Hide Articles List

17 articles on this Page

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH."

- CWMAFON.

Advertising

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRESENOL.

NODION 0 DDYFFRYN TOWY.

RHUTHYN.

--DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

--I TROEDYRHIW.

. MAESYGROES, LLANLLECHID.…

MERTHYR TYDFIL.

LLANELWY.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

NODIADAU 0 FEIRION.

News
Cite
Share

NODIADAU 0 FEIRION. Y CYNGOR SIROL A'R DEGWM.—Gwelodd ein Cyngor yn ddoeth i basio penderfyniad o barthed i'r degwm yn ei eisteddiad diweddaf, yr hwn a gynhaliwyd ychydig ddyddiau yn ol yn y Bala, yn gofyn i'r Llywodraeth ddarparu i'r degwm gael ei ddefnyddio at achosion cenedlaethol yn y mesur sydd i ddyfod gerbron y Senedd mewn ychydig ddyddiau. Mae rhyw ysfa ryfedd yn y dynion mawr sydd yn troi mewn cylchoedd bychain i ddangos eu hunain, drwy ddwyn i mewn gwestiynau nad oes a wnelo y Cyngor ddim a hwynt. Y mae y degwm yn eiddo yr Eglwys er bndd y genedl, ac yn yr ystyr yma, meddai Mr. W. H. Smith ychydig ddyddiau yn ol, y mae yneiddo cenedlaethol. Mae yr esgid yn dechreu gwasgu yn awr, ac y mae y Radical iaid gwrth-Eglwysig yn gweled y bydd i'r Llyw- odraeth bresenol sicrhau ei heiddo cyfreithlawn i'r Eglwys, a dyna'r achos o'r areithiau hir- wyntog a'r penderfyniadau nawswyllt hyn. PLWYF TALYLLYN.—Pan yn ysgrifenu hyn, nid wyf wedi clywed fod neb wedi ei benodi i'r rheithoriaeth uchod, yr hon sydd yn wig drwy farwolaeth y Parch. J. Hughes. Gwerth y fywoliaeth yw tua phedwar ugain punt yn y flwyddyn, a mawr hyderaf y penodir periglor ffyddlon i'w Eglwys i'r plwyf hwn. CYFARFODYDD LLENYDDOL.—Mae y corau Eglwysig yn dechreu parotoi eu hunain tuag at y gwahanol gyfarfodydd sydd i'w cynal yn y sir hon, sef cyfarfod Eglwysig yn Abermaw ddydd Llun y Pasg, a chylchwyl llenyddol Estimaner, yr hon a gynhelir yn Aberdyfi ddydd Llun y Sulgwyn. Cafwyd cyfarfod, cystadleuol pur Iwyddianus ynglyn ag eglwysi Llanfihangel-y- Traethau ac Eglwys Crist. Talsarnau, yn y lie olaf yr wythnos ddiweddaf. Y mae cyfarfodydd o'r fath hyn yn sicr o wneyd lies i'r Eglwys. Yn wir, gellir bron ddywedyd nad oes fawr o fywyd mewn Eglwys os na fydd yna ryw fath o gyf- arfodydd cystadleuol mewn cysylltiad a hi. CENHADAETH MAENTWROG. Cynhaliwyd cenhadaeth yn eglwys Maentwrog yr wythnos ddiweddaf. Y cenhadwyr oeddynt y Parch. W. Owen, Llanfrothen, a Morris Roberts, Llan- llyfni. Mae rheithor gweithgar a pharchus Maentwrog i'w fawr ganmol. Hon yw y drydedd genhadaeth yn y gwahanol eglwysi sydd dan ei ofal. Y mae y Parch. E. T. Davies, Aberdyfi, wedi bod yn cynal cenhadaeth yn eglwys Tyddyngwyn; y Parch. J. F. Reece, Llan- fwrcg, yn eglwys y Llan, Ffestiniog, ac, fel y crybwyllais, Mr. Roberts, Llanllyfni, fu y cen- hadwr yn eglwys Maentwrog. LLANFROTHEN.—Ychydig ddyddiau yn ol. bu rhialtwch yn y lie uchod oherwydd dyfodiad Mr. Evan Bowen Jones, etifedd Ynysfor, i'w oed. Anrhegwyd y boneddwr ieuanc a chadwen aur hardd ac amryw bethau eraill, a chafodd plant y gwahanol ysgolion dyddiol dê. &c. Mae yr Eglwys yn y plwyf hwn yn cynyddu. BLAENAU FFESTINIOG.—Pwnc y dydd, fel y dywedir, yn y lie hwn yw a wneir y Cocoa Rooms yn Ilyfrgell, neu a fabwysiedir Deddi y Llyfrgeiloedd Cyhoeddus. Dylai fod llyfrgell mewn lie poblogaidd fel y Blaenau, ond pa un ai llyfrgell wirfoddol ai gorfodol fydd—dyna'r pwnc.

RHYL.

DEONIAETH LLEYN.

--CWMAFON.

- CWMAFON.