Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

RHODDION SENEDDOL I'R TEULU…

News
Cite
Share

RHODDION SENEDDOL I'R TEULU BRENHINOL. TJx o'r pynciau hyny sydd yn rhan o stock. in-trade Eadieal y dyddiau diweddaf ydyw yr un a saif uwchben ein herthygl. Yn awr ac yn y man daw yr ystyriaeth o hono o flaen y cyhoedd am fod y FRENHINES yn galw ar y Senedd, o bryd i bryd, i wneuthur darpariaeth gogyfer a gwahanol aelodau ei theulu. Bob tro y derbynia y Senedd or- chymyn i'r perwyl oddiwrth ei MAWRHYDI, y Eiae y Radical yn gwrychu ac yn ysgyrnygu ei ddanedd gan lefain fod y tlawd yn cael ei wasgu er mwyn cadw nifer o greaduriaid segur yn y wlad, pa rai a ddylasent gael eu cadw gan y FRENHINES ei hun. Yr wythnos ddiweddaf danfonodd ei MAWEHYDI gais at y Senedd yn gofyn am roddion (grants) i ddau blentyn hynaf TYWYSOG CYMRU. Y canlyniad yw fod pob Radical yn y Senedd bron yn wallgof. Y mae y Llywodraeth wedi apwyntio Pwyllgor i wneuthur ym- chwiliad i'r pwnc dan sylw, a chyn pen nemawr o ddyddiau fe fydd wrth ei waith. Nos Fawrth gwelwyd golygfeydd hynod o addysgiadol yn y Senedd pan y cynygiodd ARWEINYDD Y Ty dri-ar-hugain o foneddig- ion fel aelodau o'r pwyllgor hwn. Yr oedd Mr. GLADSTONE mor Doriaidd a'r Ceidwadwr Poethaf yn y Ty. Ond yr oedd dyrnaid o Radicaliaid yno, fodd bynag, yn llawn o bob cenfigen a digasedd, ac ni ddarllenasom erioed eiriau mwy gwaradwyddus na'r rhai a draddodwyd gan Mr. STOREY, ac eraill, Pan yn cyfeirio at Mr. CHAMBERLAIN, Syr H. VIVIAN, &C. Pe b'ai y rhai hyny sydd yn wrthwynebol i'r rhoddion arian ol hyn i Wahanol aelodau y teulu brenhinol yn astudio y pwnc yn drwyadl cawsent allan Itai anghyfiawn i'r eithaf ydyw eu gwrth- Wynebiad. Pan yr esgynodd y FRENHINES r orsedd darfu iddi roddi ei holl eiddo Personol ei hun yn nwylaw y Senedd, gan ei bod yn ymddibynu ar y wlad, drwy ei chynrychiolwyr, i wneuthur darpariaeth ddyladwy er mwyn cynal anrhydedd ac Urddas y Goron. Yn y cytundeb a wnaeth- Pwyd y pryd hwnw rhwng y PEN CORONOG 'r Parliament, nid oedd unrhyw ddarpar- iaeth gogyfer a theulu y FRENHINES. Hhoddwyd iddi hi y swm o gSS5,000 fel brenhines gogyfer a'i threuliau fel y cyfryw. 0 tn y cytundeb uchod nid oedd darpariaeth o gwbl gogyfer ag aelodau ei theulu. Yr liedd hyn i'w benderfynu gan y Senedd fel y byddai gal wad am ystyriaeth o'r peth. A chofier fod y Senedd wedi ymrwymo i ystyr- led y ddyledswydd o ddarparu gogyfer ag aelodau y teulu brenhinol nid mewn ysbryd gelyniaethus ond mewn ysbryd awyddus i ^Qddwyn tuag atynt yn anrhydeddus a theg. mae gwrthod cario allan'y cytundeb hwn goriest, ac y mae pob un sydd yn cyd- ^eimlo a Eadicaliaid tebyg i Mri. ILLWYN, STOREY, BRADLAUGH, &C., yn Porthi yr ysbryd aflonydd sydd yn ein 8wlad yn bresenol, yr hwn sydd a'i fryd ar fldistrywio pob p.eth gwerth ei ddiogelu yn cyfansoddiad cenedlaethol. Yr oedd yn ^da genym weled mai boneddigion tebyg i DILLWYN (arwr y dadgysylltiad) yn Illaig ydoedd yn llesteirio y Llywodraeth yn bymgais i ymddwyn yn deg tuag at y ^-eulu Brenhinol yn hyn o fater.

Y WASG EGLWYSIG GYMREIG.

Y GULOFNJiENflADOL.

MARWOLAETH Y P ARC H. VINCENT…

[No title]

Advertising