Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH."

- CWMAFON.

Advertising

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRESENOL.

News
Cite
Share

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRES- ENOL. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Yn fy llith flaenorol, dangosais rai o'r ffaeleddau mawrion sydd yn anurddo yr Eglwys ac yn rhwystrau mawrion ar ffordd ei hywyd vsbrydol, a'i gweithgarweh. Caf ddyfod yn bresenol at fifaeleddau eraill sydd ynddi yn galw yn uchel am eu symud ymaith ar unwaith. Dywedais o'r blaen mai y person yw tad ysbrydol yn ei blwyf, ac mai ei ddelw ef sydd yn argraffedig ar fywydau a gweithgarwch ei blwyfolion. Os bydd ef yn obtyngedig a gweithgar, y maent hwythau felly os yn y gwrthwyneb, yn ddifater ac easy-gplng, y maent hwythau yr un fath. Yn ot y gooodiad, j uchod, fe welwn fod undeb, llwyddiant, a gweithgarwch Eglwysig yn ymddibynu, yn gyfangwbl, ar pa fath berson sydd yn y plwyf. Y mae llawer iawn o bersoniaid yn hoff iawn o fyned yn ami oddicartref, er mwyn dangos eu doniau," ac enill poblogrwydd iddynt eu hunain. Siaredir yn uchel a pharchua iawn am danynt oddicartref, ond nid felly gartref, a pha ryfedd, oblegid nid yw y claf, y tlawd, na'r am. ddifad byth yn gweled eu gwynebau. Gadewir hwynt i drugaredd y byd-neb, yn gofalu am danynt, nac yn ceisio rhoddi yr un cysur na rhybudd iddynt. A mawr yw y cwyno a'r' achwyn sydd yn erbyn y fath bersoniaid, a hyny yn ddigon naturiol; ond beth dal siarad, mae yn rhaid i'r itinerant divines ddangos eu doniau oddicartref. Y mae myned oddicartref yn rhy ami yn niweidiol iawn i lwyddiant a gweithgar- wch Eglwysig, ac yn creu oerfelgarwch yn y cymunwyr a'r gynulleidfa tuag atynt; a phan fyddypersoniaid mewn rhyw gyfyngder ychydig iawn o gydymdeimlad dderbyniant oddiwrth y cymunwyr, yr hyn sydd yn ddigon natnriol. Y mae y cyffrawd gwrthddegymol yn profi hyn tuhwnt i bob amheuaeth fel rheol, ni x% naeth y cymunwyr, yn ngwahanol blwyfi, roddi yr un help o gwbl i'w bugeiliaid ysbrydol; na. gadaw- sant yr offeiriaid i ymladd goreu ly gallent, fel pe na byddai yr Eglwys yn perthyn o gwbl iddynt, ac nad rhan o'r Eglwys ydynt. Dyna'r ffaith, bydded ef dderbyniol ai peidio, yr hyn sydd yn profi fod something is rotten in the state of Denmark." Dangoswch chwi berson i mi sydd yn gwneyd yn fawr, ac yn dysgu ei Eglwys yn y Llyfr Gweddi, a'u dyledswyddau tuag ati, dangosaf i chwi Eglwya, yr hon a allan fel un gwr i amddiffyn hawliau eu person, ac a fynant weled ei fod yn cael chwarou teg, ac na chaiffi ddioddef o gwbl mewn un modd. Os aelodau o gorff Crist ydym y mae yn rhaid i bob aelod gydymdeimlo, a chynorthwyo y naill a'r llall-y oyfoethog, y canolradd, a'r tlawd. Ond nid felly y mae yn gyffredin yn bresenol. Apwyntir yn rhy gyffredin, Saeson, yn enedigol o Gymru, i blwyfi hollol Gymreig, y rhai ni fedrant gydymdeimlo a'r Cymry mewn un dull na modd. Y mae y dull Seisnigaidd o gario y gwasanaethau ymlaen, yn hollol gross i natur a theimlad y Cymro. Y n He enill y Cymro yn ol at yr Hen Fam, gorfodir ef o'i an- fodd i droi ei gefn arni, a chwilio am gartref ysbrydol mewn lie mwy cydnaws a'i natur. Teflir yn ein gwyneb yn rhy ami mai 44 Eglwys y Saeson yw'r E,c,lwys," ae Eglwys y bobl fawr a chyfoethog." Faint o wir sydd yn hyn ? Y mae yn rhaid i'r Cymro gael Cymraeg pur heb lediaeth, ac yn llawn tgn a hyawdledd a phan y ca hyn, nid oes eisiau i neb bryderu yn nghylch dyfodol yr Eglwys. Cofied darllen- wyr Y LLAN nad wyf am daflu anfri ar y Saeson; na, y mae genyf y parch mwyaf di- ffuant tuag atynt. Yr hyn wyf am ddangos yw, mai camsyniad mawr yw apwyntiad Sais i blwyf Cymreig, ac yr wyf yn gobeithio fod pawb yn barod i gyfandef fod hyn yn ddigon naturiol. Y mae eisiau, hefyd, talu sylw neillduol i ieuenctyd ein Heglwysi, bydded hwy dlawd neu gyfoethog, a'u dysgu yn athrawiaeth ac hanes yr Eglwys, fel y gallont ar fyr amser lanw lie y rhai hyny sydd yn cael eu galw i fyd y gor- phwysfa. Y mae yn rhaid gofalu a maethuyn briodol y genhedlaeth svdd yn codi, a'u gosod mewn gwahanol swyddau yn Eglwys Dduw, gun obeithio y gwelir Hen Eglwys ein Tadau, yr hon sydd yn cael ei phardduo a'i cham- ddarlunio yn y modd mwyaf cywilyddns yn bresenol, yn adenill y defaid sydd wedi myned. ar gyfeiliorn a'u dwyn yn ol yn finteioedd ar fyrder i'r hen gorlan. Y mae peirianwaith a| chyfundrefn yr Eglwys yn ddigymar, ond iddynt gael eu gweithio a'u cario allan yn briodol ac effeithiol". Y maent wedi myned i rydu er ys talm, ond gobeithio fod dydd ar wawrio pan y caut eu gweithio yn iawn, ac y byddant yn y full swing yn fuad. Wedi i hyn gael ei ddwyn oddiamgylch, ni roddir lie i gynhadleddau o Eglwyswyr, yn gyffelyb i'r gynhadledd a gyn- haliwyd yn Rhyl yn ddiweddar, i ddweyd nad oedd y personiaid, neu lawer iawn o honynt. ddim yn cyflawni eu dyledswyddau fel y dylent, Peidiwch, da chwi, roddi lie i gyfaill na'r gelyn igondemnio. Llwyddiant i'r Eglwys a'r LLAN.— Yr eiddoch, &c., C.

NODION 0 DDYFFRYN TOWY.

RHUTHYN.

--DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

--I TROEDYRHIW.

. MAESYGROES, LLANLLECHID.…

MERTHYR TYDFIL.

LLANELWY.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

NODIADAU 0 FEIRION.

RHYL.

DEONIAETH LLEYN.

--CWMAFON.

- CWMAFON.