Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
DEONIAETH LLEYN.
DEONIAETH LLEYN. FICER NEWYDD AHERDAROX.—Da oeddgonyf glywed y dydd o'r blaeu fod y Parch. Mr. Lloyd, ficer newydd Aberdaron, yn dechreu ei waith yn y plwyf eang a gwasgarog hwn y Sul diweddaf. Dymunaf, ar ran Eglwyswyr y ddeoniaeth, ei longyfarch a'i groesawu ar eiddyfodiac1 i'n plith. Bydded i'r Pen Bugail oruwck-lywodraetku ei waith, a thywallt arno ei fendith yn gawodydd helaeth. YR EGLWYS NEWYDD YN RHOSIIIRWAEN.— Ychydig iawn o son sydd am yr Eglwys newydd hon ond diau fod Ficer Llangwnadl wrthi yn egniol yn casglu arian tuag at ei hadeiladu. Bydd yn gaffaeliad gwerthfawr i'r ardal y bwr- iedir ei hadeiladu ynddo. Y syndod yw na welwyd yr angenrlieidrwydd am eglwys i'r ardal hon flynyddoedd cyn hyn. YSGOL RAMADEGOL BOTTWNOG.—Dywenydd genym ddeall fod dau o fechgyn y sefydliad hynafol hwn wedi pasio y Cambridge Local Examination y flwyddyn hon eto. Dywedir wrthyf na fu yr ysgol erioed mewn cyflwr mor llewyrchus ag y mae yn bresenol. YR EGLWYS YN NEF YN.—Parhau i gynyddu o,hyd y mae'r Eglwys yn y dreflan hon, o dan ofal y gweithgar a'r pofclogaidd Ficer, y Parch. R. T. Jones. B.A. Ye-livilio, nmAr vn 01 ejtfn,ll yr ysgrifenydd y fraint o fod yno ar y Sul, ac yr oedd golwg hynod obeithiol ar bobpeth eysyllt- iedig a'r Eglwys-eynulleidfa dda, canu bywiog a gwresog, a phawb yn yr eglwys, yn ol pob ymddangosiad, yn moli gyda'r ysbryd a'r deall hefyd." Y mae Mr. Jones yn bregethwr sylw- eddol a gafaelgar. ac y mae ei weinidogaeth yn Nefyn yn dwyn ffrwyth lawer." YR ANWYDWST.—Y mae amryw o drigolion Lleyn wedi bod yn dioddef dan yr anwydwst, ond da genyf ddweyd mai mewn dull ysgafn y gwnaeth ei ymddangosiad yn ein plith. a'i fod bron wedi ein gadael erbyn hyn. — Veritas Vincet.
DOWLAIS.
DOWLAIS. YR YSGOLION SUL SEISNIG. — Nos lau, Mawrth 6ed, cynhaliwyd cyfarfod cliwarterol athrawon, &c., Ysgolion Sul Seisnig y plwyf, yii cl y yr Ysgoldy, Dowlais. Am 0.30 o'r gloch, yr oedd te ar y byrddau, a gwnaethpwyd cyfiawn- der a'r danteithion gan nifer liosog o athrawon ac atlirawesau. Wrth ben y byrddan yr oedd Mrs. Williams, y Rheithordy, a Miss Cresswell, a cliynorthwywyd hwy gan nifer o foneddigesau ieuainc. Ar ol y te, cyn myned at waith y cyfarfod, cyflwynwyd gan y Rheithor, dros y cyfeillioh, aurheg o Feibl hardd i Miss Richards ar ei hymadawiad i Workington. Dywedodd y Rheithor ei fod yn gobeithio y buasai Miss Richards yn myned i Workington nid yn unig fel Eglwyswraig zelog, ond hefyd fel athrawes c!1 el 11 ya yr Ysgol Snl, ac y byddai mor ffyddlon yno ag yr oedd wedi bod yn Nowlais. Atebodd Miss Richards mewn modd priodol a gwylaidd. Hyny drosodd, darllenwyd papyr rhagorol gan Mr. Lintern ar Ymddygiad athrawon, &c., yr Ysgol Sul yn yr Ysgol, a thuag at yr Ysgol." Siaradwyd gan lawer ar y pwnc, a diolchwyd yn wresog i'r boneddwr talentog am ei bapyr YIll- arferol a galluog. Yr oedd yn bleser mawr i weled y cyfarfod y tro hwn eto yn troi allan mor llwyddianus. Cyn myned trwy y diolch- iadau arferol wrth derfynu, dywe(lodd y Rheithor ei fod yn bwriadu ffurfio cangen yn Nowlais o "Gymdeithal Gweithwyr Eglwysig Llandaf." Mawr hyderwn y bydd nifer fawr yn barod i ymnno A mudiad mor deilwng. Yr ysgrilenydd mygedol yw Mrs. Williams, y Rileithordy.-Al) I. P.
I-LLANDIGWYDD A CHAPEL TYGWYDD.I
LLANDIGWYDD A CHAPEL TYGWYDD. Talodd Mr. W. Richards (Afonwyson). dar- lithydd y Gymdeithas Amddiffynol Eglwysig, ymwcliad yn ddiweddar a'r plwyf uckod, yngkyd a'r ferek-eglwys yn Ngkapsl Tygwydd. Cafwyd darlithiau campus, a cliynulliadau rhagorol. Trin- iodd Afonwyson ei bwnc mewn dull caruaidd a deheuig, a chafodd pawb eu llwyrfoddloni. Yr oedd nifer o Ymneillduwyr yn bresenol yn y cyfarfodydd, a'u tystiolaeth oedd eu bod yn edmygu ysbryd y darlithydd yn fawr iawn, a'u bod hefyd wedi derbyn llawer o addysg. el. Eiddunwn hir oes i Mr.. Richards i gario ei waith ymlaen.—Denis Lloyd.
LLANELLTYD.
LLANELLTYD. Nid yn fynych y gwelir crybwylliadau o'r lie uchod ar dudalenau Y LLAN Saif pentref Llan- elltyd ar lan afon Mawddach. oddeutn dwy fill- dir o Ddolgellau, ar y ffordd sydd yn arwain i Drawsfynydd mewn un cyfeiriad, ac oddiyno i'r Abermaw mewn cyfeiriad arall. Y mae y Ile. ar gyfrif ei sefyllfa iachus, ei fynachlog henafol, ei adnoddau mwngloddawl cyfoethog, ac yn neillduol ei amrywiol olygfeydd Rwj-nol a rliamantus, yn iitdyniad i ganoedd o ymwclwyr yn ystod misoedd yr haf. Hynodir trigolion y pentref a'r gymjrdogaeth oherwydd eu hir- hoedledd, ac nid rhyfedd hyny, gan fod lleoliad y pentref y cyfryw fel y ceir yma gyfuniad hel- aeth o wynt iachusol mor a mynydd. Ar adegau neilldtiol ymwthia llanw'r mor i fyny at bont Llanelltyd, a dywedir pan nad oedd cyfleusderau trafnidiol fel y maent ar hyn o bryd, yr arferid mordwyo llongau bychain o'r Abormaw i fyny at Faesygarnedd, o fewn oddentn haner milldir i'r pentref. Pe yn feddianol ar y ddawu briodol, gofod a ballai i ni ddisgrifio y golygfeydd ysblen- ydd a welir oddiyma. Mynyddoedd uchel- dremiog, gyda'r Gadair yn ymgodi fel brenliines goruwch iddynt oil, a welir ar bob llaw. Llawer o'r mynyddoedd hyn a wisgant olwg ysgytbrog, eraill arucheledd tawel, llcthrau pa rai ydynt yn ami yn orchuddiedig gan lwyni prydferth ogoed; y dyffryn hardd, gyda'r Fawddach yn RraI ym- estyn ac ymledu yn ei chyfeiriad tuar ni(' )r, sydd wedi bod yn destyn edmygedd llu o ymwelwyr o dro i dro. Y mae un ysgrifenydd galluog wedi cymharu yr olygfa a geir oddiyma, wrth edrych i gyfeiriad yr Abermaw, i un o'r golypfeydd goreu a fedd Switzerland. Eglwys y phvyf a gysegrwyd i St. Illtyd. Tebygol ydyw iddi gael ei hadeiladu mewn cyfnod boreuol, gan fod yr olwg arni yn henafol. Er yn hoff o lienafiaeth, braidd nad ydym yn tybied y dylid cael adeilad newydd vmti bellach, neu y dylai yr un bresenol gael ei kadgyweirio. Y mae yr hen fynwent sydd yn gysylltiol A hi wedi ei llanw, ac y mae darn eang a dymunol wedi ei gysegru a'i ych- wanegu ati. Ebrwynd y plwyf ydyw y Parch. Morris Lloyd. Y mae efe yma bellach er's amser maith. Nid heb achos y gwnaed cyfeiriad at weitbgarwcli y g\vr yarcliedig niewn rhifyn diweddar o'r LLAN. Y mae drwy oi fuchedd ddiargyhoedd, ei ymroddiad diflino i .Y waith ei Feistr, yn deilwng o edmygedd. Dy- munwn ar i'w ymdreehion gaul eu coroni A ben- dithyNef. Hen fynachlog y Cymer neu y Vanuer a saif o fewn yehydig ganoedd o latheni ar y dde o bont LlanelHyd, ac er nad oes yn aros o koni ond rlianan o'r inurinu, eto. tra yn syllu arnynt. teimlem fod rhyw anldeciiog- rwydd yn perthyn iddynt. Dywedir idili ei sefydlu yn y flwyddyn O.C. 1198 gan Gruffydd a Meredydd, Arglwyddi Moirionydd. y rhai oeddynt feibion i Cynan, mab Owen G.vynedd, Tywysog Gogldll Cymru. Fel eruiil o'r un natur. diddymwyd y fynachlog gan Harri yr Wythfed oddeutu y flwyddyn 1.J3<). M te y di- weddar Mr. Wyun, o Beuiarth. yr hwn oeild yu liynafiaethydd gwycli, wedi sylwi nr v cyffe yh- rwydd mawr sydd yn bod rliwng cynllunwaitk y fynachlog hon ynghycl ag eglwys Llannber. ger yr Abernuiw, i adeiladau Eglwysig boreuol yr Iwerddon. ac yn casglu oddiwrtk hyny, <;an fod Osborn Fitzgerald, neti fel y'i gelwid weith- iau Osboru Wyddel, wedi dyfod drosodd i Gymru yn y cyfuod yr adeiladwyd y rhai hyn, ac mai drwy ei ddylanwad ef y dygwyd aruvnt nod weddion a neillduolion adeiladau Eglwysig yr Iwerddon." Mewn cae yr ockruekaf i Henwrt, hen balasdy y Fychaniaid, saif olion gwer.^yllfa a cbastell a elwid gYllt Castell y Cymer. Mae y llith wedi rhedog yn faith cyn i ni gael sylwi ar amryw bethau pwysig eraiil. yn euwedig y mwngloddiau aur bydenwng sydd yn y gymyd- ogaetli. Os yn dderoyniol yenvck, Mr. Gol.. addawn anfon ychwaneg oddiyma yn fnan eto.
LLANDDOGET.
LLANDDOGET. CKXIIADAETM EGLWYSIG.—A.m dri a saitk o'r gloch ddyddiau Mercker ac Iau, traddododd y Parch. T. LloyJ, Llanelwy, gyfrea o bregetliau ac anerchiadau adfyviadd yn eglwj-s benafol Llanddoget. Yr oedd y cynulliadau 3Tn lliosog yn yr holl gyfirfodydd, y cenliadwr yn hynod effeitliiol, a'r gwrandawyr yn llawn gwre.iog- rwydd. A barnu oddiwrth nifer y eymunwyr, ymddengys yr achos Eglwysig yn y plwyf yn liynod lewyrchus, o dan ofal caruaidd y Parch. J. Pugh Evans.
TALSARNAU.
TALSARNAU. Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol blynyddol sydd mewn cysylltiad ag Eglwys y plwyf, Llan- fihangcl-y-Traethall. ac Eglwys Crist. Talsarnau, dyddiau Iau a Gwener, Chwefror 27ain a'r :2Kam. Cynhaliwyd cyfarfod nos lau yn Ysgoldy Glan- ywern, o dan lywyddiaeth ein parchus lieithor, y Parch. James livans. Cyfarfod. yn fwyaf neillduol ydoedd hwn i'r plant. Beirniad yr adroddiadau ydoedd y Parch. W. Llanfair-Juxta-Harlech, a'r gcrddoriaeth Mr. W. Williams, Penrhyndeudraetn. CTWobrwjnvyd y rhai eanlynol :—Am adrodd y pcnillion i'r "Bobl," gwcl y Cyfaill Efjlwitsiff am Mcdi, goreu, Robert Jones, Taine wyddion ail, Maggie Lloyd, Bronynys- Adrodd, Deuddeg Rheol Dda:" or Cy fatty Eg1>t.vynijf. Modi, 18d Maggie Griffiths, Itiiydgoch. Canu yr unawd Y Bugail mwyn, Fanny Owen, Ysgold37, a Jane Ellen Evans. Talsarnau. Adrodd yn Saes- neg, My duty towards God," Fanny Owen a Johnnie Griffiths, Ynys. Adrodd yr 101 Psalm, Fanny Owen a Laura Catherine Thomas. PeiH'waen. I r cor o blant am ganu y don '• Nazareth," cor unedig y ddwy Eghvys. Amy dorth oreu o flawd gwenith, C3rf3"]igedig i wragedd gAveitkwyr; goreu, Grace Owen, Ysgol- dy ail, Jane Hughes, Yr Ogof. G wobrwyvryd amryw heblaw y rhai enwyd uchod, ond ni chaniata gofod i'w henwi oil. Cafwyd cyfarfod hwyliog, a phawb wedi eu llwyr foddloni. Nos Wener, yn Ysgoldy y Bwrdd, Talsarnau. cyn- haliwyd yr ail g}-farfod, y Rheithor yn llyW3-ddn, ac arweiniw\7d gan y cadeirfardd loan Glan Menai, Harlech, mewn modd li3rnod o ddeheuig. Beirniad y gerddoriaeth 3'doedd y Parch. J. J. Menai, Harlech, mewn modd hynod o ddeheuig. Beirniad y gerddoriaeth ydoedd y Parch. J. J. Ellis, curad y Gelli, Llandegai y tracthodau. y Parch. Ll. R. Hu ghes, Porthmadog, ac Alltud Eifion, Tremadog y farddoniaeth, y Parch. D. Morgan (M3"nyddawc), ficer Penriryndeudraetli; y celfyddydwaith, Mri. Owen Roberts ac Evan Ellis hosanau a gwaith nodwydd, Jtrs. Janes. Ty Cerryg Miss Hood, Maerneuadd Miss E. Jones, Ty Cerryg, a Miss Sephton. Talsarnau. Am wau y par o hosanau ribs, C3TIIW3tS i eneth G oed goreu, Ann Hughes, Llanfair. Am y penillion i'r Glyn Cywarch, gvwbrwywyd Mri. Evan Davies a David Jones, Glantecwyn, Pen- rhyndeudraeth. Chwareu y don Yr Hen 113," ar yr harmonium; Johnnie Evans, Llandecwyn. Am y par o fenyg gwlan Ellen Jones, Llan- decwyn. Am yr ysgub rug oreu John Jones, Glanywern. Am y tumffat pren, William Rowlands, ieu., Talsarnau. Am ganu yr unawd Merch y Melinydd." Margaret Ellen Hughes. Factory. Am y muffler goreu, Ellen Jones, Glanllyn. Malu'r bara ceirch, a'r ddolen rliaff,
Y DANCHWA YN MHWLL ;11Y MORFA.
Y DANCHWA YN MHWLL 11 Y MORFA. TAN YN Y PWLL ETO. Oddeutu chwech o'r gloch, nos Sadwrn diweddaf, darganfyddwyd fod y pwll ar d&n eto! O ganlyniad, rhwystrwyd y gwroniaid, i fyned i lawr iddo er chwilio am ragor o gyrff. Boreu dydd Sul, bu Mr. T. Gray (y manager), Mr. Fred Gray, Mr. Jonah Jones, a Mr. Barrow, yn ymgynghori a'u gilydd beth oedd oreu i'w wneyd nesaf. Wedi arolygu y fan a'r upcast, daethpwyd i'r penderfyniad nad oedd dim i'w wneyd ond GOLIFO Y LOFA, a gwnaed y darpariadau angenrheidiol gogyfer A hyny. Danfonwyd pellebryn i Syr Huusey Vivian, yr hwn oedd yn Llundain, i'w hysbysu fod y lofa ar dan, ac y byddai yn rhaid goliwng dwfr iddo. Derbyniwyd atebiad oddiwrtho nos Sul, yn gorchymyn Mr. Gray i orlifo lefelau isaf y Cribwr. Brydnawn dydd Llun, yr oedd tua thair troedfedd o ddwfr yn y pwli. Cyfrifir y bydd yn rhaid parhau gollwng dwfr iddo am tua phythefnos neu dair wythnos cyn y llwyddir i ddiffodd y tân. Trueni meddwl fod DAU A DEUGAIN 0 GYRFF HEB EU CAEL, ac nid oes fawr gobaith y ceir hwynt i gyd. Dywedir fod ugain o geffylau eto yn fyw yn y lofa, mewn ystabl sydd tua phedwar ugain o latheni o waelod y pwll. Wrth gwrs, rhaid gadael yr anifeiliaid mud hyn i'w tynged anocheladwy, er fod Mr. Barras wedi cynyg myned i lawr i'w bwyda yn ngwyneb yr holl berygl. Y mae cyflwr adfeiliedig y lofa, a'i gorlifiad, wedi creu RHAGOLYGON ANNYMUNOL YN YR ARDAL, oherwydd y ffaith y bydd pum' cant o weithwyr yn llai allan o waith, a'r golled mewn cyflogau yn 161,500 yn llai. Cyd- ymdeimlir yn fawr a/r Meistri Vivian, perchenogion y lofa, am fod y fath alanas- tra wedi dygwydd pan oedd pris y glo mor uchel yn y farchnad. CYD-DDYGWYDDIAD RHYFEDD. Dysgwylid Mr. Pendarvis Vivian yn ol o Teneriffe ddydd Mawrth diweddaf. Yr oedd yn beth ryfedd iawn i glywed fod Syr Elphinstone, pan yn ymddiddan a Mr. Vivian, ar y fordaith allan, wedi cael ei olchi dros y bwrdd i'r mor, a hyny tua'r adeg y dygwyddodd y danchwa yn y Morfa. CYNORTHWY I'R GWEDDWON A'R AMDDIFAID. Er darbod y symiau rhesymol o 5s. yr wythnos ar gyfer angenion y gweddwon, a 2s. 6c. yr wythnos ar gyfer cynaliaeth yr amddifaid hyd nes y cyrhaeddant bedair-ar-ddeg mlwydd oed, yn nghyd A thaliadau cyffelyb i ereill a deilyngant hyny, bydd yn rhaid cael tuag ugain mil o bunau. I fyny hyd ddydd Mawrth di- weddaf, yr oedd y symiau haelionus can- lynol wedi eu cyfranu i'r dybenion hyny:— ;6 s. d. Miss Talbot a'i chwiorydd 3050 o o Meistri Vivian a'i Feibion 2000 o o Cymdeithas Loawl yr ardal. 1000 0 o Mr. G. T. Clark, Dowlais 200 o o Mr. T. Gray 52 10 o Syr W. T. Lewis, Aberdar. 50 o o Meistri G. Borwick a'i Feib. 50 o o Er Cof, S. Gilchrist Thomas' 50 o o Mrs. Palmer, Rheola 50 o o Y Milwriad Turbervill 25 o o Mr. G. B. Morris, Danygraig 25 o o Tra Pharch, Ddeon LIandâf 25 o o Mr. J. H. Appach 25 0 o Mr. Wm. Llewellyn, Court Colman 20 o o Perchenogion y Western Mail 20 o o Mr. F. A. Gray 10 10 o Mr. Alfred Scorer. 1010 o 'A. S. G.' 10 o o Mr. T. K. Hardie. 10 o o Meistri Benetifnk, a'uCyf. 10 o o Mr. G. W. Wilkinson 10 o o Mr. H. D. B. Dillwyn 10 o o Mri. J. B. Jenkins a'u Cyf., Brickworks, Castellnedd 10 o o Mr. Bertram, Caerdydd 500 Mr. Clement Waldroh, Llan- dAf 5 0 0 Meistri D. M. Davies a'u Cyf., Casnewydd 2 2 o Mr. S. H. Yockney 220 Mr. R. Hughes, Penybont I I o Mr. James Hazel, Abertawe 100 Rector Llangattwg j o c t, Casgledig yn y Grand Hotel, ( Abertawe roc 'Cymro Gwyllt' o 10 6 Yr. ydym yn hyderu na fydd Cymru Gristionogol adael i'r cyfleusdra fyned heibio heb ddangos ei chydymdeimlad drwy gyfranu yn dda tuag at yr achon wn. Y mae yn beth canmoladwy iawn 1 Wneyd sylwadau caredig a thyner o bwlpudau Gwlad y Beiblau ar achlys- uron fel hyn, ond credwn y byddai estyn cymhorth sylweddol i'r dyoddefwyr galar- us yn 11awer mwy llesol.
CLADDEDIGAETH FICER LLANWONNO.
CLADDEDIGAETH FICER LLAN- WONNO. Dydd Iau, y 6ed o'r mis hwn, daeth nifer fawr o drigolion Cwm Rhondda a'r cylchoedd yn nghyd i weini y gymwynas olaf i weddillion marwol diweddar Ficer Llanwonno. 0 bob cyfeiriad, yr oedd hen gyfeillion Mr. Lewis yn cyfeirio eu camrau tua'r Ficerdy, yn nghymydogaeth yr Hafod. Am haner awr wedi un o'r gloch, cynaliwyd gwasanaeth yn y Ficer- dy, pryd y gweddiwyd gan y Parch. W. Lewis, D.G., ficer Ystradyfodwg. Wedi hyn, cariwyd yr arch a gosodwyd hi ar yr elor o flaen y drws, lie yr oedd canoedd o bobl wedi ymgasglu. Ffurfiwyd yr orym- daith angladdol fel y canlyn :—Inspector Jones a chwmni o heddgeidwaid; cor Eglwys Dewi Sant, Gyfeillon, yn eu gweu-wisgoedd offeiriaid yn eu gweu- wisgoedd, a phob un o honynt yn cario torch o flodau amryliw, ac yn cael eu blaenori gan y Deon Gwladol a Ficer Glyntaf; offeiriaid heb weu-wisgoedd; aelodau o Fwrdd Ysgol Llanwonno; aelodau gwahanol gymdeithasau gwlad- garol; yr arch yn cael ei chario ar ysgwyddau cryfion hen gyfeillion a chy- mydogion; y teulu a'r perthynasau ac yn olaf, y cyhoedd yn gyffredinol. Cyn cychwyn, canwyd emyn Seisnig, ac erbyn hyn yr oedd teimladau y dorf fawr yn ddrylliau, a dagrau ar bob gwyneb. Cychwynodd yr orymdaith i fyned tuag Eglwys Dewi Sant, lie yr oedd yr ym- adawedig yn arfer gwasanaethu. Yr oedd ffenestri yr holl dai yn eu galar- wisgoedd, ac yr oedd y trigolion yn lluosog ar bob tu i'r heol. Wedi cyr- haedd yr eglwys, yr hon oedd yn orlawn o bobl, canwyd emyn, a llafar-ganwyd y Psalm. Ar ol hyn, darllenwyd y Llith gan y Deon Gwladol. Ail-ffurfiodd yr orymdaith i fyned tua chladdfa y teulu yn mynwent Llantwit Fardre, a rhoddwyd yr arch mewn elor-gerbyd. Gwneid yr or- ymdaith angladdol i fyny o dyrfa fawr o bobl ar draed, tua phedwar ugain o ger- bydau yn llawn, ac amryw ar geffylau. Wedi cyrhaedd Eglwys Llantwit Fardre, gweinyddwyd yn Gymraeg gan y Ficer; ac ar ol y gwasanaeth, rhoddodd Ficer Glyntaf allan yr emyn, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Ar Ian y bedd, gwein- yddwyd gan y Deon Gwladol; a chyn ymadael, canwyd yn deimladwy iawn, "Bydd myrdd o ryfeddodau." Yr oedd Mr. Moses Lewis (yr ymadawedig) yn frodor o gymydogaeth Llantwit Fardre, a derbyniodd ei addysg yn Ngholeg y Frenhines, Birmingham. Cafodd ei urddo yn ddiacon ac yn offeiriad gan y diweddar Esgob Ollivant. Ei guradiaeth gyntaf oedd Ystradyfodwg, o dan y Ficer pre- senol. Symudodd oddiyno i'r Cymmer, Llantrisant, ac yn y flwyddyn 1886 penod- wyd ef i fywoliaeth Llanwonno, lie y bu yn gwasanaethu ac yn gweithio yn galed a llwyddianus hyd awr ei farwolaeth. Gellir, gyda phriodoldeb, ddweyd ei fod wedi marw yn yr harnais, oblegyd yr oedd wedi gwneyd llawer o waith eglwysig a chymdeithasol ar y diwrnod y bu efe farw mor sydyn. Aeth y newydd o'i farwol- aeth i galonau pawb yn yr ardal. Coil- odd ein cenedl un o'i meibion anwylaf, collodd cymdeithas ddyngarwr ffyddlawn, a chollodd yr Eglwys offeiriad gweithgar a phregethwr hyawdl. Gadawodd weddw a phedwar o blant ar ei ol. Nawdd y Nef fyddo ar y teulu yn eu galar. Y mae plwyf Llanwonno yn gorwedd ar y tu dwyreiniol o Gwm Rhondda wrth fyned i'r lan o Bontypridd. Y mae yn y plwyf bedair o eglwysi ac ysgoldy cenedl aethol. Cyn i'r Ficer farw, yr oedd pedwar o offeiriaid yn gwasanaethu yn y plwyf. Y mae y plwyf yn cynwys 13,013 o erwau o dir, y boblogaeth yn 1,200, nifer yr eisteddleoedd yn yr eglwysi yn 1,140, ac y mae y fywoliaeth yn werth ^289 a Ficerdy. Noddwr y fywoliaeth yw y Parch. Joshua Pritchard-Hughes, M.A., Ficer Llantrisant.-J.R., Ferndale.
CYNYDD IAITH.
CYNYDD IAITH. At Olygydd 11 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Rhyfedd fel y mae iaith yn cynyddu. Mae'r Saesneg yn rhoddi engreifftiau o hyny ac nid yw y Gymraeg yn ol yn hyny chwaith. Yn neclireu y ganrif bresenol, nid oedd y gair corff yn cael ei arfer yn yr ystyr bresenol. Daeth enwad o grefyddwyr i fodolaeth yn Nghymru yn y flwyddyn 1811, a elwid y Methodistiaid Calfinaidd; ond er's blynyddau lawer bellach, maent hwy wedi galw eu hunain yn y corff; ac oddi wrth corff, y mae corffyn, sef aelod gwrywaidd o'r gymdeithas hono a corffen, aelod benywaidd o'r gymdeithas hono. Rhyfedd. onide, fel y mae iaith yn cynyddu. Dylid sylwi yma, nad yw y wlad yn gyffredinol, yn golygu corffyn a corffen mewn ystyr barchus iawn ond y maent bellach yn eiriau yn yr iaith; ac nid oes modd byw mwyach heb y fath eiriau. Nid oes eisiau i mi egluro ystyr y cyfryw eiriau, mae'r wlad at ei rhyddid i'w harfer fel y maent wedi eu harfer yn barod.— Yr eiddoch, &c., Glan Aeron. CEREDIGWR.
CYSTADLEUAETH GWENER Y GROGLITH,…
CYSTADLEUAETH GWENER Y GROG- LITH, A CHADWRAETH Y DYDD. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Ganfod Gwener y Groglith yn agos- hau, md anmhriodol fyddai ychydig sylwadau pa fodd y dylai Eglwyswyr, beth bynag, gadw y dydd sobr a difrifol hwn. Fel y mae gwaethaf modd, y mae amryw eisteddfodau a chyfarfod- ydd cystadleuol yn cael eu cynal eleni eto fel arferol ar hyd a lied y wlad ar y dydd hwn. Pa le bynag y cynhelir hwy, gobeithio nad oes yr un offeiriad nac Eglwyswr ag unrhyw law yn eu dygiad ymlaen. Pe buaswn yn gwybod am nnrhyw offeiriad neu Eglwyswr tig sydd ar bwyllgcr eisteddfod Gwoller y Groglith, ni fuasai genym ond meddwl eiddil a gwan am Eglwysyddiaeth y cyfryw. Fel rheol, a hyny bron yn ddieithriad, yr Ymneilldmyyr sydd yn dwyn ymlaen gyfarfodydd o'r fath ar y dydd difrifol hwn, ynghyd A'r Nadolig. Nid ydynt hwy yn ystyried y dyddiau hyn yn fwy en pwys na dyddiau eraill. Mae Eglwyswyr yn cael eu dysgu yn amgenach. Gwelir drysau yr Eglwysi yn agored ar y dyddiau kyn i gynal moddion gras, tra 11a welir ond ychydig mewn cydmariaetli o gapelau yr Yrnneilldmvyr yn agored i foddion crefyddo!. Dymunem yn arbenig wasgu ar feddyliau Eglwyswyr yn gyff- redinol am beidio mynychu na chefnogi unrhyw gyfarfod cystadlu ar Wener y Groglith. y I Peidied neb o honom feddwl am barotoi cor, neu barti, neu uno :1,'r cyfryw, gogyfer a Ily ckystadleuaetk Gwener y Groglith. Pe buasem ond troi eiu meddyliau at ddioddefiadau ein Hiachawdwr Bendigedig, yr hyn a gymerodd le yn yr amser yma, a phe buasem yn darllen yn ddifrifol hanes yr wythnos sanctaidd hon yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, ni fuasai neb o honom ag unrhyw dnedd i fod yn bresenol mewn unrhyw eisteddfod, te parti, na chyngerdd ar y dydd pwysig hwn. Gobeithio, ynte, y gwna Eglwyswyr ymddwyn yn deilwng o'r Eglwys, ac y bydd iddynt bresenoli eu hunain yn ngwasanaeth yr Eglwys, pa le bynag y mae Rhagluniaeth wedi ein gosod i lawr, a pheidio mynychu unrhyw gyfarfod cystadlu ar Wener y Groglith. Peth arall y dymuuem ddwyn sylw ato yw y y priodoldeb o roddi heibio bob gwaith ar y dydd hwn. Mae llawer yn gwneuthur felly, ond y mae yn resynus meddwl fod llawer yn gweithio hefyd. Y rhai hyny, fel rheol. ag I y 11 sydd mwyaf euog, ydyw yr amaethwyr. Mae llawer o'n boneddigion yn rhoddi esiampl dda drwy orchymyn i'w gweithwyr i roddi heibio bob gwaith ar Wener y Groglith ond y mae eraill o'n boneddigion ddim mor ofalus, yn caniatau, ac yn peri i'w gweithwyr i fyned ymlaen S'u gwahanol orchwylion fel arferol. Pe buasai ein boneddigion oil yn ddieithriad yn rhoddi heibio pob gwaith, buasai hyny yn esiampl dda, ac yn bur debyg o ddylanwadu ar eraill is-raddol iddynt i wneutliur yr un fath. Beth bynag, buasai hyny yn gam yn yr iawn gyfeiriad. Gobeithio y gwelir diwygiad yn hyn, ac y daw pawb i weled y priodoldeb i roddi heibio pob gwaith ar Gwener y Groglith.—Yr eiddoch, &c., ERALTUS. [Y mae llythyr ein gohebydd yn agor pwnc pwysig a gwerth ei ystyried. Gobeithio y gwna ein darllenwyr draethu eu barn ymhellach, er mwyn tynn sylw at gysegredig- rwydd y dydd.-GOL.J
YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR.
YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR. At Olygydd 11 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Caniafewch i mi gyfrwng eich newydd- iadur i ofyn yn ostyngedig i'r pedwar Esgob Cymreig, a welant hwy yn dda drefnu Ffurf o Weddi, a gorchymyn i'w harler drwy holl Eg- lwysi Cymru y dyddiau hyn, ar i'r Arglwydd gyfarwyddo a llywio meddyliau a chalonau y rhai sydd mewn awdurdod i benodi olynydd cymwys i Dr. Campbell yn sedd Bangor. Os na welant yn dda i dalu sylw i'r awgrym uchod, hyderaf y gwnaiff pob Eglwyswr daer weddio ar i Dduw roddi i ni Gymro twymngalon i lywyddu ei Eglwys yn Bangor.—Yr eiddoch, &c., OFFEIRIAD YN ESGOBAETH BANGOR.
HELAETHIAD "Y LLAN."
HELAETHIAD "Y LLAN." At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Darllenais yr oil o'r rhifyn cyntaf o'r LLAN gyda hyfrydwch mawr. Diau os deil y rhifynau dyfodol safon y rhifyn cyntaf, bydd llwyddiant yn sier. Ond mewn trefn i sicrhau llwyddiant dyfodol, bydd yn ofynol i offeiriaid a lleygwyr deallus y Dywysogaeth gynal i fyny freichiau y Golygyddion. Nid wyf yn credu yr ymfoddlona nifer o ddarllenwyr Y LLAN ar newyddion Ileol a chyffredinol yn unig, ond dylid hefyd ymdrin A phrif bynciau Eglwysig a chymdeithasol. Da genyf ddeall y bydd y rhai hyn yn cael sylw dyladwy yn y dyfodol. Yr oeddwn yn bresenol, nos Sadwrn diweddaf (Sfed cyfisol), lie y traddodwyd darlith feistrol- gar a dyddorol gan y Proff. Ropes, Coleg y Brenin, ar Modern Journalism." A dyna ddywedai y Proffeswr, ymhlith pethau eraill, fod amryw bapyrau newyddion yr oes hon wedi suddo mor ddwfn i randiroedd personoliaeth fel mae y doeth a'r deallus o bob plaid yn eywil- yddio o'u plegid. Gobeithio na fydd i'r LLAN byth fabwysiadu cynllun y Pall Mall Gazette a'r Star-papyrau a grybwyllwyd gan Proff. Ropes fel engreifftiau o'r nodwedd uchod. Gyda phob dymuniad da i'r LLAN yn ei gwedd ddiwygiedig.—Yr eiddoch, &c., Caergaint. R. LL. H.
NODION 0 DDEONIAETH Y RHOS.
NODION 0 DDEONIAETH Y RHOS. YR YSGOL SUL.-Y mae'r symudiad sydd wedi cymeryd lie yn Esgobaeth Llanelwy yn ddiweddar mewn perthynas a'r Ysgol Sul, yn un cymwys ac addawol. Yr oedd yn dda genym weled enwau y Parch. David Evans, Abergele, a Mr. J. Oldfield, o'r ddeoniaeth hon, yn mysg y rhai a etholwyd i gyfansoddi Cyngoryr Ysgol- ion Sul. Y mae'r Ysgol Sulyn un o'r offerynau goreuamwyaf dylauwadol tuag at blanu a meithrin yn y werin ofn tuag at Dduw, a pharch tuag at ddyn. Cofus genym glywed offeiriad parchus yn y Ddeoniaeth hon, ychydig amser yn ol yn dweyd, Dangoswch chwi i mi Ysgol Snl lewyrckus, a minau a ddangosaf i chwithau gynulleidfa lewyrchus." Y mae yna wirionedd gwerth ein hystyriaeth yn y dywediad liwn; da fyddai pe y buasai i bob person trwy Gymru dalu mwy o sylw iddo, a'i wneyd yn destyn myfyriaeth a gweithreliacl. Dyma He mae llwyddiant yr Eglwys yn Ngkymru yn gynwys- edig-yn y plant—yn y to ieuanc. Y mae y gwr, pa un ai lien ai lleyg, a dry ei ymdrech i blanu egwyddorion Eglwysig yn nglialonau ieu- enctyd, a diwyllio eu meddyliau, yn gwneyd gwaith y gall yn rhesymol falcli'io o'i blegid. Fe fyddai yn llawenydd a cblod i offeiriaid Cymrn yn y cyfwng presenol pe y buasai iddynt ym- egnio yn fwy nag erioed, ac enill iddynt eu hun- C, ain yr anrhydedd o gael eu galw yn Berson- iaid y Plant." Yr ydym yn teimlo yn dra diolchgar i'r Esgob a'r Deon am eu cydnabydd- iaeth o'r pwysigrwydd sydd ynglyn A'r Ysgol Sul, ac am eu hymdrech i'w dwyn i sefyllfa mwy effeitliiol. Ac yn y dyfodol, os yr ym- drechir yn gyffredinol i weithio mewn undeb, yr hyn a hyderwn fydd ein rhan, y mae yn bosibl eto cael gweled effaith iachuaol srwaith yr Eglwys Sefydledig yn arogli meusydd Cymru yn fwy nag erioed. LLYSFAEN.—Y mae yn dda genym weled yr Eglwys uchod yn deffro, ac yn ymysgwyd o gwsg. Y mae y Rheitkor newydd yn un addawol dros ben. Y mae wedi dyfod i blitli creigwyr Llysfaen gyda bwriad o drn.ethll'r Efengyl, ac y maent liwythau eisoes yn teimlo ei fod yn un a'i galon gyda'r gwaitb. Erbyn hyn y mae'r Eglwys, yn enwedig ar nos Sul, yn gwbl lawn, ae heb fod yn hir, os y parha i lwjrddo fel y mae yn bresenol, bydd raid estyn y cortynau, a helaethn gwersyll catrawd yr Eglwys filwrinethus yn y lie uchod. Telir sylw priodol i dymor y Garawys trwy gynal gwasan- aeth Cymraeg bob nos Fawrth. Y mae y cor yn ymddangos yn llawn bywyd ac yni o dan arolygiaeth y Rheithor, ac nid bychan yw'r cynorthwy a dderbynia o ymdreehion egniol Mrs. Jones, y Rheithordy, yr hon a deimla yn wir awyddus i gynorthwyo, er dwyn oddiam- gylch ddiwygiad dymunol yn nghaniadaeth y cysegr yn y lie. Ewch ragoch, gan gasglu eich hysgubau, a bydded i Dduw eich bendithio yn eich hymgais. COLWYN.—Ar hyn o bryd, y mae'r Ficer, y Parch. D. Pryce Jones, yn Neheubarth Ffrainc. Aeth yno tua phythefnos yn ol gyda'r gobaith o wella ei anhwyldeb, ac y mae yn dda genym gael ar ddeall ei fod ar ol cyraedd yno yn teimlo yn well, ac yr ydym yn gobeithio y daw yn ol yn fuan wedi llwyr iachau, ac yn barod i ail ymaflyd yn eiwaith gyda nerth adnewyddol. Yn ystod tymor y Garawys y mae yma ddan wasanaeth yn cael eu cynal yn ystod yr wythnos, sef Cymraeg nos Fercher, a Saesneg nos Wener. Ar y cyfan, y mae y gwasanaethau yn derbyn sylw dyladwy, ac yn cael eu mynychu gan gynulliadau pur dda. LLANELIAN.—Fe garem weled mwy o sgwedd ddeffroawl yn y plwyf hwn yn mysg Eglwyswyr. Nid yw y boblogaeth yn lliosog, ond y mae yma le i ddiwygio. A gobeithiwn, oyn hir. y eawn y pleser o weled mwy o'r seddau gweigion yn yr Eglwys brydferth hon, yn llawn yn ystod y gwasanaethau. COLWYN BAY.—Y mae yma Eglwys hardd a chynwysfawr wedi cael ei hadeiladu yn ddi- weddar trwy offerynoliaeth y Parch. W. Y enables Williams ond nid yw wedi cael ei gorphen. Pan wawrio'r dydd i'r gareg olaf yn y gafell a'r clochdy gael eu gosod bydd yr adeilad hwn yn addurn i Golwyn Bay, ac yn glod i'r hwn a'i hadeiladodd. Gan fod yr eglwys hon yn adeilad mor eang, nid yw yn llawn ar y Suliau yn y gauaf, ond ar y cyfan, y mae yma gynulliadan da. Y mae yma. hefyd gryn ymdrech yn eael ei ddangos mewn perthynas A'r cor. Tra y byddo, fel y mae yn bresenol, o dan hyfforddiad Mr. Watkins, Llanelwy, y mae yn briodol dis- gwyl gweled llwyddiant yn ei ganlyn yn y dyfodol. Yn ystod yr wythnos nid oes ond un gwaBanaetli Seisnig yn cael ei gynal yn y plwyf, can belled ag yr ydym yn gwybod. Gan fod yr hen iaith yn fyw, ai ni fyddai, tybed, yn ddoeth i gydnabod ei bodolaeth ? 0 bosibl ei bod yn anhawsder; ond eto, mae rhaid ceisio gwneyd y goreu o'r gwaethaf. DAKLITH.—Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod Afr. W. Richards yn bwriadu ymwel- ed a'r ddeoniaeth hon yn ystod mis E brill, pryd y bydd iddo draddodi yn y gwahanol blwyfi ddarlithiau ar walxanol agweddau yn hanesydd- iaeth yr Eglwys.
LLANGEITHO.
LLANGEITHO. Myned yn ei blaen mae yr Eglwys yn y plwyf hwn, rhifa aelodau yr Ysgol Sul ryw driugain. a deg ar gyfartaledd, bob Sul, ac nid ydyw ei rhif ar y register nemawr o dan y cant Dech- reuir y gwasanaeth am ddtfg bob boreu Sul yn lie am un-ar-ddeg, fel yr oedd dan yr hen oruchwyliaeth, pryd y byddid yn dipgwyl am ryw ychydig o'r capel i'n cynorthwyo. Darfu i brophwydi Baal, fel arferol, ddarogan mai lleihau a wnaem mewn canlyniad i'r cyfnewid- iad, ond yn hollol i'r gwrtliwyneb y bu yn ei effeithiau. Y mae gyda ni gynulliad rhagorol ar foreu Sul, oud yn yr hwyr bydd yr hen adeilad yn ami yn orlawn. Ac y mae llawer o ymddiddan am lielaethu cortynau ein preswyl- feydd. Yn bresenol dosbertliir dros haner dwsin o'r LLA, yr hyn sydd yn beth newydd yn hanes y plwyf, a gwnawn ein goreu i gael ychwaneg o dderbynwyr erbyn y chwarter nesaf. Dosberthir rhwng. dan a thri dwsin o'r Cyfaill Eglwysig, ac amryw gyboeddiadau eraill.—Un o'r liwythau.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. TANCHWA LLAEHCIL-Dyùd Sul diweddaf, traddodwyd pregethau grymus ac effeitliiol yn Eglwys St. Dewi, gan y Parch. W. R. Thomas, M.A., ficer Abersychau, ar ran gweddwon ac amddifaid y trueiniaid a gollasant eu bywydau drwy y danchwa uchod. Daeth cynulleidfa dda ynghyd yn y boreu, tra yn yr hwyr yr oedd yr eglwys yn orlawn. Yn y prydnawn cynhaliwyd gwasanaeth i'r plant, pryd y cafwyd anerchiad gan Mr. Thomas, a datganodd ei foddhad wrth ddeall fod y gwasanaethau i'r plant yn cael eu cynal yn rheolaidd. Cafodd Mr. Thomas wrandawiad astud, a chyda'i hyawdledd todd- edig a dylanwadol, gwefreiddiodd y cynulleidfa- cedd. Cyrhaeddodd y casgliadau drwy y dydd y swm o £ 14 5s. Yr oedd y gwasanaetkau oil yn gorawl, ac yn bobpeth a ellid ddymuno.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. DAMWAIN ANGEUOL.—NOS Fercher, y 12fed eyfisol, cymerodd damwain alarus le gerllaw y signal box a elwir Slwcb, tua milldir o'r dref, i James Caimore, tignalman. Nid ydym yn gwybod yn iawn pa fodd y digwyddodd y ddamwain. Cafwyd y trancedig tua. haner awr wedi naw o'r gloch y noson hono yn gorwedd yn farw o dan y bont wrth y signal bar. Y mae'n debyg iddo syrthio drosodd yn y tywyllwch yn ddamweiniol o uchder 16 troedfedd. 'Dyma'r drydedd ddamwain o'r fath o fewn y ddwy flynedd ddiweddaf, sydd wedi cymeryd He yn yr un man. Rhaid bod bai mawr yn rhywle-nid oes ganllaw i'r bont. Gobeithio yr edrychir i mewn i'r mater hwn ar unwaith. BWRDD GWARCIIEIDWAID Y TLODION.—Cyn- haliwyd y cyfarfod pymthegnosol y Bwrdd hwn ar ddydd Gwener diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. Preb. Garnons Williams. Rhif yn y Ty yn 10 llai nag oedd yr amser hwn y flwydd- yn ddiweddaf, a'r gost gyfartal oedd 3s. 21c. yr un. CEIDWADAETH. Y mae Major Wood yn brysur harotoi gogyfer a'r etholiad nesaf. Y mae wedi ymweled a amryw ranau o'r Sir, ac wedi cael derbyniad cynes ymhob man. Y mae argoelion gobeithipl y dychwelir ef i'r Senedd gyda mwyafrif mawr. Y mae Cyngrair y Friallen wedi dadebru-ac yn parotoi i weithio o ddifrif yn y dyfodol.
DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.
DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD. MARWOLAETHAU.—Llawer o farw sydd yma y dyddiau hyn. Dynion yn cael eu tori i lawr yn ddirybudd. ac yn anterth eu nerth. Y mae y Methodistiaid Calfinaidd wedi colli dau frawd hynod o zelog adefnyddiol, sef Richard Jones, Shop Newydd, a Prys Morris, Penbryn. Yr oedd y blaenaf yn hynod fywiog a zelog gyda phob gwaith perthynol i'w enwad, ac yn barod i gyn- orthwyo pob symudiad gyda'i arian. Clywais ei fod wedi cynyg (heb yn wybod i'w deulu), amryw o lyfrau duwinyddol i weinidogion o bob enwad, a'i fod wedi rhoddi swm mawr tuag at yr atnean clodwiw yma. Yr oedd Prys Morris yn gymeriad hynod iawn. Yr oedd yn bur hoff o hynafiaethau. Yr oedd wedi bod yn llaf urus i hel defnyddiau ar hen bethau yn sir Feirion- ydd, a disgwylir i'r llyfr dd'od allan cyn b'o hir. Y DOSRARTH BEIULAU.—Cafwyd cyfarfod hynod ddyddorol nos Lun, Mawrth lOfed. Pwnc 3*r ymdrafodaeth oedd—" Nid y^ rhyddid barn yn rhoddi hawl i rwygo corph Crist." Dar- llenwyd papyr penigamp arno gan y Parch. D. R. Lewis, ficer Caerdeon, a gwnaed sylwadau arno gan y cyfeillion ieuainc perthynol i'r dos- barth. Rhoddodd Mr. Lewis foddlonrwydd neillduol drwy ei sylwadau, a dangosai ei fod yn berffaith feistrolgar ar yr iaith Gymmeg. PERSONAU A PHETIIAU.—Bj-dd genyf air i ddweyd o dro i dro ar y pwnc yma. a gwylied ambell un rhag iddo ddyf od o dan y wialen. Ceisiaf fod fel Myrddin Coch yn y Debeu- Ceisiaf fod fel Myrddin Coch yn 3' Debeu- dir, yn ddychryn i'r rhai S3*dd }-n haeddu cerydd. bydded pwy a f'o, ac yn gcfnogaeth i'r rhai sydd yn haeddu hyny. TALYLLYX.— Dywedir fod bywoliaeth Taly- llyn wedi ei rhoddi i ryw Mr. Richards, sydd yn gurad yu rhywle 3-11 agos i Gaernarfon. Yn ol pob peth a glywais, y mae yn ddyn da a chym- wys, ac yn debygol o ddeilroi yr Eglwys o'i chysgadrwydd. Y mae digon o Ie, a digon o waith. Caffed ras a nerth i fod yn ffyddlon. YR YSGOL RAMADEGOL.—Dal i fyned ymlaen o hyd y mae yr 3Tsgol o dan lywyddiaeth ddiwyd Mr. Marshall. Ni welwyd mo honi erioed mor llewyrchus. Yn yr arholiadau lleol Cambridge am 1889, y mae un bachgen o'r enw J. H. Bunford, o Abermaw, wedi enwogi ei hun. Enillodd yr ail ddosbarth mewn honours, a deallwyf mai ychydig iawn o fechgyn o'r ysgolion Cymreig gyrhaeddodd ffon mor ucbel. Well done aed yr yrfgol ar i fyny. YSGOL Y MEKCHED.—Y mae hon hefyd eleni wedi enwogi ei hun, trwy yn agos i ddwsin o enethod basio y Cambridge Local." Enillwyd hefyd mewn arholiadau eraill vn ystod y flwyddyn. Dengys hyn fod Dolgellau ar y blaen i unrhyw dref o'i maint yn Nghymru mewn addysg. Y mae yma ysgolion elfenol campus, ac y mae yr ysgolion Canolraddol hefyd yn gwneyd eu rhan yn ardderchog. fel ag y mae dyfodol disglaer o flaen ieuenctyd yr oes, mewn &ddysg fydol, beth bynag. Yn ysgolion yr Eg- lwys yn unig y rhoddir y lie priodol i addysg Feiblaidd. 9 Pwxc Y DEGWM.—Digrif iawn 3Tw gweled arwyddion fod y rhai sydd yn meddwl cael budd oddiwrth ladrata y degwm yn dechreu syrthio allan a'u gilydd gyda golwg ar y moid y dy- munent ei gymywyso. Gwelais mewn wythnos- olyn yr wythnos ddiweddaf, fel y mae amaeth- wr chwyddedig o Islaw'rdref yn ff-onoclio y Cyngor Sirol yn ddidrugaredd am feiddio cynyg fod y Degwm i fyned at gynal Addysg Uwch- raddol yn Ngkymru." Dywed yn blaen mai gormod o hyfdra ydoedd i Gyngor S-trol Ifeirion drafod mater nad oedd yn perthyn i'w busnes Ond chwareu teg i'r Hen Ffarmwr." y mae yn dweyd llawer o wir. Y trueni yw nad ydyw yn gweled yn ddigon pell. Y mac yn cydnabod yn ddigon parod mai nid lies i'r amaethwyr, druain, fyddai y cynllun pe y cerid ef allan. Da fod llygaid yr amaethwyr 3'n dechreu agor i weled pwy ydynt eu gwir gyfeillion. SyiilsAsyrfd iawn yw ei eiriau, pan y cymhwysa yr hen ddiarel-) at y Ridicaliaid-" Htel yw Hywel ar bwrs y wlad," ac mai gwaith hawdd yw tori carai hir o groen dyn arall." Gall fod yn ddigon tawel ei feddwl, druan o hono, mai pa bryd bynag y troir y degwm o'i rydle presenol, na fydd i'r amaethwr na neb arall elwa yr un ddimai mewn canlyniad. I'r gwrtliwyneb, bydd yn golled i'r tlodion, yn golled i'r wlad, ac yn fwy na'r cwbl. yn golled i grefydd. Os ydyw wedi ei roddi at achosion crefyddol, fel yr ydym ni yr Eglwyswyr yn credu yn gydwybodol ei fod, yna ni ddylid. er dim, ei droi at amcanion bydol, er i'r amcanion hyny fod y rhai goreu. Y mae yn gyse-r-ysbeiliad ac y mae y genedl a fydd yn euog o hyn yn sicr o dderbyn ei chosb yn hwyr neu hwyrach. Heblaw hyn, pa bryd y gwel y gwrth-ddcgymwyr fod perygl, os yr ym- yrir, fel y eyiiyziaiit, a'r degwm. y bydd pob gwaddoliad yn sigledig, ac felly, na fydd gwaddoliadau perthynol i'r gwahanol enwadau yn ddiogel. Creded yr "Hen Ffermwr" neu beidio, caiff yr amaethwyr, o ran dim a wneir a r degwm, aros yn ei ddwbl, a'i war wedi crymu tna'r llawr, a bydd yn rhaid iddo gario mwy o fwnciod (chwedl yn ta u) nag erioed, os byth. y bydd Lhrwodraeth Pry via in y ddigon anghyfiawn. a ch3-meryd eicldo 3T Eglwys oddi- arni a'i ddefnyddio at amcanion di-grefydd. YH ANWYDWST.—Llawer o drigolion y dref ydd wedi syrthio yn ysglyfaeth i'r afiecliyd annvmunol hwn. Y mae addoldai y lie wedi eu I gwaghau, a Ilawer sedd yn tystiolaetllU ynghyleh 11 .I cyffredinolrwydd yr ymosodiad. Y mae y meddygon yn gwneyd byd da o honi. Y mae yn sicr eu bod yn gwneyd cyflog dwy flviied(I mewn rhan o un. Y mae un dieithr i'w weled yn myned o dy i dy—dieithr o ran ei bresenol- deb yn ein plith, er nid o ran ei berson, sef Dr. Hugh Jones, mab Dr. Edward Jones, Cae'r- ffiynon. Y mae y dyn ieuanc hwn wedi cyraedd safon uehel iawn mewn meddygiaeth, a thebyg yw mai nid yn ami y cyfarfyddir a dyn mor ieuanc wedi cyraedd y fath radd mewn (tysgeid- iaeth meddygol. ac befj'd mewn yinarferiad. Hir oes iddo i wasanaethu ei wlad a'i gCledl Y MARIAN.—Y mae y macs yma wedi bod yn fendith fawr i'n tref. Nid yn ami y ceir tir gwastad a helaetli fel hyn, yn agored i bawb. Hyfrydwch yw gweled y bobl ieuainc yn ym- ddifyru yn ddiniwcd wrth yr ugeiniau bob dydd. Y mae ar gael ei ail-osod, os nad ydyw hyn wedi cymervd lie. Yr hen denant yw Mr. John Williams, a chwith fyddai ei weled 3 71 nwylr.w neb arall. Ond ma<ldeued yr Ym idiriedohvyr am i mi awgrymu y priodoldeb ogadw y lie yn lanach, ac os yn bosibi blanu coed a bytli-wyrdd- ion. Bydd hyn yn welliant mawr, ac yn pryd- f. rthu y Ile.I-ylldremydd.
SIARS ESGOB TY DDEWI.
blwyddol blaenorol. Cyn belled a hyn ym- ddengys fod yna leihad, ond tra mai tair yn unig a gysegrwyd yn ystod y tymor blaenorol oedd yn wir newydd, un o ba rai a ddefnyddid o dan drwydded am flynyddoedd lawer, yr oedd chwech o'r deg a gysegrwyd yn ystod y tair blynedd diweddaf yn rhai newydd hollol, ac felly yn ychwanegiad clir at beirianwaith gweithiol yr Esgobaeth. Ar y cyfan, gellir dweyd yn ddibetrus iod yr Eglwys wedi gwneyd ac yn gwneyd cynydd graddol, can belled ag y mae yn bosibl tynu casgliad teg o'r arwyddion allaaol o'i chynydd. Nid wyf yn dweyd hyn mewn ysbryd ymffrost- gar na ato Duw. Ychydig Ie sydd genym i ymffrostio, hyd'yn nod pe bai hyny yn iawn. I'r gwrthwyneb, cyhyd ag y parha nifer fawr o'n cyd-Gristionogion yn ddieithriaid i gorlan yr Eglwys, a thra yr erys yn ein plith ein hun- ain unrhyw faen tramgwydd i fod yn achlysur tr fath ymddieithriad, y mae genym lawer mwy o reswm i ostwng ein penau. Er hyny, y mae Duw yn bendithio ein Heglwys; ac y mae, ar y cyfan, yn blodeuo. —