Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Y DUC D'ORLEANS.

,— DEDDF CAU TAFARNAU AR YSUL…

ESGOB TRURO.

IYDNAbYDDIAETH DEILWNG.

I 1111 11 ' MARWOLATH Y PARCH.…

AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.

Y TEILWRIAID KBWN CYN-HADLEDD.

News
Cite
Share

Y TEILWRIAID KBWN CYN- HADLEDD. [OAN UNDEBW8.] Ni chafwyd erioed engraifft mwy grymus a nodweddiadol o deilwriaid Tooley Street yn eistedd mewn cynliadledd, ac yn anfon deiseb i'r Senedd yn enw Pobl Lloegr, nag a gaf wyd yr wythnos ddiweddaf yn Nhynhadledd yr Ymreol- wyr Cymreig ac Ysgotaidd yn y lirifddinas. Gyda chryn anhawsder y cawsom o hyd i ad- roddiad o'r gweithrediadau am nad oedd y wasg Seisnig yn ystyricd yr ymfflamychiad Cymreig- Ysgotaidd hwn yn WerthJJrhoddi cyhoeddus- wydd iddo. Nid yw yr adroddiad sydd ger ein bron ond rhyw fras-linelliad or areithiau a dra- ddodwyd, ac ymddengys oddiwrth grybwylliad a welsom gan ohebydd oedd yn bresenol fod rhai ffeithiau pwysig wedi eu gadael allan, yr hyn a eilw y dysgedigioii aal)preasio veri--darn- geliad y gwir. Dywed nad oedd yr holl weith- rediadau ond, a dcfnyddio ei eiriau ei hun, miserable fiasco." Gyda y trystfawr Dr. Clark yn y gadair nad oedd dim ond methiant i'w ddisgwyl, ac heblaw hyn, bod elfenau anghyd- gordiad yn amlwg yn y Gynhadledd. Aeth dau aelod Cymreig allan o'r Gynhadledd we<u eu llwyr syrffedu am eu bod yn methu llwyddo gyda'r frawdoliaeth gymysgryw i sicrhau dad- gysylltiad fel y pwnc blaenaf yn y rhaglen Radicalaidd. Y mae'r aelodau Ysgotaidd yn fwy o Home Rulers nag o Ddadgysylltwyr, ond y mae'r aelodau Cymreig yn fwy o Ddagysylltwyr nag o Home Rulers, >3 hyn oedd yr achos o'r anghydgordiad. Ac heblaw hyny, dywedir nad yw rhai o'r Ymreolwyr Ysgotaidd yn bleidiol i ddadgysylltiad. Ymladd yn Illy oedd y cynrych- iolwyr o Gymru A'r Ysgotiaid hirben ar y pwnc hwn, ac nid oedd fawr reality yn y gweithred- iadau. Yr oedd y cynrychiolwyr Cymreig ac Ysgotaidd yn hollol ymwybodol nad oedd y cri am Home Rule i Gymru a'r Alban ond ifug a lledrith. Wel, gadewch i ni weled pwy oedd y teilwr- iaid o Gymru oedd yn bresenol yn y National Liberal Club, Lluniaia, yn y Gynhadledd fytii- gofiadwy hon. Yn mysg yr Aelodau Seneddol ceir enwau Mr. Alfred Thomas, Mr. Arthur Williams, Mr. S. T. Evans (Canolbarth M organ- wg), a Mr. D. A. Thomas. Yr oedd y Parch. Aaron Davies, Pontlottyn y Parch. W. M. Thomas, Caerlloon-ar-Wysg; Mr. William Jones (Cymdeithas Cymru Fydd) Mr. F. L. Davies, Femdale; Mr. 8. C. Erang Williams, Rhaiadr Mr. Lewis, Bangor, et hoe genus ornne, ymhlith y goleuadau Cymreig. Darllenwyd llythyrau o ymddiheurad oddiwrth Mr. Dillwyn, Mr. J. Lloyd Morgan, Mr. Pritchard Morgan, ac eraill. Digon prin y gellid disgwyl ir Aur-Frenin roddi ei bresenoldeb yn y Gynhadledd ar ol y gurfa yn Nhy y Cyffredin y noson flaenorol. Dywedodd y Cttdcirydd yn ei sylwadau agor- iadol, fod gwahaniaeth dirfawr rhwng y Cwestiwn Ysgotaidd a'r un Cymreig, er fod cryn lawer o debygrwydd rhyngddynt mewn rhai ystyriaethau. Cmdai fod y cwestiwn yn add- fedu yn gyflrm yn Yagotland, ac yr oedd yn dda ganddo ddeall ei fod o'r diwedd yn dechreu cynhyrfu Cymru, lie y gallasai, yr oedd o'r farn, ddyfod y ewestiwn pwysicaf yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cyn myned ymlaen gyda gwaith penodol y Gynhadledd bu cryn ddadleu ar safle rhai o'r dirprwywyr mewn perthynas i'r cwestiwn o Ddadgysylltiad. Dywedodd Mr. Tilston, Gwrecsam, cynrych- iolydd Cyngrair Rhyddfrydig Gogledd Cymru, fod y Cyngrair Cymreig a Chymdeithas Cymru Fydd wedi pasio penderfyniad en bod yn dyfod i'r gynhadledd hono ar y dealltwriaeth clir nad oedd dim i gael ei wneyd fyddai yn tueddu i niweidio safle y cwestiwn o Home Rule i'r Iwerddon a Dadgysyllltiad i'r Gymru yn rhaglen y blaid Ryddfrydol. Dywedodd y Cadeirydd fod y gwahoddiad i gyfarfod mewn pwyllgor wedi dyfod o Gvmru, a u bod wedi cyfarfod y dydd hwnw i ystyried y cwestiwn y Home Rule i Gymru, ac nad oedd dim a wnelent a'r uncwestiwn arall. Cynygiodd y Parch. Aaron Davies berderfyn- iad i'r perwyl fod yr amser wedi d'od pryd y dyiid ymddiried i'r Ysgotland a Chymru reol- eiddiad eu hachosion cenedlaethol eu hunain, yn ddarostyngedig i uwchafiaeth y Senedd Ymer- odrol. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. M'Lardy, Glasgow, a chymerodd cryn ymdrafodaeth Ic ar y mater. Dywedodd Mr. John Lengf A.S., Dundee, ei fod yn dadleu dros Home Rule all round; a chvnygiodd Mr. Lewis, Bangor, well- iant i gymeryd Lloegr i mewn. Barnai Mr. O'Connor Power mai y ffordd debycaf o Iwyddo am Home Rule fyddai drwy gyfundrefn o gyngreiriad. Cymerodd dadI boeth le ar hyn. Gwrthwynebid y gwelliant ar y tir nad oedd dim dirprwywyr yn bresenol yn y Gynhadledd yn cynrychioli Lloeg. Tynodd Mr. Lewis, er mwyn iddynt fod yn unol, ei welliant yn ol, a phasiwyd y penderfyniad gwreiddiol. Cynygiodd Mr. Griffiths, Ysgrifenydd Cym- deithas Cymru Fydd, fod pwyllgor i gael ei ffurfio y dydd hwnw o ddeuddeg o Scotland, o'r hyn lleiaf, a deuddeg o Gymru i dynu allan gyfansoddiad o Home Rule Council i'r ddwy wlad. Yr oedd rhai dros ohirio yr holl gwestiwn i gynhadledd arall, ond gwrthwynebwyd yr awgrynuad yn y modd mwyaf penderfynol gan Mr. Griffiths, a diwedd yr yingiprys fu i'r Cadeirydd gynyg penderfyniad i apwyntio pwyllgor o 24, a bod y cyfryw i ad roddiad i gynhadledd arall. Buasai yn ddy- ddorol cael golwg ar enwau y deddf wneuthur- wyr Radicalaidd. Mewn difrif, a yw yr ymyrwyr hunan-dybus hyn yn tybied mai gwneyd mwnci brwyn w ddiwrnod gwlawog ydyw ffurfio cyfansoddiad gwiadol ? Pwy a o»ododd y gwyr prysur a dibris hyn yn farnwvr ar Cymru. dyn a'i helpo Ond y mae un cysur, gall Cymru anadlu yn rhydd am dymor eto. Hhaid pasio Home tlule i'r Iwerddon, a dadgysylltu yr Eglwys yn Nghymru, cyn y daw yr hunllef Kadicalaidd hwn i'w hafionyddu. Mae'r Itadicaliaid Cymreig wedi gohirio y cwestiwn o Home Rule i'r Greek Kalends gyda dialedd. Ha ha

- ------.r,,,,---YR ANWYDWST.…

TENNYSON Y BARDD. I ;:■i

—. AFIECHYD Y PAB 0 RUFAIN.…

---_.---DOCIAU BARRY.

.' DIGWYDDIADAU ECHRYDUS YN…

. SYR MOREL MACKENZIE A'I…

----YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR,

.' EWYLLYS Y DIWEDDAR MR.…

----------MR. STANLEY.

.-URDDIADAU YN NGHYMRU.

- GWYL DEWI SANT.

AFIECHYD YR HYBARCH ARCHDDIACON…

,. Y FFRWYDRAD GERLLAW ABER-j…

[No title]