Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,

AMCAN "Y LLAN."

Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.

"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.

PYNCIATJ DYDDOROL.

TYMER EGLWYSWYR.

News
Cite
Share

TYMER EGLWYSWYR. Dylem, yn anad dim, fel Eglwyswyr Cymreig, ymwrthod rhag efelychu tlrwg dymer amryw sydd yn ymosod arnom. Credwn, ar y cyfan, pe gweddus ym- ffrostio mewn-dim, fod genym, fel Eg- lwyswyr Cymreig, le i ddweydnad ydym eto wedi ein galluogi i dalu'r pwyth yn ol i'n gwrthwynebwyr. Gobeithiwn y cadwn hyn yn nod cyson ger ein bron, ac y gwelir fwy-fwy fod yn hawdd adwaen Eglwyswyr wrth eu sirioldeb a'u cymwynasgarwch. 0 drugaredd, ni chlywir ond ychydig am ymrafaelion yn ein mysg. Eithriadau anainl ydynt. Credwn, fod athrawiaethau Eglwysig a wrthodir gan Ymneillduwyr yn gymorth gwerthfawr i fyw crefydd yn ymarferol. Ar sail y gred yma credwn y daw gwertli athrawiaethau yr Eglwys fwy-fwy i'r gol wg. Dylem fagu liyder yn nyfodol yr Eglwys, ac oherwydd ein liyder yn y dyfodol, ymfoddloni ar ddal ein tir yn ddiysgog a thawel, heb wrando gormod ar ddadwrdd ein hymosodwyr. Teimlo drosiynt, druain, gan nad oes ganddynt well gwaith i'w wneyd na gwawdio a bygwth, ac nid ffraeo a hwynt, yw y ifordd oreu a mwyafteilwllg o'n Heglwys.

--YR WYTHNOS NESAF.

Y CYMRY YN LLUNDAIN.

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…

Advertising

NODION O'R HEN OESAU, &c.

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…

Advertising

LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.

PIGION DYDDOROL.