Hide Articles List

15 articles on this Page

HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,

AMCAN "Y LLAN."

Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.

"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.

PYNCIATJ DYDDOROL.

TYMER EGLWYSWYR.

--YR WYTHNOS NESAF.

Y CYMRY YN LLUNDAIN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y CYMRY YN LLUNDAIN. ^PREGETH YN EGLWYS GADEIRIOL ST. PAUL. Nos.Wener diweddaf, pregethodd Arglwydd Esgob Llanelwy bregeth Gymraeg yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llundain, pryd yr oedd mil- oedd yn bresenol. A ganlyn ydoedd testyn pregeth ei arglwyddiaeth :— Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur gwahaniaeth rhyngom ni."—Ephesiaid ii. 14. Amgylchiad digymar yn hanes ein cenedl yw'r gwasanaeth hwn. • Beth yw'r iaith ddieithr hon sydd yn llenwi holl gylch cang prif-eglwys prif-ddinas y byd ? Ni chlywodd muriau yr eglwys ardderchog ac hanesyddol hon erioed iaith mwy, grymus, mwy ystwyth, mwy toreithiog yn swnio trwy ei holl eangder ni fu cerddoriaeth mor felug ei don, mor swynol ei beroriaeth yn adsain o gongl i gongl, yn awr gan ddistaw sisial yn nofio fel awel fwyn y gwanwyn, yn awr fel sain udgorn yn tarleisio ac yn esgyn i fyny hyd at y nendwr mawreddog sydd yn ein cysgodi fel entrych serlog y ffurfafen. Ond clustfeiniwch yn fwy astud. Nid iaith ddieithr hon, ond iaith trigol- ion boreuol y deyrnas nid iaith ymffrostgar y buddugoliaethwr, ond iaith a hoffa'r eywair lleddf. Cilio, eilio o flaen llif anorchfygol y Saesoneg, dyna hanes yr iaith Gymraeg, ac fel ei chwaer-ieithoedd heddyw ni adewir iddi ond llain o dir ar lan m6r y Gorllewin. Ac y mae y Saesoneg fel llanw yn gorlifo dros y wlad, ond fel creigiau uwchben y dyfroedd gwelir yma a thraw enwau Cymraeg, adfeilion yr hen iaith, ar eglwysi a phentrefi, ar afonydd a mynyddoedd tir y Sais, yn profi yn ddiameuol eiddo pwy oedd y wlad ar y dechreu. Ond nid byw yn y gor- phenol yr ydym heddyw, a chan hyny nid achlysur i adgofion hanesyddol, ond achlysur llawn dyddordeb yn y presenol, llawn gobaith am y dyfodol ydyw hwn. Ie, yn hytrach yn ysbryd y testyn dewiswn fyfyrio nid ar ymraniadau yr amser a aeth heibio, ond ar yr elf enau undeb a chydgordiad a fodol- ant yn mysg y Cymry. I. Yr elfen gyntaf er ein cysylltu ynghyd yw'r ffaith mai cydwladwyr ydym. Gwlad ein genedigaeth yw y ddolen gydiol, Cas y gwr nis caro y wlad a'i macco," Gwlad y bryniau pryd- ferth a'r afonydd gloew, bro y beirdd, cartref cerddoriaeth nis gall Cymro lai na eharu ei whtd. Darn byehan a distadl o'r deyrnas ydyw Cymru, ond ni fesurir grym teimlad gwladgarol wrth faintioli gwlad. Fel engraifft, cymerwn y teimlad teuluaidd. Ymddengys cariad teuluaidd o dan amgylchiadau isel, tlawd, a chyfyng yn gryfach, yn fwy tanbaid, yn fwy angherddol nag a wna yn nghanol dariteithion ac esmwyth- dra cyfoeth. Mae perygl i'r serchiadau naturiol golli eu purdeb, eu nerth, a'u rhinwedd .yn nghanol cyfoeth. Fel y gwyddoch, rhed deddf ad-daliad, neu f el y gelwir hi yn y Saesoneg, the law of compensation," trwy yr hoirgread- igaeth, a cholli nerth y serchiadau ydyw'r gosb a delir yn fynych gan lawnder. Cyfyngu'r cylch ydyw y Ifordd sicraf i ddwyshau y teimlad. Felly hefyd, os bach a chyfyng ydyw Cymru, ac isel ei hamgylchiadau, eto anorchfygol ydyw cariad y Cymro lie?, bynag y b'o at ei wlad. II. Ond nid gwladgarwch ydyw yr unig elfen a una'r Cymry mewn gwledydd dieithr a phell- enig. Y mae'r Cymry yn anad neb o'r teulu Celt- radd wedi cadw cu hiaith," Y mae iaith Cernyw wedi distewi gan' mlynedd yn ol, a phrin y clyw neb iaith y Gwyddel neu iaith yr Alban yn ein dyddiau ni, ond mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed." Clywir hi nid yn unig ar ael y bryn, ac ar hyd pob dyffryn yn y wlad, ond ym- -nytha. ar aelwyd pcb Cymro pa un ai yn nwn- dwr dinasoedd Lloegr, neu trwy hyd a lied cyfandir eang yr Amerig. Os cjiÐ y mae yr iaith Gymraeg, cilio o'r fasnach ac o'r ifair y mae, ond y mae yn parhau a phery yn iaith yr aelwyd, iaith crefydd, iaith y galon, ac ni anadla'r dyn a saif uwchben beddrod yr hen iaith. Pa iaith yn y byd all ddatgan teimiadau y galon yn fwy cywir i Gymro mewn barddon- iaeth, cerddoriaeth, neu grefydd ? Meddyliwch am y Cymro yn ymdeithio yn mhell o'i gartref. 0 fel y liama ei galon os syrth ar ei glust pe ond un frawddeg o'r hen iaith anwyl. Kid rhyfedd fod hon yn elfen mer nerthol i 'greu undeb rhyngom fel cydwladwyr, III. Hyd yn hyn sylwasom ar elfenau a gydgysylltant y Cymry tuhwnt i Glawdd Offa, Awn rhagom yn awr i ystyried yr elfenau a z, dueddant i undeb. Aroswn yma ychydig i egluro y rheswm paham yr wyf yn pwysleisio cymaint ar elfenau undeb. Darllenais yn ddi- weddar. gyda dyddordeb mawr lyfryn by chan y Cymraeg, a gyfansoddwyd gan gyd-wladwr dysgedig a thalentog. Dywed awdwr Tro yn yr Eidal" pan yn desgrifio'r wlad fel hyn am dani, Melldith yr Eidal trwy'r blynyddoedd ydyw diffyg undeb." Ai ni raid cyfaddef a z, dweyd yr un peth urn Gymru, ag a ddywed yr ysgrifenydd hwn am yr Eidal, Melldith Cymru trwy y blynyddoedd ydyw diffyg undeb," ac oherwydd hyn ni ddadblygwyd ac ni ddad- guddiwyd eto yn eu llawnder dalentan a gallu- oedd y Cymry. Prif ddyledswydd pob Cymro gan hyny ydyw coleddu a meithrin ysbryd undeb, a dim ond i ni eu ceisio yn gydwybodol a phenderfynol, y mae digon o elfenau undeb i'w cael yn Nghymru. Dcchreuwn gydag un o'r elfenau anhebycaf i lyfnu llwybr undeb, sef dadleuon gwleidyddol neu'r byd politicaidd. Mae angen mawr nodi allan a darlunio yn gywir iawn gylch ym- drechion politicaidd. Beth ddylai fod prif am- can ymdrech y gwir wladgarwr ? Gwelliant ei wlad, nid Uwyddiant plaid neu sect,llawer llai ei hun. Gall ymgaia politicaidd gynorthwyo, ond ni gall sicrhau, Hwyddiant a Uesiant y wlad. Y mldlbyna pob ymdrech cenedlaethol yn y pen draw ar gymeriad ac ymdrechion y bobl eu hunain. Ond cofiwn yma, mai moddion llwydd- iant, nid eu aicrhad yw ymdrechion politicaidd. Ein perygl yn awr yw colli golwg ar yr amcan a meddwi yn y moddion. Peidiwn goddef i'n zel boliticaidd orlifo ei gylch priodol, ac fel rliyw anghenfil rheibus a ffyrnig lyncu i fyny bob ymdrech, boh egni, bob dyddordeb yn mywyd cymdeithasol a chrefyddol ein gwlad. Yn hytrach ymegniwn i reoli ein hymdrechion politicaidd, ac yn lie dadleuon digofus pleidwyr y direswm a diegwyddot, ijjynwn weled cyd-ym- drech iach ac anrhydeddug, unig ijimcan a diben yr hwn yw gwir ttyniant a lies y wlad. Yn y byd politicaidd undeb n-tpwn ampywiaeth ddylai fod y Md ein hymdyechion. I • IV. Yn nesaf, elfen rymus i'n huno ynghyd ydyw dyrchafiad addysg yn ein gwlad. Y mae'r Llywodraeth wedi sicrhau addysg elfenol i'r holl deyrnas, ond i Gymru yn unig y rhoddwyd gan Senedd Prydain Fawr gynllun Addysg Ganolraddol. Y mae'r cynllun yn ein dwylaw yn awr, a dim ond i ni gario allan gyda doeth- ineb, yn ystyriol, ac mewn ysbryd rhyddfrydol, medwn y ffrwythau goreu, ac yn mhlith y rhai'n nid y lleiaf fydd cynydd undeb a chyd- gordiad yn ein plith. Na oddefer i ysbryd sect a phlaid ddyfod i mewn a gwenwyno ffynonell bur a hyfryd addysg. V. Ac ynglyn ag addysg meddyliwch am fywyd cymdeithasol ein cenedl. Y mae gwaith mawr a chlir yma. Ystyriwch amgylchiadau y bobl, un dosbarth yn neillduol amser caled a gwasgedig fu yn ddiweddar ar ffermwyr Cymru; ond cynddrwg ag y bu amgylchiadau y ffermwr, beth am y gweithiwr ? Ymwelais ag ami gar- tref gweithiwr mewn llawer rhan o'r wlad. Doluriwyd fy nghalon wrth weled, weithiau, y bythynod tlawd, gwael a digysur, lie y gor- fodir hwynt i fyw a chodi teulu. Dychwel y gweithiwr gyda'r Uwydnos i gymeryd y seibidnt a lwyr enillodd, a hyny mewn bwthyn mwy addas lawer tro i fod yn llety anifail nag aneddle dyn. Mor- anhawdd mwynhau hapusrwydd a diwylliant o dan y fath amgylchiadau Trecha y gweithiwr Cymreig yn fynych holl anhaws- derau ei gyflwr-mawr glod hyn iddo mae ami weithiwr yn wir wron, ond mawr warth i ni fel cenedl osod y fath iau ar ei ysgwyddau. Bron gwaeth na hyn yw cyilwr y gweision di- briod. Ai gwaelach eu cyflwr yn Nghymru na Lloegr nis gwn, ond gwn yn rhy dda fod eu cyflwr yn llawer rhy isel yn Nghymru. Nid rhyfedd y bodola anniweirdeb, gwarth, a gwendid gweision a morwynion Cymru wledig. Fe fyn yr anian ddynol ddifyrwch os na chaiff hyn mewn modd priodol ac iach, y mae yn sicr o'i geisio mewn modd anmhriodol a niweidiol. Dyma wrthddrych teilwng ac addas i uno ym- drechion gwladgarwyr. A gadewn y pwnc gydag un neu ddau o awgrymiadau ymarferol. Y ddwy nod yr anelwn atynt yw y rhai can- lynol :—Yn gyntaf, ymdrechwn sicrhau i bob gweithiwr dy cysurus yn lie ybwtbyn gwael a welir yn rhy ami. Hoffwn weled ei dy, os bychan, eto yn hin a diddos, y ifenestri a'r drws yn ddifwlch, ac yma ac acw arwyddion bywyd gwareiddiedig, llyfrgell fechan ond coethedig, ac ambell i ddarlun tlws yn gwenu ar y mur. Gellir cael tlysni hyd yn nod mewn tlodi ond ei geisio. Er maint ein dychymyg a thynerwch ein teimlad fel cenedl, ni chafodd eto y cclfau cain gartref yn nghartrefi Cymru. Y mae swn a chlod Palas y Bobl" yn Llun- dain wedi gwefreiddia yr holl deyrnas. Os da hwn i weithiwr Llundain, paham lai i weithiwr Cymru ? Mentraf ddweyd y dylai fod, pe ba'i ond mAn ddarlun o hono ymhob pentref, lie y gallai'r gweithiwr fwynhau fpleserau bywyd coethedig. Os na all y gweithiwr unigol fedd- ianu cystal ty a'r gwr goludog, eto, yn enw pob rheswm, gallai a dylai y dosbarth gweithiol feddu yn mhob pentref dy agored, cysurus, ac addurnedig, lie y gallent ymgomio, yn He ym- yfed dadleu heb gynen ac ymhyfrydu mewn newyddiaduron, llyfrau da, a chelfaM cain, gyda chwareuoiipur a pher sain hen delj i ein gwlad. Os na all gwladgarwyr Cymru ymuno i sicrhau manteision mor anhebgorol i feibion llafur, diau gwegi yw eu gwladgarwch. Pe b'i rhyw elfen o gydundeb a chydymdrech yn bodoli yn Nghymru, gellid sicrhau hyn yn rliwydd. Wrth deithio yn ddiweddar trwy ran wledig yn Ngogledd Cymru, pasiais bentref yn cynwys rhyw ddeuddeg cant o drigolion a ym nythent yn nghesail y mynyddoedd, canolbwynt masnach, bywyd, a chrefydd yr ardal o amgylch; 11 y gwelais yno ehwech o addoldai eang, gwa,straff direswm a diddiben. Beth yw'r canlyniad ? Chwanegu tai-cyrddau diraid yw y ifordd sicraf i feithrin ysbryd chwerw, ymraniad, a gwendid. Can' mil gwell pe buasai dim ond haner yr arian wastreffir f el hyn er amlhau offerynau ymraniad, wedi eu cymhwyso at ddarparu adeilad y gallai'r holl boblogaeth fwynhau ei fantais. Ni ddywedaf hyn o blaid yr Eglwys, ond yn enw synwyr cyifredin a thrqs fy ngwlad. Nid oes neb all ddal fod eisiau chwech pan wnaethai tri y tro. Pe gellid cario'r cynllun uehod allan, ni ellid gor-brisio ei ddylanwad ar weithwyr a gweision ffermwyr. Mftddeuwch i mi am gyfeirio at yr hen wlad fel hyn. Mae Llundain yma yn lie ardderchog, yn daiddadl-Ile hyfryd am fasnach, lie hyfryd am wneyd ffortiwn," ond er hyny, i Gymru y try calon y Oymro. Pan mae ei lygaid yn syllu mewn syndod ar ryfeddodau Llundain a'i heglwysi bydenwog, eto i gyd, ehedeg wna calon y Cymro i'r hen wlad-i Sir Fon, efallai, neu Sir Aberteifi. Gwn y llamai eich calonau yma yn Llundain pe clywech fod arweinwyr y bobl, yn lie cnoi eu gilydd, yn cyduno, ben a chalon, i roi chwareu teg i blarit y werin. VI. Ond hyd yn hyn nid ydym wedi cyffwrdd ond jig ymyl gwisg nefol undeb. Ar gymeriad y bobl yr ydym i ymddiried yn hollol am undeb, a byth ni cheir undeb heb fod y Cariad Dwyfol yn llywodraethu yn nghalonau y bobl. Pa fodd y sicrheir lledaeniad y cariad yma ? Ymddirieda llawer ar ddiwygiadau i'w ddwyn oddiamgylch. Y maent yn eistedd i lawr ac Ily aros hyd nes y daw eynwrf diwygiftd i gyffroi y dyfroedd, Y ffaith, yn ol esiampl a dysgeidiaeth ein Gwaredwr yw, fod y bywyd ysbrydol yn tyfu fel pren yn raddol, yn ddistaw, ond eto yn gyson. Credid gynt fod ffurf arwynebol y ddaear yn effaith rhyw fath o lifeiriant neu gataclysms," ond gwybyddir yn awr mai effaith achosion ydyw a welir heddyw yn gweithio drwy gyfres annhoredig blynyddoedd dirif. Ychydig yma ac ychydig acw" ydyw deddf cynydd crefydd hefyd. Na ddiogwn ynte, gan ddisgwyl diwygiad, ond ymddiriedwn yn nyljinwad tawel a dibaid. ysbryd Crist yn ei Eglwys, yr hon yw ei gorff byw Ef, yn gweithio ar galon y dyn unigol o'r foment y derbynir ef yn faban bach wrth y bedyddfan i gorlan y Pen Bugail hyd ei fedd. Eglwys Crist yw yr unig offeryn all dori i lawr ganolfur y gwahaniaeth. Po mwyaf ein gwybodaeth o'r anian ddynol, mwyaf oil ygwelwn yr angen am yr Eglwys Gatholig ac Apostolaidd, y gymdeithas a sylfaenwyd ac a gynhelir gan ein Harglwydd lesu Grist. Croesawa bawb i'w brawdoliaeth ysbrydol, dwyfol, ac yn mynwes yr Eglwys hon y ceir y gwirionedd, a chyda'r gwirionedd ffydd, a chyda ffydd cariad, a chyda chariad undeb, a chydag undeb tangnefedd.

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…

Advertising

NODION O'R HEN OESAU, &c.

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…

Advertising

LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.

PIGION DYDDOROL.