Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,

AMCAN "Y LLAN."

Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.

"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.

PYNCIATJ DYDDOROL.

TYMER EGLWYSWYR.

--YR WYTHNOS NESAF.

Y CYMRY YN LLUNDAIN.

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…

Advertising

NODION O'R HEN OESAU, &c.

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…

News
Cite
Share

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG LLANTHONY, ABERGAVENNY. (GAN EIN GOIIEBYDD ACHLYSUROL PENDERW.) Fe saif y Fynachlog hon mewn He angliys- bell, allan o swn a dwndwr y byd, yn Nghwrn Ewias, rhwng mynyddau a bryniau, ar gyffiniau siroedd Brycheiniog, Mynwy, a Henffordd, oddeutu deuddeg milldir o Abergavenny. Y C, mae enw a gwaith y Tad Ignatius wedi gwneu- thur Mynachlog Llanthony yn hysbys drwy y byd gwareiddiedig. Y mae canoedd o bererin- ion o bob gradd ac oedran yn mynycliu y fangre hon yn ystod yr haf bob blwyddyn. Dywedir fod gan St. Dewi ei hun gell yn y fan hon. Ymdaenodd y si ychydig ddyddiau yn ol fod y Tad Ignatius wedi marw, a mawr y gofid a phryder calon a achosodd yn y cymydogaethau hyn, oherwydd fe anwylir y Tad Ignatius yn fawr iawn gan bawb a'i liadwaenant am ei dduwioldeb a'i hunan-ymwadiad. Y mae tyrfa- oedd yn cyrchu i'w wrando yn yr ardaloedd hyn, fel yn Ngliaerdydd, Llundain, a manau eraill. Y mae yn arfer pregethu unwaith neu ddwy yn y flwyddyn yn Abergavenny, ac ni ellir cael yno ystafell ddigon helaeth i gynal y boolobdd a ddewisant wrando arno, a gwelir canoedd yn dychwelyd adref ar ol cau y drysau. •Bydd yn dda, mae yn ddiameu, gan ddarllen- wyr Y LLAN A'R DYWYSOGAETH glywed fod y Tad Ignatius eto ar dir y byw, a gobeithio fod llawer o flynyddoedd o'i flaen i bregethu Efengyl y Groes i'r byd moethus ac hunanol presenol. Y mae athrawiaeth a buchedd y Tad I gnatiu s yn cydfyned, gan bregethu y groes a'i gwersi bob amser ac ymhob man. A Minau, os dyrchefi Fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Adnabum lawer o ddynion gynt a ymwylltient o flaen llun y groes fel tarw rhag cadecliyn coch. Tynwch y groes a'i gwersi o grefydd yr lesu, ac ni fydd eich cyfundrefn ond damcaniaeth fydol —annibendod annibyniaeth, ac fe esgor ar ragrith, hunanoldeb, lladrad Duw a dyn. Ed- rychwch ar gyflwr truenus y byd Ymneillduol -y mae wedi ymrwygo i dros ddau gant o wahanol bleidiau yn y deyrnas hon, yn barod i ysglyfaethu bob un y llall, ac hefyd i ymgyfath- rachu a'u gilydd i sarnu a dinystrio yr Eglwys. Cynal cyngherddau a chyfarfodydd gwleidyddol yn nhy Dduw, troi yr areithle yn lwyfal1 polit- icaidd, y pregethwyr yn arwain y bobl i dori y gorehymyn, Na ladrata." Y mae arwydd- ion yn amlwg fod Icliabod tragwyddol wedi ei cl y lefaru o'r diwedd uwchben y:cawdel disynwyr— Hir yr erys Duw cyn taro, Llwyr y dial lie y delo." Ac Efe a ddywedodd wrtliynt, Ty gweddi y gelwir fy nhy i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof Iladron." t, Cenwch yr udgorn yn S Yon, cysegrwch ym- pryd, gelwch gymanfa: cesglwch y bobl; cys- egrwch y gynulleidfa: wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dy wedant, Arbed dy bobl, 0 Arglwydd." Cynhelir Merchey y Lludw gan fynachod Llan- thony yn ol arferion yr hen Eglwys Gymraeg. Y mae llawer o ddynion wedi angliofio paham y gelwir y dydd yn Mercher y Lludw. Gellir gweled yma flwyddyn ar ol blwyddyn y myn- achod ar y dydd hwn yn ymprydio ac wylo mewn lludw, yn ol gorchymyn Duw, gan geisio gwneyd penyd am eu pechodau eu hunain ac eiddo eraill. Dechreuwyd y gwasanaeth am ddau o'r gloch yn y boreu gyda myfyrdod a chanu maw]. Yr oedd gwasanaethau eto am chwech ac am wyth. Gwisgwyd y brif allor a'r canwyllbrenau mawrion mewn du, ac yr oedd lludw wedi ei daenellu ar hyd llawr yr eglwys. Am ddeg dechreuwyd seinio y clychau oil, gan alw y bobl i brif wasanaeth y dydd, ac yn awr ac yn y man clywid trwst y gloch fawr, "St. Bernard," fel tabwrdd aruthrol ymhlith offer cerdd. Am haner awr wedi deg gwelid y Tad Ignatius yn esgyn y grisiau i fendithio y lludw ar y brif allor. Wedi gwneuthur hyn mewn geiriau a dull difrifol iawn, efe a daenellodd ran o hono mewn llun croes ar ei goryn eilliedig, gan ddywedyd, Cofia, 0 ddyn, mai lludw ydwyt, ac i'r lludw y dychweli." Ar ol hyn daeth lletywyr y Fynachlog, yn offeiriaid, myaachod, mynachesau, a chorgeiniaid, ac amryw o'r gyn- ulleidfa, i fyny, gan benlinio o flaen yr allor. Tywalltodd y tad parchedig ludw ar ben pob un, gan arfer yr un geiriau, sef Cofia, 0 ddyn, mai lludw ydwyt, ac i'r lludw y dychweli," Wedi hyn dywedwyd a chanwyd yr offrwmwasanaeth. Ni ddefnyddir yr organ yn ystod tymhorau yr Adfent a'r Garawys. Pregethodd y Tad Ignatius yn fyr a tharawiadol iawn oddiar y geiriau,— Dychwelwch ataf Fi a'ch holl galon, Ag ym- pryd hefyd, ac ag wylofain, ac a galar." Ar ol hyn dywedwyd gwasanaeth y Comminasiwn, gan ganu y Salm li. a'r gwersi canlynol, a phawb yn gorwedd ar y llawr a'u gwynebau yn y llwch, rhwng y porth a'r allor. Parhaodd y gwahanol wasanaethau hyd wyth o'r gloch yr hwyr hwnw, ac nid oedd neb drwy yr holl amser wedi profi tamaid o ymborth o un math na llymaid i'w yfed. Taer weddiau a esgynasant at orsedd gras dros bechaduriaid oddiwrth fynachod Llanthony yn ystod y diwrnod hwn. "-Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Felly y treuliwyd dydd cyntaf y Garawys yn y Fynach- log hon, yn ol gorchymyn Duw, gydag ympryd, wylofain a galar.

Advertising

LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.

PIGION DYDDOROL.