Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR.
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Mewn peithynas i ofyniaq." Athraw Ysgol SuI" ynghylch y priodoldeb o gael y tystysgrifau yn Gymrasg, ofnwyf nad boddhaol y cyfryw yn gyfired- inol. Cyiiwynais yn bersonol 85 o dystysgrifau i ddeiliaid un Ysgol Sul, yr oil wedi eu haddysgu yn Saesneg. Fy mhrofiad yw mai y Saesneg sydd yn ymledu yn ddieitbriad yn yr iaith hon y ceir tyst- ysgrifau yr ysgolion dyddiol, ac hyd yn nod yn Mon, mam Cymru, addysgir rhai deiliaid YsgoJion Sul ar gyfer arhcliad yr Esgobaeth yn yr unrhyw iaith. Dwg hyn i'm meddwl sylwad un o arolygwyr ei Mawr hydi ynglyn a'r ysgolion. Dywedai, mewn perfchynas i'i: eyfleusdarau a gynygir gan y Llywodraeth i gy- meryd yr iaith Gymraeg fel testyn arholiadol, nas derbyniodd ef ond tri lhybudd i'r perwyl, ac hefyd y tynwyd yn ol y tri rhybudd hyn.-Yr eiddoch, &e.s Liandrygarn, Rhagfyr 21ain. D. LLOYD.
Y WASG EGLWYSIG.
Y WASG EGLWYSIG. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Llawer a ysgrifenir o bryd i bryd yn Y LLAN ynghylch y pwnc liwn, rhai yn beio'r ys- grifenwyr, eraiil yn rhoddi'r bai wrth ddrws y goiygyddion, y clerigwyr, druain, yn ei cfaaeHii'n ami am nad ydynt yn ysgriferm erthyglau iddi, heb ystyried fod gan y dosbarth hwnw ddigon a gormod ar eu hysgwyddau os gwnant eu dyled- swyddau yn eu plwyfi, yn marn hen olygydd a chylioeddwA profiadcl am yn agos i ddeugain mlycedd mewncysylltiad â gohebu, ysgrifenu, a golygu llawer mown cysylltiad neu yn gynorth- wyol i'r Wasg Eglwysig Gymreig, megis sefydiu y Gymdeiihas Leygol yn 1856. a ebyboeddi ei hadroddiadau, cyhoeddi Saner y Qroes yn yr un blynyddoedd, a chyhoeddi a golygu yr uo. ixiisolyn", yn hollo! sr fy nghyfrifoMeb fy han am un blynyddoedd, a, chyhoeddi a golygu yr uo. ixiisolyn", yn hollol sr fy nghyfrifoideb fy hun am y blwyddoedd '70, '71, '72, 73, gan wneyd aberth o rai ugaiciau drwy hyny. Heblaw gohebu ac ysgrifenu i'r Cymro, y Dywysogaeth, a'r LLAN am flynyddoedd lawer tra bu yn aros yn y Gog- ledd fel y cyfryw. Efallai y gallaf yn ddiymffrost lioni fy mod yn lied brofedig yn yr ystyr ienyddol a masnachol. Dau beth sydd yn ddiffyg mawr, sef cydnabod llafur yr ysgrifenwyr iddo. Ni cheir y dwlyn penaf i drin gardd o bytatws heb gael ei d&l am boh awr ond disgwylir i lenor roddi cynyrch ei ymenydd am ddim! Y mae newyddiadaron Radicalaidd a gwrth-Eglwysig yn talu yn liberal (ais gwn a ydynt yn liberal mewn dim arall). Ond lIe gwelwyd Y I LLAN yn rhoddi ceiniog i neb nae unrhyw gyd- nabod ? Path arall, nid oes digon o'r business style yn ei ddosbarthn, na ehomisiwn digon helaeth am ei werthu. Y mae llawer o ardaloedd yn y Gogledd nad oes LLAN i'w gael am arian. Hefyd, nid oes haner digon o locali-tews byrion ynddo-afallai mai yr achos yw yr hyn a grybwyllais—gohebwyr lleol sydd eisiau. Y mae hefyd syniad (ai gwir ai cywir), nad oes derbyn- iad cydmarol i ohebiaethau lleygwyr ac eiddo'r lien. Derbynir casgiau o sebon meddal, ond os meiddia llaygwr ysgrifanu diffygion Eglwysig, y mae'r LLAN., fel y gragen ar y trai, yn gauad! Dylai fod yn agored i drafod i'r ddau tu i'r ddalen. Ychwanegai hyny ei ledaeuiad. Esgusodwcli y Hith foes hon; y mae'r cas-wir weithiau yn angenrheidiol. Hefyd, nid ydyw Eglwyswyr yn cetnogi argraffwasr, Eglwysig fel rheol. Os bydd gan Eglwyswr lyfr, pamphled, llyfr hymnau, neu Magazine i'w gyhoeddi, gwell ganddo fyned i Lundain neu i Radical Office i'w gyhoeddi.—Yr eiddoch, &c., ALLTUD EIFON. Tremadog. [Rhoddwn gyhoeddusrwydd i lith Alltud Eifion, er ei fod yn ysgrifenu mewn anwybodaeth liollol parthed Y LLAN.-GOL,]
GVVENITH HANER CAN' MLYNBDI)…
GVVENITH HANER CAN' MLYNBDI) N A I R. Y -W Mewn newyddiadur Americanaidd yn ddiwsddar, ymdiangoaoad erthygl amcan yr bon oedd dangos y poaibilrwydd i newyn ddigwydd yn y byd ymhen haner can' mlynedd. Ond wedi'r cyfan aid ym- ddengys pethau yn gwbl mor ddrwg. Nid yw haner can' mlynedd yn gyfnod maith iawn, ynsior, iedryoh ymlaen, gan nad pa beth a. all ddigwydd. Fel y noda yr Iowa Register, edrycha y gwyr a'r gwragedd sydd yn byw heddyw ar yr haner canrif sydd newydd fyned heibio fel breuddwyd nos, ac eto pa ryw gyf- newidiadau a. gymerasanfc le yn llywodraeth wladol a chymdeithasol yt Unol Dalaetbau. Ond pa beth a fydd oanlyniadau a gwersi yr haner canrif sydd i dd'od ? Bydd poblogaeth y Talaetbau y.peyd hwnw yn 150,000,000 o leiaf. Pa le y caut fyw, a pha beth a gant i'w fwyta ? Ar hyn o bryd fe aifi oddeutu chwe' bwsiel o wenith i ddiwaUu pob genau o'r trig- olion, yr hyn a ddaw oddeutu 360,000,000 o fweieli o gwbl. Ymhen haner can' mlynedd, gyde. phoblog- aeth o 150,000,000, yn ol yr un cyfrif fa fydd yn rhaid cae1900,000,0000 fwaieli. O ba ley dawy swm anferth hwn, a pha le y codir ef ? Anrheithio y tir a wca gwenith, a gedy ddiffrwythder ar ei ol, a thra oyfeiria y tir gwenith tua'r Gogledd-Orllewm ac i'r dyffryn- oedd rhwng y mynyddau, ni wneir dafnydd o'r tir a adewir ar ol. Y mae gwlad eang Tenasee, y Tir Cauedig Gorllewinol, Dyffryn y Wabash, ac Uchel- dir Illinois, y rhai a fua.nt unwaith mor enwcg, yn eu gwahanol gyfnodau, am gynyrcbn gwenitb, wedi eu rhoddi i fyny er ys hir am§er fel tir priodol i.godi y grawn gwyn. Mae Illinois, Iowa, a Missouri yn cyflym ddilyn ar eu hoi, gan hyny, o ba le y daw y 900,000,000 bwsieli i ddiwallu y 150,000,000 o drig- olion? Nid oes dim bydoedd newyddion i'w dar- ganfod. Mae boll arwynebedd y ddaear yn adna- byddus. Ond, meddai ein cyfoesolyn mewn perflaith wynfyd, nid oes gan yr Uuol Dalaethau ddim i'w ofni. Mae yn meddti maes yd mawr y byd, yr hwn a gynyrcha y bwyd dynol mwyaf maefchlawn. Nid yw ei Yd gnydau yn diffrvvvtbo y tir, gyda gofal priodol a ffermwaith ddoeth fe ellir codi cnydau am fil o flynyddoedd yn olynol, ac ni raid byth i'r teulu dynol ofni newyn. IPe eill trigolion y byd fod yn deirgwaith cymaint ag ydynt yn awr, ac fe eill maes yd yr Unol Dalaethau gynyrchu digon o'r yd cyfoethog a. ma.ethla.wn hwn i iwydo'r byd. Ao folly y gwaredir ni rhag newyn !—O'r Journal.
COFNODION NEILLDUOL AM Y BEIBL…
COFNODION NEILLDUOL AM Y BEIBL CYMRAEG. [0 GASGLIAD AJjLTUD EIPION.] Dywediad Rhisiart Morris, fcrawd Lewis Moris o F(^)n: YBtyriais ae efrydais yr Iaith Gymraeg or ys mwy na haner can mlynedd felly mae genyf wrth ei rheolau anhyfeth, gyweirio bob caraysgrifenydd- iaeth yngwaith yr hen feirdd ac wrth ddiwygio y wasg yn y ddau argraphiad o'r Beibl 1746 a 1762 bum ofalus iawn i sylwi ar y pefcaau lleiaf mewn ysgrilenyddiaeth gywir ac ysgrifenyddion godidocaf yr oes hon ynghylch hyn, a unasanfc i fod fy amoan yn iawn sef y Parch. Edward Samuel, y Parch. Wmhm Wynne, y Parch, Evan Evans, y Parch. John Thomas a'm dau frawd Lewis a Gwilym Morris." Eu Richard Morris uchod farw yn y flwydd 1779 William Morris yn y flwycldyn 1764; a Lewis Morris yn y fiwyddyn 1765 ac a gladdwyd ynghor Eglwys Llanbadarn Fawr. Hysbyswyd i'r Ysgolion Cymraeg yn 1749, sef Ysgolion Madam Bafan, a yrnddacgosoddyn hyabys- iad ynghatecism y Parcb. Griffith Jones, Llandclow- ror yn y fiwyddyn uchod :—"Bod i'r tlodion o fuch- odd ddiargyhoodd a ewyllysio gael beiblau Cymraeg yn rhad ac o oedran addas a bwriad gonest o wneuthur defnydd dao hpnynt ddyfod a Certificate oddiwrth weinidog eu plwyf, eu bod yn medru dar- lien Cymraeg yn dda, as yn dyfod at eu gweinidog i ddywedyd eu catechism ac yn dysgu yn yr Eglurhad o hono, a'u bod yn yinddwyn yn weddaidd, ac yn ateb gweinidog yn barchus yngwasanaeth yr Eglwys gyd ag Amen yn barchus ar ddiwedd y gweddiau yn ol defod ddeibsiynol yr holl brif Gristionogion yn yr Eglwys gynt. Dylai hefyd fod oedran a eefyllfa y Tlodion ac enwau lleoedd eu trigfanau yn y Certificate, ar yr amodau hyn y rhoddir cynifer ac a, ellir o Feiblau yn rha.d." Hysbysiad yngbylch argraSu Beiblau breision i rai f'o yn eu henaint:—" Y cwynfan mawr sydd yn y Byd yn mhlith yr Henaint a'r Oedran as ynghylch Printio'r Bibl Cymraeg yr un faint a Bibl mawr yr Eglwys sydd wedi enill Amryw o'r Gwyr Eglwysig ac y maent yn Cydymdeimlo a eu Tatlau a'u Mammau yn y matter yma, ac maent yn eu Cyfri eu hunain yn ddedwydd iawn i.\U bod mawn rhyw fodd yn gallu bod yn wasanaethgar, i'w Gwlad yn y fath Orchwyl ag os y Cyffredin a Gynorthwyant y Gwaith i mae 6, o wyr Eglwysig yn barod i gymeryd y gofal trostynt i Weled y Gwaith yn cael ei Diwygio yn ofalus iawn ac os gellir dwad a'r gwaith i ben ai Brintio ef ynghymru fe fydd gwell dywigiad amo ac yn rhatach lawer hyny i'w ynghylch 5 neu 6 BWlit ar huga,in wedi ei Feindio'n dda i mae dau Wr yn Barod wedi addo cymeryd 6, chant o'r Llyfrau; a chyn gynted ac y gellir cael y Lisens oddiwrth y Brenin, a hela'r Arian y cynorfchwywyr. i ddechreu ar y gwaith, ac ni wneir dim gwaith arall i neb ond y gwaith ymma, tan ddarfyddo, y Sawl sydd am un o'r Llyfrau hyn rhoddeut eu harian at wr Eglwysig eu Plwy ou hunain hyny i'w 10 Swllt i gynorthwyad a'r lleill pan y Derbynir y Llyft." Gwelir yr hysbysiad uchod yn Llyfr Lewis Moris o Fon, a elwir Rhodd Meistr i'w Brentis." ArgraS- wyd yn y Bala. gan John Rowlant tros William Da.vies. (Dim dyddiad y flwyddyn yr argraff wyd). Gwelir oddiwrth y nodiadau uchod mor liafarus ydoedd yr Eglwys a'i gweinidogion gant a haner a ohwaneg o flynyddoedd yn ol, yr adeg y myn yr Ym- neillduwyr ag yr ydoedd "pohl ac offoiriaid yn cyagu, a'r wlad mewn dygn dywyllwch." Ond y mae'n berygl fod oes yn codi, os nad yn wir gyfan- swm yr oes sydd wedi codi, yn llawer mwy anghenus yn ngair Duw a,'r athrawiaeth yn ol duwioldeb nar oesau o'r blaen, yn enwedig wrth gyferbynu eu man- teision. Fy nhyb i yw fod cenedl yn codi yn Ysgol- ion Byrddau y wlad yn ddieitbriad i air y dystiolaeth heb obaith ganddynt ao heb Dduw yn y byd. Tremadog. ALLTUD EIFION.
NODIAD HYNOD AM GLERIGWR.
NODIAD HYNOD AM GLERIGWR. Yn y flwyddyn 1795, bu farw y Parch. Mr, Mattison, yn 83 mlwydd oed. Buasai yn gurad Battendale, Swydd Westmorland, am (jSain o flyn- yddoedd. Y plentyn cyntaf a fodyddiodd a ddaeth yn wraig iddo, ac c honi y ganwyd iddo un mab a thair merch, ac efe a briododd bob un o honynt yn ei Eglwys ei bun
VRKWF LLOFRUDDION ORONIN.
VRKWF LLOFRUDDION ORONIN. 1311 y rheithwyr yn hir cyn dyfod i gytundeb gyda golwg ar ddyfarniad ar y pereo-aau a gyhuddid o lofruddio y gwr uchod ond wedi hir oediad rhoddasant y fath reithfarn, ag sydd yn ymddangos i'r diduedd y rhaid fod rhyw gytundeb amodol (compromise) wedi cymerad lie. Yr oedd rhai o'r rheithwyr i ddwyn dedfryd o lofruddiaeth, ond yr oedd y lleill (y mwyafrif, yn oi rhai; un, medd eraill) yn ffafriol i'r carcharorion, ac felly, o dan yr am- gylcbiadau nid oedd dim i'w wneyd ond dyiod i gytundeb. Beth bynag, y mae y dyfarniad yn fwy ffafriol nag y disgwyliai y rhai a gymerent yr olwg dyneraf ar y weithred. Yr oedd y car- charorion yn bump mewn nifor, a dyfarnwyd pedwar o honynt yn euog, ond aid o'r trosedd o lofruddiaeth yn y radd flaenaf; felly dedfrydwyd Coughlin, Burke, ac O'Sullivan i garchariad am eu hoes a Kunze, trosedd yr hwn a ystyrid yn llai drwg na'r lleill, a dedfrydwyd ef i dair blynedd o garchariad a chyhoeddwyd Beggs yn ddieuog, a chafodd ei ryddhau yn uniongyrchol. Y mae dadJeuwyr y pedwar blaenaf wedi apelio am brawf newydd.
[No title]
A CARD.—AN IMPORTANT DISCOVERY is announced in the Paris Figaro," of a valuable remedy for nervous debility, physical exhaustion, and kindred complaints. The discovery was made by a missionary in Old Mexico; it saved him from a miserable existence and an early grave. The Rev. Joseph Holmes, Bloomsbury Mansions, Bloombury Square, London, W.C., will send the prescription, free of charge, on receipt of a self addressed stamped envelope. Mention this paper.
COF AM Y FRENHINES ELIZABETH…
COF AM Y FRENHINES ELIZABETH A'R ESGOBION OYMREIGr. Yn ei theyrnasiad hi ymddengys ddarfod Li L Hugh Jones, W. Bleddyn, a W. Morgan gael eu 5odi yn Esgobaeth Llandaf; Richard Davies, Thos. Davies, W. Hughes, a W. Morgan yn Esgobaeth Llanelwy; Richard Daries, a M. Miduleton yn Esgobaeth Ty Ddewi; Rowland Mearic a Richard Vaugban yn Esgobaeth Bangor; y rhai hyn oil yn ysgclheigion Cymreig nodedig, i'r rhai y mae'r Cymry yn ddyledus am eu Beibl- au a'u Gweddi-lyfrau Cymreig, y rhai a gyfieithid yn gyntaf drwy orchymyn y Frenhines Elizabeth, tuag at wasanaeth yr areithfeydd yn yy Eglwysi Gadeiriol a phlwyfol yn Nghymru, ac wedi hyny a liosogwyd at wasanaeth y genedl yn gyffredinol, dan arolygiad esgobion ac urddasolion Eglwysig Cymreig eraiil. Y drefn a osodasid i lawr 5an Elizabeth, o roddi prif fugeiliaid Gymroaidd i'r Dywysogaeth, a barhawyd, gydag ychydig eithr- iadau, gan ei holynwyr lago 1., Siarl L a'r II., lago II., a William a Mary, yn nheyrnasiadau y rhai y ceir enwau Morgan Owain, Hugh Lloyd. Francis Davies, a W. Lloyd, yn esgobioa Llandaf; W. Thomas, a John Lloyd, yn esgobion Ty Ddewi Henry Rowlands, David Dolben, Edmund Griffith, William Roberts, Robert Morgan,^Humphrey Lloyd, ac Humphrey Humphreys, yn esgobion Bangor; Richard Parry, John Owain, George Griffith, a W. Lloyd, yn esgobion Llanelwy: y rhai oil, drwy eu gwybodaeth 6'r iaith Gymraeg (nc eithro Lloyd Llanelwy), oeddynt yn alluog i ddwyn ymlaen egwyddorion y Diwygiad, y rhai a feithrinasid yn ddyfal gan eu blaenafiaid, ac oddiar yr hyn y tarddodd y cynhauaf toreithiog o ragorfreintiau gwladol, y rhai a fwynhacdd Cymru mor helaeth o hyny allitn. Ac i effaith y ffurflywodraeth ddoeth a chyfiawn yma, yr honfa adferwyd gan Elizabeth, ac a ddilynwyd i raddau gan bum' teyrn-ben olynol wedi hyny, y gellir yn ddiameu briodoli y bendithion anmhrisiadwy o dangnefedd gwladol, ffyddlondeb i'r brenin, ufudd-dod i'r cyfreithiau, cydgord rhwng tir-fcistriaicl a thenant- iaid, a gwir grefydd a duwioldeb yn mysg pob gradd, yr hyn yn hir ac yn arbenig a nodweddodd y dalaeth hono o diriogaeth Prydain Fawr. Ond nid yw y drefn hon mwyach yn cael, ei harferid tuag at y Dywysogaeth. Dechreu- wyd eu dodi heibio i gryn raddau gan y Frenhines Anne, yn cbeyrnasiad yr hon ni, cheir enw ond un Esgob Cymreig yn yr holl dal- aeth, sef John Evans, Esgob Bangor. Dim ond un, eilwaith, yn nheyrnasiad Sior I., sef John Wynne, Esgob Llanelwy. Dau yn nheyrnasiad Sior II., sef John Harris, Esgob Llandaf, a Richard Trevor, Esgob Ty Ddewi; ond yn y teyrixasiadau dilynol, dim cymaint ag un. Dylid dwyn ar gof oherwydd y ffaith a gofnod- nodwyd uchod, ac yn enwedig ar ol i deulu Hanover dd'od ar orsedd y deyrnas hon, ddar- fod i'r Cymry fod mor orselog dros y Brenin lago II. a'i hiliogaeth, am eu bod yu nes ceraint i Owain Tudur o Benmynydd, Mon, na theulu Hanover, fel y digiodd y teulu olaf mor greulon wrth y Cymry, fel cenedl, ag y penderfynaeant ddileu yr iaith Gymraeg o hanfod. Fel un cam da tuag at. hyny, dygasant hwy, llanwasant holl Esgobaethau y Dywysogaeth â Saeson, fel na bu un Cymro yn Esgob yn Nghymru ar ol yr Esgob John Wyne, D.D., yn 1727, hyd nes y cafodd y Parch. J. Hughes Esgobaeth Llanelwy yn 1870, yr ysbaid o 143 o flynyddau." Tremadog. ALLTUD EXFION.
---ADDYSG GANOIJRADDOL YN…
ADDYSG GANOIJRADDOL YN Y WYDDGRUG. Nos Lun cynaliwyd cyfarfod yn Wyddgrug mewn cysylltiad a'r mater uchpd, ac i'ramcan o ddadleu hawliau y dref i gael ysgol, am, ei bod yn ganol- bwynt i boblogaeth fwnawl helaeth. Y cadeir- ydd, yr Henadur Thomas Parry, a hysbysodd. y cyfarfod fod Gyngott Sirol Fflint eisoes wedi caniatau i roddi treth heb fod dros ddimai y bunt, apha lln a. fyddai yr ysgol ya y Wyddgrug a'i peidio, eu bod yn rhwyru o gyfranu tuag at gyn- haliaeth y cyfryw. Catwyd amryw anerchiadau, a phasiwyd penderfyniadau i gadarnhaa. amcan y eyfarfod.
CYNGRAIR MWNWYR GOGLEDD CYMRO".
CYNGRAIR MWNWYR GOGLEDD CYMRO". Dydd Llundiweddaf cynaliodd y Cyngrairuchod gyfarfod yn Wrecsam, a chymerwyd y goidair gan Mr. D. Griffiths, Fflint, ac yr oedd yn bresenol ,.V gynrychiolwyr o ugain o' lofeydd yn Ngogledd Cymru. Hysbyswyd gan yr ysgrifenydd (Mr. R. Jones) fod. rhybudd wedi ei roddi i holl berchen- ogion glofeydd Gogledd Cyuaru yn gofyn am ddeg y cant o godiad yn eu cyflogau. Derbyniwyd yn y cyfartod y levies tuag at gynorthwyo glowyr Barley Hill, VVyddgrug, y rhai sydd yn sefyll allan er's deuddeg mis, a phenodwyd dirprwyaeth i ymweled a'r goruchwyliwr, gyda'r amcan o ddyfod i gytundeb ar y mater mewa dadl. Cyn- helir cyfarfod eto y 30ain cyfisol.
Advertising
œvbøbhiahau &t. .A.- A BOOK NO LIBRARY SHOULD BE WITHOUT. THE LAND OF MORGAN," BEIHG A OOimUBUTIOlf TOWAKD8 THE JlISTOBY 91 ftD LORDSHIP OF GLAMORGAN, Bit GEORGE T. OLABX, ESQ., F.S.A. I CONTENTS: IJITKODDCTIOH. THE LAND O? MORGAN AND ITS OONQDEEOES. rm CHIEF LORDS: EABLS ROBERT AND WILLIAM OF GLOUCESTER. rHE CO-HEIRS OF THE HONOUR AND LOBDSHIP, AND THE COMING IN OF THE HOUSE OF CLARE. TEE EARLS OF GLOUCESTER AND HERTFORD, &e. MSSBM. DANIEL OWEN á; CO. (Limited) have greal. pleasure in announcing that they have acquired tha entire remainder steck of the above valuable and interesting work of Welsh history, on tarmll which tnable them to offer it to the public at a greatly reduced price. Mr. Clark, who is one of the best-known antiquarizzai, ICl the country, relates in these pages the hiitory of the Lords of Glamorgan, from the conquest of the county md the settlement by Robert Fitzhamon down to the ixtinction, in the male line, of the House of Clare, Fitz- lamon's descendants and successors. As the number of copies on mala is strictly limited, rainediate application should be made to the publishers. The work will not be re-printed, and is, therefore, cer- i-Am very speedily to become scferca. Thole acquainted with the extravagantly high price* jrhich books on Welsh subjects are always able to :omma.nd m the market will lose no time in securing Mpiea of The Land of Morgan at the present greatly educed rate. IN IMPORTANT WELSH COUNTY HISTORY. 176pp., Large Post Svo" SAUTIFULLY PRINTED, AND NICKLT SOUKO IN CLOTH, PIpB ONLY HALF-A-OBOWN J Post Free, 2s. lid. •implication for copios should be made direct to— DANIEL OWEN AND CO. (LIMITED). WESTERN. MAIL BUILDINGS. CABDIFF, Low Sum charged for the Work rendering: a Hook., Commission impossible. 0YLAI POB CYMRO DDARLLEN T (V IlLYFE RHAGOROL, i.. Y FERCH 0 GEFN YDF Å," GAN ORAIGFRYN. trk 1. rwfe yn ddidraui drwy y poti, I r Gyboeddedig, gan MtI. Damiu Owm A'. Clwur ,Gyfy), fwJ.çagr41cW. f dm ft Mfaod yn t» O'f fyfaM ibtgoni, • aallwa ei argyma I qfiw lID dam""## 1M y am powo ol ymWn.