Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CONFOCASIWN CAERGAINT.

Advertising

RHESTR 0 DDOSBARTHWYR fly…

PIGION DIFYRUS.

DAMWAIN ECHRYDUS YN MHONTARDAWE.

RHYDDID CREFYDDOL.

News
Cite
Share

RHYDDID CREFYDDOL. DENGYS y dernyn canlynol allan o'r Werin am Mawrth laf, beth yw syniadau rhai pobl am ryddid, pe byddai y gallu yn eu dwylaw. Ni ch'ai offeiriaid o'r Eglwys weinyddu i Ymneillduwr hyd yn nod ar wahoddiad yr Ymneilldwyr eu hunain:—" Mr. Gol.,—Pan oedd eich go- hebydd yn ysgrifenu i'r Werin ar I Ym- neillduaeth a Phabyddiaeth,' yr oedd gweithred fwy anghyson a dirmygedig yn cael ei bod mewn ardal yn Mon. Mae yr hyn y cwyna efe o'i herwydd wedi myned, ysywaeth, mor gyffredin fel yr ystyrid ef yn anhebgor. Ond hyd ag y gwelais i, mae y weithred dan sylw yn sefyll wrthi ei hun. Yr oedd yma hen "'1' yn aelod gyda'r Ymneillduwyr, er's cyn cof i mi; ond, yn dra sydyn, daeth brenin braw heibio, gan roddi terfyn ar ei holl gysylltiadau a'r frawdoliaeth. Yr oedd ganddo nifer fawr o deulu wedi eu claddu yn mynwent y capel yr arferai fynychu, ac felly, yno yn naturiol yr eid ag yntau. Ar ddydd y gladdedigaeth, daeth nifer o'r cymydogion i'w hebrwng yno, ac yn brydlawn, ymhlith y lliaws, daeth y gweinidog perthynol i'r cyfryw gynulleidfa yno, gan fecldwl gwasanaethu wrth y ty fel arfer. Ond wedi hir ddis- gwyl yn yr oerfel, wele giwrad yr Eglwys yn d'od, ac, er syndod i bawb, wele ef yn parotoi at 'godi y corff,' ac ymaith a'r gynulleidfa am y gladdfa, a'r ciwrad yn eu dilyn am ychydig rydau, ac yna yn myned i'w ffordd ei hun fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Yn sicr, mae yr oes yn myned, yn y mwynhad o ryddid a thawelwch, i gyflwr o'r anystyriaeth mwyaf dirmygus o'r aberth fu raid roddi er eu cael. Os mai dyma ffrwyth gwaed y merthyron a dywalltwyd o oes i oes, gan swyddogion yr Eglwys, rhaid dweyd mai yn ofer ac am ddim y bu.— Cymydog."

GORMES AC ERLEDIGAETH GREFYDDOL…

[No title]

Advertising