Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YSGOL LLANYMDDYFRI.

DYRCHAFIAD EGLWYSIG.

BtWYDDYN 0 WAlTH IGL vVYSIG.…

NODIADAU SENEDDOL.

MARWOLAETH YR ARCHDDIACON…

News
Cite
Share

MARWOLAETH YR ARCHDDIACON SMART. Bu farw yr Hybarch Edward Smart, M.A. Archddiacon Llauelwy a Chanon Trigianol, dydd Mawrth cyn y diweddaf, yn ei breswylfod yn Rhyl, lie yr oedd wedi bod yn byw byth er ei ym- ddiswyddiad o'i fywyliaeth yn Northop, ger Penarlag, yn herwydd afiechyd, rhyw ddeuddeng mis yn ol. Ganwyd ef yn Nyffryn Clwydyn y flwyddyn 1816, ae yn 1839 ordeiniwyd ef i gurad- iaeth Northop. Yn fuan wedi hyn apwyntiwyd ef i guradiaeth Henllan. Yma deohreuodd y curad ieuanc gyfres o wasanaethau yn yr awyr agored, y ffyrdd, a'r caeau, y plwyf helaethihwnw, ei gerbyd yn gwasanaetha fel pwlpud iddo. Pym- theng mlynedd wedi hyn dyrchafwyd ef yn rheithor, ac y mae wedi ei adnabod am flynydd. oedd lawer drwy'r Dywysogaeth fel Ysgrifenydd y Gymdeithas Genhadol Eglwysig. Bn hefyd yn foddion i adeilada dwy o Eglwysf newyddion yn ei blwyf, i ba rai y trefnwyd dos- barthiadau Eglwysig. Yn 1876 symudwyd ef i Ddinbych, a gwnaed ef yn Archddiacon yn 1878, a dyrchafwyd ef i Northop yn 1881. Yr cedd yn hyawdl fel pregethwr yn y ddwy iaith, a chan fod ei Gymraeg yn goeth ac yn Gymroaidd, yr oedd bob amser yn boblogaiddd yn mhlwyfi gwledig yr eegobaeth. Dodwyd gweddillion y diweddar Archddiacon i orphwys mewn beddrod cyffredin yn mynwent Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Gwener. Yr oed(I Ilu o glerigwyr wedi dyfod ynghyd i ddangoa eu hedmygedd o hono, yn cynwys yr Esgob a'r Deon, gyda llaweroedd o wyr lleyg. Y clerig- wyr gymerasant ran yn y gwasanaeth claddn oeddynt yr Esgob, y Canoniaid Hugh Jones a Morton. Y galarwyr oeddynt y Parch. E. H. Smart (mab), swydd Efrog; Cadben Bates (nai), a'r Mri. J. J. a T. H. Bancroft, Rhuthyn, a John Bancroft, Dinbych-y-Pysgod. Yr oedd yr arch wedi ei wneyd o dderw Prydeinig gydag addurn. waith o bres, ac yn orchuddiedig a chroesau a phlethdorchau ardderchog a drudfawr. 0

CONFFIRMASIWN.

DRUNKENNESS CURED.

AD-HNDEB CREFYDDOL.