Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
"RHYL.
RHYL. CYSEGRIAD EC;LWYS NKWYDD. — Dydd Mawrth, yr oedd Esgob Llanelwy yn Rhyl yn cysegru eglwys (Saesneg) St. loan yr Efengyl- wr, a gyfodasid ar draul o 96,000, ac eisteddle- oedd yr hon ydynt oil yn rhydd. Cyfranasai y Parch. Canon Richardson, Ficer, 9500 at y draul. Traddododd yr Esgob y bregeth, a chy- merwyd rhan yn y gwasanaeth gan yr Arch- ddiacon Williams a'r Canghellwr Hugh Jones. Yr oedd ficer Treffynon (y Parch. R. Williams) a churadiaid Rhyl (Parchn. R. Owen a J. Griffith) mewn gwenwisgoedd. [Derbyniasom adroddiad arall oddiwrth Ab Trevor, ond yr oedd yr uchod wedi ei gysodi pan y daeth i'r swyddfa. GOL.]
DYFFRYN NEDD.
DYFFRYN NEDD. MARWOLAETH.—Y mae genym y gorchwyl gofidus yr wythnos hon o gofnodi marwolaeth sydyn y foneddiges hynaws, Miss A. Jones, chwaer Mr. William Jones, Tynyrheol, Tonna. Yr oedd yr ymadawedig yn bresenol yn eglwys Llanilltyd ddydd Sul, yr 8fed cyfisol, ond yn sydyn daeth angau, hen elyn dynoliaetli, i'w dwyn ymaith. Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn diweddaf, am 11 o'r gloch, yn mynwent Llanilltyd. Yr ydym yn cydymdemxlo o galon a'r teulu parchus yn eu galar. Da genym ddeall fod cylchrediad y LLAX newydd yn cynyddu yn gyflym yn Resolven.
GLYNTAF. ,
GLYNTAF. Nos Ittu a nos Wener, y 13eg a'r 14eg cyfisol, perfformiwyd cantata, disgrifiadol o Daith y Pererin," gan g6r yr Eglwys Gymraeg, o dan arweiniad Mr. Edward Thomas. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr. Thomas, ac ar y ber- doneg gan Miss Walters, Pwllgwaun. Darllen- wyd yr adranau trefnedig i'w darllen yn ystod y perfformiad, nos Iau, gan Mr. L. Gordon Lenox, Ynysangharad, a nos Wener gan barchus Ficer y plwyf. Yn ystod yr ail ran o'r rhaglen chwareuwyd ar y berdoneg, nos lau, gan Mrs. L. Gordon Lenex, a nos Wener gan Miss Tolfree. Daeth cyiiulliadau lliosog ynghyd y ddwy noson, a hawdd oedd deall fod y perfform- iad yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol iddynt Y mae Mr. Thomas, yn gystal a'i fab, Mr.. James Thomas, yn haeddu clod am eu llafur yn ystod llawer o flynyddau bellach. Nid hawdd cael neb yn cael eu nodweddu gan ragorach ffyddlondeb a brwdfrydedd yn ngwasanaeth ein Heglwys na Mr. Thomas. Duw a'i cadwo yn ei le am flynyddau lawer. Nid oes dim a rydd fwy o bleser a hyfrydwch i ni na gweled ein dosbarth gweithiol yn orlawn o fywiogrwydd ac ewyllysgarwch i wneyd yr hyn a allant o blaid yr Hen Fam, ac ond i ni, blant yr Eglwys, beidio esgeuluso ein dyledswyddan, nid rhaid ofni bygythion y gelyn. Defnyddir elw y cantata tuag at bwrcasu organ newydd at was- anaoth y Cymry. Y GWAITH ALcAN.-Drwg genyf hysbysu fod y gwaith alcan yn parhau yn segur. Y mae yn sefyll er's wythnosau bellach, a thrwy hyny y mae rhyw 300 o ddwylaw wedi eu taflu allan o waith. Byddai clywed am ei ail- gychwyniad yn llawenydd i lawer.-Gohebydd.
METHDALIADAU.
METHDALIADAU. Yn unol a, Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Mawrth 15fed, fel y canlyn 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 15 19 21 Chemists and Drysalters. 1 2 3 China, Glass, & Earthenware 1 — Confectionery, Toys, &c 4 4 4 Corn, Coals, Alinerals 3 G 13 Drapery, Clothing Trades ..i 25 25 2<! Farmers 9 19 <! Furniture, Upholstery. 4 2 3 Horses, Vehicles 1 2 7 Jewellery, Watches. 3 4 3 Leather 5. 8. 5 Metals 7 8 10 Paper, Printing, &e. 2. 3. 3 Provisions. 30 41 32 Wines, Spirits, beer, &c. 15 16 21 Miscellaneous 31 44 27 155 204 184
ESGOBAETH LLAN EL WY.
ESGOBAETH LLAN EL WY. YR YSGOLION SUL.—Dydd Llun, wythnos i'r diweddaf, cyfarfu y Cyngor Esgobaethol a ben- odwyd yn ddiweddar, am y waith gyntaf, yn Ngwrecsam, dan lywyddiaeth y Deon, yn absen- oldeb yr Esgob, yr hwn oedd yn dioddef oddi- wrth yr influenza. Yr oedd nifer lied dda o gynrychiolwyr yn bresenol, ynghyd a'r Arch- ddiaconiaid Thomas a Williams, a'r Ficer Wil- liams, ysgrifenydd. Wedi trafodaeth a barhaodd am dair awr, penderfynwyd (1), Fod i'r Cyngor gydweithredu a'r Sunday School Institute (2), Fod Efengyl St. Matthew i'w chymeryd fel y pwnc Ysgrythyrol yn yr ysgolion Cymraeg a Saesneg (3), Fod y Catecism a threfn y Weddi Feunyddiol i ffiurfio gwersi y Llyfr Gweddi (4), Fod y gwersi i gael eu dechreu ar Sul y Drindod (5), Fod Undeb o Athrawon i gael ei ffurfio ymhob Deoniaeth (6), Fod cais i gael ei anfon at yr Esgob ar iddo geisio gan y Deoniaid ffurfio Undeb Ysgolion ymhob Deoniaeth Wladol (7), Fod manylion y cynllun i gael eu gadael i bob Deoniaeth ar wahan (8), Fod gofyn i'r Esgob weled darparu gwers-lyfr ar y rhanau o'r Llyfr Gweddi sydd i'w dysgn yn Gymraeg.—Mynegodd y Deon y bydd Esboniud yr S.P.C.K. ar yr oil o'r Testyment Newydd allan yn Gymraeg cyn y Gwyliau. —Gwrthododd Mr. Gwen Nares gynrychioli Caedewn derbyn- iwyd ei ymddiswyddiad, a rhoddwyd gwys allan am etholiad newydd.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. Dymunwn longyfarch y Parch. W. LI. Rees, curad poblogaidd St. David's, Caerfyrddin, ar ei benodiad i fywoliaeth Llangynog, Enillodd barch holl Eglwyswyr y ddwy Jtihondda yn ystod yr amser y bu yn gurad Eglwys Tylorstown. Mab ydyw i'r diweddar Mr. LI. Rees, Cefnmacs- car, Defy nog, ac wyr i'r boneddwr twymn galon, y diweddar Mr. M. Phillip Rees, Beili Glas, Rhigos. Hyderwn y bydd llwyddiant mawr yn dilyn ei benodiad i Llangynog.
LLITH 0 NEFYN.
LLITH 0 NEFYN. Dymunwn eich llongyfareh, Mr. Gol., ac nid Yf chwi yn unig, ond holl garedigion y Wasg Eglwysig Gymreig, ar ymddangosiad Y LLAN A'R DYWYSOGAETH" yn ei wisg newydd. Y mae yn edrych yn dda ydyw yn wir, Mr. Gol. Rhyw eiddilaidd iawn yr edrychai ar y goreu o'r blaen, ac of nid yn fynych gan amryw mai marw a wnai: elai rhai mor bell a dweyd mai dyna fyddai ei dynged. Ond nid oes dim at gael change of air a change of locality hefyd o ran hyny tuag at wella un. Daeth y LLA allan o swyddfa y Mri. Farrant a Frost yr wythnos ddiweddaf a gwedd newydd, iachus, ac hoenug arno. Yr oedd golwg arno u fel cawr yn dyfod allan o'i ystafell, yn barod i redeg gyrfa. Nid ydyw ond ynfydrwydd bellach i haeru nad ydyw YN LLWYDDIANT, ae fe brofa y cyfeiriadau a wneir ato gan ami un ei fod hefyd YN ALLU, ïe, yn allu sydd yn cael ei deimlo yn ngwersyll ei elynion. Mewn trefn i'w wncyd yn llwydd- iant pellach ac yn allu cryfach, y mae yn ofynol i Eglwyswyr Cymru roadi eu GEFNOGAETII IDDO. Ni ddylai fod un teulu Eglwysig yn Nghymru heb ei dderbyn. Beth bynag am newyddiaduron eraill, beiddiaf ddweyd y dylai pob teulu Eg-1 lwysig Cymreig godi y LLAN. Efe yw yr unig newyddiadur Eglwysig Cymreig. ac, yn enw pob rheswm, efe hefyd ddylai fod y newyddiadur Cymreig cyntaf neu flaenaf ar fwrdd pob Eg- lwyswr Cymreig. F el ag iddo gael derbyniad gan bob teulu Eglwysig yn Nghymru, dylai gael ei ddwyn ymlaen n 11 YN RHYDD ODDIWRTH WLEIDYDDIAKTH fel y cyfryw. Dylai ymwneyd a gwleidyddiaeth mor bell ag y byddo ein hiaith, ein gwlad, a'n Heglwys yn y glorian.Ni ddylai ofni gosod y naill neu y Hall, neu yr oil, goruwch pob plaid wleidyddol yn unig, na fydded iddo gael ei ddwyn ymlaen i wasanaethu un blaid wleidyddol fel y cyfryw. Ceir ymhlith Eglwyswyr Cymru rai yn perthyn i'r uaill a'r llall o'r pleidiau gwleidyddol, a dylai y LLAX fod yn gyfry w ag y gall y naill a'r llall ei gefnogi. HefyJ, dylai fod YN nUYDD ODDIWRTH GLICIYDDIAK I II. Ni ddylai fod nac Uehel, Llydan, nac Isel fel y cyfryw, ond dylai fod yn newyddiadur i hOf] Eglwys. Bydded yn gyfryw ag y gall pnb y-s rol yn yr Eghvys ei gefnogi. Dyger of allan ar lin- ellau y Llyfr Gweddi Gyffredin. Bydded Rhyddid, Undeb, a Chariad ymhlith ei ar- wyddeiriau. Hyderwn y bydd Y CLERIGWYR A'R LLEYGWYR, y naill fel y Ilall, yn anrhegu ei golofnau a chynyrch eu. hysgrifell. Perthyna i'r Eglwys rai o lenorion a beirdd goreu y geiiedl Gymreig, ac yn sicr ni ddylai yr unig newyddiadur Eg- lwysig Cymreig fod yn ol i unrhyw newyddiadur Cymreig arall mewn teilyngdod llenyddol. Hefyd, dylai Eglwyswyr Cymru wneyd y LLAN yn un o'r cyfryngau hysbysiadol blaenaf. Os nad wyf yn camgymeryd, y mae hysbysiadau yn myned ymhell tuag at gynal i fyny newyddiad- uron. Cofier am hyn ynte. -Griffith Hughes, Cefnymaes, Nefyn.
NODION 0 FANGOR A'R CYLCHOEDD.
NODION 0 FANGOR A'R CYLCHOEDD. YR ESCOI; NEWYDD.-Dyma bwnc y dydd yma, fel drwy yr esgobaeth yn gyffredinol. Y mae pawb yn ymddangos yn chwilfrydig iawn. Mae llawer o amgylchiadau pwysig wedi cym- .Y eryd lie yn Esgobaeth Bangor er's deng mlynedd ar hugain, ond mae hwn yn bwysicach na'r oil. Mae llawer iawn o fywyd a gweithgarwch Eg- lwysig y dyfodol yn nghlorian penodiad yr Esgob newydd. Pwy bynag fydd, gobeithiwn y bydd yn ieuanc, ac wedi ei lanw ag ysbryd y peth byw. ANKIIEG I DR. C.A.MPBELL.-Deallwn fod yn mwriad trigolion Bangor i roddi anrheg fechan, fel anrheg o'u teimladau da tuag ato ar ei ymddiswyddiad o'r esgobaeth. Diameu na fu boneddigeiddiaeh, tawelach, na duwiolach esgob yn eistedd ar sedd Esgobol Bangor erioed. Dylid cyfyngu y cyfraniadau at yr anrheg i glerigwyr yr esgobaeth. Y GARAWYS.—Yr wyf yn deall fod trigolion Pentir yn cael eu breintio a doniau rhagorol. Ond credaf mai Eglwys Penrhosgarnedd sydd ar y blaen yn hyn cleni. Mae rhestr ardderchog o weinidogion drwy y Garawys, a phob nos yn Wythnos y Dioddafaint, ac yn eu plith gewri y pwlpud Eglwysig. Yr wythnos hon pregethir gan yr Archddiacon Pryce, a'r wytlinos nesaf gan y Parch. M. Roberts, Llanllyfni. YR EISTKDDFOD.—Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yma yr haf nesaf. Y r hyn sydd ar droed yn awr yw parotoi c6r i wasanaethu yr eisteddfod. Bwriedir ei gael i rÏfo 250 i 300 o leisiau. Arweinir ef gan y Dr, Rogers. Y chydig iawn a glywaf yn unlle o swn hogi arfau ar gyfcr brwydrau yr eisteddfod,—llhosgar,
NAXTYMOEL, CWMOGWY.
NAXTYMOEL, CWMOGWY. Drwy yindrech diflino y Parchn. W. Hughes a W. Edwards, cawsom yr anrhydedd a'r f raint 'o gael presenoldeb Arglwydd Esgob Llandaf yn ein plith ddydd Llun, y lOfed cyfisol, i agor ac i gytlwyno Eglwys newydd St. Pedr. Er fod y tywydd yn anffafriol ac annymunol dros ben, eto cyn haner awr wedi deg, yr oedd yr adeilad yn orlawn o wrandawyr. Wedi dweyd a chanu rhan o'r gwasanaeth, o dan arweiniad Mr. John Jones, yr orgfinydd, ac i'r Esgob gyfiwyno yr eglwys, esgynodd ei Arglwyddiaeth risiau y pwlpud, lie y traddododd anogaeth bwrpasol a dwys i'r ymgeiswyr ieuainc, a rhai mewn oedran oedd yn sefyll o'i flaen yn aros am arddodiad dwyJaw. Yr oifeiriaid gymerasant ran yn ngwasanaeth y boreu gyda'r Esgob, oeddynt y Parchn. F. W. Edmondes, Bridgend W. Llewellyn, ficer Llangeinor, a W. Hughes, curad y He. Am 2.30, ar ol canu y Litani, yn absen- oldeb yr Archddiacon Griffiths, yr hwn a ludd- iwyd gan alieohyd i fod yn bresenol, cafwyd pregeth yn Saesneg gan un o'i gyd-offeiriaid (y Parch E, B, Pryce), ac yji Gymraeg gan y Parch. Canon Evans, Rhymni, Ar ol y gwas- anaeth hwyrol, pregethwyd eto gan y Parch, Canon Evans, ocfdiar y geiriau, Oblegid hyny, gan fed cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o'n hamgylch." &c .Nos Fawrth cafwyd pregeth odidog gan y Parch. W. R. Thomas, Abersychan, oddiar y geiriau. "0 deuwch i'r dyfroedd bob un.y mac syched arno," &c. Yr ydym yn ddy- ledus fe! Eglwyswyr i Mr. a Mrs. Llewellyn, Court Colman, a'u teulu, am eu haelioni helaeth tuag atom. Rhoddwyd y tir yn rhad, a llawer o arian hefyd at yr adeilad hardd, yr hwn sydd yn glod i'r cynllunydd (Mr. E. M. Bruce Vaughan, Caerdydd), ac i'r adeiladydd (Mr. W. Thomas, Nantymoel). Anrhegwyd yr Eglwys a llestri cymundeb arian, gan Mrs. Llewellyn, Court Colman, ac a. brethyn ardderchog dros yr Allor gan Mrs. Llewellyn, Baglan Hall, Casgl- 13 wyd yn y gwasanaetlmu £ 15 4s, 6c,
[No title]
Miic uiîor y tlodion yn Llundain yn graddol leiliau. Oddeutu pum' mil o filwyr sydd yn amddi- ffynfa Gibraltar. Y mae 350 o filiynau o wyau yn cael eu difa bob blwyddyn yn Paris.
NODIADAU SENEDDOL,
NODIADAU SENEDDOL, [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] ADRODDIAD Y COMISIWN ARBENIG. Adnewyddwyd y ddadl ar Adroddiad y Ddirprwyaeth Arbenig, ac ar welliant Mr. Gladstone, nos Lun, yr wythnos ddi- weddaf, gan Mr. Sexton, yr hwn a siarad- odd am ddwy awr a phymtheg munyd a deugain. Dadleuai na ddylai yr adrodd- iad'gael ei roddi ar lyfrau y Tv, am y bnasai hyny yn rhoddi pwysigrwydd gormodol i'r tystiolaethau ar. un ochr yn erbyn y llall. Wedi i amryw siarad o blaid ac yn erbyn y gwelliant, cododd Mr. Balfour yn nghanol taranau o gymeradwyaeth o'r meinciau Undebol, a chafwyd ganddo un o'r areithiau mwyaf miniog a nerthol a draddododd erioed. Heriodd Mr. Sexton i ddarllen llythyr a honid ei fod wedi ei ysgrifenu gan Arglwydd Salisbury at Pigott. Atebodd Mr. Sexton y gwnai ddarllen y llythyr hwnw a llythyrau eraill, os caniateid Pwyllgor Detholedig i wneyd ymchwiliad i'r holl achos. Dywedodd Mr. Balfour, mewn atebiad, fod Arglwydd Salisbury wedi ei awdur- dodi i ddweyd y gallai y boneddwr an- rhydeddus ddarllen y llythyr, pa un bynag a oedd wedi ei farcio Cyfrinachol' neu beidio, a'i gyhoeddi ymhob newydd- iadur yn y deyrnas. Addefodd fod y Times yn euog o esgeulusdod beius drwy gyhoeddi llythyrau ffugiedig Pigett ond gofynai ai nid oedd Mr. Parnell a'i gyf- eillion yr un mor euog o ddiofalwch ac esgeulusdod yn eu gwaith yn cyflogi pump o ddynion—Egan, Walsh, Brennan, Sheridan, a Byrne-ar y Land League, y rhai, yn ddioed ar ol llofruddiaethau Phoenix Park, a adawsant y wlad; Sylw- odd Mr. Balfour pan godwyd cronfa i gynorthwyo teuluoedd yr holl lofruddion, gyda'r eithriad o'r rhai oedd wedi cyf- addef eu heuogrwydd, fod Quinn yn dyst o'r arian a dalwyd o'r drysorfa, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ysgrifenydd y Land League, ac yn awr yn ysgrifenydd eyflogedig y National Iseague. Gahvodd sylw y Ty at yr haeriad a wneid fod y cyllill a pha rai y llofruddiwyd Arglwydd F. Cavendish wedi bod am gryn dymor yn aros yn swyddfeydd y Land League yn y wlad hon, heb fod ddau can' llath o Dy y Cyffvedin. Yr oedd distawrwydd mawr yn teyrnasu ymysg yr Ysgarwyr wrth wrando y cyhuddiadau difrifol hyn. Terfynodd Mr. Balfour ei araith orchestol am haner nos. Wedi i Syr William Harcourt siarad yn mhellacli yn ei ddull herfeiddiol a sarhaus arferol, ymranodd y Ty ar welliant Mr. Gladstone :— Dros y gwelliant 268 Yn erbyn a39 Mwyaf rif i'r Llywodraeth 71 Derbvniwyd y ffiyyra-a gycla bloedcl- iadau ucliel o gymeradwyaeth, a gohir- iwyd y gweithrediadau. FFLANGELLU TAI-DORWYR. Yn Nh5 yr Arglwyddi, nos Fawrth, cynygiodd Iarll Milltown ail-ddarlleniad Mesur, amcan yr hwn ydyw diwygio Deddf Lladradau 1861, drwy wneyd tai- dorwyr yn agored i gosbedigaeth gorfforol, gyda charchariad, yn meddiant y rhai y ceid arfau tan pan gymerid hwynt i'r ddalfa. Dywedodd ei arglwyddiaeth mai yr un oedd y Mesur o ran ei sylwedd a'r hwn a basiwyd drwy y Ty hwnw y senedd-dymor diweddaf. Cynygiodd Arglwydd Esher WTthodiad y Mesur ar y tir nad oedd fflangellu yn atalfa i gyflawniad troseddau, a bod y gyfraith gyffredin yn llawTn ddigon i ymwneyd a throseddau neillduol, y rhai oeddynt eisioes yn dangos arwyddion o leihad. Edrychai ar y Mesur fel cam yn y gwrthol. Cefnogwyd y Mesur gan Arglwydd Bramwell. Os na wnai fflangellu atal cyf- lawniad troseddau, gwnai dueddu i'w lleihau. Yr oedd profiad swyddogion yn dangos mai anfynych yr oedd y rhai a fflangellid yn gwneyd ail ymddangosiad yn y carchar. Egwyddor y Mesur oedd rhoddi i lawr dai-dorwyr arfog, ac yr oedd yn haeddu pefnogaeth. Dywedodd Arglwydd Herschdl nad oedd ganddynt 11,11 prawfy gwnai ffiangeIlu leihau troseddau o'r natur hwn, OH oedd angenrheidrwydd am y Mesur 0 gwbl, dylasai gael ei ddwyn i mewn gan y Llywodraeth. Cefnogwyd y Mesur gan Arglwydd Norton, a siaradwyd yn ei erbyn gan Ar- glwydd Kimberley, Arglwydd Coleridge, ac eraill. Ymranodd y Ty, a phasiodd y Mesur yr ail ddarlleniad drwy fwyafrif o 17. Y GYLLIDEB. Dywedodd Canghellydd y Trysorlys, mewn atebiad i gwestiwn, na fyddai i'r Gyllideb gael ei dwyn i mewn cyn y CYNHADLEDD LLAFUH BERLIN, Sicrhaodd Mr. W. H. Smith Ir. C. Gr,il-titii-i mai bwriad y Llywodraeth yd- oedd anfon i'r Gynhadledd Lafur yn Ber- lin, nid cynrychiolydd unrhyw d'los- barth neillduol, ond per;onan yn meddu pob cymbwysderau atigenrheidiol i ym- drin a'r cweritiynau pwysig gerbron y gynhadiedd. Y DDADL AR ADRODDIAD Y COMISIWN. Nos Fawrth, adnewyddwyd y ddadl ar gynygiad y Llywodraeth i osod adrodd- iad y Ddirprwyaeth ar goflyfrau y Ty gan Arglwydd Randolph Churchill, yr hwn a wiuieth ymosodiad ffyrnig a a beiddgar ar y Llywoilraeth. Yr oedd iaith a ddelnydiUai nid yn unig yn sarhaus, ond yn iael ac aifroesgar. Dy- wedoddfod gweithi-ediadau y Llywodr- aeth ynglyn ag apwyntiad y Comisiwn o'r dechreu i'r diwedd yn hollol anghyf- ansoddiadol. Mewn gair, yr oedd y Llywodraeth wedi gweithredu mewn modd tra-awdurdodol a gormeaol, ac mewn ft-ordcl na ellid ddisgwyl ond yn dyddiau y Tudors a'r Stuarts. Os oedd yr aelodau Gwyddelig i gael eu con- demnio, dylid hefyd gondemnio y Time.s- am ei gabldraeth ysgeler a di- gymar. Dadleuai fod y Parnelliaid wedi cael eu trin yn waeth na drwg-weithred- wyr cyffredin, am fod y tri barnwr wedi eu henwi gan y Llywodraeth, a dim un gan Mr. Parnell. CyhuddaL-y Llywodr- aeth o wthio y Comisiwn ar Dy y Cyff- redin, a thrwy bwyllgor heb roddi cyf- leusdra i'w ddadleu trwy wneyd defnydd didosturi o'r Cloadur." Yn ei gyfeiriad at yr "ymlusgiad a'r anghenfil Pigott," yr oedd yr ymadroddion a ddefnyddiai yn rhy anfoesgar ac anweddaidd i'w hail-adrodd yma. Dangosai Arglwydd Randolph yr an- wybodaeth llwyraf o gynwysiad adrodd- iad y Comisiwn Parnellaidd, ond derbyn- iwyd ei sylwadau gyda'r brwdfrydedd mwyaf angherddol gan y merthyron Gwyddelig. Galwodd sylw at yr amser pan yr oedd ef yn arweinydd y blaid Geidwadol, a dywedodd, ynghanol chwerthiniad y Ty, fod rhagolygon y blaid yr amser hwnw yn llawer mwy disglaer nag yr oedd yn awr! Dyna ollwng y gath o'r cwd ivith a vengeance Mae llwyddiant Arglwydd Randolph Churchill wedi ei bendroni, ac nid oes ddadl na chyflawnodd fesur ei anwiredd nos Fawrth. Adgofiodd Mr. Chamberlain y Ty mai ar awgrymiad a dymuniad yr aelod- au cyhuddedig y gwnaed y mater yn destyn Comisiwn Seneddol. Yr oedd profiad yn dangos mai y llys a apwynt- iwyd oedd y goreu a'r unig lys a ellid ei benodi. Mewn cyfeiriad at yr areithiau a draddodwyd gan yr aelodau Gwyddelig yn ystod y cynwrf, dywedodd nad oedd yn boslbl i bwyllgor gweithredol y Land League fod yn anwybodus o honynt ac, o ganlyniad, yr oeddynt yn euog o gyd- synio mewn troseddau. Gallasai camwri a thrueni yr Iwerddon gyfiawnhau gwrthryfel, ond ni allai gyfiawnhau llofruddiaeth ac ymosodiadau personol. Sylwodd Mr. Chamberlain fod araith Arglwydd R. Churchill ddwy flynedd yn rhy ddiweddar dylasai fod wedi ei thra- ddodi ar ail ddarlleniad y Comisiwn Arbenig. Dywedai yr adroddiad fod cyd-fradwriaeth boliticaidd yn yr Iwerddon. "Pa sail," gofynai Mr. Chamberlain, sydd gan y Ty dros gredu nad oes yr un peth yn myned ymlaen yn awr ? Pa brawf," gofynai ymhellach, sydd genym pe caniateid Llywodraeth Gartrefol na fyddai o'r tucefn iddo beir- ianwaith Ffeniaidd yn defnyddio Home Rule fel y cam cyntaf i annibyniaeth." Amcan y Clan-na-Gael ydoedd liofruddio dynion cyhoeddus yn Lloegr a gwneyd ein dinasoedd yn adfeilion. Yr oedd yr adroddiad yn profi, nieddai Mr. Chamber- lain, fod cysylltiad agon, ac yn wir cyngrair, rhwng y cyhuddedig a'r physical force party yn America. Yr oedd araith Mr. Chamberlain yn finiog ac i'r pwynt, ac yn tori i'r esgyrn Radicalaidd. ,Mr. Jennings oedd y nesaf i siarad. Dywedodd fod araith Arghvydd Randolph p Churchill wedi ei gwneyd yn anmhosibl iddo ef gynyg y gwelliant, rhybudd o'r hwn oedd wedi roddi i'r Ty. Nid oedd ef am fod yn gyfranog mewn mudiad o elyniaeth at y Llywodraeth. 0 dan yr amgylchiadau gwrthodai gynyg y gwell- iant, er ei fod o'r farn y dylai fod rhyw ddatganiad o gydymdeinilad a Mr, Parnell yn ngwyneb y cyhuddiadau di- frifol a ddygwyd yn ei erbyn. Mewn cyfeiriad at araith Arglwydd liundol ph Churchill dywedodd, rhaid i mi ym- ryddhau oddiwrth bob cynygion a wneir i drywanu y blaid y pertiiynaf iddi yn ei chefn." Ergyd i'r byw oedd hwn. Amlygodd Mr. Chaplin ei foddhad fod cynygiad Mr. Jennings wedi ei dynu yn ol, ond dywedodd Mr. Labouciiere y cynygid yr un g\elliant gan Mr. Caine, yr "afradlon o Barrow. Cynygiodd- Mr, C.une welliant Mr. Jennings, ac am ddeuddeg o'r gloch yr oedd Mr. B. Reed yn cynyg gwelliant, pryd y galwyd am wasanaeth y Cloadur. Ymranodd y Ty— Dros welliant Mr. Caine. 250 Yn erbyn 321 Alwi-af-rif y Llywodraeth 62 Wedi hyny cydunwyd ar y cynygiad i roddi yr adroddiad ar lyfrau y Ty, heb ymranu a dyna ddiwedd ar y it'rwgwd Barnellaidd, TIR-DDALIAD YN YR IWERDDON. Prydnawn ddydd Mercher, yn Nhy y Gyffredin, cynygiodd Dr. Commins ail ddarlleniad mesur Tir-ddaliad (Iwerddon) Ymysg pethau eraill,. cynygiai nad oedd dim ardretli i'w thalu ar welliantau a wneid gan denantiaid, fod gwerth gwell- iantau yn gwneyd i fyny am ol-ddyled- ion, ac wrth sefylu ardrethoedd fod y llysoedd i gymeryd i ystyriaeth unrhyw liawliau ynglyn a mawndiroedd. Wedi peth 'ymdrafodaeth, gwrtliodwyd y nesur drwy fwyafrif o ;)2, Ymddengys fod hyd yn nod y Parnelliaid yn dechreu blino ar y cwestiwii, oblegid ni chymer- odd ond rhyw ddau neu dri o honynt ran yn y ddadl, ac yr oedd y rhan fwyaf yn absenol, Nid oedd dim o ddyddordeb cyhoeddus yn ngweithrediadau yr eistuddiad, ARFOGIAD Y GWIRFODDOLWYR, Nos Iau, ar y cynygiad fod y Ty i ym- ffuriio yn bwyllgor cyflenwTadol ar amcan- gyfrifon y fyddin, Galwodd y Cadfridog Syr E. Hamley sylw at sefyllfa y gwirfoddohvyr, a cliynygiqdd fod pob diflygion yn eu harf- ogiad, a phethall. eraill angenrheidiol i'w heflreithiolrwydd, a phob dyledion ag oedd y corflluoedd wedi myned iddynt mewn niodd priodol yn y cyfiawniad o'u dyle^swyddau, i gael ei wneyd i fyny o'r cyllict cyhoeddus, Syhvocld General Hanjlev fod y gwirfoddohvyr yn ffurlio elfen anhegor yn ein hamddiffyniad cenedlaethol, ac na fyddai ymddibynu ar y gwirfoddohvyr heb roddi iddynt y cyflenwadau angenrheidiol ond ynfyd- rwycld, Yr oedd y wlad yncydnabod eu gwerth. Yn 1887, ffurfhvyd pwyllgor i wneyd ymchwiliad i'r mater, a chymerad- wyai adroddiad y pwyllgor ychwanegiad at yr hyn a ganiateid yn barod i alluogi y corffluoedd i gyfarfod a'u gofynion. Nid oedd ef (y Cadfridog Hamley) yn canfod un rheswm paham y dylai y gwirfoddol- wyr ddarparu un rhan o'u cyflenwadau a'r Wladwriaeth y rhan arall, pan oedd y ddau mor angenrheidiol. Dylai y Swyddfa Ryfel gyfrif cyfanswm y draul, a hysbysu y swm angenrheidiol. Yr oedd corff mawr y gwirfoddolwyr, yn enwedig yn y wlad, yn cael eu gadael yn hollol heb nn ddarpariaeth ar eu cyfer. Eiliwyd y cynygiad gan y Milwriad H. Vincent, yr hwn a ddywedodd, os oedd y gwirfoddolwyr yn werth dim, eu bod yn werth gwneyd darpariaeth ar eu cyfer. Gwnaeth Mr. Chamberlain ymddiheur- ad, gan nad oedd yn filwr na gwirfoddol- wr, am gymeryd rhan yn y ddadl, ond os oedd y corfflu gwirfoddol i gael ei barhau, yr oedd yn rhaid gwneyd y ddarpariaeth angenrheidiol ar eu cyfer. Yr oedd y gwaith yn Birmingham wedi ei gyflawni drwy danysgrifiadau gwirfoddol, ond yr n oedd teimlad cryf yn bodoli na ddylai y gwaith gael ei adael i anturiaetli bersonol. Cefnogwyd y cynygiad gan yr Anrhyd. W.Brodrick, y Cadfridog Syr H. Havelock Allan, a'r Milwriad Blundell. Dywedodd y Milwriad Cornwallis West fod y gwirfoddolwyr dan ddyled neillduol, i fod yn ddiolchgar i'r aelod dewr dros Birkenhead am ddwyn ei gynygiad ymlaen. Yr oedd yn anmhosibl i gorffluoedd bychain yn y wlad i gario allan y gofynion newydd heb help. Cymerodd amryw eraill ran yn y ddadl, ac yr oedd yn amlwg o'r cychwyniad fod y Llywodraeth mewn perygl o gael ei gorehfygu. Pan ymranodd y Ty, cafwyd— Dros gynygiad y Cadfridog Hamley 135 Yn erbyn 102 Mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth 33 Derbyniwyd y ffigyrau gyda brwd- frydedd angherddol gan y Cenedlaethol- wyr Gwyddelig a'r Gladstoniaid. Nid oedd fawi' o bwys yn y gorchfygiad wedi'r cwbl. Yr oedd yn amlwg o'r dechreu fod y mwyafrif mawr o'r blaid Geidwadol yn cydymdeimlo a Syr Edward Hamley. Nid yw y Radiealiaid yn teimlo y dy- ddordeb lleiaf yn y gwirfoddolwyr, ac yr oedd y meinciau gwrthwynebol yn weigion yn ystod y dtladl ond rhuthr- odd yr Ysgarwwr i mown i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth. Bu y Ty yn eistedd am y gweddill o'r eisteddiad meAVn pwyllgor cyflenwadol. 0 Y TERFYSGOEDD GWRTH- DDEGYMOL. Dydd Gwener, apeliodd Cadben Verney at y Llywodraeth am sicrwydd na fyddai i'r mil wyr gael eu galw allan yn ystod y ddadl ar Fesur y Degwm mewn ar- ddangosiadau gwrthddegymol yn Nghymru. Yr oedd aelodau Cyngor Sirol Mon wedi ymrwymo cyn en hethol- iad na fyddai i arian y cyhoedd gael en defnyddio i dalu am wasanaeth. hedd- geidwaid a mil wyr wrth gasglu degymau. Os gallai y Llywodraeth roddi sicrwydd na fyddai i gatrodau o filwyr gael eu galw allan ar achlysnron o'r tIlth hyd oni wneid ymchwiliad i'r amgylchiadau, a chael fod eu. gwasanaeth yn anhebgorol angenrheidiol, rhoddai hyny foddlon- rwydd i'r Dywysogaeth, yr hon oedd yn dra dyledus eisoes i'r Llywodraeth bres- enol. Cefnogwyd yr apel gan Mr. Stuart Rendel, yr hwn a ddywedodd fod y cynwrf gwrthddegvmol wedi dyfod yn raddol yn fwy o fater o wrthdystiad lieddychol, ac nad oedd mewn un modd yn ffynonell o berygl i heddwch a threfn yn y wlad. Addawodd yr Ysgrifenydd Curtrefol gynghori yr awdui'dodau yn L gli. iiii-u i beidio galw y milwyr allan, oddieithr j Iddynt gael eu gorfodi i wneyd hyny, ond dywedodd nas gallai roddi sicrwydd iddynt, oblegid os byddai yr y nad on yn zn barnu fod eu gwasanaeth yn angen- rheidiol yr oedd y milwyr yn rhwym o'u cYllorthwyo. EISTEDDIADAU Y TY. Cynygiodd Syr George Trevelyan, mewn Ty gweddol lawji, henderfyniad yn Ifafr golpyiQ y. Ty o ddechreu Gor- phctiaf hyd ganol mis Tachwedd. Gw-rthwynebwyd y cynyg gan Mr. W. H. Smith ar ei gyfrifoldeb ei hun, am y buasai y Ifaitli fod y Ty i gael ei ohirio ar ddiwrnod penodedig yn N gorphenaf yn rhwystr ar fforad cyfiawniad y gwaith cyhoeddus, Nid oes ddadl nafuasai penu dydd y gohiriad yn drosol nerthol yn nwylaw y llesteirwyr Gwyddelig a Gladstonaidd. Ymranodd v rry- I Dros Syr G. Trevelyan 169 Yn erbyn 173 Mwyafrif yn erbyn 4
I FFEIRIAU Y BALA AM 1890.…
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. I SADWRN. .Mawrth 22 IAU, Ebrill 3 MERCHER. Mai 14 MAWRTH Mehefin 3 IAU Gorphenaf 10 LLUN Awst 11 IAU Medi 11 SADWRN Medi 27 GWENER Ilydref 24 SADWRN Tachwedd 8 G WENER Rhagfyr 19
[No title]
_m_ Costia bum'-rail ar-b,ugain o bunau yn flyn- yddol i gynal 350 0 feirch-filwyr yn y Fyddin Brydeinig, Y mae yr Iwerddon yn gwario pum' miliwn o bunau bob blwyddyn ur whiskey, Y mae y inynyddoedd tanllyd yn taflu pysgod allan ambell waith. Naw can' mil o dai sydd yn yr Iwerddon. Y mae planigyn yn Cuba a'i ddail mor galed a phren. Yr Iuddewon a ddeolireuasant yr arferiad o ysgwyd Haw, Y mae Eglwys Gadeiriol Caergaiut yn 51-1 o droedfeddi o hyd.
POPULAR STORY OF THE CHURCH…
POPULAR STORY OF THE CHURCH IN WALES. t' The Palace, Llandaff, March 18th, 1890. MY DEAR SIR,-l am much obliged to you for a copy of your Popular Story of the Church in Wales." I have just read it, and think it a valuable and very seasonable addi- tion to Church Defence Literature, and that it would help to strengthen our hands very much p I if the clergy (especially in Wales) would make an effort to get it widely circulated in their parishes.—Believe me, very faithfully yours, R. LLANDAFF. G. H. F. Nye. Esq., Palace Chambers, Westminster.
Advertising
WANTED immediately, a Curate in Priest's Orders for Barmouth must be efficieaf in English and WeIRh.A.pply to the RECTOR. A STUDENT learning Welsh wishes to hear from some gentleman who will receive him into his house for a short time to practise speaking. Address, Astudiwr," Office of Llan. ,"I"r ANTED, a Curate, immediately good \\TANTED, a Curate, immediately good Welsh Preacher. A title can be given to a graduate.—Address, The RECTOR, Llan- deiniolen, Carnarvon. T\JTANTED, Lay Header for Parish of » Machynlleth.—Apply to BECTOB. AT EIN GOHEBWYR. GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAFTH nt y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad a, dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu feljy canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwch ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr lliosog dalu sylw arbeiii, iT rlieolan canlynol:- 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaetli, &c., os na dderbynir liwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy- hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- t;1 rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Ily Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y canlyn:- Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. Rhaid'i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amser:- 1. Defnyddier 'note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadaa heb weted y gwreiddiol. .J TELERAU AM "Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un oopi drwv y Pont iunrhyw gyfeir- iad yo y Deyrnas Gyfunolain y prisiau canlynol Cl-warter blwy.ldvn. I s. 8c.; haner blwyddyn, ,38. 4c.; blwyddyn, 6s. 8c. Dau neu dri rliifyA yn ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaendal gyda. phob archeb. Y telerau i Ddosbartliwyr ac eraill a gymer- ant ddwsiu ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y dwsin, 10c. gyda'r rheilffordd. a Is. gyda'r pott. Rluiid i bob Dosbarthwr wastadban ei gyf. rifon yn chwarterol, a clymunir ar i bob un dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda nnrhyw esgeulusdra ar ran swyddogiou y Llythyrdy neu y Rheilffyrdd gyda chludiad unrhyw sypyn, dylid anfon hysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r Cyhoeddwvv. Rhuid i'r Dosbarthwyr a dder- byniant ou sypynan g.vda'.r rbeilffordd ofalu en hymofyn yn eu gwuhanul orsafoedd bob wyth- nos. HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." Gan mai Y LLAN A:n DYWYSOGAETH yw yr unig Newyddiadur Eglwysig a gylioeddir yu Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir gan y mwyaf deallus o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng qoreui wneyd unrhyw betli yn hysbys.. Y Telcriv, am Hyshyfiadau. 75 o eiriau (solid) neu un fodledd4i lawr y goloCD (tlwplayed) :— Un wythnos (tàl ymlaen Haw). 2s. 6c. Dwy wythnos 2s, Dc. Pedair wythnos Is. 8c. Chwech wythnos ] s. 6e. 13 wythnos ls. 30. 26 wythnos Is. Oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith- iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. lJ Hysbysiadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol 20 o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s.; eh we' gwaith, iJs. 30 o eiriau, un waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 48. 6c. 40 o eiriaii, un waith, 2s. li),c.; tair gwaith, 4s. Gc chwe' gwaith, 6s. He. 0 Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni ofynir tal am gyfieithu. 13 SYL WE R.Rhaid i bob Gohebiaeth ynglyn a Hysbysiadau a Thaliadau o hyn allan gael eu hanion i'r Cyhoeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office 135, High Street, Mertliyr Tydfil. |
TALSARNAU.
gwobrwywyd John Jones, Glanywern. Englyn goreu i'r Ysmociwr," Gwilym Deudraeth. Daeth tri chor ymlaen i gystadlu ar y don Nicea," sef Talsarnau, o dan arweiniad Mr. Peter Evans Llanfihangel, o dan arweiniad Mr. Edmund Hughes, a Harlech, o dan arweiniad Mr. W. Roberts yr olaf ydoedd y goren. Am y ffon ddraenen ddu Griffith Thomas, Gwyn- fryn, Llanbedr. Traethawd Seisnig, John Stoddart. Horanau Ribs cochddu goreu, Ann Jones, Capel Fawnog. Llwy bren i ymdrin ymenyn, John Jones, Glanywern. Amyfasged ddellt, John Hughes, Blaenddol. Blwch tobacco prc-n, John Jones, Glanywern. Am gorganu y chant Walmerley ar y Psalm lxvi., daeth yr un corau ymlaen ag ar y d6n, ac enillodd Harlech drachefn. Am y traethawd ar Hanes plwyf Llanfihangel-y-Traethau," Robert Jason, Tainewyddion. Hosanau Ribs, cymwys i eneth 10 oed, Jane Catherine Humphreys, Tainewydd- ion. Am y llythyr Saesneg, Robert Tecwyn Rowlands a J. Evans, Glanllyn. Am y rodol oreu, Robert Evans, Llenyrch. Llandecwyn. Dylem grybwyll mai Misses Thomas, Cae'rffynon ddarfu feirniadu y traethawd a'r llythyrau Seisnig. Gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy, a chawsom gyfarfod da ac adloniadol. Mae cyfarfod o'r fath yn cael ei gynal yn y plwyf hwn yn flynyddol er's pedair blynedd ar ddeg. Y trysoryddion oeddynt Mr. W. Mynott Glan- ywern. a Mr. Griffiths, Rhydgoch a'r ysgrifen- yddion, y Parch. S. Evans, curad, a Mr. R. Jones-Morris, Ty Ceryg.