Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,

AMCAN "Y LLAN."

Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.

"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.

PYNCIATJ DYDDOROL.

TYMER EGLWYSWYR.

--YR WYTHNOS NESAF.

Y CYMRY YN LLUNDAIN.

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…

Advertising

NODION O'R HEN OESAU, &c.

News
Cite
Share

NODION O'R HEN OESAU, &c. [GAN ALLTUD EIFION.] YR ESGOB HUMPHREYS. Yr Esgob Humphreys, Esgob Bangor, ydoedd fab i Rhisiart Humphreys, Hendre isaf, Pen- rhyndeudraeth. Y mae y dywedig Richard Humphreys wedi ei gladdu yn mynwent Llan- frothen. Y mae'r ffigyrau sydd ar gareg ei fedd wedi treulio fel nas gellir gweled ei oed, dim ond y flwyddyn y bu farw, 1703. Y GADAIR DDERW WRTH BEN BWRDD Y CYMUN YN YNYSCYNHAIARN. Pan adgywei-fiwyd eglwys Llanfihangel, Eifionydd yn y flwyddyn 1838, gwnaed cadair o dderw du ag ydoedd yn nen yr eglwys drwy or- cnymyn y periglor, y Parch. J. Jones, Mynydd I Ednyfed. Ceisiwyd cloch newydd, a rhoddwyd yr hen gloch i eglwys Treflys. BEDD RHYS GOCH ERYRI YN MYNWENT BEDDGELERT. Y mae ywen werdd gauadfrig uwchben bedd- rod (lie yr oedd colofn gynt) y Bardd o'r Hafod, yr hwn a flodeuai yn amser y cysegr-ysbeiliwr, Harri yr Wythfed. Yn y flwyddyn 1570, ym- welodd William Lleyn a'r fynwent hon, a chyfansoddodd yr englynion canlynol ar y pryd:— Y maen-ddarn, cadarn y cedwi-brif-fardd, Ba ryfedd y'th godi! Gorweddaist lie toaist ti I Ar war Rhys Goch Erytri." if Carnedd Bhys a'i fedd fu addien-freuglod I Tan y friglas ywen Cor gwiw nadd careg ei nen, Clawdd du lie claddwyd awen. Bedd hen, llys awen, llys ieuwerdd-dan faen Lie danfonwyd pencerdd Bron brig o burion brengerdd, Brig a bon cael eigion cerdd. W. Lleyn a'i Cant. Gellir casglu oddiwrth yr englynion uchod fod yno gofgolofn gynt, ond o bosibl i'r Vandal- iaid yn amser Cromwell eu dinystrio, gan fod teulu'r Hafodgaregog mor ffyddlon i'r brenin.

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…

Advertising

LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.

PIGION DYDDOROL.