Hide Articles List

21 articles on this Page

Y DUC D'ORLEANS.

,— DEDDF CAU TAFARNAU AR YSUL…

ESGOB TRURO.

IYDNAbYDDIAETH DEILWNG.

I 1111 11 ' MARWOLATH Y PARCH.…

AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.

News
Cite
Share

AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS. PWNC Y DEGWM A'R EGLWYS YN NGHYMRU. Nos Iau eyn y diweddaf, talodd y Parch. T. Moore, awdwr The Englishman's Brief," ke., ymweliad 4 Dowlais, pryd y traddododd araith benigamp ar 16 Bwne y Degwm a'r Eglwys yn LNghymral" Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr Oddfellows' Hall, a daeth eynulliad lliosog ynghyd. Yr oedd disgwyliad mawr am y cyf- arfod ymhlith Eglwyswyr y lie er's wythnosau, gan y gwyddfti pawb y ceid ymdriniaeth feistr- olgar gnu foneddwr o safle a gallu Mr. Moore, ac ni siomwyd neb. Pan wnaetli Mr. Moore, y Parchn. LI. M. Williams, rheithor; D. Evans, ourad, Mr. Lintern, llywydd Cymdeithas Am- ddiffynol y dref, ac eraill, eu hymadangosiad ar y llwyfan, cawsant dderbyniad croesawgar gan y dorf. Llywyddwyd gan Mr. Lintern, yr liwn a sylwodd fod yn dda iawn ganddo fnd yn bre- senol, ac yr oedd yn sicr y ceid araith dda gan Mr. Moore, fel y eawsant ar ei ymweliad blacn- orol. Yr oedd y pwnc ag yr ymdrinid ag ef y noson hono yn un hynod bwysig, ac yr oeddynt wedi ymgynull ynghyd i dderbyn goleuni ychwanegol arno. Fel y gwyddent, yr oedd dwy fam yn cael eu coleddu o berthynas i gysylltiad yr Eglwys a'r Llywodraeth haerai rhai y eylai. gael ei dadgysylltu. a diben cyn- halisd cyfarfodydd o'r fath ydoedd rhoddi inautais i wyntyllio y pwnc, fel, ag y gellid. ar ol ei ystysied yn deg a diduedd, ffurfio barn deg a chywir am dano. Wedi i'r llywydd wncyd rhai sylwadau ar ddylanwad cynyddol yr Eg- lwys ymhob parth o'r byd, galwodd ar arwr y cyfarfod ymlaen i anerch y dorf. Y Parch. T. Moore a ddywedai na fwnadai wneyd araith fel y deallid hyny yn y cyffredin, ond yr oedd api ymddiddan a liwy, gan gredu drwy hyny y gallai egluro yr hyo a fwriadai iddynt g:ofio yn well. Fel yr oedd yn hysbys iddynt, siaradai llawer am y degwm na wyddent .ddim o gwbl am dano. Dywedai os byddai rhywan yu y gynulleidfa yn metliu ei ddeall, y byddai yn dda ganddo gael eyfleustra i egluro unrhyw fater o'r fath yn mhellach ar ddiwedd y cyfarfod. Hyderai na fyddai i neb ofni gofyn cwestiwn iddo, gan mai ei amcan mawr bob amser oedd eael gan ei wrandawyr ddeall yroll yr ymdriniai ag ef. Y dull a gymerodd y gwr porchedig ydoedd gofyn nifer o gwestiynau, a'u hateb. Y cyntaf ydoedd, Beth ydoedd y degwm, gan nad oes ddim degwm yn awr yn Lloegr na Chymru ? Oddior y flwyddyn 18*86 yr oedd taliad y degwm yn el ffurf gyntefig, sef rhoddi y ddegfed rhan o gynyreh y tir, wedi ei ddileu, a gosodwyd ei fod o hyny allan i'w dalu mewn arian bathol. yr hyn a adnabyddid yn awr wrth yr enw tithe rent charge, sef y ddeg- fed ran o ardreth y fferm a delid. Y modd y dechreuwyd tala y degwm ydoedd i bob un a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol roddi yn wirfoddol y ddegfed ran o'i eiddo tuag at gynal yr esgobion a'r offeiriaid. ae wedi iddo ddyfod yn aelodaa yr oedd yn ddyledswydd orphwy*- edig arno. Ymhen yehydig flynyddoedd yr oedd yn arfhriad ymhob man lla yr oedd eglwys wedi ei sefydlu fod perchenojjion y tir yn rhoddi y ddegfed ran o'u heiddo at wasanaetb Duw, ac yr oedd eu holynwyr yn gwneyd yr un modd, a'r tenant wrth gymeryd fferm yn talu naw rhan o'r ardreth i'r per- perehenog, a'r ddegfed ran i'r ofteiriad. Ymhen yehydig flynyddoedd yr oedd pawb yn perthyu i'r Eglwys, ac ni wybuwyd erioed fod unrhyw un o'r tuallan i'r Eglwys i hawl i ymyraeth l'i gwaith o gwbl. Daeth yn arfhriad cyffredinol fel hyn i dalu y degwm. ae os pallai unrhyw ddyn dalu yr hyn oedd ddyiedus penderfynid y mater mewn dadl gan yr Eglwys, ac nid gan y Wladwnaeth. Ugeiniau o flynyddoedd eyn bod Senedd Seisnig na Chymreig yr oedd y degwm wedi ei bendertynu, a gwaith y Senedd ydoedd cadarnhau yr arferiad. Rlienid y degwm rhwlllCl yr esgobion, yr offeiriaid. adeiladu eglwysi, a eliynhaliaeth y tlodion. Y rheswm dros dalu y degwm i'r esgobion ar y eyntaf ydoedd am fod yr eglwyai eto heb ddyfod yn gyffredinol, ond fel yr oeddynt yn cynydda yn eu rliif telid y degwm i bob offeiriad cysylltiedig fi'r Eglwvs, ae nid i'r esgob. Y ewestiwn nesaf ydoedd. Pa iodd y eymerwyd y degwm ymaith oddiar blwyfi eyfoethog gan nawddogwyr lleygol, a'r offeiriaid yn cael ond ychydig ? Mor fuan ag y sefydlwyd plwyfi drwy y wlad, a'r offeirisid yu cael eu talu, awgrymodd penaethiaid y mynach- logydd wrth nowyr bywoliaethau cymydogaethol i roddi y bywoliaethau hyny pan ddenent yn wag, iddynt hwy, yr hyn a wneid yn y rhan fwyaf o amgylcbiadau, gan adael ond yehydig i'r offeiriad at ei gynholiaeth ef a'i deulu; y mynachlogydd oedd yn eymeryd y gyfran fwyaf bob amser. Ond yr oedd yn rhaid iddo addef fod awdurdodauy Mynachlogydd, er eu bod yn lladrata eiddo yr Eglwys, yn gwneyd llawer o ddaioni ft'r rhan a gymerent. Hyn ydoedd hanct pob plwyf y pryd hyny. Ynnheyrnasind Harri yr Wythfed yr oedd y Mynachlogydd wedi llwyddo i gael i'w meddiant ewm fawr iawn o'r degymau, a darfu i Harri gymeryd nitadiant o'r Mvnachlogydd er ei fudd ei hun gy a'i gyfeillion. Yr oedd wedi addaw rhoddi tair miliwn a haner o bunau o honynt at wasanaetb Duw, ond ni wnaeth hyny. Cyrhaeddai cyfan- swm y tithe-rent-charge yn Lloegr a Chymru i bedair miliwn a haner o bunau vn flynyddol, ond ni dderbynia y clerigwyr plwyfol ond dwy filiwn a thri ehwarter o honynt. Elai y gweddill i noddwyr lleygol, rhagflaenwyr y rhai &In derbyniasant gan Harri yr Wythfed yn amser y Diwygiad. Rhoddwyd rhan o'r degym- au hefyd tuag at gynhaliaeth colegau, ysgolion, See. Ni fwriadwyd y degwm erioed i gael eu treulio tuag at gynhaliaeth y tlodion. Gan fod y degwm mwyaf (great tithe) wedi ei gymeryd ymaitli gan Harri, (lactli yn augeurheidiol ar awdurdoilik y Mynachlogydd i roddi cynorthwy i'r tlodion. Wedi i Harri gymeryd y degwm oddiar y Mynachlogydd a'i roddi i noddwyr e-Y lleygol, ystyriwyd yn ddifrifol ar y mater gan ein Seneddwyr. ac yn nheyrnasiad Elizabeth pasiwyn Deddf y Tlodion mown cunlyuiad i'r camwri a wnaed gan Harr. Clywid personan yn dweyd yn fynych y «ellid defnyddio y degwm tuag at ameanion bydol, ond tybi&i ef eu bod hwy fel E41wY8w'r yn meddu hawl i'w heiddo eu hunain. Dywedid hefyd y dylem gael addysg rad, se os cymerid y degwm ymaith na fyddai raid talu dim tuag at addysg. Ffolineb o'r mwyaf ydoedd baldordd o'r fath. Yr oedd chwe' miliwn o bunau yn cael eu treulio bob blwyddyn er cynal ysgolion elfer;ol Lioegr a Chymru, a pha fodd y gellid en cario ymlaen ar y ddwy filiwn a haner o ddegwm a fwriedid trosglwyddo at yr amcan hwnw ? (Ttv barhav.)

Y TEILWRIAID KBWN CYN-HADLEDD.

- ------.r,,,,---YR ANWYDWST.…

TENNYSON Y BARDD. I ;:■i

—. AFIECHYD Y PAB 0 RUFAIN.…

---_.---DOCIAU BARRY.

.' DIGWYDDIADAU ECHRYDUS YN…

. SYR MOREL MACKENZIE A'I…

----YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR,

.' EWYLLYS Y DIWEDDAR MR.…

----------MR. STANLEY.

.-URDDIADAU YN NGHYMRU.

- GWYL DEWI SANT.

AFIECHYD YR HYBARCH ARCHDDIACON…

,. Y FFRWYDRAD GERLLAW ABER-j…

[No title]