Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Y GYSTADLIIUAETrl. Derbyniasom dair can ar Y Clefyd Sabbothol, sef eiddo H, R.t" G. J. a I. G. Nid oes un yn eu plith yn teilyngu canmoliaetli. '• G. G." ydyw y goreu, ond dylai fod yn well. Rhoddwn ail gynyg iddynt oil. Dan- foner y cyfansoddiadan i ni erbyn Ebrill 3ydd. Na fydded i'r beirdd ddefnyddio rhyw lawer o dan a brwmstan yn eu llinellau. Nid oes dim tlysineb mewn brawddegau fel hyn Adyn annnwiol," "tan y byd arall," "nis gelli ynanwn," cynl-n, iruffernol," Idnmtlio eneidiau," "yn Iiwybw ellyllon," athrnw uffernol," crechwona Uu uifern," "dechreu gwneyd uffern," &c. Y mae H. R. a G. J." yn ymdroi gormod lawer iawn rliwng y gwreichion a'r angylionByrthiedig! Da chwi, rhoddwch gan i ni ar "Y Clefyd Sabbotliol," a gadewoh y tan a'r brwmstan yn llonydd. HKNRI MYLT.IN.-Caiff eicli cAn ymddangos, ond rhaid iddi aros ei thro, gan ei bod mor faith. D. DA VIES (Caerefryn).—Mewn llaw.
DOSBARTH I.
DOSBARTH I. Y CURADYN. Un caredig yw'r curadyn-earu M,l e'r curad bob adyn Curo y mae bob coryn Er ei dal, am garu dyn. Am garu dyn mae gwir dal-nid enwad 1 11 Unig gar yn ddyfal; t, Gwir âr pawb er gorea gwyr Baal I A'i Dduw hefyd yn ddihatal. Yn ddihafal ei Dduw befyd -gir hwn Mewn gwirionedd bob pryd Gwaria oes o paru hyd Yr hedfan i'r cariadfyd. Mawrth Bydd, 1890. DA IRAC.
SANT DEWI.
SANT DEWI. Englynion a ddarllenodd yr awdwr yn yr wyl wlad^arol a gynhaliwyd yn Ngwesty y Wynnstay Arms, Rhiwabon (laf o Fawrtli, 1890), Gwyl Dewi Sant. Yn ein Gwyl anwyl heno-oofiwn gel Cyfiawn Sant y Cymro Yn ei awydd, ei hanes o, Sy' fawreddus fri iddo. Gwlad awen i glod Dewi-a gana I gynhes fytholi; Myn hwylus, felus foli, A seinio ton i'w Sant hi. Hon yw Gwyl enwog Gwalia—ei phrawf I'w phrif Sant, a'i goffa [serch I'w broydd hen bri ei dda Enw anwyl ni hana. Ef i'w Heglwys fu'n Ilyglod-uchel- nawdd, Uwchlaw neb, trwy ystod Ei lan einioes lawn hynod, 0 waith y nef aetli a'i nod. Ac lieddyw y cyhoeddir—drwy y byd, Ei wir barch lie gwelir Unrhyw fab o Gymro gwir,— Hen iaith awen ni thewir t Cyflawn ddawn ei ddaioni-gydn.'u Gwledd, Gaed ein gwlad nehelfri; Boed ei hiaith a'i bywyd hi Dan hedd Duw a nawdd Dewi! GWILYM FKDDYG. Ty Newydd, Rhiwabon.
EMYN NOS BASG.
EMYN NOS BASG. Yn yr wyl gorawl ddiweddar yn yr Eglwys Gadeiriol, Llanelwy, yr oedd detlioliady tonan yn y Sassneg a'r Gymraeg mor gymwys i was- anatth y cyaegr. ac mor gynhyrfiol o ysbryd addoliad, fel mae'r prawf goreu o'u rhagoriaeth yn y glyniad wrthynt yu ngwahanol Eglwysi'r uodeb, yn y gwasanaethau cyffredin, ac fe ddiclion fod un o'r rhai goreu yn cael ei hesgeuluso, am nad oes, hyd y gwyddom. emyn ar y mesnr mewn casgliad. na Saesneg na Cliymrae'j, arferedig mewn un Eglwys. A chan fod yr Eglwys wedi darparu gwasanaetli priodol i Nos Basg, mae'n llyfrau Hyrnnau Cymreig yma drachefu ar goil. Oynygir y pedwar peuiil canlynol i'ch sylw, os teilwng, fel L y gallo eraill ag sydd yn dal i fyny Gosper Nos Basg," ra '1. o Jeiaf. gynyg i arfer y dftn ar- dderchog "Holy Offerings." Nid oedd trefu- ydd y geiriau i fesur y don ond yn golygu dar- par ar gyfer ei gor ei hun, ond ar gais un sydd wedi bod a llaw yn hyn o waith am y rhan oreu o'i oes lafurus, gyrir hwy i'r LLAN, rhag cligwydd y ca rhywun ddiwallu, er yn drwsgl, yr angen a deimlai yr yrgrifenydd a'i gar. I Dyma'r dydd mewn tawel fedd, Y gorphwysodd Iesu gwiw, Awdwr ein trag'wyddol hedd, Marw wnaeth i ni gael byw. Drwy ei aberth a'i farwolaeth, dygodd i ni Iacbawdwriaeth; Dygwn ninau'n weddus heno, beraroglau i'w eneinio. Er mor chwerw grym ei boen, Ac ergydion angeu loes! Trengu wnaeth fel ufudd Oen Tan yr hoeliou ar y groes. A chofleidiodd f enaid aflan, yn ei fynwes wen ei liunan: Do fe'm carodd, gwnaeth fy nghofio, minau roddaf ddiolch iddo. Golud cariad yma gawn Fath nas gall pob dawn yn au Osod allan tyth yn iawn Faint ei gariad Ef at ddyn Cariad fydd yn destyn llafar, holl gania,dau nef a daear; Seintiau ac an- Iioii unant, fry i'w foli mewn Ily gogenianf. Ni fydd trag'wyddoldcb maith Ddim yn ormod, er ei hyd! I ofThan mewn mclus iaitli, Gariad Iesu at y byd. IIoll riuweddau maith ei glwyfau, poenau'r hoelioll llyminu lrwythau, Wnant i ocsoedd fyned Lei bio, cyn yr elo un yn ango'. Caerwys. J.
[No title]
-l.. Esgobacth Llandaf ydyw un o'r rhai hynaf yn y Deyrnas Gyfunol. Ei h#gob cyhtaf ydoedd Dyfrig Beneurog. Y mao yr Eglwys Ga,leiriol bresenol, yr hon a adferwyd yn 1119, wedi ei sylf/ienu ar adfeilion yr e-lwys a adeiladwyd <^r, JI St. Fredric y Mcrthyr, tadcu yr hyglod Frenia Arthur, yn 480, nc a ddinystriwyd a than yn ),q7 gan fintai o Ddaniaid yspeilgar. Yn y nawfed ganrif, daeth yr organ yn gerdd- offeryn cyffredin iawn yn Lloegr; ac yn y ganrif nesaf, rlioddodd St. Dunstan organau i Fynachlogydd Malmesbury ac Abingdon, nc i amryw eglwysi. Yn 1643, pasiodd Senedd Prydain gyfraith er dileu cofarwyddion ofer- goelus o ddelw-addoliaeth." Mewn canlyniad i hyn, amddifadwyd yr eglwysi o'u horganan Cromwell, yr hwn oedd yn dra hofF o gerddor- iaetli. a ofalodd symud yr orga n oedd yn Xgholeg Magdalen i Hampton CoiiKt, 110 A preswyliai y pryd hwnw. Erbyn hedflyw". p1 fglwys o nod sydd hnh ei horgan ? Dengj^s hyn fod gwlawogydd a thonau amser wedi gradtlol dreulio i ddiddymdra yr hen graig ragfarnilyd oedd yn vlvwystr ar ffordd c.^rdd-o:Itrynau i f/ned i Dy Dduw.
Nodiadau ar y Flwyddyn I Eglwysig.,.
Nodiadau ar y Flwyddyn Eglwysig. G-x Y PARCH. EVAN DANIES, B.A., CWMTILLEIiY. (Parhad). Cyn myned yn mhellacli, gadewch i mi eto am funyd ddweyd gair yngliylch bedydd St. loan Fedyddiwr. Fel y nodwyd. yr oedd ac y mae y bedydd Cristionogol yn uwch nag oedd bedydd loan. Mae St. Paul yn Actau xix. 4 yn dangos nad oedd bedydd loan ond megis cam rhag- arweiniol tuag at y gwirionedd felly yr oedd y rhai a fedyddid i fedydd loan yn cael eu hail- fedyddio, ac ar ol hyny derbynient arddodiad dwylaw, a hyny am y rheswm canlynol. Yn gyetaf, i ddangos yr angenrheidrwydd o'r drefn Apostolaidd; ac yn ail, i ddangos cyflawnder galluoedd Apostolaidd St. Paul. Sylwn yn awr yn fyr ar ymeangiad a chynydd yr Un Eglwys Apostolig. Yr oedd pob mudiad yn cael ei gario allan yn ol rheol neu gynllun a roddwyd neu a ymddiriedwyd i'r Apostolion. (Gwel sylwadau rhagorolar y gair Ymddiriedaeth" gan y Parch. Joseph Lloyd, B.D., Ficer Llanpumsaint, yn yr Haul am y mis hwn). Pan ddewiswyd St. Matthias yn Apostol yn lie y bradwr Judas, yr ydym yn cael fod nifer y disgyblion yn yr un man yn Jerusalem tua chwech ugain (Actau i. 15).. Dywed Dr. Lightfoot nad ydym i feddwl inti liyu oedd nifer yr holl gredinwyr yn Jeru- salem yr amser yma, ond eu'bod yn amryw gan- oedd os nad miloedd. Dichon nad ydym i ddeall fod y credinwyr yma wedi uno eu hunain neu gaol eu derbyn i gymdeithas yr Apostolion, ond eu bod yn barod i wneuthur hyny ar ol gweled beth ddaethai o'r gymdeithas hon. Gwelwyd yr Arglwydd lesu ar ol ei adgyfodiad gan fwy na phum' cant brodyr ar unwaith" (1 Cor. xv. I 6). Nid ydyw yn liysbys pa le yr oedd Crist y pryd hwn, feallai mai yn Jerusalem. Ar ddydd y Pentecost, fel y sylwyd, fe ^ychwanegwyd at niter y disgyblion ynghylch tair mil o eneidiau (Actau xi. 41). Yn fuan ar ol hyn, darllenwn f el Lllyn Eithr Ilawer o'r rhai a glywsant y gair, a gredasant a rhifedi y gwyr (heblaw y gwragedd a'r plant) a wnaed ynghylch pum' mil" (Actau iv. 4). Ychydig ymlaen eto y mae y nifer yn lliosogi A rhifedi y diagyblion yn Jerusalem a amlhaodd yn ddiriawr, a thyrfa o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd" (Actau vi. 7). Yr oedd nifer yr offeiriaid Inddewig yn fawr iawn. Yr oedd yr offeiriaid a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud" yn rhifo dros bedair mil (Ezra ii. 36-39). Fel hyn er mwyn S'fon ni thawai cenliadon Crist, ac er mwyn Jeru- salem ni ostegant, hyd onid elai ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a'i liiachawdwriaeth hi 11 fel lamp yJilosgi" (Isaiah Ixii. 1). Fel y byddai yr Eglwys'^n goron gogoniant yn llaw yr Ar- glwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw Duw. Ni facliluda ei haul mwyach, a'i lleuad ni phalla; oherwydd yr Arglwydd sydd iddi yn oleuni tra- gwyddol, a dyddiau ei galar a ddarfyddant. Yr oedd y disgyblion yn Jerusalem a ufuddasant i'r ffydd," yn gystal a'r rhai hyny a ddychwel- asant i Parthia, i Media, i Mesopotamia, i'r Aipht, i Arabia, a gwledydd eraill, ar ol gwyl y Pentecost, yn gwneyd i fyny Eglwys weledig Crist ar y ddaear. Ac yr oedd yr Eglwys yn cynyddu yn barhaus, fel yr oedd y bobl yn cael eu harwain i gredu yn yr Arglwydd Iesu, ac i gael eu bedyddio ynghyd a'u teuluoedd yn ei enw Ef. Yr oedd yr holl aelodau liyn, ynte, yn gwneyd i fyny yr Eglwys, a'r Eglwys yw Corph Crist. "Un corph sydd, ac un Ysbryd, megis a- y'eli gnlwyd yn un gobaith eich galwedig- aeth; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, Un Duw a Thad oil, yr hwn sydd goruwch oil, a thrwy oil, ac ynoch oil (Ephes. iv. 4, 5, 6); (gwel 1 Cor. i. 2 Gal. i. 2 Dat. i. 4). Fel hyn y dywed rhywun am yr Eglwys hon Fe'i planwyd trwy'r holl wledydd, Ond un er hyn i gyd, Ei sel, un ffydd, un Arglwydd, Un bedydd dros y byd; Un enw glan foliana, Un ymborth ynddi gawn, Gan gyrehu at un gobaith O ddoniau'rnef yn llawn." Mae gormod o bobl yn ein dyddiau ni a alwant eu hunain yn Eglwyswyr, ac y mae eu liymddygiadau yn condemnio en proffes. Mae y Z, p cyfryw wedi cael eu bedyddio. Maent wedi derbyn arddodiad dwylaw esgob yr esgobaeth. Maent wedi bod yn cyfranu o jFendigedig Gorpli a Qwaed Crist yn y Cymun Bendigaid ond pa le y maent heddyw ? A wdir hwynt yn gyson yn Nliy Dduw ? Pa faint maent yu gyfranu tuag at achos Duw ? A ydynt yn gwgeuthur eu goreu i roddijesiampl dda mewn 11 t, gair a gweithred o flaen aelodau bychain Eg- lwys Crist ? Pa mor fynych y darllenir cyfran o Air Dtiw ac yr offrymir gweddi deuluaidd yn eu cartrcfleoedd ? Pa ran maent yn gymeryd i liyfforddi deiliaid Crist yn yr Ysgol Sul ? Yr Eglwyswyr o'r dosbarth yaiaydynt y rhwystrau peuaf ar ffordd llwyddiant yr Eglwys ymhob oes. Mae gelynion agored yn well na bradwyr yn y gwersyll. Beth oedd nodweddiad aelodau yr Eglwys Apostolaidd yn ol yr hanes cyntaf sydd ar gael ? Dyma ddywedir am danynt:— .1 Yr oeddynt yn parhau yn atbrawiaetli ac yn ngbymdeithas yr Apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau" (Actau ii. 42). "Yn nhoriad y bara, ac yn y gweddiau ydyw y cyf- ieithiad iawn, sef gweinyddiad cyson o'r Cymun Bendigaid a'r ffurftau, gweddiau hyny oeddynt yn arfer eu defnyddio yn eu gwasan- aethoedd cyhoeddus. Ni dderbyniai ae ni ddysgai y disgyblion ddim fel athrawiaeth Gristionogol ar na ddysgwyd iddynt gan yr 1 0 Apostolion, Ac nid yn unig hyny, ond yr oeddynt yn parhau yn nghymdeithas yr Apostolion, hyny yw, yr oeddynt yn ymostwng neu ufuddhau i reol a llywodraetli yr Apostolion mewn petliau ysbiydoi. Yr oedd yn angen. rheidiol i'r Apostolion ddarparu ar gyfer cynydd dyfodol yr Eglwys. Yn St. xx. 22, mae Crist yn arnlygu yn ol pa drefn y mae ef yn anfon ei Apostolion Megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finauyn eich danfon chwi." Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, aca ddywedodd wrtliynt, Derbyniwch yr Yshryd Glan." Ac yr oedd y rhai hyny oeddynt yn caru Crist yn ufuddhau yn 11awen i'r rhai hyny a drefnodd Crist yn arolygwyr arnyut. A megis yr oeddynt hwy wedi cael eu hanfon gan Grist, yr oedd yr Apostolion 1 benodi gvveinidogion i'w holynu hwythau. Fel yma yr oedd gweinidogion yr Eglwys yn olynu eu gilydd, gaii dderbyn eu hawdurdod a'u coroisiwn trwy olyniaetli ddidor oddiwrtb. Grist a'i Apostolion. Hyn a elwir yr Olyniaetit Apostolaidd." Mae eiu Heglwys yn gosod pwys dyladwy ar hyn. Trwy hyn y gwyddom ein bod ni yn parhau yn atlirawiaeth yr Apostolion, a'n bod yn perthyn i gymundeb inewn cymdeithas manwl a'r Apostolion. Pa fodd yr.'ydym i farnu pa betli ydyw cymdeithas yr Apostolion yn awr ? Trwy ystyried pa un a ydyw awdurdod yr Apostolion wedi cael ei throsglwyddo yn rheolaidd. Mae St. Paul yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i'r offeiriaid dderbyn eu comisiwn oddiwrtli Grist. PB fodd y pregetbant," ebai efe, onis danfonir ,hwynt ? (Rhuf. x. 15). "Ac nid yw neb yn cymeryd yr" anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw megis Aaron." (Heb. v. 41. (Tw barhau.)
CCLOFN YR AMAETHWYR.
CCLOFN YR AMAETHWYR. V+ ,P I., FFEHHAU CTMRD, 1 Fy Nghyd-Amaethwyr,—Ein doethineb ni; j fel amaetliwyr ydyw ymdrechu i ddadblygu ad- noddau mastach, ae i edrych i mewn pa gyf- newidiadau sydd angenrheidiol er cyfarfod hwylusdod yr amaethwyr a'r prynwyr. Mae yr esgeulusdod hwn o drefniadau mwy cyfleus i gadw ffeiriau wedi bod yn aflwyddiant i amaeth- wyr Cymru. Credaf bod modd i wneyd ein ffeiriau yn llawer mwy llwyddianus nag y mfent wedi bod, a hyny er mawr fantais i'r amaethwyr a'r prynwyr. Gan fod llwyddiant yr amaeth- wyr fel y trefwyr yn ymddibynu ar fywiogrwydd ffeiriau a marchuadoedd da, a'r achos o'u marw- eidd-dra i'w briodoli yn rhy ami i'r hen ddull trwsgl o gadw ffair ar ryw ddyddiad misol sef- ydledig-ac os felly, paham nachawn ddiwyg- iad ar fynegres eu cynlialiad ? Pan yr ystyriaf mai y llesiant amaetliyddol ydyw un o brif gelf- yddydau y byd, yswiliaf o'r corn i'r earn wrth feddwl am anallu yr ysbryd cul Cymreig i godi uwcblaw mympwyon gwleidyddol ac enwad sych gwep ddallbleidiol y rhai sydd yn rhwystr- au i ysgubo ymaith atalfeydd oddiar ffordd llwyddiant masnach a sobrwydd. Dylai ffeiriau a marchnadoedd da olygu rhyw- beth mwy -na dwyn pobl o'r wlad ynghyd i un- rhyw dref i brynu, gwerthu, ac ymddiotta. A meanwyd hwy i ddarparu i'r amaethwyr a'r bwtliynwvr brynwyr am bob math o ddaoedd, ond drwy absenoldeb gwell trefniadau a'r cynyrchion goreu gartref y daw methiant. t, 11 Amcan y nodyn hwn yw lledaeniad llwydd- iant masnach a sobrwydd, ac i gynyg diwyg- iadau ar dlldalena11 y LLAN, yr hwn sydd bellach i fod yn newyddiadur tymhorol fel ysbi-ydol-.sef Crist a chrwstyn. 1. Rhaid i ni omedd cel-werthu ein hanifeil- iaid i'r man borthmyn gartref, ac er mwyn hefyd Bwyno porthmyn goludog o Loegr, rhaid i ni yrti yr oil i'r ffair, neu fe gaiff y prynu a r ail werthu eu hymddired i'r gwyr canol (middle- men). Dyna'r haid sydd yn llogellu ffrwyth ein llafur. Rhwng yrbwn sydd yn.codi y cynyrch- ion a'r llall sydd yn eu defnyddio ei hun, fe newidir perohenogaeth dair neu bedair o weitli- iau, a phob un yn elwa ar gefn llwfrdra yr am- aetliwr, druan. I ddiwygio y selyllfa hocedus lion, dylid llwyr ad-drefnu ffeiriau Cymru fel ag i ffeiriau pob pedair trof ganolog y dalaeth ddig- wydd ytr un wyiliiic)s, yn lie cu bod yn an- nlirefnus o wasgaredig oddiwrtli eu gilydd, fel pe baeut wedi cael eu chwythu o safn magnel. Gwnelai pedair ffair fawr ddigwydd yr un wytli- nos mewn trefydd canolog cyfleus ddenu pryn- wyr Seisnig eu hunain i Gymru, ac yn absenol- deb y fatli drefniadau bydelallt o dan rwymau i ddelio gyda clirib-ddeilwyr canol (middle-men) sydd yn myned o ddrws i ddrws i ragbrynu y farclinad, fel nad oes ond petheuach salw ar ol i gadw ffair. 2. Er mwyn sobrwydd a gwareiddiad, ni ddylid cadw ffair o gwbl ar ddydd Llun. Er engraifft, cadw ffair ar ddydd LIun a olyga dreulio Sul afroolus drwy orfodi y pelledigion i yru eu liaiiifeiliai4 ar nos Sadwrn i'r dref, ac heblaw son am y draul o fwrw dres y Sul, bydd y dref hono. fel croclian berwedig o gynliyrlus gyda'r ffwdan o ddosbarthu a nodi, prynu a gwerthu, meddwi, ac ymladd. Ar wahan oddi- wrth fuddianau y gwestywyr a'r man borthmyn methaf a chanfod pa swyngyfareda sydd mewn, penodi i'r ffair fod ar ddyddiad penodol—dy- weder ar yr ugeinfed o'r mis, ac felly rhaid iddi ddigwydd bob chwe' blynedd ar ddydd Sul a dydd Llun-paliaiu na chedwir y ffeiriau ar ddyddiau Mawrtli, Mercher, Iau, a Gwener yn yr wythnos gyntaf, yr ail, y drydedd, neu y bed- waredd o'r mis ? Wedi newid yn ddoeth rhyw ychydig o flynyddoedd yn ol yr hen arferiad gynt o gadw ffeiriau Corwen ar ddyddiadau penodol, pwy dafod all fyuegu maint y bendith- ion lliosog a ddaetli i'n liardaloedd drwy eu cynal ar y trydydd Mawrtli ymhob mis. Yn ol yr "Hen Gyfansoddiad y cedwir eto ffeiriau y Bala a'r pentrefi o amgylch, a beth yw y can- lyniad os bydd y ffair ar ddydd Xlun ? Prysur- deb anarferol ymysg bugeiliaid mynyddoedd Berwyn yn parotoi eu defaid ar ddydd Sul er mwyn eu corlanu cyn toriad y wawr ddydd Llun. Os na ymdrecha dirwestwyr i symud ymaith demtasiynau gwaradwyddus o'r fath, pa lesbad a ddeilliaw i'w haclios oddtwrth gog-foli eu gilydd ar y llwyfan yn ngwydd plantos bwbr aclms ? I fod yn hwylus i'r prynwyr a'r gwerthwyr, ac i osgoi anfoesokleb ar ddydd yr Arglwydd, rhaid ail-drefrnj ein ffeiriau drwy holl Gyinru peubaladr, ac am hyny yr wyf yn gofyn i ryw- un, cyn yr argrefftr almanac y LLAN am y flwyddyn ddyfodol, p'run o'r gajluoedd canlynol (neu en cyd-gyngor) sydd gymhwysaf i dd wyu y gwelliantau a grybwyllais o gwmpas-sef y Gorfforaeth drefol neu y Bwrdeisiaetli, y Cyngor Trefol neu y Cyngor Sirol, neu ddau bwyllgor wedi ftn dewis gan y Cynghorau doeth hyn—sef un pwyllgor i ad-drefau ffeiriau Gogledd Cymru, a'r ewyllgor arall dros y Deheudir ? Llawr y Bettws, AMAKTHWJI, 290-
Advertising
TTTELSH GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.— All applications for ensuing election to foundation and intermediate pay scholarships must be made upon special forms, which must be returned to the Secretary, on or before April the 1st. Foundation Scholars obtain their education and board free of all cost. Inter- mediate pay Scholars pay i'16 per annum. A limited number of higher pay Scholars at f 32 per annum can be admitted after Easter. The cost of Board and education is over £ 50. Forms of application and full information can be obtained from the Secretary of the Welsh School, 127, St. George's-road, London, S.W.
LLYTHYR DEINIOIf WYN.
LLYTHYR DEINIOIf WYN. Y mae ymddiswyddiad ESGOn BAXGOR wedi troi llygaid y cyhoedd i gyfeiriad Esgob- aeth Bangor, fel y gwnaeth marwolaeth yr Esgob Hughes i Esgobaeth Llanelwy y flwydd- yn ddiweddaf. Ac edrychir yn bryderus at benodiad olynydd i'r prelad teilwng sydd yn awr ar neillduo o gadair St. Deiniol, neu Deiniol Wyn, Esgob cyntaf Bangor. Oherwydd ein hadnabyddiaeth bersonol o'r Esgob Campbell. am dros 30 mlynedd, y mae amgylchiad ei ymddiswyddiad wedi dadebru hen deimladau adgofiadol bro ein genedigaeth -yn estyn mor bell yn ol ag y gallwn gofio. Yr ydym yn cofio marwolaeth yr Esgob Bethel, ei ragflaenydd, yn mis Ebrill, 1859,. yn 86 mlwydd oed, a dyfodiad yr Esgob Campbell i Fangor yn Mehefin, 1859, yn ddyn 47 mlwydd oed, a'i wallt a'i gern-flew yn ddu fel y fran." Y mae treigliad amser wedi cyfnewid y cyfryw i fod yn H wyn felyr eira." Y maeypren sImon wedi blodeuo or's Ilawer dydd. Pan ddaeth yr Esgob Campbell i Fangor yr oedd yr urddasolion Eglwysig yno i gyd yn hen wyr, y Deon Cotton, y Canghellydd Trevor, Arcliddiacon White, Archddiacon Jones, y Parch. Norris Lloyd, Caplan yr Esgob, &c., y cwbl i gyd wedi ilisgyn i briddellau y dyffryn 1. y er's llawer dydd. Penododd yr Esgob Campbell dri o Ddeoniaid i Fangor, sef y Deon Vincent, y Deon Edwards, a'r Deon (presenol) Lewis. Yn wir, gellir dweyd iddo weled mwy nag un genhedlaetli o offeiriaid plwyfol ei esgobaeth yn myned ymaith. Gwelodd yr Esgob Campbell adeiladu llawer iawn o eglwysi newyddion, ac adgyweirio hen rai yn ei esgobaeth. Y mae Dinas Esgobol Bangor yn engraifft lied gywir o'r gwaith oedd yn cymeryd lie yn yr esgobaeth yn gyffredinol. Adgyweiriwyd yr Eglwys Gadeiriol; adeilad- wyd eglwysi newyddion yn y dref, sef St. Mair a St. Iago, Capel Cenhadol Glasinfryn, ac Ysgoldy Ysgolion Cenedlaethol newyddion yn Bangor Isaf a Bangor Uchaf, C- apel Cenhadol yn Mhenrhosgarnedd; ac, yn ddiweddaf oil, Eglwys goffadwriaethal hardd er cof am y di. weddar a thra enwog Ddeon Edwards, yn Glan- adda. Yn sicr, y mae yr Eglwys yn mhlwyf Bangor wedi estyn ei chortynau, ac wedi ym- grythau yn ddirfawr iawn o fewn y 30 mlynedd diweddaf. • Yn amser yr Esgob Campbell hefyd y sefydl- wyd y Gymdeithas er Helaethu yr Eglwys (Church Extension Society) yn y flwyddyn 1869 trwy gyfrwng pa un y gwnaed cymaint o waith yn sefydlu gwasanaethau ychwanegol, &c. Cymdeithas arall hefyd a ddaeth i fodolaeth yn amser yr Esgob Campbell ydoedd y Gymdeithas er Addysgu Dynion leuainc ar gyfer y Weini- dogaeth (Clerical Education Society), a dad- blygwyd Cyfarfo'lydd Awst, fel eu gehvid, i fod yn Gynhadledd Eglwysig flynyddol, a nodwedd- id y cyfarfodydd byn gan lawer iawn o fywiog- rwydd tra dyddorol, flynyddau yn ol—ac eto hefyd ar ddim ar a wyddom i'r gwrthwyneb. Gweithwyr difefl yn yr Esgobaeth er cynorthwyo dwylaw yr Esgob Campbell oeddynt y diweddar Ddeon Edwards, y Deon (presenol) Lewis, yr Archddiacon Evans, yr Archddiacon Pryce, y Parch. P. Ellis, Llanfciirfechan, y Paroli. D. W. Thomas, St. Ann's, y diweddar Ganon Evans o Gaernarfon. Dyma oedd y gwyr blaenaf ymhob gwaith da yn yr Esgobaeth, ac y maent wedi gatlael eu liargraff ar feddwl yr Esgobaeth yn gyffredinol. Yr ydys yn teimlo dyddordeb neillduol yn ymddiswyddiad yr Esgob Campbell, gan mai efa'n conffirmiodd ac a'n hordeiniodd, ac mae ein holl adgofion Eglwysig yn glymedig am dano ef fel y pen. Mewn atebiad i lytliyr yd- ymdeimladol o'r eiddom at ei arglwyddiaeth dywed fel hyn :—" I can assure you that I value most highly the sympathy which induced you to write to me so warmly and kindly on the occasion of my .resignation. I feel deeply the parting from a Diocese where I have served for upwards of 30 years—where I have contracted many friendships, and have, by God's blessing, seen some progress. Earnestly praying that the great Head of the Church may bless His Church in the Principality and elsewhere, and that His flock may be fed by faithful and true Pastors." Diclion y ceir gwell Cymro fel olynydd i'r., Esgob Campbell, ond yr ydym yn sicr na cheir byth well dyn i lanw cadair St. Deiniol na'r hwn sydd yn awr am ei gwaghau. Yr ydym ni yn Gymro o'r Cymry, ond nid yw ein cenedlgarwch o'r cyfryw natur ( 11 y ag i lefaiu Cymru i'r Cymry," Diwrnod ] chwerw fyddai hwnw i'n gwlad pe byddai yn ] ldichonadwy i'r fath freuddwyd gwracli yn ol 9i liewyllys fyth gael ei sylweddoli. Er nad pdyw yr Esgob Campbell yn Gymro, ymae ] wedi treulio y rhan fwyaf.o'i oes yn Ngliymru, f ic wadi dysgu Cymraeg gystal ag y gall Sais 1 leu Ysgotyn ddysgu CYlmaegac afresymol 1 yddai disgwyl iddo fedru Cymraeg yn ogystal [ i Chymro gwaed cocli cyfa' Yn wir addef- c )ad y diweddar Esgob Tliirlwall mai methiant 8 ydoedd ei ymgais i feistroli y Gymraeg, a nentrwn ddweyd mai methiant fydd ymgais yn x jghyfnod diweddaraf bywyd i ddysgu Cymraeg r lilwgr a di-lediaeth, Ond os na allwn ganmol r Cymraeg Esgob Bangor, rhaid i ni ganmol yr ysbryd yn mha un y mae wedi gweinyddu yr esgobaeth yn ystod y 3Q mlynedd y mae wedi bod yn ei llywio. A gwnawn hyuy gyda'r parodrwydd mwyaf dirwgnach, Ni ddangos- odd yr un gradd o ysbryd cul, rhagfarnllyd. yn erbyn unrhyw ysgol ddnwinyddol-nchel, llydan, ac isel. Dengys ei a])\vyntiadau hyn yn dra eglur. Er mai Ysgotyn ydoedd, ym- ddengys i ni ei fod yn deall y teimlad Cymreig yn eithaf da i weinyddu'r esgobaeth yn dra medrus a doeth, Ni clilybuwyd erioed un CWYll ei fod yu tavo yn erbyn y teimlad Cymreig. Llywyddai yn ein lieisteddfodau, a gwnaeth un o'r areithiau mwyaf synliwjTol a glywsotn erioed yn Eisteddfod Genedlaetliol Bangor yn y flwyddyn 1874. Nodweddid ei Siarsau bob amser gan ddifrif" oldeb digamsyniol, a gwnai argraph ar ein meddwi ni bob amser o earnestness dwfn iawn, fel ag i'w wneyd yn deimladwy gan eraill. Bydd yn chwith ar ei ol. Gobeithiwn na adewir i'r Esgob Campbell ymddiswyddo heb i'r esgobaeth wneyd rhyw p y deyrnged o barch personol iddo. Diau na fuasai un mwy derbyniol 11a painting o hono. Gwnaed un felly o'r Esgob Bethell, ac anrheg- 0 1 wyd ef ag ef gan offeiriaid yr esgobaeth, ac an rhegodd yntau Siapter yr Eglwys Gadeiriol ag ef, ac y mae yn awr yn addurno, gyda nifer eraill o ddarluniau cyffelyb, Dining Room y Palas Esgobol yn Mangor.
BWRDD YR ADOLYGYDD.
BWRDD YR ADOLYGYDD. YMDDIDDANION* AR EGWYDDOHION EGLWYSIG (Gan y Parch. J. R. West, M.A., eyfleithedig gan y Parch. E. P. Howell, M.A., Prifathraw Ysgol Ramadegol Bottwnog: pris swllt. Bangor, Mri. Nixon a Jarvis, Bank place. Dyma lyfr rhagorol. Yr oeddem yn gydna- byddus a'r Wrawby Village Diologues or's blynyddau, a mawr edmygem yr addysg a gyf- renid ynddynt, yn ogystal a'r dull deheuig yn yr hwn y gosodid y gwirionedd gerbron ei ddar- llenwyr. Y mae y Parch. E. P. Howell wedi gwneuthur gwasanaeth gwerthfawr i'r Eglwys 11 11 11 a'r genedl drwy gyfieitliu mewn dull mor ar- ddercliog lyfryn cynwysfawr Mr. West. Gwelir fod y llyfr yn y Gymraeg yn rhatach na'r ar- r_1 graffiad Seisnig o'r hyn lleiaf, cofus genym i ni dalu deunaw am dano flynyddoedd yn ol. Dylasai pob Eglwyswr Cymreig brynu, darllen, a chwilio y gyfrol fechan hon. Boed i'r clerig- wyr anfon am gopi er mwyn, ar ol ei weled, iddynt gymeradwyo y llyfr i'w plwyfolion. HOLWYDPDOREG AR Y FOREUOL A'R BRYD- NAWNOL WEUDI (Gan John Palmer; cyfieith- iedig gan y Parch. W. Davies, Ficer Llanfi- liangel-Abercowin j pris He. yr un, neu Is. 4c. y dwsin. Caerfyrddin, swyddfa'r Journal. Da iawn. Nis gellir oael dim yn well at was- anaeth Ysgolion Sul ein plwyfi gwledig yn neill- duol na'r cyfieithiad hwn o eiddo ficer parclius Llanfihangel-Abercowin. Hyderwn y caiff gylchrediad eang, fel ag i symbylu ein cyfaill i fyned rhag ei flaen yn y cyfeiriad hwn. Galwn sylw arbenig arolygwyr ein Hysgolion Sul at yr 11 Holwyddoreg. THE POSITION OF OUR CHURCH IN WALES (A Lecture delivered by the Rev. T. Jesse Jones, M.A., Vicar of Pontlottyn. Price one penny. Church Printing Company, 11 Burleigh street, Strand). Trad(\odwyd y ddarlith hon gan yr awdwr yn y Neuadd Blwyfol, St. Jude's, Peckham, dan nawdd y gangen leol o'r English Church Union. Amcan ei thraddodiad, leddyliem, ydoedd goleuo meddyliau ein cyd-Eglwyswyr yn Lloegr ar gyflwr a safle yr Eglwys yn Ngliymru. Pwnc a 1 11 drinir bron bob dydd ydyw pwnc y ddarlith, ond y mae cryn newydd-deb yn nhrefuiad y ffeithiau a ddygir gerbron y darllenydd ga.n Mr. Jones. Y mae y ddarlith yn gyfraniad teilwng a gwerthfawr i lenyddiaeth amddiffynol y frwydr fawr rhwng Ymneillduaeth boliticaidd a'r Eglwys. HISTORY OF MRS. BEVAN'S CHARITY.—(By C. Morgan-Richardson: Cardigan, M. Thomas, St. Mary street). Byr-hanes neu grynodeb o darddiad, natur, a ehymwysiad Elusen Mrs. Bevan yw y llyfr hwn. Nis gallwn ddiolch yr awdwr ddigon am ddwyn allan gyhoeddiad mor amserol ac angenrheidiol. Buasai y llyfr yn ddyddorol unrhyw amser, ond y mae yn neillduol felly ar adeg fel y presenol, pan y mae seculariaeth gegrwth yn barod i draflyncu pob peth, Ve, hyd yn nod yr arian hyny a adawyd gan Eglwyswyr cydwybodol er addysgu y werin Gymreig yn athrawiacthau crefydd. Y mae yr awdwr wedi gwneyd ei ddyledswydd. Yr hyn sydd arnom eisiau yn awr ydyw cyfieithiad poblogaidd o'r llyfr, er mwyn ei ddosbarthu ar hyd a lied y wlad, fel y byddo i'n cydwladwyr wybod y gwirionedd am y gwaddol hwn a adawyd er hyrwyddo addysg grefyddol.
SIARS ESGOB TY DDEWI.
SIARS ESGOB TY DDEWI. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr, Yr wyf yn anfon cyfieithiad i chwi o'r rhan gyntaf o'r Siars uchod, yr hon a draddod- wyd i'w glerigwyr gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi yn Hwlffordd, Hydref 15fed, 1889. O'r pedair rhan sydd yn gwneyd i fyny y Siars hon, y rlian gyntaf a'r drydedd sydd a dyddordeb cyffredinol yn pertliyn iddynt. Os derbyniol y rlian hon, anfollaf gyfieitliiad o'r drydedd ran yn fuan. Fy unig reswm dros fyned i'r drafferth i gyfieitliu y ddwy ran yma yw, am nas gallant lai na bod yn ddyddorol i, a derbyniol gan, lawer o Eglwyswyr tu allan i gylch Esgobaeth Ty Ddewi. Gan obeithio y gwelwcli chwi yn dda, Mr. Golygydd, i ganiatau ychydig ofod o'cli papyr gwerthfawr i'r cyfieithiad anmherffaitli hwn—Y gorphwys, yr eiddoch, W. H. I.—CYNYDD YR EGLWYS YX YR ESGOBAETH. Fy Mharchedig Frodyr,-Trwy drugaredd Duw caniatwyd i mi orphen y bymthegfed flwyddyn o fy Esgobaeth, ac i gychwyn ar y burned Ymweliad Dair-blwyddol o'r Esgobaeth hon. Tra y mae llawer-ieuengachlla mí-yma ao mewn mauau eraill, wedi myned i'w cyfrif olaf. yr wyf fi wedi cael fy arbed hyd ya hyn, ac, mi a liyderaf, hyd yma, mewn meddiant o nerth digonol i gyflawni fy ngwaith. Am hyn yr wyf yn diolch i Dduw, gau fy mod yn deisyf, uwchlaw pob dim, beidio diffrwytlio'r tir. Er mor galed a phryderus fu fy ngwaith yn eich mysg, eto y mae wedi bod bob amser yn llawn o ddyddordeb i mi, ac nid yn llai felly yn awr nag yn y gorphenol; ond hyderaf na wna hyd yn nod y dyddordeb dwfn wyf yn deimto ynddo, llawer llai ystyriaethau iselach, fy nliueddu i ddal fy ngafael ynddo, neu, o'r hyn lleiaf, i'w ddwyn ymlaen heb gymorth egniol. pan yn ym- wybyddol nad yw fy nertli yn ddigonol iddo. Wrtli gwrs, pan yn erybwyll am fy nertli yn gyfartal i lafur gofynol yr Esgobaeth, golygaf y gwaith hwnw a fernir yn ol safou cyffredinol y dyddiau hyn, Y mae damcaniadau ar led ynghylch llafur Es»obol, yn benaf yinhlith y rhai hyny ag sydd yn anwybodus 0 waitli Esgob, a'r rhai sydd wedi ffurfio rliag-ddisgwyliadau sydd i'm tyb i, i'w tynghedu i siomedigaeth an- oclieladwy. Caf ddywedyd rliagor am hyn 11 y rhagllaw. Caf gyfleustra ddiwrnod arall i sylwi ar gynydd y gwaith esgobol yn y rliandir a n gynwysa E, s-o, aetli bi-eseiiol 'Ty Ddewi. Er I gwaetliaf barnau a draethwyd yn aclilysurol yn ein mysg ein hunain, ao mewn manau eraill, ac er gwaetliaf arferiad gwalianol rhai o'm brodyr, 11 y penderfynais am y presenol, o leiaf, i ymlynu wrth y drefn arferol o draddodi anercliiad fturf. iol i'r clerigwyr mewn cysylltiad ag ymweliad a'r Esgobaeth. Y mae yn ddyledswydd ag y buasai yn dda genyf gael fy rliyddhau oddiwrthi. I roddi cyngor awdnrdodol i gorph o ddynion dysgedig, llawer o ba rai sydd, o ieiaf, trwy eu gallu, eu barn, a'u profiad, a hawl ganddynt i roddi cyngor i mi fy huu-i argymell y cyfryw I i ddangos zel a diwydrwydd, y rhai nad ydynt 11 yn ol i mi fy hun yn y petliau hYll-i draddodi barnau ar bynciau cyhoeddus, y rhai, yn sicr, a gant eu beirniadu, a hyny mewn llawer engraifft, mewn ysbryd anghyfeillgar—dyma bethau y rhaid i unrhyw ddyn a gradd o wyleidd-dra a theimlad eu gochel. Ac eto, credaf fodgan yr anerchiadau cyfnodol hyn i'r clerigwyr eu gwasanaetli, os yr ymgymerir a hwynt yn yr ysbryd a ddylai lywodraethu holl ymdriniaeth Esob 4'r rhai hyny dros ba rai ymae wedi cael ei osod-ysbryd o hunan-anymddiried gostyng- edig, a chydymdeimlad cariadus. Beth bynag a feddylir ynghylch y priodoldeb o ymlynu wrth yr hen arferiad yma, hyderaf,os caf arbed- iad bywyd i gynal Ymweliad arall, na elwir arnaf i'w chyfnewid am ymdriniaeth ddadleuol, yr hyn, 'rwy'n tybied, a, wneir mewn rhai esgob- aethau eraill. Mae Eglwys Loegr, ar ol myned trwy gyfnod ymha un y bu i bob dadl gael ei distewi, hyd yn nod yn ei Chynghorau Cyfau- soddiadol, wedi rhuthro yn ddiweddar i'r eithaf- ion gwrthgyferbyniol o siarad gormodol a byddwn i yn anewyllysgar iawn, yn yr Esgob- aeth hon o leiaf, i droi yr Ymweliad yn fath o gyfleustra ychwanegol i ymddadleu. Yn bersonol, byddwn yn falch iawn i roddi heibio y Siars, ond nid wyf am gael Cynliadledd Esgobol ychwanegol yn ei lie. Ar yr amgylch- iad presenol ymdrechais, fel arferol, i grynhoi ystadegau ynghyd yn ymwneyd 4 chyflwr yr Eglwys yn yr Esgobaeth. Teimlaf yu ddiolch- gar iawn i'r clerigwyr am y drafferth a gymer- asant i ateb fy nghwestiynau. Cafwyd atebion o bron bob plwyf a Chapel Anwes. Yn y flwyddyn 1886 casglwyd ystadegau i mewn trwy beirianwaith arbenig a ddygwyd i fri y tro hwnw am y waith gyntaf, ond nis gallais wneu- thur defnydd o hono ar yr achlysur presenol. Yn yr Ymweliad diweddaf daeth yr atebion, neu rai o honynt, i mewn yn rhy ddiweddar i fod o unrhyw ddefnydd i mi yn mharotoad fy Siars. Er hyny y mae y ffeithiau a gynwysant, pan eu darllenir yn ngoleuni ystadegau henach a mwy diweddar, o werth er penderfynn maint y cynydd Eglwysig yn yr esgobaeth. Hyderaf y gwnaiff fy ngwrandawyr gyd-ddwyn a mi os gwnaf, wrth roddi swm a sylwedd yr ystad- egau, y rhai y galluogodd atebion y clerigwyrfi i gyraedd atynt, mewn perthynas i gyflwr pre. senol yr Eglwys, daflu cipdrem yn ol dros gan. lyniadau fy ymweliadau blaenorol. Ac yma y mae yn rhaid i nu roddi gair o ragrybuddiad ag y gorfu i mi roddi ar achlysuron blaenorol. Oni wna y clerigwyr gadw cofnodiad cywir o ffeithiau, nis gall eu hatebion, pa mor werth- fawr bynag yn y cyfanswm, gael en derbyn fel yn deilwng o grediniaeth Iwyr yn y manylion. Y mae ffigyrau cyfansymiol bob amser yn 11 y amheus, ac er fod yn dda genyf weled eu bod yn eithriadol yn yr atebion a ddychwelir, eto di- gwyddant yn rhy ami. Ond credaf fod yr atebion, ar y cyfan, yn sylweddol gywir. Cadarnhant y naili y Hall; a chan nad oes yr un rheswm mwy dros ddrwgdybio mwyhad ar yr amgylchiad diweddaf nag ar unrhyw a-m- gylchiad biaenorol, dynodant faint y cynydd, yr hwn, mewn rhai pethau pwysig, a fu mor gyson ag a fu o gyflym. 0 dan benawd y bedyddiadau a weinyddwyd gan glerigwyr yr Eglwys ni ddylai fod yr un 11 11 angliywirdeb, gan fod y gyfraithyn gofyn ly iddynt gael eu croniclo. Ond yma cyfarfyddir ni gan yr hyn sydd yn ymddangos yn gywrain iawn, am yr hyn, pan yr edrychir arno yn ngoleuni ystadegau eraill, nas gellir yn hawdd gyfrif. Cyfartal-rif blynyddol yr holl fedydd- iadau yn ystod y tair blynedd yn diweddu Rhagfyr 31ain, 1882, oedd 4.854. Nid yw cyi- artaledd y tair blynedd dilynol yn fy meddiant, ond ymddengys fod nifer y bedyddiadau yn 1885 yn 4,866. Y cyfartaledd blynyddol a fedyddiwyd yn ystod y tair blynedd diweddaf oedd 4,655. Ymddengys felly fod ychydig leihad yn y nifer. Yr unig fodd y gallaf roddi cyfrif am hyn, pan ystyriwyf gynydd rliyfeddol yr Eglwys mewn ystyriaethau eraill, trwy tei briodoli mewn rhan i awydd cynyddol a gwir naturiol rliieni Ymueillduol i gymeryd eu plant i'w bedyddio gan y rhai hyny sydd yn gweinidogaethu iddynt, ac mewn rhan i an. ewyllysgarwch cynyddol a gwir briodol ar ran y clerigwyr i fedyddio plant mewn tai anedd heb reswm digonol dros hyny. Yr wyf yn cofio pan oedd yr arferiad yma yn gyffredin iawn. Gobeithiaf, a chredaf ei fod wedi dyfod yn beth hynod o anaml yn &wr. Pa fodd bynag y gallwn roddi eyfrif am yr engraifft hynod, ond unigol hon, y mae y dystiolaeth a ddyry bedyddiadau rhai mewn oedran addfed- acli yn pwyntio i'r gwrthwyneb. Yn ystod y tair blynedd yn diweddu Rhagfyr 31ain, 1879, nifer bedyddiadau rhai mewn oed yn yr esgob- aeth oedd 426 yn ystod yr un eyfuod yn di- weddu Rhagfyr 3lain, 1882, yr oedd yn 633. Nid wyf mewn meddiant o'r returns am y tair tair blynedd dilynol, ond y nifer am y tair blynedd yn diweddu Rhagfyr 31ain, 1888, oedd 707. Gallaf ychwanegu fod nifer v bAilvilil. iadau a weinyddwyd gan glerigwyr yr Eglwys rywbeth yn agos i un rhan o dair o nifer y 0 genedigaethau a gymerasnnt le yn ystod yr un tymor. Os trown at dystiolaeth a ddyry cof- lyfrau yr Ysgolion Sul cawn brawf o gynydd amlwg a pliarhaol. Yn anffortunus bu yna ryw gymaint o ddyry swell rliwng y nifer ar y llyfrau a'r cyfaftaledd. Yn y flwyddyn 1877, y nifer a ddychwelwyd oedd 22,911, ond tueddir ni i gredu mai, mewn llawer engraifft, y cyfartaledd, ac nid y nifer ar y llyfrau, a ddychwelwyd ar yr achlyjur yna. Yn 1880 y cyfanswm a roddwyd oedd 28,763, ac yn 1883, 32,923. Ymddengys cofnodiad 1888 yn Mlwydcaadur Swyddogol Eglwys Loegr, yr hwn a rydd y rhif yn 27,468; ond y mae yn eglur fod y nifer yna yn golygu y rhif cyfartal o'r presenolion, ac nid y cyfanswm, yr hwn, ni a feddyliwn, oedd tua 34,000 neu 35,000. Dyry returns y flwyddyn hon y nifer cyfartal yn 30,544, a'r cyfanswm yn 39,712. Chwi a sylwch fod yr ystadegau hyn yn tueddu i gadarnhau y nailly llall, ac yn dangoscynydd hynod; cadarn- heir hwynt yn mhellach gan return8 y cymun- wyr. Y mae cofnodau y conffirmasiwn yn gyf- lawn, a gellir dibynu arnynt. Cymerais ofal i osod i lawr ar wahan nifer y rhywiau a gyflwvn- wyd ymhob canolbarth, ac o bob plwyf unigol. Rhoddaf yma y nifer a gonflirmiwyd yn ystod y pum' cyfnod tair-mlwyddol yn diweddu Rhag. tyro 31ain, 1876, 1879, 1882, 1885,1888 (vn eu tretn). Yr oedd y rhai hyn yn 4352, 5909, 7361, 7258, 8545. Conffirmiais 3004 yn 1887, a 3002 yn 1888. Gweioyddais Arddodiad Dwylaw yn barod y flwyddyn hon ar 2165, a ohan nad wyf wedi ymweled ti'r manau mwyaf peblog, y mae yn debyg na wna nifer y rhai a gonflirm- iwyd y flwyddyn hon ddim syrthio yn fyr o nifer y llynedd. A siarad yn gyffredinol, heb fyned i fanylder, gallwn ddweyd fod y nifer a gonffinniwyd wedi dyblu er pan ddechreuais a m gwaitli, Y mae rhif y cymunwyr wedi gra/ldol gynyddu er fy ymweliad cyntaf. Y rhifedi a ddychwelwyd yn 1877 uedd 26,589 yn 1880, 30,129; yn 1883, 33,180; yn 1886, 35,373* ac yn 1889, 39,4!)J. Oherwydd y dull penagored ymha un y dodwyd i lawr rai o'r ystadegau a ddychwelwyd, nis gallaf roddi llawn hydor arnyi-it, ond er hyuy ei-yi y cyfanrif yn ddisigl pan gofiom fod rhai plwyfydd heb anfon °u hyatadegau i mewn. Fodd bynag am hyn, cawn dystiolaotli o gynydcl hynod a graddol, yr hyn a gadarnlieir yn ddigonol gan ystadegau a ddychwelwyd ynglyn ;Vr Ysgolion Sul. Yr wyf yn meddwi y gallwn ddweyd yn ddibetrus fod niier y cymunwyr wedi cynyddu ddeg a deugain y cant yn ystod deuddeng mlynedd. Ni ddengys cofnodau yr urddiadau fawr o wahanianiaeth oddiwrth rai y tair blynedd blaenorol. Y mae yn deilwng o sylw fod cynydd diamheuol wedi cymeryd lie yn ansawdd y gwaith a gygyrchwyd yn yr arholiadan. Nifer yr eglwysi a gysegrwyd yn ystod y tair blynedd yn diweddu Awst, 1889, yw 10, yn erbyn 15 a gysegrwyd yn ystod y cyfnod tair-