Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
30 articles on this Page
PENMACHNO.
PENMACHNO. CYFARFOD YSGOLION EGLWYSIG.—Cynhelir y cyfarfodydd hyn yn chwarterol, pryd yr ym- gyferfydd Ysgolion Sul y Llan a'r Cwm. Sul, pythefnos i'r diweddaf, cynhaliwyd y cyntaf o'r rhai hyn eleni. Daeth nifer liosog ynghyd, er fod afiechyd wedi lluddias rhai i fod yn bresenol. Yr oedd yr atebion yn foddhaol, ac yn dangos fod yr aelodau, yn enwedig y dosbarth hynaf a'r ieuengaf, wedi bod yn ymchwilio i'r pynciau a roddwyd i lawr i'w arholi. Arholwyd y dos- barth hynaf oddiar St. loan ix. gan Mr. W. Edwards, ysgolfeistr y dosbarth canol gan Mr. Daniel Davies, Cwm, ar hanes Abraham, a'r dosbarth isaf ar yr Ail Catechism gan Mr. Thos. Hughes, Red Lion. Ar ddiwedd y cyfarfod amlygodd y Rheithor, sef y Parch. J. Jenkyns, y boddhad a dderbyniodd wrth wrando ar yr arholiadau a'r atebion, ac anogodd bawb i ym- chwiliad ychwanegol yn ystod y chwarter dy- fodol. Maes llafur dyfodol fydd i'r dosbarth hynaf 1 Cor. vi., dosbarth canol Hanes Jacob. Nid oes amheuaeth nad oes daioni a bendith yn deilliaw i ddeiliaid yr Ysgolion Sul yn y plwyf trwy'r cyfarfodydd hyn.
RHYMNI,
RHYMNI, CRONFA GLOFA'R LLANERCH. Dydd Sul cyn y diweddaf, casglwyd tuag at Gronfa y Lofa uchod, yn yr Eglwys, dros 915. Y mae yr Eglwys sydd yn son cymaint am ei chredoau, hefyd ar y blaen mewn rhinwedd a chariad tuag at ddyn yn mhob gradd a chyflwr. GWLEDD GERDDOROL —Dydd Mawrth di- weddaf, y 4ydd cyfisol, cafwyd gwledd ragorol yn y Victoria Hall gan gor plant Tredegar Road, dan arweiniad Mr. D. Davies. Meistrol- wyd y llyfr caled, ond dyddorol, The Snow- white, and the Seven Dwarfs," opeietta gan Dr. Root. Yr oedd tua mil o bobl yn bresenol. Yr oedd yr elw i fyned tuag at gael gwobrwyon i ffyddloniaid yr Ysgol Sul.
METHDALIADAU.
METHDALIADAU. Yn unol a. Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Mawrth 9fed, fel y canlyn :— 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 18 19 21 Chemists and Drysalters. 5 4 China, Glass, & Earthenware 1 2 2 Confectionery, Toys, &c. 3. 4. 1 Corn, Coals, Minerals 6. 7. 6 Drapery, Clothing Trades 26 19 19 Farmers n 22 7 Furniture, Upholstery. 1 6 Horses, Vehicles 1 4 4 Jewellery, Watches. 2 2 Leather g 7 J3 Metals G [ G JO Paper, Printing, &c 1 5 4 Provisions 29 34 31 Wines, Spirits, beer, &c. 15 14 15 Miscellaneous 38 23 16 170 174 157 J7
DOSBARTHWYR " Y LLAN."
DOSBARTHWYR Y LLAN." At Olygydd 11 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Mae yn hyfryd gweled rhestr mor rhag- orol o ddosbarthwyr Y LLAN ymhob sir. Go- beithio fod cymaint o gyfleusderau ynghyd a'r ychwanegiad yn maint y newyddiadur wedi esgor ar gylchrediad helaethach, ac anogaethol. Rhowch air o wybodaeth i'ch ewyllyswyr da. Gydallaw, paham nad ydych wedi gosod dos- barthwyr yn y trefydd yn Sir Fbn, gyda'r eithriad o Amlwch ?—Yr eiddoch, &c., EWYLLYSIWR DA.
LLANFAIP. D. C.
LLANFAIP. D. C. Y GARAWYS.—Cynhelir gwasanaethau neill- duol yn Eglwys y plwvf, yn wythnosol, am 7 o'r gloch yn yr hwyr, a phregethir gan y gwyr parchedig a enwir isod:—Dydd Mercher y Lludw, 19eg o Chwefror, Parch. Basil M. Jones, Llanfair D. C.; dydd Gwener, 28ain o Chwefror, Parch. Thomas Prichard, Llanelidan dydd lau, 6ed o Fawrth, Parch. E. M. Griffiths, Clocaenog; dydd Gwener, 14eg o Fawrth, Parch. Elias Owen, Efneclityd dydd Gwener, 21ain 0 Fawrth, Parch. W. P. Owen, Llanbedr; dydd (Gwener, 28ain o Fawrth, Parch. J. F. Reece, Llanfwrog dydd Gwener y Groglith, 4ydd o Ebrill, Parch. Walter Jenkins, Llanfair D. C.
GORSEINON.
GORSEINON. M.A.RWOLAETH. Miss Bessie Lewis wedi marw Dyna oedd y newydd difrifol ac an- nisgwyliadwyasyrthiodd ar ein clustiau fel taran-follt foreu Sul, y 23ain cynfisol. Prin y gallem ei gredu, llawer llai ei sylweddoli, ar y pryd. Yr oedd y foneddiges ieuanc, yr hon oedd ferch ieuengaf Mr. W. Lewis, Melin Monach, yn anwahanol gysylltiedig a bywyd Eglwysig Gorseinon er sylfaeniad yr achos yn y lie hyd ei chlefyd olaf. Yr hyn a nodweddai ein chwaer, yn ei chysylltiad q'r Eglwys, oedd ei llwyr-ymroddiad i waith yr Arglwydd. Prydiau oerni a gwres, gwlaw a hindda, Sul, gwyl, a gwaith, yr oedd Miss Lewis bob amser yn ei lie wrth yr organ. Yr oedd ei chalon yn y cor canu-, ac os byddai difrawder neu esgeulusdra ar brydiau yn meddianu rhai o aelodau y cor, ni fyddai neb yn teimlo hyny yn fwy na hi. 0 dan ei harweiniad hi, enillodd y cor iddo ei hun air da, a chanmoliaeth uchel gan y rhai oeddynt yn addas i farnu. Nid llai oedd ei ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sul; mynychai hon yn gyson tray gallai a pharhodd yn athrawes ffyddlawn hyd ydiwedd. Beth bynag oedd yn gymwys i'w j"hyw hi i ymgymeryd ef, ymaflai ynddo a'i noil egni. Nid colled fechan i Eglwys Gor- seInon yw colli Miss Lewis. Bu i'r anwydwst a ysgubodd yn ddiweddar dros y wlad ymweled a hI, dadblygodd hwn yn rheumatic fever, yna cydiodd y brain fever ynddi, o ba glefyd y bu yn y 29ain flwydd o'i hoedran. Dydd ercher, y 26ain cynfisol, cludwyd ei gweddill- 10 oiaxwol i fyuwent Pealle'rgaer. Yr oedd yr angladd yn gyfyngedig i ychydig berthynasau a chyfeillion ond yn yr eglwys ac ar lan y bedd, ymgasglodd tyrfa fawr o gyfeillion ac edmyg- wyr yr ymadawedig. Darllenwyd y gwasanaeth claddn yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch, T. P. Lewis, Penlle'rgaer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. Headley, Gors- einon. Traddododd Mr. Lewis bregeth fer, llawn o deimlad, a phriodol i'r amgylchiad, oddi- ar Preg. vii. 2. Canwyd dau emyn Seisnig yn yr eglwys ac ar ddiwedd y gwasanaeth yn y fynwent, canwyd yr hen emyn adnabyddus hwnw, Bydd myrdd o ryfeddodau." Yr oedd nifer fawr o bleth-dorchau yn gorchuddio yr arch, y rhai a anfonwyd gan gyf eillion. Yn eu plith, gwelsom rai oddiwrth Syr John a Lady Llewelyn, Penlle'rgaer; Dr. a Mrs. Jones, Casllwchwr cor yr Eglwys, dosbarth yr ym- adawedig, ac eraill. Bwriedir codi cof-golofn i'r drancedig gan Eglwyswyr Gorseinon, a gallwn ddywedyd yn ddibetrus ei bod yn haeddu gwneuthur ohonom hyn iddi. Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." [Derbyniasom gofnodiad rhagorol ei ysbryd a'i iaith oddiwrth M. G." o'r un digwyddiad galarus. Buasai yn dda gonym pe bae ein gofod yn caniatau i ni argrafTu y ddaa. Gan nas gallwn wneyd hyny, rhoddasom y flaen- oriaeth i'r un ddaeth gyntaf i law.—GOL.]
EIFIONYDD.
EIFIONYDD. Mae rhai o gorau Eglwysig Eifionydd, ynghyd a chor Pwllheli, yn parotoi ar gyf er gwyl gorawl, i'w chynal yn Eglwys Beddgelert, ddydd Llun y Sulgwyn. Yr anthem a ddewiswyd ydyw Llawenychais pan ddywedent wrthyf" gan Hywel Idloes, sef Mr. Howell, ficer Garthbrengi, Aberhonddu. Deallwn fod y parchedig gerddor yn brysur wrth y gwaith o gyfansoddi anthem at y cynhauaf.
LERPWL.
LERPWL. EGLWYS GYMRAEG ST. ASAPII, KIRKDALE.— Nos lau, y 27ain o Chwefror, cynhaliwyd yr wyl de a'r cyngerdd blynyddol mewn perthynas a'r Eglwys newydd hon. Yr elw tuag at y treul- iadau Eglwysig. Rhoddwyd y te ar y byrddau am 6 o'r gloch, o'r hwn y cyfranogodd oddeutu 250 o gyfeillion ac ewyllyswyr da yr achos yn y North End. Am 7.45, dcchreuwyd y cyngerdd dan lywyddiaeth Mr. Richard Owens, Anfield Road, arch-adeiladydd yr eglwys brydferth, yn cael ei gynorthwyo gan y ficer, y Parch. James Davies, A.C., a'r Parchn. J. Jones Davies, a W. H. Jones, St. Martin's-in-the-Fields. Ar ol anerchiad pwrpasol ac ymarferol gan y cadeirydd cafwyd cyngerdd ardderchog, y dafien yn cynwys caneuon Cymreig a Seisnig gan y boneddigesau a'r boneddigion canlynol Mrs. Williams, Misses Clara Morilsdale, Annie a Katie Davies, Esther Edwards, Mri. David Jones, Pryce Davies, Edward Roberts, Ward, Moorhouse, a ch6r St. Asaph dan arweiniad Mr. J. Bagshaw. Cyfeiliwyd gan Misses Kirkham a Barker I mewn modd medrus iawn. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno, a hyny yn rhad, gan y firm Messrs. Carmichael & Co., rhai a gymerant ddyddordeb mawr iawn yn y symudiad Cymraeg hwn. Ar ol diolch i'r cadeirydd, y boneddigesau a'r boneddigion oeddynt wedi cynorthwyo i ddwyn yr wyl flynyddol i'r fath ddiwedd llwyddianus, terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Efallai y bydd yn gysur ac yn galondid i'n cyd-Eglwyswyr yn yr Hen Wlad, i ddeall fod y gwaith yn y North End yn edrych yn llwydd- ianus iawn, yn brawf eglur fud y dosbarth gweithiol yn abl i werthfawrogi gwasanaethau yr Eglwys, ond i'r cyfryw gael eu darparu iddynt.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Y mae'n wir ddrwg genym ddweyd fod y Parch. Rossendale Lloyd, curad Seisnig St. Mair a St. loan, yn ein gadael, tra ar yr un pryd y mae yn dda genym am yr achos o'i ym- adawiad, sef ei benodiad, i reithoriaeth Selattyn yn Esgobaeth Llanelwy. Er. pan ddaeth Mr. Lloyd i'n plith y mae wedi bod yn hynod ddiwyd yn nghyflawniad ei swydd bwysig, ac wedi enill serch pawb yn ddiwahan. Urddwyd ef yn ddiacon gan Esgob Ty Ddewi yn 1887, ac yn offeiriad yn 1888. Rhoddodd Mr. Lloyd ei waith y flwyddyn gyntaf yn rhad ac am ddim. Cymerodd ran bwysig a dyddordeb yn y corau canu, a'r Gymdeithas Ddirwestol; ac yn wir, gyda phob peth mewn cysylltiad a'r- Eglwys. Un nodwedd neillduol yn ei gymeriod oedd ei liaelioni tuag at y tlodion, a'i ofal am y cleifion. Yr ydym yn llongyfarch Eglwyswyr Selattyn yn mhenodiad eu hoffeiriad newydd, ac eiddun- wn hir oes iddo yn ei le newydd, a gwen Duw arno tra byddo byw, Y mae y Parch. M. Jones-Powell wedi gafael yn ei waith o ddifrif, ac yn emll parch a serch yr Eglwyswyr o ddydd i ddydd. Y mae y c6r Cymreig sydd o dan ei ofal, am gymeryd rhan yn yr wyl gerddorol a gynhelir yn Defynog tua diwedd mis Mehefin nesaf, dan arweiniad y Parch. W. Howell (Hywel Idloes). Y mae'n fantais fawr cael curad sydd yn gerddor 'fel Mr. Jones-Powell.
ARBERTH A'R CYLCHOEDD.
ARBERTH A'R CYLCHOEDD. Da genyf hysbysu fod y Sunday School Association, perthynol i ddeoniaetli St. Clears, mewn sefyllfa dra llewyrclius, ac yn cyflym gynyddu yn rhif ei haelodau. Penderfynwyd yn ddiweddar i'r adran Gymraeg o honi gyf- arfod Mehefin nesaf yn Eglwys Mydrim, a'r adran Saesneg yn St. Clears. Dyddorol ydyw y pynciau a barotoir ar gyfer yr amgylchiad, sef Ila-nes Solomon, ac eglurhad ar y Foreuol a'r Brydnawnol Weddi. Eisiau mwy o esbonio y Llyfr Gweddi sydd arnom yn ein Hysgolion Sul, fel ag i ddwyn y plant i'w werthfawrogi megis ag y dylent, fel y llyfr gwerthfawrocaf yn eu meddiant, ag eithrio y Beibl. Cyhoeddodd Mr. Jones, Caerlyrddin, y dydd o'r blaen, esboniad bychan arno. Yr awdwr yw Mr. Davies, yr Ariandy, St. Clears. Yr wyf wedi ei ddarllen drwyddo yn ofalus, a chredaf fod ynddo bobpeth a ddisgwylir gael mewn llyfr o blygiad mor fechan. Gresyn na chyfieithid ef i'r hen iaith, oblegid dylai pob Eglwyswr ietlanc trwy y Dywysogaeth ei ddarllen. Arwydd o weithgarwch cynyddol ydyw gweled gwasanaethau neillduol yn yr Adfent o'r Garawys yn dylod yn fwy cyffxedinol bob blwyddyn yn y cymydogaethau hyn. Y mae Rheithor newydd Llawhaden wedi ymaflyd yn ei waith o ddifrif; y mae ganddo wasanaeth bob nos Wener yn yr Eglwys. uciiod, ac yn Bletherston bob nos Fawrth, a bydd offeiriad dieithr yn traddodi y genadwri ar bob achlysur. Bwriada hefyd gynal gwasanaethau dyddiol yn ystod Wythnos y Dioddefaint. Fel hyn y dylai fod ymhob Eglwys trwy y deyrnas. Drwg genyf i'r Hen Dy Gwyn a'r Daf" fod mor anffodus yr wythnos ddiweddaf ag anfon ei lith i Gaerdydd yn lie Merthyr Tydfil. Mae'r finwydwst wedi ein cyrhaedd bellach, a mawr yw yr achwyn o'i blegid.. Bydd yn chwith gan lawer o ddarllenwyr Y LLAN A'R DYWYSOGAETH glywed fod Rheithor parchus New Moat wedi ei daro ganddo, a'i analluogi i gyflawni ei ddyledswyddau er's rhai wythnosau bellach.- Cymro.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. MARWOLAETH.—Ar y 25ain o Chwefror, bu farw Miss Mary Ellen Jones, Ty'nllan, yn 24 mlwydd oed, ar ol hir nychdod, yr hwn a ddi- oddefodd yn dawel a dirwgnach. Cafodd y fraint o'i dwyn i fyny yn yr Eglwys, a bu yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Yr oedd yn aelod o'r cor er's llawer o flynyddoedd, a theimlir chwithdod ar ei hoi gan bawb a'i had- waenai. Claddwyd hi ddydd Sadwrn, Mawrth laf. Cychwynwyd y corff trwy i'r Parch. E. Davies weddio a rhoi penill allan i ganu. Yna blaenorodd yr orymdaith i borth y fynwent. yn cael ei ddilyn gan y cur, dan ganu 0 fryniau Caersalem ceir gweled," &c. Canodd y cor yn yr Eglwys yr anthem,ill Onid oes amser terfyn- edig i ddyn ar y ddaear," &c., ac ar lan y bedd, Mi a glywais lais o'r net yn dywedyd: Gwyn fyd y meirw," &c. Traddodwyd pregeth angladdol ar ei hoi nos Sul diweddaf, a chanwyd emynau priodol i'r amgylchiad. Heddwch i'w llwch.
LLANUWCHLLYN.
LLANUWCHLLYN. Y GARAWYS.-Cynhehr gwasanaethau neill- duol yn Eglwys y plwyf yn ystod tymor y Gar- awys. Y pregethwyr ydynt:—Y Parchn. Canon Richardson, Corwen James Jones, Bala John Morgan, Llangower David Williams, Glyn- dyfrdwy, a Dan. Edwards, Bala. CYFARFOD LLENYI)DOL.-Cynlielir y cyfarfod llenyddol hwn ar ddydd Llun y Pasg, am 6 o'r gloch yn yr hwyr. Y mae y testynau yn am- rywiol ac ami. Bydd tea party yn yr ysgoldy am 3 o'r gloch prydnawn ddydd Llun y Pasg i holl aelodau yr Ysgol Sul.
LLANGYFELACH.
LLANGYFELACH. CYFARFOD CYSTADLEUOL. Nos Sadwrn, Mawrth laf, y cynhaliwyd y cyfarfod hwn, gan aelodau y cSr a'r Ysgol Sul. Llywyddwyd gan Mr. Morgan Jones Jenkins, Gellifeddau. Yr adroddwyr llwyddianus yn Gymraeg a Saesneg oeddynt Mr. Jacob Hughes, Llainllienwen, a'r Misses Jane a Mary Morgans. Mynydd Garn- lwyd. Beirniaid yr adroddiadau oeddynt y Parch. Enoch Jones, M.A., Glandwr, a Mr. J. Evans, Felindre. Cynorthwywyd ni yn fawr y tro hwn gan Mr. Thomas Thomas, bandmaster, Cockett, a'r Mri. Lewis Palmer, J. Palmer, J. James, a Daniel Williams, o'r un lie. Yr ydym yn ddyledus i Mr. William Williams, Perthiteg, am barotoi a threfnu ar gyfer y cyfarfod hwn. -Un o'r lie.
GARTHBRENGY.
GARTHBRENGY. DIRWEST.—Bu y Parch. B. P. Griffiths, cyn- rychiolydd y GymdeithasDdirwestol (C.E.T.S.) yma yn ddiweddar. Cafodd wrandawiad astud. Gosododd y cwestiwn pwysig yn eglur gerbron ei wrandawyr, a dangosodd y mawr berygl o ymwneyd a'r ddiod ieddwol. Gwyn fyd na fyddai pob ffermwr yn cymeryd dan ei ystyriaeth gymaint o ddrwg y mae yn ei wneyd drwy roddi diodydd meddwol i'w weision yn ystod y cynhauaf. Dywedodd y Parch. W. Howell, y ficer, ei fod wedi gweled deuddeg o ddynion yn Lleyn yn lladd gwair heb gymorth John Barley- corn o gwbl, a hyny ar ddiwrnod poeth, tesog. Glasdwr a dwfr oddiar flawd ceirch oedd gan y bladurwyr i dori eu syched, ac nid cwrw a cider. Os gallant wneyd hyny yn y Gogledd, paham na allant wneyd hyny yn y De ? Pry- sured y dydd pan y deuwn oil i weled mai dir- westwr yw y gwr goreu ar gyfer unrhyw waith. Bydd yn dda genym weled y Parch. Parry Griffiths yma eto cyn bo hir.
TRALLONG A PHENYBONT.
TRALLONG A PHENYBONT. Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd cenhad- aeth yn y ddau blwyf uchod. Y cenhadwr oedd y Parch. E. T. Jones, Ficer Whitchurch, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Tudor Thomas, Rheithor Llanwrtyd. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog iawn, ac yr ydym yn credu y bydd argraff er daioni yn cael ei adael am amser maith ar y plwyfi uchod.
MERTHYR CYNOG.
MERTHYR CYNOG. Yr ydym yn edrych ymlaen gyda llawenydd at yr wyl gerddorol a gynhelir yn Defynog yn ystod yr haf nesaf. Y mae y cantorion wrthi yn ddiwyd yn parotoi erbyn hyny. Arweinydd y gan ydyw Mr. William Davies, ieu., Cross Keys Inn.
RESOLVEN.
RESOLVEN. MARWOLAETH.—Dydd Llun, y 24ain o Chwef- ror, hebryngwyd gweddillion marwol Annie Evans, un o hen aelodau cor Eglwys Resolven, i fynwent y plwyf. Yr oedd yr ymadawedig wedi bod am hir amser yn wael ei hiechyd. Treuliodd y rhan fwyaf o'r pedair blynedd di- weddaf yn Abertawe, lie yr oedd yn aelod ffyddlon iawn o'r Eglwys Gymreig (St. Mat- thew's), ac y mae y cor wedi cael colled fawr ar ei hoi. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. W. Ogwen Davies, a D. Griffiths, M.A., ficer y plwyf. Yn yr eglwys canwyd yr eiiiyn:- Pa Dduw ymhlith y duwiau Sy'n debyg i'n Duw ni ?" Yr oedd y chwaer ieuanc wedi deisyfu am i'r geiriau uchod gael eu canu yn ei liangladd. Canwyd hwy drosodd a throsodd yn deimladwy. Anfonwyd amryw bletli-dorchau ardderchog fel arwyddion o barch gan Miss Griffiths, y Ficer- dy, Resolven; aelodau cor Resoiven; Mrs. Careless, Mackworth Hotel, Abertawe; y Parch, Ogwen Davies, ac eraill, Nos Sul, yr 2il cyfisol, traddododd y Parch. Mr. Davies bregeth angladdol yn St, Matthew's ar ol yr ymadawedig, oddiar y geiriau, Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Heddwch i'w llwch,— B. P.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD. NEUADD NEWYDD.—Dydd Gwyl Dewi Sant, gosodwyd careg sylfaen neuadd a fwriedir godi 1 0 at wasanaefh holl enwadau crefyddol y dref yn ddiwahaniaetli. Rhoddydd y tir yw yr hyglod Dr, Pierce, ac y mae efhefyd yn myned i ddwyn holl dreuliau yr adeilad nes ei gwblhau. Rhodd- wyd y gareg gyntaf i lawr gan Mrs. Pierce, a'r rhai dilynol gan y Misses Pierce (iiithoecld), a Dr. A. Pierce, Lerpwl. Drwg iawn genym nad oedd y teilwng feddyg yn alluog i fod yn bresen- ol ei hun, ond yr ydym yn mawr obeithio y bydd iddo gael adferiad buan o'r ymosodiad presenol o'r anwydwst. Bydd y neuadd hon yn gaftael- iad mawr i'r dref. DARLITH.-N os Wener diweddaf, yn y Neuadd Drefol, traddodwyd darlith wir alluog ar "Al- cohol gan Dr. D. F. Evans, Ysbytty y dref hon. CYNGRAIR Y FRIALLEN.-iNos Wener, yr 28ain cynfisol, yn yr Ysgoldy Gwladwriaethol, cafwyd cyngerdd ysmocawl mewn cysylltiad a'r cyng- rair uchod. Cymerwyd y gadair gan y Milwr- iad Mesham, a chafwyd araith feistrolgar a galluog gan Mr. P. P. Pennant, Nantllys. Siaradwyd hefyd gan amryw eraill. PRio.N.-Nos lau, cynhaliwyd cyngerdd yn ysgoldy y lie hwn, yr elw at drysorfa yr ysgol. Cadeiriwyd gan y Parch. Lewis Williams, ficer y plwyf. HENLLAN.—Yr ydym yn deall fod Cadben a Mrs. Cole, Llysmeirchion, wedi myned i fwyn- hau awelon yr Eidal.—Y mae Eglwyswyr y plwyf hwn yn mwynhau doniau dieithr yn ystod y Garawys, sef y Parchn. J. Da-vies, Dinbych L. Williams, Prion; J. E. Jones, Bylchau; T. Lloyd, Llanelwy; R. Owen, Rhyl, a D. Griffiths, Dinbych.
RHANDIRMWYN.
RHANDIRMWYN. Nos Lun, Chwefror 24ain, bu y Parch. T. Evans, Henllys, yn arddangos ei Magic Lantern yn ysgoldy y lie uchod. Prif beth y cyfarfod oedd darluniau yn gosod allan Daith y Pererin," y rhai a eglurwyd gan Mr. Evans, ac yr oedd on ddyddorol ac addysgiadol. Hefyd, dangoswyd y dull y mae yr ymladdfeydd teirw yn cael eu cario allan yn yr Yspaen. Deallwn fod photographs yr holl slides ucbod wedi eu cymeryd gan Mr. Evans ei hun, ac wedi hyny eu paentio ganddo. Yn ddiweddaf, cawsom amryw comic slides, sef Punch and Judy," &c., a rhoddasant foddhad mawr. Treuliwyd tua dwy awr yn hapus a difyrus.-Dewi.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. LLANBEDR FELFRE.—Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y ddeoniaeth wlaol, ynghyd a darlith ar hanes yr Eglwys, yn Rheithordy y lie uchod, dydd Mercher, y 5ed cyfisol, y Parch. D. Pugh Evans, D.G., yn y gadair. Yr oedd yn bresenol y Parchn. J. E. Jones (Eglwys Cwmin), W. Davies (Abercowin), T. Davies (Llangan), T. Jones (Llanddowror), E. H. Lewis (Llanfallteg), O. Thomas (Cyffig a Marros), R. Davies (Llanbedr Felfre), J. George (Llandysilio), M. Jones (Lacharn), J. Thomas (Arberth), Dr. Lawrence (Waungrwn), R. Lewis (Pendine), &c. Cafwyd anerchiad dyddorol a grymus gan Mr. Mason, ar ddyled- swydd yr offeiriaid i amddiffyn yr Eglwys. Anogodd ni i wneyd hyny yn brydlon, trwy gyfrwng y Wasg Eglwysig, ac oddiar y llwyfan. Dywedodd y dylai pob off eiriad wneyd a allai yn ei blwyf, nid tuag adeg yr ethollad, ond yn flaenorol i hyny. Yr oedd Mr. Mason yn ei hwyliau goreu. Penderfynwycl rhoddi cefnog- aeth wresog i'r Wasg Gymreig o hyn allan. Am 7 o'r gloch (ar ol te), cafwyd un o'r areith- iau goreu a glywsom erioed ar Hanes yr Eg- lwys (gyda Dioramic Views ardderchog). Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a chafodd y darlith- ydd hyawdl dderbyniad brwdfrydig gan y dorf. Gwna Mr. Mason (fel Afonwyson yn Gymraeg), waith campus trwy gyfrwng y Magic Lantern. Cadeiriwyd gan y Deon Gwladol eto. Cynyg- iwyd ac eiliwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan y Cadeirydd a Dr. Lawrence. Dydd Gwener, buom ar ymweliad a Chowyn" a'i deulu bychan hapus. Cyn- haliwyd gwasanaeth y Garawys yn Llanfiliangel yn yr hwyr. Ar ol y gwasanaeth, cafwyd ysgol gân, ac aethpwyd trwy'r gwaith apwyntiedig ar gyfer yr wyl. Boddhawyd yr arweinydd da a ninau yn lawr, er fod yr anwydwst yn eadw llawer o'r cor gartref y noson hono. MARWOLAETH MR. PHILLIPS, GREEN HILL LLANGWNWR.—Er mawr alar i'w deulu a phawb a'i hadwaenai, ar ol cystudd byr, bu farw y gwr da uchod dydd lau diweddaf. Rhoddai'r addysg oreu i'w blant. Drwg genym na chawsai fyw i orphen y gwaith hwn. Yr oedd yn Eglwyswr o ddealltwriaeth dda, ac yn ddefnyddiol iawn yn y plwyf. Yr oedd iddo air da ganl' bawb, ac ni a hyderwn gan y gwirionedd ei hun." Heddwch i'w lwch yn "man fechan ei fedd" yn mynwent y plwyf, lie y claddwyd yr hyn oedd farwol o hono dydd Llun, y lOfed cyfisol. Gweinydd- wyd gan y Parchn. Samuel Jones, D.G., ficer y plwyf, a Davies, St. Anne. Nawdd y nef- oedd f'o ar ei weddw a'i deulu. Eiddunwn ad- feriad iechyd buan i'r hwn sydd eto yn glaf yn y teulu parchus. Da iawn, "Cymro." Dilyned eraill ei esiampl trwy gefnogi'r LLAN.
RHYL.
RHYL. CYFLWYNIAD TYSTEB I CANON RICHARD- SON.—Pan wnaed yn hysbys fod Canon Richardson yn bwriadu symud o Rhyl, cafodd yr ystyriaeth o hyn, a'i ymdrechion teilwng yn ein plith, ddylanwad mawr ar ei gyfeillion yn Rhyl, a phenderfynwyd gan bwyllgor neillduol fod tysteb i gael ei chyflwyno i'r parchus Reitlior. Prydnawn dydd Sadwrn, Mawrth laf, cynhaliwyd cyfarfod cylioeddus yn yr Ysgol Genedlaethol i'r diben o gyflwyno y cyfryw dysteb, yr hyn a gymerodd le yn y ffurf o Silver Tea Tray, Soup Tureen, Dining Hall Clock, Marble Timepiece, ynghyd ag anerchiad oreuredig. Yr oedd y gorchwyl o gario allan y gweithrediadau wedi eu hymddiried i bwyllgor, cadeirydd pa un ydoedd Mr. Stephen Roose, a Mr. T. Morgan Owen, H.M.I., yn ysgrifenydd. Cafwyd amryw areithiau, yn llawn tan, serch, a hiraeth. Wedi hyn cyfododd Mr. Richardson ynghanol cymeradwyaeth, a diolchodd i'w gyf- eillion a'r tanysgrifwyr am y teimladau cynes, a'r caredigrwydd neillduol a ddangoswyd tuag ato yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu yn Rheithor y plwyf. Gellir dweyd ei fod yn ym- adael aoa Llaneurgain gyda dymuniadau goreu ei hen blwyfolion.—Ab Trebor.
NODIADAU 0 DDYFFRYN TOWY.
NODIADAU 0 DDYFFRYN TOWY. LLANDILO ABERCOWIN. Gwaghawyd y fywoliaeth hon trwy ddyrchafiad y Parch. T. Lewis i fywoliaeth Llanstephan. Y Parch. W. Ll. Rees, B.A. (Cantab), sydd wedi ei derbyn ar gynyg y noddwr, Mr. Gwynne Hughes, Tregib. Plwyf bychan ydyw Llandilo Aber- cowin, ond er hyny fe gaiif Mr. Rees faes digon helaeth i arfer ei ddoniau er adeiladu muriau ysbrydol yr Eglwys Lan Gatholig. LLANSTEPHAN.—Y mae rhai pobl afrywiog eu hysbrydoedd yn arllwys eu teimladau yn y wasg leol yn erbyn penodiad Mr. Lewis, Llan- gynog, i Llanstephan. Ond 11a ddigaloned. Y mae yn anmhosibl boddhau pawb, Nid oes yr un apwyntiad yn plesio pob un. Gallwn sicrliau y Parch. T. Lewis fod mwyafrif y plwyfolion yn edrych aryr opwyntiad gyda boddhad, a chaiff dderbyniad croesawgar ganddynt pan y bydd yn dyfod i'w plith. CURAD NEWYDD DEWI SANT, CAERFYRDDIN. —Clywais fod un wedi ei apwyntio pwy ydyw, nis gwn. Awgrymwyd mai offeiriad 0 Llandaf ydyw. Mr. Gol., yr ydym ni, pobl sir Gaer yma, yn methu yn lan a dirnad pa beth ydyw y rheswm fod "bechgyn" Llandaf mor hoff o ddyfod i'r esgobaeth hon, Os bydd curadiaeth wag yma yn rhywle, y mae yn sicr ddigon y llenwir hi gan gurad o Llandaf. Y mae hyn yn rhyfedd, onid ydyw ? LLANARTHNEY.—Clywais fod yr hen dad, Prebendary Harries, yn penderfyim yrncldi- ¡ swyddo. Yr wyf wedi clywed hyn lawer gwaith cyn heddyw, ond dal ati y mae yr hen wron hyd yn hyn. Faint o wirionedd sydd yn y "si" presenol, amser a ddengys. YR ESGOB.-Clywais fod ei arglwyddiaeth yn wael, yn dioddef oddiwrth yr anwydwst. Disgwylid ef i'r esgobaeth yr wythnos hon, ond nis gallasai dd'od. Y mae yn debygol y bydd yn Abergwili tua dydd Sadwrn nesaf, ac y bydd yn dechreu ar ei waith yr wythnos nesaf.— Nodwr.
LLANDEGAI.
LLANDEGAI. Y GYMDEITHAS GEIDWADOL.—Nos Wener di- weddaf, cynhaliodd y Gymdeithas Geidwadol gyfarfod mawr cyhoeddus o dan lywyddiaeth y Milwriad a'r Anrhydeddus W. E. Sackville West. Arweiniwyd gall Mr. Roberts, Maesy- groes. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. M. M. Williams, Tre'rgarth, yr hwn sydd erbyn hyn yn dra adnabyddus trwy Gymru benbaladr. Cafwyd anerchiadau hefyd gan y cadeirydd a'r arweinydd. Cafwyd caneuon hefyd gan Mr. 0. Edwards, Caernarfon; Miss Roberts (Myfanwy), Bethesda; Mr. E. James (Ap Iorwerth), Bangor Mr. J. Hughes Roberts, Glan Beth- lehem, a Mr. W. Henry Jones, Talybont. Cawsant oil gymeradwyaeth wresog. Ar ddechreu y cyfarfod caed anerchiad barddonol doniol gan Mr. G. Maesfab Williams, Maesy- groes. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Mr. Owen Price, Llandegai, a Mr. Hugh Roberts, Glan Bethlehem. -Go hebydd.
LLITH 0 LANELLI.
LLITH 0 LANELLI. YR YSGOL GENFDLAEIIOL.-Cefais gip-olwg ar y Llanelly Parish Magazine am y mis hwn. Yr oedd yn wir dda genyf weled ynddo fod yr unig ysgol Eglwysig a feddwn yn y dref boblog hon wedi gwneyd mor ragorol o dda yn yr ar- holiad blynyddol ychydig wythnosau yn ol. Dywed adroddiad Arholwr y Llywodraeth fel hyn :—" Boys' School-The general condition of this school was very satisfactory. The boys were well behaved and passed a very good examination in the Elementary subjects. The Excellent' merit grant is awarded. Girls' School-The school was in good order. The scholars passed on the whole a fairly good examination. The merit grant 4 Good is recommended." Y mae yn llawenydd genyf groniclo un ffaith bwysig arall ynglvn a'r ysgol 11 1 11 hon sydd dan ofal y Parch. Canon Williams, sef, fod yr ysgolheigion yn gwneyd yn dda yn yr arholiad blynyddol perthynol i Esgobapth Ty Ddewi mewn gwybodaeth grefyddol. Yn ar- holiad y Pupil Teachers y flwyddyn ddiweddaf yn Esgobaeth Ty Ddewi, un yu unig gyrliaedd- odd y first class, a'r un hwnw ydoedd y llanc bychan W. Richards o Ysgol Genedlaethol Llanelli! Fe wel y darllenydd ar unwaith, fod plant ysgolddyddiol yr Eglwys yn Llanelli jn cael, trwy ymdrechion caled a difliao y Ficer, addysg fydol a chrefyddol, tymhorol ac ysbrydol da. Yn y dyddiau terfysglyd hyn, pryd y gwneir pob ymdrech gan Ymneillduwyr ac 1 11 Anffyddwyr i ddifodi ein hysgolion gwirfoddol, gweddïwn lawer am nodded ac amddiffyniad dwyfol. Beth fuasai sefyllfa foesol a chrefyddol ein gwlad heddyw oni bae gwasanaeth mawr ein Hysgolion Cenedlaethol yn y gorphenol ? CRYNODEP, 0 .GOF-LYFRAU EGLWYSIG. — Dengys y Llanelly Parish Magazine o dan y penawd hwn, i saith cwpl briodi, saith gael eu bedyddio, a deg eu claddu yn mynwent yr Eglwys yn ystod y mis diweddaf. TORI YR WYTHFED GORCHYMYN.—Cyliudd- wyd morwr o'r enw John Robert Shell, gan forwr arall o'r enw Robert Howell, o ladrata- ar y cyntaf o'r mis hwn—oriawr arian, ynghyd a'r gadwyn, gwerth tua thair punt. Cafwyd Shell yn euog, a danfonodd yr ynadon ef i dreulio mis yn un o garcharau ei Mawrhydi. Y PARCH. CANON WILLIAMS.—Y mae y Ficer parchus hwn newydd ddychwelyd o Dy Ddewi, lie bu yn treulio ei amser gofynol yn yr Eglwys Gadeiriol. Da genym ei weled yn edrych cystal ar ol ychydig fisoedd o seibiant yn ninas an- mhoblog ond hynafol Ty Ddewi. Yr ydym yn deall fod ei bregeth gyntaf ar ol ei ddychweliad yn Eglwys yr All Saints wedi creu cynwrf nid bychan yn meddyliau y bobl ieuainc hyny sydd a'u bryd ar clxwareu y bel droed Dywed y Llanelly Guardian: The Rev. Canon Williams strongly condemned the immoderate roughness practised in the game of football." Yr ydym yn teimlo yn dra diolchgar i'r parchus Ganon am ei sylwadau yr oeddynt yn wir angenrheidiol. Y mae Llanelli wedi enwogi ei hun mewn chwareuwyr y b01 droed, ac aryr hwn y treulia llawer o'n dynion ieiminc eu hamser, eu nertli, a'u harian Trueni na fuasai tymor y Garawys yn gallu ffrewyllu tueddiadau nwydwyllt ein pobl ieupinc HELAETHIAD "Y LLAN."—Da iawn Saif ein newyddiadur bellach ar y tir hwnw ag y dylai pob Eglwyswr Cymreig. wneyd ei oreu i gael cylchrediad mawr iddo. Ni gawn weled yn bur fuan a wna y bobl achwyngar am ei fychanrwydd yn y gorphenol, roi cartref croesawus iddo yn awr ar ol ei helaethiad !— Myrdclin Coch.
CWMAFON.
CWMAFON. MARWOLAETH A Cn LADDEDIGAETH.—Dydd Mercher diweddaf, bu farw y brawd parchus a tbawel William Davies, Cross Row, Cwmafon. Ni chafodd ond byr gystudd. Yr oedd yn gyfaill ffYÙlUll, didwyll, a charedig, ac a berch- id yn fawr gan bawb. Dydd Sadwrn, daeth tyrfa liosog ynghyd i daln y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Morgan Powell, B.A., Tanygroes, Mar- gam, perthynas agos i'r ymadawedig, Cyriym- wahanu, canwyd yr emyn Bydd inyrdd o ryfeddodau." CLADDEIHGAETH,Cymerodd angladd Mr. Joshua Griffiths, Peel Street, Cwmafon, yr hwn a fu farw ar y 2()ain cynfisol, le dydd Sadwrn, pan y daeth tyrfa fawr ynghyd. Blaenorid yr angladd gan aelodau Ysgol Sul Tymaen, yn yr hon yr oedd yr ymadawedig yn athraw gweith- gar. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf. Gweinyddwyd wrth y ty ac yn yr eglwys all y Parch. Thomas Jenkins. Yn yr hwyr darfu i'r cor Seisnig ganu yr emyn "How sw,eet the hour of closing day," o dan arweiniad Mr. Harris, a Mrs. Harris yn chwareu ar yr organ. Pan yn ymadael o'r eglwys, chwareuwyd y Dead March in Saul." Gweinyddwyd ar lan y bedd gan ein curad parchus. PRTODAS.—Mawrth yr 8fed, yn Eglwys y plwyf, Cwmafon, gan y Parch. Thomas Jenkins, curad, Mr. Willie Rees, mab hynaf Mr. Jenkin Rees, Accountant, Cwmafon, a Miss Jennet Williams, athrawes yn y Girls' School, Cwmafon, mereli y diweddar Thomas Williams, clochydd yn Eglwys y plwyf.-
NODION 0 DDEONIAETH LLANGOLLEN.
NODION 0 DDEONIAETH LLANGOLLEN. EJrychir ymlaen gyda disgwyliad am fenditli Duw ar y Genhadaeth a gynhelir mewn pedwar o blwyfi yn y ddeoniaeth uchod, yn ystod y mis presenol, sef Llangollen, Llantysilio, Llansant- ffraicl G.C., a Glantraian. Y cenhadon ydynt y Tra Pharchedig Ddeon Owen, a'r Parclm, Q, Jones, Mostyn J. W. Thomas, Bwlchycibau, a T. Lloyd, Llanelwy. PONTFADOG. -—Chwefror yr 28ain, nos-wyl Dewi, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol Eglwysi Glanau Ceiriog, yn Ysgoldy Pontfadog. Cymer- wyd y gadair gan Mr. T. E. Kooper. Cariwyd y cyfarfod ymlaen yn y drefn ganlynolAn- erchiad gan y cadeirydd, yr hwn, yn ei araith, a sylwodd mai buddiol iawn fyddai cael dosbarth at ddysgu cerfio (carving class) ymhlith chwar- elwyr y dyffryn can, Dvdd Gwyl Dewi," y Parch. W. Jones; beirniadaeth Mr. O. Owen, Croesoswallt, ar y pedwar penill i Gastell y Waen;" goreu, Mr. Thomas, Brynderw. Beirn- 1 iadaeth Mr. T. A. Hughes, G-lyn, ar y Llythyr v plentyn o dan 15eg oed at ei rienigoreu. Robert Evans. Darllendernynaroddwydary pryd; goreu, John U. Lloyd. Cor plant Ysgol Sul Eglwys y Glyn aeth a'r wobr am ddadganu, "Iesu Grist yn derbyn plant;" arweiniwyd gan Mr. E. Edwards. Am y ftedog oreu," aeth y wobr ntaf i illifs R. E a'r ail i Miss J. t,Y Thompson. Adroddiad, Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan;" goreu, R. Evans. Araith ddifyfyr; testyn, "Olwyn ddw'r;" goreu. John Jones ail, Thos. Davies. Am y llawysgrif oreu o'r Pedwerydd Gorchymyn, rhoddwyd y wobr y I gyntaf i Fred. Jones a'r ail i J. C. Lloyd. Deuawd, Y ddeilen ar yr afon rhoddwyd y wobr i Mrs. Davies a Mr. E. Ellis. Mr. W. Griffiths aet h a'r wobr am y Ffon Gollen moeu. Pedwarawd, Os hudol yw Flora;" gwobrwywyd Mr. E. Ellis a'i barti. Beirniad- aeth ar y traethawd, "Y styron enwau lleoedd yn Nyffryn Ceiriog goreu, Mr. Thos. Jones, Brynderw. Unawd (Baritone). "Y Cymro i" goreu, Mr. Ellis Hughes. Beirniadaeth Mrs. Morris ar y traethawd, Yr aelwyd yn gartref (cyfyngedig i ferched), a rhoddwyd y wobr i Mrs. Lloyd, School House. Chwibanu yr Hogyn gyru'r wedd goreu, J. C. Lloyd; ail. J. Jones. Am y celfydd^dwaith goreu o leclii'r dyffryn;" yr unig ym,,elsydd oedd Mr. D. Ellis, yr hwn oedd wedi gwneuthur ink- stand, paper knife, a penholder; a derbyniodd y wobr a sylwodd y beirniad, sef Mr. F. E. Kooper, fod yr ymgeisydd wedi arddangos llawer o gywreinrwydd yn ei waith. Parti o'r ,y Glyn aeth a'r wobr am ddadganu, "mi welaf mewn adgof." Cynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd, a Mr. Owen, ac eraill, am feirniadu, gan y Parch. D. Jones, ficer, Glyn, ac eiliwyd gan Mr. R. R. Thomas. Terfynwyd trwy bawb uno yn Hen wlad fy nhadau." Y DIWEDDAR MR. EDWARD ROGERS—Blin genym gofnodi marwolaeth Mr. Edward Rogers, Plas Onn, yr hyn a gymerodd le Chwefror I i-eg, yn yr 22ain fiwyddyn o'i oedran. Yr oedd y dyrfa fawr oedd wedi d'od i'w angladd yn tystio mor gymeradwy ydoedd yn yr ardal. G wasan- aethwyd wrth y ty, yn yr eglwys, ac ar lan y bedd gan y Parch. W. Jones, rheithor. Y mae y mourning cards yn cynwys y geiriau canlynol, pa rai a ddewiswyd gan y cyfaill ieuanc ym- adawedil, Rhowch glast, chwi i'enctyd glan, Ystyriwch eiriau dwys; Er tegwch, grym, a graen, Yn fuan ewch dan gwys 0 i enctyd, ffowch at Iesu gwiw, Rhag bod yn ol o deyrnas Dduw." el Boreu Sul, Mawrth yr 2il, traddododd y Parch. W. Jones, rheithor, ei bregeth angladd61 yn Eglwys y plwyf ar y testyn Cofia yn awr dy Greawdwr," &c., Preg. xii. 1., a daeth llawer o ieuenctyd yr ardal i'r gwasanaeth. YR ANWYDWST.—Nid oes fawr dy yn Nglyn Ceiriog nad yw yr anhwyldeb hwn wedi cymeryd ineddiant o rai or teulu.
ST. GEORGE S-SUPER-ELY.
ST. GEORGE S-SUPER-ELY. Eclrychid ymlaen gyda chryn ddyddordeb at ddydd Sul, Mawrth 9fed, yn y plwyf bach uchod, yr hwn a gynwysa oddeutu 200 o drigol- ion, sef yr oedd yr Arglwydd Esgob wedi benodi i weinyddu y ddefod o gonffirmasiwn yn Eglwys y plwyf. Yr oedd 34 o ymgeiswyr o'r plwyfydd canlynol:—St. George's-super-Ely, 20; St. Nicholas, 6 St. Lytlian, 3; Bonvilstone, 3 St. Fagan, 1; Pendovlan, 1. Trodd yr hin allan yn hynod ffafriol, a daeth lliaws mawr ynghyd, nes oedd yr eglwys yn orlawn, a llawer yn gorfod troi yn ol drwy fethu cael lie i fyned i mewn. Cymerwyd y gwasanaeth—yr hwn oedd yn hollol gorawl—gan y Rheithor, y Parch. J. Sinnett Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Johns, Rheithor St. Lythan. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. M. Whiteside, Rheithor St. Nicholas, a T. W. Moore, St. Fagan. Cafwyd anerchiad difrifol ac effeithiol iawn gan ei arglwyddiaeth. Dywedodd fod yn dda ganddo ef gynal y gwasanaeth pwysig hwn bob amser yn y plwyfydd gwledig ar y Sul, am ei bod yn rhoddi cyfleusdra i'r rhieni ac eraill fod yn bresenol, y rhai ni allent ddyfod ar ddi- wrnod gwaith.
DEONIAETH DINBYCH.
DEONIAETH DINBYCH. BYWOLIAETHAU RHUTHYN A LLANDYRNOG.— Un o'r pethau cyntaf y cawn y fraint o gofnodi yn y LLAN Fawr yw fod Rheithor Llandyrnog yn myned i gymeryd gofal o IJlwyf pwysig Rhuthyn, tra y mae y Parch., Bulkeley o. Jones, Warden presenol hiiuthyn. yn myned i Llan- dyrnog. Dygid hyn o gwmpas ar gais yr Esgob Edwards. Mae Mr. Bulkeley Jones wedi bod dros ddeugain mlynedd yn Rhuthyn, ac v mae Mr. Williams wedi llafurio yn Llandyrnog am flynyddau. Ni a hyderwn y caiff y ddau wr parchedig oes hir i wneyd gwaith da yn eu plwyfydd newydd.. GWASANAETHAU Y GARAWYS YN DINBYCH.— Mae y Rheithor wedi gwneyd trefniadau i gynal gwasanaethau neillduol yn Eglwys St. Mair yn • ystod y tymor hwi).Nos Lun yn Gymraeg. a nos lau yn Saesneg. Y testynau ydynt fel y canlyn :—Ail-enedigaeth, Troedigaeth, Dyfal- barhad, Moddion gras, Conffirmasiwn, a Dyled- swydd y Cristion yn ei wahanol gysylltiadau. Ar yr 28ain o Fawrth. cynhelir gwasanaeth y conffirmasiwn, a dywedir y bydd nifer dda o ddynion mewn oed yn cael eu conffirmio, Y G-ull.D" EGLWYSIG.—Tua mis Hydref diweddaf y cychwynwyd yr hyn a elwir Church Guild" yn y dref uchod. Mae'r Guild yn gyf- yngedig 1 ddynion yn unig, ac yn fwy at arbenig i ddynion ieuainc. U11 o amodau aelodaeth yw fod yn rhaid i'r ymgeiswyr fod yn aelodau o'r Eglwys ac o'r Ysgol Sul, os yn bosibl. Mae y mudiad wedi bod yn dra llwyddianus hyd yn hyn, a dwys hyderwn y gwnaiff barhau i gyn- yddu a myned ymlaen, oblegid gwaith pwysig yw gofalu am y bechgyn ieuainc. Yu YSGOL SUL.—Yn y rhifyn diweddaf o'r LLAX, cyhoeddwyd enwau y rhai a etholwyd dros y gwahanol ddeoniaethau yn aelodau" o Gyngor Ysgolion Sul Esgobaeth Llanelwy. Dros y ddeoniaeth hon etholwyd y Parch. J. Morgan a Mr. R. II. Roberts, Dinbych. GWJT pawb fod y ddau yma yn feddianol ar gryn brofiad yn ngwaith yr Ysgol Sul, ac am hynv y disgwyllr llawer oddiwrthynt. Tybiaf fod amser braf ar wawrio ar yr hen sefydliad god- idog—yr Ysgol Sul—yn yr esgobaeth hon. Beth bynag, gwneir ymdrech deg i ddwyn hyny oddi- amgylch. Gan mai anfon ychydig newyddion hon yw fy nvwriad wrth ysgrifenu, liwyrach v dylaswn ddwej^d gair am Undeb yr Ysgol Sul a fturfiwyl mis Awst diweddaf mewn cyfarfod a gynhaiiwyd yn Llandyrnog dan lywyddiaeth y Deon Gwladol. Mae y cynllun bellach wedi ei osod ar droed, ac y mae genym arwyddion da y calif yr Esgob a'r Deon Gwladol gefnogaeth a chydweithrediad yr offeiriaid a'r athrawon i'w berffeitliio a'i aario allan. Fel hyn, o dipyn i be}h, mae yr olwyn yn troi. a chyn bo hir mae'n ddigon tebyg y plenic peirianwaith yn ein plith, yr hwn, yn ol barn llawer o garedigion goreu yr Eglwys, a fydd yn foddion i enyn zel Eglwys- wyr yn gyffredinol yn ngwaith yr Ysgol Sul yn y ddeoniaeth.
ABERAERON.
ABERAERON. CLADDEDIGAETH MRS. DAVIES, CEFXMAES. -Bu Mrs. Davies farw, ar ol ychydig iisoedd o gystudd, ar ddydd Gwyl Dewi, yn Aberaercn, lie y mae y teulu yn aros ar hyn o bryd, Y dydd Mercher dilynol, sef y 6ed cyfisol. oedd dydd ei chladdedigaeth, pan yr hebryngwyd ei rhan farwol i fynwent henafol Henfynyw. Daeth tyrfa fawr ynghyd ar yr achlysur. ac vr oedd yn un o'r angladdau mwyaf, yn yr ystyr hwn, a fu yma er's tro. Dengys hyn ei bod hi a'r teulu yn hynod barchus yn y gymydogaeth,
YMWELIAD YR ANGYLION AIR BUGEIL.…
Llefaru wnaeth yr angel gwyn, A ddaeth o entrych nef,— Nac ofnwch, ac na fyddwch syn, Oblegid hyn yw'm llef, Newyddion o lawenydd mawr Rwy'n ddwyn i lawr i'r byd Na fydded neb sydd ar y 11a wr Heb wybod hyn i gyd. Fe anwyd heddyw Geidwad dyn I'w ddwyn o'i godwm caeth Newyddion gwell—er cread hyn 0 fyd erioed ni ddaeth Yn ninas Dafydd ganwyd hwn, A Christ yr Arglwydd yw, Fe ddaeth i achub byd yn grwn, Hoff Geidwad dynol ryw. Mewn preseb gwael yn Methl'em draw Cewch mewn cadachau'n glyd, Ddyn bychan wedi ei rwymo a Haw Ei fam sydd wrth y cryd." Tra'r angel yn llefaru hyn, Daeth llu o engyl glan I foli Duw a'u tannau'n dyn, 0 gariad ac o gan. 0 ogoneddus anthem gref Ddyrchafwyd gyda'r llu, Gogoniant a esgynai 'r nef 0 ddyfnder daear ddu O! fel dyrchafai'r nefol gor Brif anthem nef yn un, Gan foli Duw fel tonau'r mor, Nes synu natur dyn. Y boreu hwn ni chlywyd sain Cerddorion yn y coed Yn ddistaw oil oedd anian gain Ar foreu'r mwya' erioed; Ac fel dyrchafai'r llu eu mawl Wrth fyn'd o'r ddaear gron, Yr adsain glywid yn y gwawl, A heddwch oedd yn hon. I ffwrdd aeth y bugeiliaid mwyn 'I wel'd yn Methl'em dref 'R hyn hysbyswyd er eu dwyn I weled Brenin nef; Ac yno caweant Mair, ei fam, A Joseph wrth y cryd, Fel yr hysbyswyd iddynt am Waredwr mawr y byd. 0 enau y bugeiliaid hyn Rhyw newydd rhyfedd ddaeth, Nes gyru pawb a gwyneb syn Wrth wrandaw y fath iaith Pan glywodd Mair y pethau hyn, Nid aeth un dim ar goll, Ond cadw wnaeth y cwbl yn Ei chalon ddofn yr oil. Dychwelyd wnaethant nid yn drist 'R ol sylweddoli'r gwir, A gwel'd y baban hwn oedd Grist A gaed yn Methl'em dir Ac wrth ddychwelyd tua'r maes 'R oedd y bugeiliaid 'nawr Yn moli Duw wrth dd'od yn nes I weled toriad gwawr. Llangeitho. GWILYM GWYNFIL.