Hide Articles List

6 articles on this Page

EGLWYS GYMREIG MANCHESTER.

News
Cite
Share

EGLWYS GYMREIG MANCHESTER. At Olygydd Y Llan a'r Dyioysogaeth." Syr,-Byddaf yn ddiolchgaros caniatewch ychydig ofodyn Y LLAN ialw sylw holl Eglwyswyr Cymru, at y penawd uchod. Daethum yma yn mis Chwefror diweddaf, ar gais pwyllgor, i geisio codi Eglwys Gymreig yn ninas y Cotwm. Pan yn ys- tyried mawredd y gwaith oedd i'w wneyd, a'r cyf- rifoldeb oysylltiol Ao, ef, rhaid addef i mi deimlo ar y cyntaf braidd yn anfoddlawn i ymgymeryd âg ef, ond beth bynag oedd fy amheuon a'm pryder yn nghylch y symudiad ar y dechreu, maent bellach wedi magu edyn, a chanu yn iach i mi. Wedi treulio ychydig fisoedd yma, ac ymgydna- byddu a sefyllfa y Cymry, a rhagolygon yr Eglwys Gymreig, teimlaf yn dia calonog., Cychwynais yma yn benderfynol o wneyd yr oil a allwn er sicrhau llwyddiant, ond er hyny, ac er fy mod yn awr mor benderfynol ag erioed, e to teimlaf fod arnaf angen am bob cynorthwy a aii ein cyfeilKon yn ISfghymru ei roddi tuag at sicrhau hyn. Efallai y gofyna y dar. llenydd, Beth a all ein cyieillion yn Nghymru ei wneyd, mewn ffordd o gynorthwy, er llwyddiant yr Eglwys Gymreig yn Manceinion ? Credwn fod yn ngallu Eglwyswyr Cymru wneyd "llawer ymhob rhyw ffordd," ae os felly, eu dyledswydd, wrthgwrs, ydyw gwneyd eu goreu. Teimlwn yn hyderus y bydd y darllenydd o'r un farn oyn gorphen darllen yr ysgrif hon. Yr oedd dau bethmewngolwg wrth godiEglwys Gymreig yma. Yn gyntaf, cael Cenhadwr i fyned ai: ol y defaid Cymreig colledig,|a'u dwyn i'r gorlan yn ol, os yn bosibl. Yn ail, sicrhau man. teision orefyddol rheolaidd i'r rhai hyny o'n pobl ag 'Sydd yu dyfod,yn barhaus o Gymru i'r ddinas fawr ac enwog hon. i Rhaid i mi ymfoddloni yr wythnos ymaar alw sylw ein cyd Eglwyswyr at y peth cyntaf mewn golwg, sef, mynedar oly defaid coll- edig, a'a dwyn yn ol i'r gorlan, os yn bosibl. Ys- grifenwn lythyr ar yr ail amoan mewn golwg yr wythnos nesaf, os oaniata Mr. Golygydd i ni ofod. Mae llwyddiant yr Eglwys Gymreig yn Man- ceinion, athrefi Seisnig eraill, yn dibynu i raddau helaeth ar fod y rhai sydd yn dyfod o Gymru i aros yn y ddinas fawr yma, y rhai a honanteu bod gartref yn Eglwyswyr, yn gwneyd eu oartref gyda'u pobl eu hunain, yn lie myned at yr enwadau. Beth, Eglwyswyr yn myned at yr enwadau wedi dyfod dros Glawdd Off a? A ydyw hyn yn ffaith ? Ydyw, ddarllenydd anwyl, mae yn Manceinion heddyw nifer fawr yn aelodau gyda'r gwahanol Enwadau Cymreig, oeddynt pan gartref yn Nghymru yn addolwyr dilychwin yn yr Eglwys I Y modd i roddi cyfrif em hyn ydyw, nad oedd yma un Eglwys Gymreig i'w derbyu, Wedi i ddyn wneyd ei gartref yn unrhyw fan nid yw yn or-aivyddus i ymadael, serch fod awyrgylch y Ue heb fod yr iaohusaf. Mae yn wir fod ambell mn yn dyfod yn ol at yr Hen Fam, ao oherwydd .hyn gelwir ni yma yn 11 boachers cref- yddol," &c. Yr wythnos oyn y diweddaf, gofynodd un o ddiaconiaid y Methodistiaid Calfinaidd i un o Wardeniaid yr Eglwys Gymreig, pa fodd yr oeddynt (yr Eglwyswyr) yn myned ymlaen ? "Yn dda iawn," meddai y warden, yr ydym yn rhifo erbyn hyn yn agos i 200." Purion, purion," meddai y diaoon, gyda gwen wawdlyd, fe ewch ymlaen am dymor, ond marw a wim yr Eglwys yma, ein pobl ni sydd genych i gyd." Mae yn wir fed nifer wedi cefnu ar y Methodistiaid, ond pobl pwy oeddynt cyn ymuno a'r Methodistfaid ? Ni fyn y Methodistiaid gredu eu bod yn Eglwyswyr pan yn gadael gwlad eu genedigaeth, 'u bod wedi ymuno a hwy am nad oedd yma Eglwys Gymreig. Clyvvais fod dau neu dri wedi myned at yr Ymneillduwyr er pan wyf yma. Efallai y dywed y darllenydd mai Eglwyswyr di-zelai di-werth iawn yw y rhai hyn, neu ni fuasent yn cefnu ar yr Eglwys, a bod yn well bod heb y cyfryw rai. Ond gadewch i ni gymeryd pwyll ae edrych o'n hamgylch er cael allan a oes ffordd arall iroddi oyfrif am hyn. Gwell genym gredu mai myned at yr Ymneilldu- wyr y maent, yn eu hanwybodaeth o'r Eglwys Gymreig. Ofnwn nad oes digon o ofal yn cael ei gymeryd i hysbysu a chyfarwyddo y rhai -a .ddeuanfe i'r ddinBiS o Gymru gan offeiriad y plwyf cyn iddynt gychwyn oddicartref. Er fod nifer o Eglwyswyr yn dyfod yma y naill wythnos ar ol y Hall, nid v/yf wedi derbyn sill (ond gan un), i'm hysbysu o'u dyfodiad er pan wyf yma. Cofier fod Manoeinion yn 12 milldir -o byd, wrth 5 neu 6 o led, a bod ei thrigolion yn rhifp mwy na holl Ogledd Cymru, Caerdydd, ac Abertawe gyda'u gilyfld. Felly gwelir mai nid gor- chwyl hawdd yw dyfod o hyd i'r rhai sydd yn dyfod yma y naill wythnos ar ol y llall, JC pwnc yn awr ydyw pa f odd i wella y diffyg dan sylw, oblegid mai arnom eisiau i bob Eglwyswr Cymreig ddELw ir ddinar wneyd ei g artref gyda ni. Mi dybiwn mai y ffordd debyoaf i sicrhau hyn fyddai, i'r clerigwyr a'r wardeniaid yn Nghymru ofalu cael allao pwy yn eu hardal fydd ar ymfudo i Loegr, ac i ba un o'r dinasoedd y bwriadant fyned, a cheisio, os yn bosibl, oael eu cyfeiriad yn eu oartref newydd, yna hysbysu y Caplan Cymreig yn y dref hono (os bydd yno un), o'u dyfodiad. Gofalu yn mhenaf dim am eu hysbysu cyn cychwyn am yr Eglwys Gymreig, a'u banog i'w mynychu. Cyn- helir y gwasanaethau Cymreig ar hyn o bryd yn Tuer -Street, Oxford Street, yn agos i Owen's College. Hyderaf y telir sylw i'r mater hwn, fel na chawn ein gondio mwy wrth glywed fod Eglwyswyr yn myned i'r oapelau am nad yoynt yn gwybodfod yma Eglwys Gymreig. Wrth derfynu ein llythyr presenol, dymunwn ddweyd wrth y rhai sydd ar adael eu cartref aoheb benderfynu a* ba le i wynebu, fod yn Manceinion gystal manteision i ymddyrchaf u ag sydd yn yr un dref yn y deyrnas. Cydnabyddir ei bod yn uno'r trefydd blaenaf o ran ei gweithfeydd, ei chyfoeth, a'i thrigolion, a'r hon, mewn rhai pethau sydd yn gyf- addas i aefyll eystadl-euaeth lwyddianus gyda holl I drefydd y byd. A fydd i ddarllenwyr Y LLAN, sydd & pherthynas- an neu gyfeillion yma, eu hysbysu am dancm ni, a'n hysbysu ninau am danynt hwy ? Cyfeiriad y Caplan Cymreig yn bresenol yw,—Rev. James Price, 13, Weymouth Street, Oxford Street, Manchester. Rhoddwn ein hysgrifell heibio y tro yma, gan hyderu y cawn hamdden i ysgtifenu un llythyr yn rhagor yr wythnos nesaf.—Yr eiddoch, &a., Y CENHADWR CYMBBIG, Manceinion, Gorph. 6ed.

LLITH 0 LERPWL.

[No title]

[No title]

IDBUNK.EMESS CURED. —V

LLYFR HYMNAU A THONAU I'R…