Hide Articles List

3 articles on this Page

ILLITH O'R BRIFDDINAS.

News
Cite
Share

LLITH O'R BRIFDDINAS. Dywedais yn fy llith diweddaf y buasai genyf air ar ganu yr Eglwys Gymreig. Y mae canu a mawl yn rhai o brif nodweddion y cysegr, ac o ganlyniad y mae'n gofyn sylw arbenig sut y mae i ni eu trefnu a'u diwyllio. 0 berthynas i ganu a mawl yr Eglwys Gymreig yn y Brifddinas, rhaid i ni addef gyda pharch ac ymostyngiad ei fod ymhell yn ol i'r peth y dylasai fod. Gellid yn naturiol feddwl y dylasai yr Eglwys hon o bob Eglwys fod yn meddu ar wasanaeth gwresog, a chan a mawl yn ymylu ar berffeithrwydd mewn ystyr gelfyddydol. Ya ol ei manteision nid oes lie i ni oclielyd y dyb hon, gan y gallasai yn hawdd gaffael pigion Eglwyswyr Caerludd i'w chynorthwyo yn hyn o beth pe buasai yn rhoddi yr anogaeth leiaf iddynt. Ond rhaid i ni beidio neidio at ganlyniadau heb yn gyntaf daflu bras- olwg dros y rbesymau sydd genym dros gredu hyn. Cyfeiriasom yn flaenorol at y ffaith fod yma filoedd o Eglwyswyr Cymreig yn y Brifddinas, y rhai sydd gan mwyaf, yn ddiameu, wedi ymuno a'r Ymneillduwyr Cymreig a Seisnig, a hefyd Eglwysi Seisnig, ae eraill yn ddiddadl wedi syrtbio i dir difaterweh ac angbrediniaetli. Y mae'n haws genym gredu hyn gan mor hynod ddiofal yw'r Eglwys Gymreig nea eu llesiant a'u cysur mewn ystyr ysbrydol yn ogystal a moesol, ac o ganlyniad yr ydym yn tybied fod y cyfryw ag sydd wedi ymuno ag Eglwysi Seisnig a'r Ym. neillduwyr Cymreig a Seisnig wedi gwneyd yr hyn yr oedd temtasiwn gref iddynt ei wneyd, ond yn ddiameu y gwnaetbent yn well pe buasent wedi aros yn yr Eglwys Gymreig, ac ymuno A'u gilydd fel un gwr er rhoddi gwell agwedd ar bethau yn yr Eglwys hon Ond un rheswm paham iddynt ymuno ag achosion dieithr yw, fod peirianwaith yr Eglwys Gymreig yn fyr o at- dyniadau. Y mae dau beth neillduol yn nod- weddu addoliad, sef yw hyny, mawl a chin. [Feallai fod y gair mawl yn cynwys fel rheol y syniad o gan; ond er mwyn cyfleusdra, dodwn ystyr hollol wahanol i'r ddau air yn y fan yma]. Dywedasom o'r blaen fod cyfleusderau mawl yn yr Eglwys uchod yn lied anghyfartal gogyfer ag anghenion ysbrydol yr Eglwyswyr Cymreig yn y Brifddinas. Dywedwn yn awr fod y canu, a'i gymeryd yn ei holl agweddau, yn annheilwng o ganu Eglwys Gymreig. Cofier nad ydym mewn un modd yn hdni ein chwaeth bersonol ein hunain pan yn dweyd hyn. Yr ydym yn ei ddweyd gan fod y mwyafrif o ddigon o'r rhai yr ymgynghor- asom a hwynt yn ei gylch o'r farn hon. Ac yr ydym yn credu yn gydwybodol y funyd hon pe buasid yn gofyn barn pob un o aelodau yr Eglwys ar y pwnc, y cawsid fod y mwyafrif o ddigon o'r un feddwl a nyni., Wel, i fyned rhag ein blaen. Ymha ystyron y mae y canu yn fyt o'r hyn ddylai fod ? (1.) Y mae, fel rheol, ormod o donaa dieithr i'r gynulleidfa yn cael eu canu. Enwn rhai tonau sydd bob amser yn cynhyrfu y brwd- frydigrwydd a'r defosiwn mwyaf yn y Cymro, ond nad ydynt byth yn cael eu canu yn yr Eg- lwys uchod. Dyma hwy—Diniweidrwsdd, Taly- bont, Eifionydd, Cyfamod, Dorcas, Moriah, Oroeshoeliad, Llydaw, Clod, Erfyniad, Mission- ary, Twrgwyn, Joanna, Rhyddid, Hyder, Gor- phwysfa (ac amryw eraill y gallaswn eu henwi), sydd yn y Llyfr Tonau, sef eiddo Dr. Evans. (2.) Y canlyniad o hynlydyw nad oes ond ychydig iawn o'r gynulleidfa yn gallu canu gyda'r cor, a thra yn y cyflwr hwn y mae y canu yn an. nghynulleidfaol, ac nid ydyw yr addoliad yn gyf- lawn. (3.) Feallai yr awgrymir yma pe buasai y gynulleidfa yn gwybed y tonau a genir yno yn bresenol, y gallasent ymarllwys eu teimladau iddynt yr un peth yn gywir a phe buasent yn canu y tonau a enwasom uchod. Mewn atebiad dywedwn na allasent yn y mwyafrif o honyDt, oherwydd natur cyfansoddiad y tonau. Y mae tonau da a thonau gwael yn gwahaniaethu oddi- wrth eu gilydd fel peiriant perffaith a pheiriant anmherffaith. Doder agGr yn y cyntaf, fe weithia gyda'r rhwyddineb a'r hwylusdod mwyaf; doder ager yn y diweddaf, fe weithia rhan o'r peiriant yn erbyn rhan arall, neu ni fydd yn gweithio mewn trefn a chysondeb, ac oherwydd hyny metha ateb y pwrpas. Felly y mai gyda thonau, tra y mae rhai mor naturiol i'r teimlad ag sydd bosibl, y mae eraill mor an-naturiel a hyny. Dywedwn yn mhellach fod cerddoriaeth yr Eglwys Gymreig yn gwneuthur llawer tuag at greu difaterwch yu mynwesau Eglwyswyr Cym. reig y Brifddinas tuag ati. Nid yn unig y mae'r Eglwys wedi dioddef yn uniongyrchol oddiwrth y difaterweh hwn, ond y mae y cor wedi lleihau yn rhif y gwrywod a'r benywod yn neillduol yn ddi- weddar. Ni wyddom ni yn bersonol beth sydd wedi achosi hyn, gan na fuom erioed yn y cor. Modd bynag, dymunem ddweyd y dylasid, ar bob cyfrif, astudio chwaeth y gynulleidfa pan yn dewis tonau i'w canu yn yr Eglwys. Wrth ysgrifenu hyn nid ydym am feio y rhai hyny sydd yn liafurio yn y rhan yma o'r gwaith Eglwysig. Ein hamcan ydyw galw sylw ein cantorion at yr hyn a ystyriwn yn feius yn nghaniadaeth cysegr yr Eglwys Gymreig. Nis gellir disgwyl i gynull- eidfa o Gymry fwynhan, er yn trigo yn Llundain, tonau dieithr pan y mae eu heneidiau yn adna- byddus &'r hen alawon Cymreig ac yn fyw gan adgofion melus am danynt. Dymunwn o waelod ein calon weied diwygiad yn y cyfeiried hwn. Bwriadwn yn ein llith nesaf ddechreu traethu ein barn ar y Conaclaethau Eglwysig Cymreig. Yr ydym yn credu y bydd ein hymchwiliad i gyflwr y rhaI hyn yn achos gorfoiedd i ddarllenwyr ihosog Y LLAN. Er eu bod, eto, yn ngwanwyn eubodolaetb, y mae argoelion fod cynhau toreithiog i'w ddisgwyl.—Excelsior'.

NODIADAU SENEDDOL.

MARWOLAETH RHEITHOR LLA.NY.…