasau o'r fath, mewn capelau Ymneillduol, a gwyddom am olygfeydd annuwiol mewn llawer o honynt. Nid anaml y mae y cwlwm pump yn twymo cernau y saint, ac y mae y gwragedd parchus perthynol i'r "achos" yn rhoddi rhaff i'r darn bychan o gig sydd rhwng eu danedd hyd nes y byddo muriau y ty cwrdd yn adseinio gan regfeydd, ysgrechfeydd, ac wbfeydd rhagorolion y ddaiar! Ond y mae y pethau rhagorol yna yn heneiddio. Rhaid i'r oes aflonydd hon gael rhywbeth newydd o hyd. Y mae yn anhawdd iawn cadw yr "achos" i fyny. Ond y mae capel yn rhywle ar lan y mor (yn Sir Aberteifi glywais i) wedi darganfod ffordd newydd i gasglu at yr "achos." Carwn yn fawr weled hanes cyflawn o'r cyfarfod gan rywun o'r gy- mydogaeth yn y LLAN. Fel hyn yr ad- roddwyd yr hanes i mi:—Ychydig amser yn ol, daeth gwr dieithr heibio, yr hwn oedd yn dilyn yr alwedigaeth o juggler, a gofynodd am ganiatad i gael dangos ei alluoedd gwyrthiol i'r brodyr a'r chwior- ydd parchus yn y capel. Nis gwn faint oedd y tAl am fenthyg y lie fel chwareudy am noson. Nid oedd yno neb yn gallu codi unrhyw wrthwynebiad i'r juggler. Gallasai pawb ddadleu yn debyg i hyn:- Defnyddir y capel i yfed tê, i ymladd, i ysmocio, i drin cymydogion, i gytuno i beidio talu dyledion, a phethau cyffelyb, a phaham nas gellir ei roddi i juggler am noson ? Bydd yn fwy tebyg o wneyd lies i'r achos na dim arall. Y mae'r cyfarfod gweddi, y seiet, yr Ysgol Sul, &c., yn fain iawn. De'wch i ni gael ELYMAS y swynwr i chwareu ei gampau am nos- waith. Beth ydyw y gwahaniaeth beth oedd Paul yn feddwl am dano Yr ydym ni yn gallu cadw yr "achos" yn mlaen cystal ag yntau. A dyna ELYMAS y swyn- wr yn cael gwahoddiad, neu yn iaith y capel, yn cael "cyhoeddiad" i dd'od i draddodi cenadwri Satan i'r saint! Safai yn y man lie y bu yr anfarwol John Elias yn gwefreiddio y dorf gynt A chenadwri y Groes! Gallwn feddwl fod yspryd yr hen wron hwnw yn wylo wrth weled Tv Dduw wedi cael ei droi yn chwareudy Dywedir i'r juggler osod wyau mewn cwpbwrdd gerllaw y pwlpud-y man lie y cedwir llestri y cymun yn y capel—a bod un o'r blaenoriaid (yr hwn oedd yn y gadair) yn gwneyd swn tebyg i haid o gywion bach, a'r juggler, fel yr hen fam- iar, yn lleisio glwc glwc glwc Wedi agor drws y cwpbwrdd, yr oedd yr wyau oil wedi troi yn gywion, ac allan i'r s £ t fawr y daethant yn haid fawr. Meddai un hen wag, wrth wrando yr hanes :— Paham na buasai y dyn ffol yn gosod wyau Jvwyaid yn y cwpbwrdd? Hwyaid sydd flasus gan y parchedigion capelog. A chawsai fenthyg pob capel trwy y wlad, ond iddo ddeori a dwyn hwyaid Carwn gael hanes cyflawn a'r holl fanylion yn nghylch y newyddbeth hwn yn Nghymru. Os gwirionedd yr hanes a glywais, y mae gwaith y diafol wedi cymeryd lie gwaith Duw yn y capelau. Dengys hyn fod y diwedd gerllaw. GWYLAN.
CAN MIL 0 LOWYR AR STRIKE!
CAN MIL 0 LOWYR AR STRIKE! Yn nghyfarfod Cyngrair y Glowyr a gynaliwyd yn Manceinion yr wythnos ddiweddaf, daethpwyd i'r penderfyniad o ofyn i'r meistri am godiad yn y cyflogau o swllt yn y bunt yn bresenol, a swllt arall tua dechreu mis Gorphenaf. Y mae dros haner can mil o ddynion yn cael eu cyflogi yn ngweithfeydd Swydd Lancaster, ond ni chydsyniwyd a gofynion y cyfryw gyngrair ond gan berchenogion gweith- feydd lie y gweithia tua chwe mil o ddyn- ion. Y mae yr holl lofeydd yn Ngogledd Cymru wedi sefyll. Bernir fod cyfanrif y rhai sydd wedi sefyll allan yn oddeutu can mil.. Oddieithr y deuir i gyd-ddeall- twriaeth yn fuan, cyfrifir yr effeithia yr ataliad hwn ar tua 250,000 neu 300,000 o ddynion. Heblaw hyn, bydd yr alwad am lo y fath fel ag i beri ataliad yn y gweithfeydd cwtwm a'u cyffelyb. Ym- ddengys fod y glowyr eisoes wedi cael codiad o goron yn y bunt yn eu cyflogau, ond myntumiant fod y codiad presenol, < yr hwn nid oedd ond cyfartal i ddau swllt y dynell, yn ddyledus iddynt yn ol pris y < glo yn y farchnad. Yn Barnsley a'r cylchoedd, yn Swydd York, y mae gweithwyr yr holl lofeydd wedi dyfod Au harfau allan. Rhitant yn agos i ddeng mil. Yr oedd ambell lofa yn y sir yn codi dros ddeuddeg cant o dynelli o lo yn y dydd. Os parha y sefyll allan yma am wythnos yn hwy, bydd raid i'r cyhoedd fod yn foddlon ar ddau cant a haner o filoedd o dynelli o 10 yn llai nag yn bresenol. Ond gan nad oes ond ystoc fechan o lo ar law yn y glofeydd, bernir na phery y strike yn hir.
NODION 0 DDEONIAETH LLANRWST.…
NODION 0 DDEONIAETH LLANRWST. Y DDIWYG NKWVDD. Gwelaf fod Y LLAN wedi newid ei deiliwr a'i ddiwyg, ac yr oedd yn llawn bryd. Er's cryn amser, y gwyn gyffredinol oedd fod ein hunig newyddiadur Eglwysig yn Nghymru yn rhy fychan ei faintioli-ei fod fel dyn mewn brat. Modd bynag, dyma y gwyn hono drosodd, a'r LLAN yn ymddangos mewn suit newydd deilwng o'i urddas. Nis gall fod bellach unrhyw wrth- wynebrwyd i'w argymell i'r gymdeithas oreu, a hyny a erfyniaf i'w hen garedigion ei wneyd ar fyrder drwy y ddeoniaeth hon. Mynned pob derbynydd blaenorol ryw gymydog yn dder- bynydd newydd, a dyblir y cylchrediad ar fyrder. Cofiwch mai nid gwneyd elw arianol yw'r amcan, ond yn hytrach ledaenu egwyddor- ion iachus ymhlith yr Ymneillduwyr yn ogystal ag Eglwyswyr. Gan hyny, gadewch i ni ym- aflyd yn yr ordd a chyd-daro yr haiarn tra fyddo yn boeth, nid yn unig yn y ddeoniaeth hon, ond hefyd ymhob un arall drwy Gymru ben-bwy- gilydd. IIELYNT Y DWFR. Yr unig danwydd dan y crochan berwedig yn Llanrwst y dyddiau hyn yw helynt y dwfr, a'r wythnos o'r blaen bu dirprwywr y Llywodraeth i lawr yma yn gwrando y ddwy ochr i'r ddalen. Y mae treth y dwfr eisoes yn 10c. y bunt, ac ymddengys fod un dosbarth o'r farn y byddai yn .Y fwy cyfleus ei gwneyd yn union gyfrif," sef swllt, drwy fenthyca wyth cant a haner o bunau er ychwanegu'r cyflenwad. O'r ochr arall, dadleuir yn bendant fod y cyflenwad yn ddigonol at bob amcanion iechydol, ac na ddylid beichio'r dreth er cyflenwi dwfr at unrhyw bwrpas estronol. AXGLADD MILWKOL. Gofidus genyf gofnodi marwolaeth un o wyr mwyaf poblogaidd Llanrwst yn. mherson Mr. Lewis Pugh Price, o'r District Bank, yn yr oedran cynarol o 35 mlwydd. Gadawodd weddw alarus ar ei ol, ac y mae iddi gydymdeimlad llwyraf pawb yn foneddig a gwreng yn ei phrofedigaeth lem. Cymerodd yr angladd le ar y 4ydd cyfisol, ac yr oedd y mwyitf a welwyd yma er's llawer blwyddyn. Gan fod yr ym- adawedig yn swyddog o gorphlu y gwirfoddol- wyr, cafodd angladd milwrol, ac o'r ty i'r fynwent chwareuai y seindorf y "Dead March," tra yr oedd yr heolydd yn orlawn o alarwyr, a'r masnachdai wedi eu cau, a lleni dros bob ffenestr. Blaenorid yr orymdaith gan y Parchn. Canon Jones, T. Tudno Jones, a J. Titley Williams, a gwasanaethwyd yn effeithiol gan y ddau flaenaf wrth y ty, yn yr eglwys, ac ar lan y bedd. Wedi gorphen y gwasanaeth, taniodd y gwirfoddolwyr, eu tair ergyd arferol mewn distawrwydd bedd- rodol, ac yna trodd y cynulliad anferth eu cefn ar orweddle anwylddyn trefol mewn dagrau. Foreu Sul diweddaf, yn Eglwys St. Mair (Seisnig), traddododd y Parch. T. Tudno Jones bregeth angladdol i gynulleidfa fawr ac astud, a chynorthwyid yn y gwasanaeth gan y Parch. J. Titley Williams. LLWYDDIANT CORAWL. Y noson o'r blaen yr oedd y dref yn ferw ar dderbyniad y newydd fod Cor Undebol y lie wedi enill y wobr o ugain punt a thlws yn nghystadleuaeth eisteddfodol y Pavilion, Llan- dudno. Ffurfiwyd gorymdaith i osgorddi y buddugwyr 0 orsaf y rheilffordd, ac arddangos- wyd brwdfrydedd mawr. Cyfeilydd y cor oedd Mr. Parry, organydd eglwys St. Mair, yr hwn sydd dra enwog yn y byd eisteddfodol, ac i'w ddeheurwydd ef yn benaf y priodola papyrau Llandudno y fuddugoliaeth hon. Yn yr un eisteddfod, cipiodd Mr. Walters, mab y Rhingyll Walters, y wobr am yr unawd ar y cornet. ADDYSG. Y mae Mr. Jones, mab hynaf meistr Ysgol Genedlaethol Llanrwst, newydd ei benodi i ofal Ysgol Eglwysig Capel Curig, ac wedi dechreu ar ei waith gyda llongyfarchiadau a dymuniadau goreu ei liosog gyfeillion. Hysbysir fod y gwyr ieuainc a ganlyn newydd enill ysgoloriaethau o S10 yr un yn Ysgol Ramadegol Llanrwst:—Richard Owen Jones, Ysgol Genedlaethol Bettws-y-coed; Thomas Dougall, Ysgol Genedlaethol Conwy, ac Isaad Jones, Ysgol Genedlaethol Eglwysfach. FFAIR ANIFEILIAI1). Yn y ffair a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, yr oedd Llanrwst yn orlawn o anifeiliaid a phorth- myn, ond cwynid mai tipyn yn is oedd y prisiau, yn enwedig am anifeiliaid at eu pesgi.. Nid oes ryfedd yn y byd," meddai un ffermwr Ceidwadol, pan y mae y ffermwyr eu hunain yn lleibio'r holl gyflenwad o gigoedd tramor am o bedair i bump ceiniog y pwys Y maent yn tori eu gyddfau eu hunain ac yn cyflawni hunanladdiad masnachol." Dichon fod yr hen wr llygadgraw yn llygad ei le. DYDD GWYL DEWI. Yn nyddiau yr englynwr cenedlaethol Trebor Mai a rhes o lenorion brodorol eraill ydynt erbyn heddyw wedi myned i ffordd yr holl ddaear, arferai yr ysbleddwest yn Ngwesty y Fotasen fod yn gyrchfan goreuon y genedl ar ddydd gwyl Dewi Sant. Pery yr hen wledd i gael ei chynal yn ei holl fri cyntefig yn yr un I gwesty, a'r croesawgar Dewi Crwst mor wladgar ag erioed. Eleni, cynhaliwyd yr wyl nos Lun, y 3ydd cyfisol, dan lywyddiaeth ddeheuig Mr. 0. E. Hughes (Crafnant), awdwr talentog y nofelau Cymreig, Y Bwthyn Mynyddig," &c., pa rai a dynent y fath sylw lawer blwyddyn yn ol. Cafwyd gwledd ardderchog i'r corff a'r meddwl, a chynulliad hynod barchns a lliosog. UNDEI5 CORAWL DYFFRYN CONWY. Ymddengys fod rhagolygon disglaer o flaen yr Undeb eleni, gan fod deg o gorau enwog eis- toes wedi'addaw cymeryd rhan yn y gylchwyl fawreddog a gynhelir ar y 5ed o Fai yn Metws- y-Coed. Pregethir ar yr achlysur gan y Tra Pharchedig Ddeon Llanelwy a'r Parch. T. Tudno J ones.—Gwydir.
FICER DOLWYDDELEN A'R "GENEDL."
FICER DOLWYDDELEN A'R "GENEDL." CYNGAWS AM ATHROD. CAN' PUNT 0 IAWN A'R COSTAU. Yn Mrawdlys Caerlleon, dydd Mercher, iyfarnwyd y Genedl yn euog o athrodi y Parch. R. Williams, ficer Dolwyddelen. Grorfodwyd yr athrodwr i dalu :TIOO o iawn a'r costau.
OLYNYDD Y TYWYSOG BISMARC.
OLYNYDD Y TYWYSOG BISMARC. Y Cadfridog Capriri sydd wedi cael ei apwyntio yn olynydd i'r Tywysog Bis- marc fel Canghellydd yr Ymerodraeth Germanaidd. Dywedir y bydd i'r Tywysog lynu wrth ei ymddiswyddiad.
RHODDI BYWOLIAETH I FYNY.…
RHODDI BYWOLIAETH I FYNY. Y mae y Parch. J. E. Jones, ficer Baglllt, ar fedr rhoddi ei fywoliaeth i fyny oherwydd ei afiechyd. Bu yn llafurio yn y plwyf am y pymtheg mlyn- edd ar hugain diweddaf. Perchir ef yn fawr fel gwr diwyd, tawel, ac ymroddgar.
STRIKE Y GLOWYR.
STRIKE Y GLOWYR. Y mae meistri glofeydd Swydd Leices- ter wedi gorfod ymostwng i roddi y codiad gofynedig i'w gAveithwyr, y rhai, mewn canlyniad, sydd wedi dychwelyd at eu gwaith. Hefyd, y mae pum' mil o lowyr yn Swydd Derby wedi dechreu gweithio ar yr amod eu bod i gael y swllt yn y bunt o godiad yn eu cyflogau.
EGLWYS AR DAN.
EGLWYS AR DAN. Y mae y rhan fwyaf o Eglwys Tany- grisiau, Ffestiniog, wedi cael ei difa gan dan. Yr oedd y to o haiarn. Adeiladwyd yr eglwys yn 1872, costiodd £350, ac yr oedd ynddi le i 130 eistedd. Perthynai i Eglwys St. Dewi fel maes bugeiliol, a gofelid am dani hi a St. Dewi gan y Parch. J. Davies, y ficer, a'i gurad, y Parch. J. Harris. Nid oes wybodaetli pa fodd y cychwynodd y tan.
, DADGORPHORIAD Y SENEDD.i
DADGORPHORIAD Y SENEDD. Mewn canlyniad i'r ffaith fod Ar- glwydd Salisbury wedi bod gerbron y Frenhines yn Windsor ddydd Mercher, aeth y si ar led fod dadgorphoriad y y Senedd i'w ddiagwyl. Dywed y Central News y bydd i'r Prif Weini- dog, oddieithr iddo gael digon o gefnog- aeth yn y cyfarfod a gynelid gan y blaid Geidwadol ddydd Iau, gynghori ei Mawrhydi i dori y Senedd i fyny.
DOCWYR LERPWL AR STREIC.
DOCWYR LERPWL AR STREIC. Y mae docwyr Lerpwl ar streic am godiad yn eu cyflogau. Ddydd Mercher, ffurfiwyd amryw orymdeithiau o'r doc- wyr, y rhai a gerddasant trwy y prif ystrydoedd. Yr oedd tua deugain mil o honynt mewn un orymdaith. Y mae tlodi a chyffro mawr wedi canlyn y sefyll allan yma. Yr ydys wedi gorfod gorsafu ugeiniau o filwvr yn y gwahanol ddociau rhag ofn i'r streicwyr droi allan yn afreolus.
TANCHWA Y MORFA.
TANCHWA Y MORFA. Dydd Marcher, bu Mr. Evan Owen, Y sgrifenydd Cyffredinol Cymdeithas Ddarbodol y Glowyr, ynghyd a'r Ysgrif- enydd Lleol (Mr. Edward Richards), yn cael eu cynorthwyo gan yr Henadur Jones a'r Mri. T. H. Burgess a W. Jenkins (Bank of Wales), yn talu y cyfrandaliadau wythnosol cyntaf o 5s. yr un i'r gweddw- on, a 2s. 6c. i bob plentyn amddifad o dan dair-ar-ddeg oed. Nifer y gweddwon oeddynt 70, ynghyd a dau cant o blant. Hefyd, talwyd yr holl hawliau angladdol. Cyfrifir y bydd raid cael £ 40 yr wythnos i dalu y gweddwon a'r amddifaid hyn. Da gym hysbysu fod rhestr tanysgrif- iadol Maer a Chorfforiaeth Aberafon yn cynyddu yn ddirfawr. Derbyniwyd dim llai na £ 1,057 12s. ddydd Mercher.
BRAWDLYS SIR DDINBYCH.
BRAWDLYS SIR DDINBYCH. Cynhaliwyd y frawdlys uchod yn Rhuthyn, ddydd Mercher, y 12fed o'r mis hwn, o flaen y Barnwr Smith. Yr uchel-strydd oedd Mr. C. W. Townshend, a'r is-sirydd Mr. T. Bury. Y caplan oedd y Parch. W. Townshend, rheithor Thur- laston, swydd Leicester. Cafodd y car- charorion canlynol eu profi yn euog, a dedfrydwyd hwy fel y canlyn:— Uriah Morralli, 65, hawker, am ladrata caseg oddiar Evan Evans, Llanrhaiadr-yn-1 Mochnant, i chwe' mis o lafur caled. David Williams, ",r), f(i i-iii. bailiff, i Mr. J. C. Edwards, Llangollen, am ddarn- guddio £ 36 2s., i chwe' mis o lafur caled. Elias Davies, 29, llafurwr, i dri mis o lafur caled am ladrata £ 6 2s. oddiar William Lloyd, Llanelian, Abergele. William Dodd, Moses Valentine, a F. Jones fis yr un o lafur caled am dori i mewn i dy tafarn perthynol i Hugh Matthews, Rhosllanerchrugog. Robert 9ones, neu Long Bob," i ddeu- ddeng mis o lafur caled am ladrata £ 2 Os. Gc. oddiar Thomas Jones, New Inn, Gwersyllt. Thomas Hughes, glowr, i ddeunaw mis o lafur caled am ymosodiad anweddaidd. Y mae y rhestr ucbod yn profi fod moesoldeb a chrefydd yn hynod isel yn sir Ddinbych, er cymaint yw ymffrost yr Ymneillduwyr Radicalaidd mai Cymru yw y wlad grefyddolaf dan haul.
ANRHYDEDDU CYMRO.
ANRHYDEDDU CYMRO. Ar y 7ed cyfisol, etholwyd y Parch. E. Owen, M.A., Efenechtyd, yn gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr LIundain (Fellow of the Society of Antiquarians). Ymddengys na chaiff neb yr anrhydedd hwn os na fydd yn hynafiaethiwr o'r radd uwchaf. Cydnabyddir yn gyffred- inol fod Mr. Owen yn un o awdurdodau blaenaf yr oes ar hynafiaethau ein gwlad. Ysgrifena lawer i'r Cymmrodor a'r Archwologia Cambrensis ar gasgliadau hynafiaethol Maldwyn, ynghyd ag i amryw bapyrau hynafiaethol eraill. Der- byniodd y gwr parchedig y wobr yn Eisteddfod Llundain am y traethawd ar Ddynlen Gymreig (Welsh Folk Lore), yr hwn a ganmolid gan y Proffeswr Rhvs, Rhydychain. Gwelsom ei lvfr ar "Hen Groesau Cerrig Dyffryn Clwyd" (The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd), ac y mae yn waith campus. Ysgrifenwyd adolygiad ar y llyfr hwn yn Ffrengig.
UNDEB YSGOLION SUL LLANDEGAI…
UNDEB YSGOLION SUL LLAN- DEGAI A LLANLLECHID. Yn unol a threfniadau yr Undeb uchod, sef fod y cyfarfodydd cyffredinol i'w cynal yn y gwahanol blwyfi yn eu cylch, cynhaliwyd hwynt I y y tro hwn yn St. Ann's. Y mae y cyfarfodydd yn y gorphenol wedi bod yn amrywiol yn eu natur. Weithiau penodid nifer o offeiriaid a lleygwyr i ddarllen papyrau ar bynciau o ddy- ddordeb i'r Ysgolion Sul, yn nghyfarfod y prydnawn, a cheid gwasanaeth a phregeth yn yr hwyr. Bryd arall, penodid maes llafur i'r Ysgolion, a chynhelid cyfarfodydd arholiadol fel yr un a gynhaliwyd yn Glanogwen, Bethesda, yn mis medi diweddaf. Ond y tro hwn, ar gais y Parch. D. W. Thomas, M.A.. ficer St. Ann's, penderfynodd y pwyllgor wahodd offeiriad duwiolfrydig i anerch athrawon yr Ysgolion, ac eraill a gymerant ddyddordeb yn ngwaith yr Ysgolion Sul, i egluro iddynt beth yw natur a gwaith Ysgol Sul, ac hefyd i ddangos iddynt y cyfrifoldeb o iawn gyfranu Gair y GrwiriaHedd, ac o adeiladu eu hunain ar y Siincteiddiolaf Ffydd. Y clerigwr a wahoddwyd i draddodi anerchiadau ydoedd v Parch. W. Williams, rheithor Dolgellau. (.;vnhaliwyd y cyfarfod cyntaf nos Weaer, Mawrth 14eg, am 7 o'r gloch, yn Nghapel Tanysg&fe'l, adeilad cyfleus, a saif yn rhan isaf plwyf St. Ann's, yr hwn a helaeth- wyd yn ddiweddar, trwy haelioni Arglwydl Penrhyn. Gwedi gwasanaeth byr, rhoddodd Mr. Williams anerchiad rhagorol, gan sylfaenu ei sylwadau ar y geiriau Dwg ymaith y bach- gen hwn a maga ef i mi, a minau a rorldaf i ti dy gyflog," Ex. ii. !). A ganlyn sydd grynodeb o wcithrediadau dydd Sa(lwrn. :—Am 8 o'r gloch yn y boreu, gweinyddwyd y Cymun Ben- digaid yn Eglwys St. Ann's, ac yr oedd nifer lied dda wedi dyfod ynghyd. Rhoddodd Mr. Williams anerchiad byr a phwrpasol i'r amaylch-v iad. Am 10.30, yn Tanysgafell. HymiTlSG. Gwasanaeth byr ac anerchiad gan v Cenhadwr oddiar Ex. ii. 11, a Heb. xi. 27, Am 2 yn y prydnawn, yn Tanysgafell Hymn 545 Litani yn cael ei darllcn gan y Parch. S. Jones, St. Ann's Hymn 539 yna wedi i'r cenhadwr ddarllen rhanau o Ex. iii. iv., rhoddodd ancrchiad oddiar y geiriau hyny ac yr oedd y gwrandaw- iad astud yn profi difrifoldeb a phwysigrwydd ei genad. Cyn terfynu, anerchwvd v cvfarfod gan y Parchn. D. W. Thomas, ac E. Davies, Llanllechid. Am 8 o'r gloch yn yr hwyr, yn Eglwys St. Ann's, cyuhaliwyd Grosper, a phre- gethodd y Parch. W. Williams oddiar St. Matthew xxviii,, a'r tair adnod ddiweddaf. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Ellis, curad y Gelli, a'r llithoed gan y Parch. J. D. Jenkins, Llanllechid. Cafwyd cyfarfod hyr ar ol y bregeth, pryd yr anerchwyd y gynulleidfa gan y Parchn. D. W. Thomas, W. N^illiams, J. D. Jenkins, a Mr. Roberts, Maesygroes. Yr oedd y cynulliadau yn dda yn yr holl gyfarfodydd, er i'r hin droi yn inffafriol- yn y prydnawn a'r hwyr. Gobeithiwn yn fawr y bydd i'r cyfnr- fodydd hyn ducddu i ychwanegu zel a gwcitli- gurwch athrawon ac ysgolheigion yr undeb. Yr ocdd yn bresenol hefyd yn y cyfarfodydd y Parchn. J. Morgan, ac E. R. Jenkins, Glanog- wen R. W. Griffith, Llandegai ymhlith y lleygwyr yr oedd Mri. J. Williams, Lladogai Benjamin Thomas, Glanogwen W. Davies, Tyntwr J. Hughes, Sling; J. Hughes, Hen- durnpike F. Hughes, Glanogwen School J. Davies, Cwmparc ac eraill o'n lleygwyr blaen- Ilaw.-D. D. D., YsgriJenydd yr Undeb.
CYFARFOD UNDEBOL LLANAELHAIARN.
CYFARFOD UNDEBOL LLAN- AELHAIARN. Cynhaliwyd cyfarfod chwarfcerol yr undeb rhwng Llanllyfni, Clynog, a Llrtnaelhaiani yn Eglwys St. Aelhaiarn, ar y dyddiau Iau a Gwener diweddaf. Cafwyd gwasanacthau bywiog, a pliregetliau da gan yPnrchn. Ii. J. Jones, ficer Kevin a J. Hughes" Talsarn. Yr oedd y cynulliadau yn well nag oeddem yn ddiagwyl, oherwydd fod cymaint yn sal yn y lie. Yn y prydnawn, am ddau o'r gloch. caf- wyd cyfarfod yn Ysgoldy y Bwrdd. o <I,m lyw- yddiaeth ein parchus Ficer. yr hwn II, agorodd y cyfarfod drwy weddi, ac wedi gwneyd rhai sylwadau pwrpasol, dygodd y pwnc ng oedd i fod dan sylw gerbron y gynulleidfa, sef, Yr anghysondeb i aelodnu crcfyddol i ddefnyddio ym-idroddion cysogredig mewn ymddiddanion cyffredin. Yna galwodd ar T rhai hyny ag oedd wedi cael eu penodi yri'y cyfarfod di- weddaf yn Llanllyfni, i ddyfod Vinlaen i ddar- llen en papyrau. Y cyntaf i wneyd hyny yd- oedd Mr. Hugh Evans, Minffordd, Llanael- haiarn ac ar ei ol fe ddaeth Mr. John Parry, Llanllyfni. ymInen i ddarllen papyr o waith Mr W. B. Owen. yr hwn oedd wedi trosglwyddo ti bapyr i Mr. Parry, rhag ofn na fuasai yn bres- enol. Y mae yn rhaid i mi ddwcyd fod v papyrau a ddarllenwyd ar y pwnc Uchod yn rhai gwir ymarferol, ac yn werth cu gwrando a'u cofio. Yna cafwyd sylwadau pwrpasol ;:an y boneddigion canlynol::—Parchn. J. Pryse, Clynog; R. J. Jones, Nevin Mri. Nfiphtali Jones, Trevor John G. Jones, rl yddindr,;en Zachariah Jones. It W. Owen, Bristol House J. Roberts, Board School; ac ysgolfeistr Ynvs- yr-Arch, enw pa un yr ydwyf wedi v ei anghofio. Yr ydym yn ddiolchgar i'r gwragedd canlynol am barotoi bwyd i'r dioithriaid, sef Mrs. Grace Thomas, T Y*.illtti Mrs. Evans, Minffordd a Mrs. Jones, Tanyrallt, ac hefyd i Mr. R. Gapper, a Mr. H. Evans, am wneyd eu gwaith mor gan- moladwy gyda'r canu. Hefyd pasiwyd, ar gyn- ygiad Mr. Jones, Trevor, yn cael ci eilio gan Mr. Parry, Llanllyfni, i ddanfon cin cydym- deimlod a n Harglwydd Esgob, yr hwn sydd yn rhoddi i fyny ei swydd, yn y gciriau canlynol Yr ydym m, aelodau o Undeb plwyfi Llan- llyfni, Clynog, a Llanaelhaiarn, yn goiidio fod gwaeledd lechyd wedi cich gorfodi i roddi i fyny eich swydd, ac yn dymuno datgan ein cydym- daimlad a ch argIwyddiaeth yn yr amgykhiad, ac yr ydym hefyd yn gobeithio y bydd i chwi yn fuan gael eich adferyd i'ch cynefin iechyd." y°hydig siarad pellach, cynygiodd y Parch. H. F. WilliamR, Llanaelhaiarn, ac eiliwyd gan Mr. Roberts, postfeistr, Trevor, ein bod yn dy- muno am i'r Parch. M. Roberts, Llanllyfni, gael adferiad buan i'w iechyd, yr hwn oedd ar y pryd yn wael iawn. Ar ol hyn dymunwyd ar Mr. R. Jones, yr hwn sydd yn aelod o'r Bwrdd Ysgol, gyflwyno ein diolchgarwch i'r Bwrdd am eu caredigrwydd yn rhoddi benthyg yr ysgoldy i ni am y dydd. Y mae y cyfarfod chwarterol nesaf i fod yn Clynog, a'r pwnc i'w drin ydywl Dyledswydd penteulu i gadw gweddi dculu- aidd, ynghyd ag hyfforddi ei blant yn egwydd- orion yr Eglwys." Y mae Mr. Thomas. N. School, Clynog, a Mr. John Parry, Llanllyfni, wedi cael eu penodi i ddarllen papyrau arno.
[No title]
Dylai pob un sydd am fod yn llwyddianus gyda'i fasnach ofalu am gyhoeddi efhysbysiadau yn Y LLAN A'R DYWVSOGAKTH, gan y cydna- byddir ef gan y rhai sydd wedi rhoddi prawf arno y goreu o holl newvddiaduron Cymru.