Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GYNGRES EGLWYSIG, 1889.

News
Cite
Share

Y GYNGRES EGLWYSIG, 1889. At Olygydd r Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Byddai yn dda genyf fi a llawer eraill gael tipyn o wybodaeth mewn cysylltiad a'r uchod trwy gyfrwng y Wasg Eglwysig Gymreig. Yn gyntaf, hofiwn wybod a oes dim gwell gair Cymraeg am Congress" na'r gair Cyngres ? Mae y gair Cyngres yn swnio, gallwn feddwl, yn rhy wan a rhy Seisnig- aidd. Efallai y bydd i'r Parchedig Canon Silvan Evans, neu ryw Gymreigiwr arall, fod mor garedig &g ymdrin a'r mater yma. Yn ail, mae arnom ni, y Cymry, awydd am wybodaeth mewn cysylltiad i'r Gyngres eleni yn Oaerdydd. Pwy o'r urddasolion fydd yno, a beth fydd y pynciau fydd yn cael eu trin? Mynych y gofynir, "A fydd Archesgob y Dalaeth yno, ac Archesgob Gaerefrog ?" Mae genym berffaith hyder fod y darpariadau ar gyfer y Gyngres yn y dwylaw priodol. Mae Arglwydd Esgob Llandaf, ar yr hwn y mae y gofal penaf, yn deall ein hajg- h-enion yn dda. Mae yn Esgob y werin. Nid wyf YQ meddwl fod esgob wedi bod yn fwy poblogaidd Hag Esgob presenol Llandaf oddiar yr amser yr an- **fonwyd°y saith esgob i Dwr Llundain am beidio tori W gyfraith er boddhau y brenin. Mae gan offeiriaid baroh iddo, a chan Eglwyswyr barch iddo. Maehyd yn nod y Cymmrodorion wedi pasio pleidlais o ddiolohgarwch iddo am ei ymddygiad fel esgob. FoUy, gan fod y f«tb. be r son a jofa.1 darparu ar gyfer y Gyngres arno, nid oes aohos i ni bryderu-fe fydd i bobpeth. angenrheidiol gael eu darparu ar ein cyfer. Ond yr hyn sydd arnom ni eisiau yn bresenol fel Oymry ydyw cael ein hysbysu o dro i dro pa fodd ma,elr darpariadau yn myned ymlaen, er mwyn oreu dyddordab a chael gan Eglwyswyr yn neillduol i gymeryd y peth i fyny. Gwlad y pregethu ydyw Oymrp, ac f0'fydd mwy o ddynion yn myned i Gaar- i wrando y pregethau na gwrando dim arall. son mawr am Esgob Peterborough fel pregeth- Wr. A gawn ni y Cymry y fraint o'i glywed ? Hefyd niae yn galondid meddwl fod digon o dalent yn ^fghymru i foddloni y Cymro uniaith. Ao nid wyf A yn meddwl y bydd y darpariadau yn gyflawn heb oregeth yn Gymraeg gan Canon Howells a'r Arch- Qdiaoon o Gastellnedd.—Yr eiddoch, &o., EGLWYSWR. [Cyhoeddwyd rhestr o destynau y Gyngres yn Y LLAN rai misoedd yn ol.—GOL.J

COFEB YR ESGOB MORGAN.

BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR.

" PAROCHIAL MAGAZINES."

YR EGLWYS GYMREIG YN PATAGONIA.

ATHRAW CYMREIG LLANBEDR.

EGLWYS GYMREIG MANCEINION.

HYMNAU A THONAU CYMREIG YR…

AI CARREG? YNTE CAREG?