Hide Articles List

17 articles on this Page

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH."

- CWMAFON.

Advertising

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRESENOL.

NODION 0 DDYFFRYN TOWY.

RHUTHYN.

--DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

News
Cite
Share

DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD. Y LLAN A'R DYWYSOGAETH.—Y mae yn achos o lawenydd mawr yn ein plith fod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn cael ei helaethu. Yr wyf yn gobeithio y bydd i ninau oil wneyd pob darpariaeth a moddion i helaethu ei chylch- rediad, ac felly ei defnyddioldeb. Y gwyn sydd wedi bod ydyw mai bechan ydoedd, er mewn gwirionedd nid oedd hyn yn gywir. Da gan rai'pobl gael rhyw esgus dros esgeulusdod yn nghyflawniad eu dyledswydd. Beth bynag am hyn, ni fydd sail dros wneuthur esgusawd fel hyn eto. Felly, bydd y bai o hyn allan yn gor- wedd wrth ein drysau ni. Yn awr, a wna pob teulu Eglwysig drwy y dref dderbyn a thalu am Y LLAN A'R DYWYSOGAETH o hyn allan ? Y mae yn fwy na gwerth ceiniog, ac y mae yn rhagori llawer ymhob ystyr ar y sothach sydd yn cael ei ddarllen yn gyffredin. Yr wyf yn anfon arian am gant o gopiau o honi, fel y caffo y rhan fwyaf o deuluoedd y plwyf gyfieusdra i'w darllen a barnu drostynt eu hunain. Gobeithio, ar ol hyn, y bydd o'r hyn leiaf gant yn parhau i'w dderbyn, ac y bydd iddynt eu hunain drefnu i'w chael yn wythnosol oddiwrth Mr. Arnfield, y llyfr-werthwr. Gadawaf i'r Parch. W. Williams, y rheithor, wybod am fy nghynllun, ac yr wyf yn sicr y gwna ei ran er ei hyrwyddo. Y lAt 0 FA WBTH.-Bydd yr hen drefn o gadw y dyd hwn yn cael ei gario allan eto eleni, sef, fod i'r clybiau gyd-gyfarfod, myned i'r Eglwys jim wasanaeth a phregeth, cyd- gerdded yr ystrydoedd, a chyd-giniawa. Y mae yr Assizes yn digwydd bod yr un adeg, ac felly bydd yma firi mawr. Dywedir y bydd achos a grea gryn ddyddordeb yn cael ei ddwyn gerbron y Barnwr ddydd Llun. Pa mor ofalus r ddylem fod gyda'r aelod bach afreolus sydd yn perthyn i ni I Mor hawdd llithro gyda'r tafod! Y GARAWYS.—Lied ddistaw ydym gyda'r tymor hwn eleni, ond hwyrach mai mewn distawrwydd y dylid ei dreulio. Nid ydym wedi clywed am ddieithriaid fel pregethwyr eto, ond nid yn ami y cyhoeddir pregethwyr yn ein Heglwys a hwyrach mai y rheswm o hyn ydyw, y dylem werthfawrogi y gwasanaath ar wahan oddiwrth y bregeth, a bod perygl pen- tyru i ni ein hunain athrawon, gan fod y clust- iau yn merwino." Ond clywais fod y Parch. D. R. Lewis, Caerdeon, yn pregethu yn Saesneg nos Iau, ac felly y mae yn debyg y cawn ninau y Cymry ambell i "wr dieithr.' LLANFACHRETH.—Y mae gwasanaethau neill- duol yn cael eu cynal yn y plwyf hwn yr wyth- nosau yma, a da genyf ddweyd fod y cyntaf yn laynod lwyddianus. Y pregethwr ydoedd y Parch. D. Herbert, curad Dolgellau, ac yr oedd, fel arfer, yn traddodi y genadwri gyda grym. Gobeithio y ca hir oes i wasanaethu ei Feistr Mawr yn ffyddlawna chymeradwy. Yroedd y gynulleidfa yn fawr ac astud, a'r canu yn wresog a chynulleidfaol. Drwg iawn oedd gan bawb ddeall fod y ficer, Mr. Davies, yn dioddef oddiwrth yr anwydwst. Dymuniad pawb ydyw ar iddo gael adferiad buan, gan fod iddo le uchel yn serchiadau ei blwyfolion. LLANALLTYD. G*yr pawb sydd yn adnabod Mr. Lloyd, ficer y plwyf hwn, mai cas peth gan- ddo ydyw gwneyd yn gyhhoeddus ei waith dis- taw, tawel, a dirodres. Ond yr wyf yn sier nad oes yr un dyn yn yr esgobaeth yn fwy diwyd a chyson gyda'i ddyledswyddau. Y mae ganddo dri neu bedwar gwasanaeth ac Ysgol Sul bob dydd yr Arglwydd, a dau neu dri gwasanaeth ganol yr wythnos. Y maeyn myned i'r Gan- llwyd bob wythnos yn gyson, ac yn rhoddi dau wasanaeth a dwy bregeth, er fod y pellder tua pedair milldir, a'r ffordd yn anghysbell. BRYNCOEDIFOR.-Rhan ydyw y plwyf Eglwys- ig hwn wedi ei dori allan o blwyf mawr Dol- gellau, a'r ficer ydyw y Parch. B. J. Morgan. Nawdd-sant yr eglwys ydyw S. Paul, ac an- hawdd ydoedd rhoddi gwell enw, gan mai prif amcan bywyd S. Paul ydoedd sefydlu Cristion- ogaeth mewn manau pellenig ac anhygyrch, a dywed rhai ei fod wedi dyfod drosodd i'n hynys ni, a phregethu yr Efengyl yma. Y mae Mr. Morgan yn gwneyd gwaith da yn ei blwyf, a thrwy ei fywyd dilychwin a'i bregethau difrifol yn gadael dylanwadau ar y plwyf na ddileir mo honynt. Y mae yma eto wasanaethau neillduol yn ystod y tymor hwn. Ond buaswn yn hoffi gofyn un cwestiwn, a dyma fo :-Pa sawlrhifyn o'r LLAN sydd yn cael ei ddosbarthu ymhlith yr Eglwyswyr ? Mae yno rai amaethwyr parchus yn gymunwyr, ond y mae yn amlieus genyf a ydynt yn gweled Y LLAN 0 un pen o'r flwyddyn i'r llall. Os ydyw hyn yn wir, yr ydwyf yn sicr y bydd iddynt wella. Cymered y lleygwyr yr awgrym yn garedig, a bydded iddynt bender- t5 15 fynu dosbarthu haner dwsin neu ragor yn wythnosol, a bydded iddynt hefyd ysgrifenu ych- ydig iddo ambell dro. Pa le y mae yr hen glochydd doniol a da? Anfoned ychydig o ffrwyth ei awen. CAERDEON.—Ficer y plwyf hwn (a dorwyd allan yn ddiweddar o blwyf helaeth Llanaber) ydyw y Parch. D. R. Lewis, mab un o berson- iaid gweithgar Trawsfynydd. Y mae Mr. Lewis yn ysgolhaig gwych, ac yn gallu pregethu yn rhwydd a da yn y ddwy iaith. Er nad ydyw wedi bod yma yn hir, y mae ol ei lafur i'w gan- fod yn barod. Y mae eglwys Caerdeon wedi ei harddu a'i threfnu, ficerdy newydd o'r bron wedi ei adeiladu, ac eglwys haiarn hardd wedi ei chodi yn Bontddu, mewn lie cyfleus a chanolog. Pa fodd y mae yn gallu gw nsanaetbu y ddwy eglwys mor ffyddlon sydd ddirgelwch i mi, ac yntau heb ei fendithio a chyfansoddiad cryf. Mr. Gol., gall yr uchod sawru gormod o sebon- eiddiwch, ond nid yw yr oil a ysgrifenwyd am y plwyfi uchod ond ffeitliiau diymwad, a chan fod yr Eglwys yn gwneyd cyffelyb waith mewn manau eraill, cymered ei haelodau gysur.-Syll- dremydd.

--I TROEDYRHIW.

. MAESYGROES, LLANLLECHID.…

MERTHYR TYDFIL.

LLANELWY.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

NODIADAU 0 FEIRION.

RHYL.

DEONIAETH LLEYN.

--CWMAFON.

- CWMAFON.