Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YSGOL LLANYMDDYFRI.

DYRCHAFIAD EGLWYSIG.

BtWYDDYN 0 WAlTH IGL vVYSIG.…

NODIADAU SENEDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. rf'i. [GAN ein GOHEBYDD arbenig.] V Y BWRDD AMAETHYDDOL. Ty y Cyffredin yn bwyllgor ar Fesur i-. Arnaethyddol newydd, ddechreu yr wyth- "weddaf. )b::a?odd Mr. W. H. Smith o dan y Mesur hwn 4w 4(Leeii llywydd y bwrdd yn llawn mor gyfrifol, yn ^a}] a phersonol, a pbenaeth unrhyw swyddf a O^ynol i'r Llywodraeth. } amryw welliantau i wahanol adranau 7 thai a dynwyd yn ol a phasiwyd yr tanau» gydag ychydig gyfnewidiad geiriol, heb a* y Ty. yn Fesur o'r pwysigtwydd mwyaf i'r ^aetbyddol, ond gan nad oedd un barth- \6Iwerddon, cododd Mr. Gladstone V jj &ilan °'r Ty. Pan ddaw y Mesur gwerth- Weitbrediad oynrychiolir y buddianau yddol gan Weinidog cyfrifol yn eistedd ar Wit .tysotlys. ac Did oes un amhenaeth na fydd DREINIAD Y BANN (IWERDDON). Cy '^arlleniad y Meaur uchod J ^r" welliant i'r perwyl nad ^Jaorf gwario symiau pellach o'r ^rner°drol tuag at ddreinio tir yn yr Qwrthwynebai y oynygiad i wario swm !¡tQt ar ^rau^ y trethdalwyr Prydeinig, a chon. 0 ^a^lywiaeth y Llywodraeth fel yn gynwys- J °^a'ekh a llwgrwotrwyaeth i'r Iwerddon. M<aLlywodrfteth am beidio ymgynghori a'r hyt,. B61, GWYddelig mewn pertbynas &'r gwelliantau Ðy vi6itio Mr. T. W. Russell fod X250,000 wedi "10 6180es ar ranbarth y Bann, a'r owestiwn yd- tla a oedd yr arian a wariwyd i fyned yn ofer, 11& oed yn bosibl ar ycbydig draul pellach ^wy ^e^Dyddiol a chynyrchiol. j ^r* M'Cartney iddo fod ar byd rhan- ^ann' a'^ we^i ei^lwyr argyhoeddi am y dreiniad. Gwadai mai mantais i'r tirfeddianwyr a fyddai y Mesur, ond i'r tenantiaid amaetbyddol, ac er mwyn y tenantiaid hyny oedd wedi dioddef oymaint oddiwrth lifogydd, yr oedd yn gobeithio y tynai yr aelod anrhydeddus dros Sunderland ei wrthwynebiad yn ol. Cafwyd araith Wyddelig gyda dialedd gan Mr. Clancy. Dywedodd fod yr Iwerddon mewn rhyfel &'r Llywodraeth bresenol. Gwnai yr Iwerddon gymeryd pobpeth a allai gael, ao yna ni roddai y mymryn lleiaf o ddiolch. (Chwerthin). Pe gwariai Lloegr ugain miliwn neu gaa' miliwn o bunau ar y polisi hwnw yr un fyddai y canlyniad a phe na wariai ddim. Pe oynygiai y Llywodraeth rodd o:gan' miliwn ni wnai ef ei gwrthwynebu. (Chwerthin.) Nid oes dadl nad oedd y Gwyddel nwydwyllt ae anniolcbgar hwn yn dweyd meddwl y rhan fwyaf o'r aelodau Parnellaidd, ond ei fod yn ddwlach na'r rhan fwyaf o honynt. Gan y gwirion y ceiry gwir." Dywedodd Mr. Conybeare fod y Mesur hwn yn hollol gydweddol a pholisi Mr. Balfour, yr hwn oedd wedi trochi ei ddwvlaw yn ngwaed y tenantiaid Gwyddelig. Gwadai Mr. Balfour mai mantais i'r tirfeddian- wyr a fyddai y Mesurau hyn. Nid oeddynt yn ddim os nad oeddynt yn feaurau i'r tenantiaid. Galwodd sylw at y ffaith nad oedd un aelod Gwyddelig wedi beiddio dweyd mai mantais i'r tir- arglwyddi oeddynt. Nid oedd y Llywodraeth yn awyddus i lwgrwobrwyo yr Iwerddon. Eu hamcan ydoedd hyrwyddo mewn flordd sylweddol lwyddiant y wlad hono, lies yr hon oedd yn llawer nes at eu calon na'r adran hono o'r blaid Radioalaidd a gyn- rychiolid gan Mr. Conybeare. (Bloeddiadau o gym- eradwyaeth.) Yr oedd yr aelod anrhydeddus dros Cranborne wedi bod yn dadleu yn wresog dros iawnderau cenedloedd gorthrymedig tra y gallai wneyd hyny yn rhad ac am ddim. Wedipeth dadleu pellach dros ac yn erbyn y gwelliant. ymranodd y Ty- Dros y gwelliajit 78 Yn erbyn 209 11 Mwyafrif yn erbyn 131 Ar gais rhai o'r aelodau Radicalaidd cymerodd ymraniad arall le ar y owestiwn fod y mesur i gael ei ddarllen yr ail waith. Dros yr ail ddarlleniad 205 Yn erbyn 59 Mwyafrif dros. 146 TROSGLWYDDIAD TIR. Cynygiodd yr Arglwydd Ganghellydd drydydd dar. lleniad Mesur TroaglvVyddiad Tir, yn Nhy yr Arg- lwyddi, dydd Mawrth, a dadlouai fod dull rhatach a symlaoh o drosglwyddo tir yn angenrheidiol. Yr oedd yn awyddus i wybod pa fodd yr oedd gwrthwyn- ebwyr y mesur yn cynyg dwyn hyny oddiamgylch, Wedi hyny eglurodd ddarp&piaethaa y mesur, a dy- wedodd os gwrthodid ef na fyddai byny yn ddim an- thydedd i Dy yr Arglwyddi. Cynygiodd Due Beaufort fod y mesur i gael ei ddarllan ymhen tri mis. Dadleuai ei arglwyddiaeth y gwna.i y mesur leihau gwerth tir, gan y byddai i'r draul o gofrestru y teitl syrthio ar y pwrcaswr. Gwrthwyne'owyd y mesur gan Ardalydd Bath, am y byddai y pleidiau yn nwylaw swyddog y Llywodr- aetb, ao y buasai yn rhaid i'r wlad, pe deuai y mesur yn gyfraitb, dalu am unrhyw gamgymeriad a wnelid gan y swyddog hwnw. Amddiffynwyd y mesur gan Iarll"Selborne, la- Iarll Cranbrook, ao Arglwydd Herschell, a gwtth- wynebwyd ef gan Iarll Beauohamp, IarlljMilltown, a Due Marlborough. Dywedodd Ardalydd Salisbury wrth gefnogi y trydydd darlleniad mai amcan y mesur oedd sicrhau teitl meddianol (possessory title). Buasai gwrthod. iad y mesur yn siomedigaeth ddirfawr i'r Llywodr- aetb. Yr oeddynt yn cynyg pasio mesur a ychwan- egai lawar at ddedwyddwoh pobl y wlad bon, a llwyddiant tir-berchenogion. Ymranodd ea barg. lwyddiaethau- Dros y trydydd darlleniad 113 Yn erbyn 104 Mwyafrif dros. 9 Oni b'ai fod y ZQesur hwn yn fesur y Llywodraeth ni fuasai yr ua siawna iddo basio, a bydd yn ofynol eto gwneyd rhai cyfnewidiadau pwysig ynddo cyn y daw yn gyfraitb. Gyrfa ystormus sydd o'i flaen. DEISEB ANFERTH. Cyflwynodd Mr. J. Stevenson ddeiseb i Dy y Oyit- redin oddiwrth y Cadfridog Booth a 456,500 o aelodau o Fyddin yr Iaehawdwriaeth yn ffafr Mesur Cau y Tafarnau ac y Sul. I Galwodd y Llyngesydd Fiald "sylw y LIefarydd at yr hyn a dybiai yn afreoleidd-dra yn y gweithrediad. au, yn gymaint a bod y ddeiseb yn dair milldir o hyd, ac o ganlyniad ei bod yn anmhoaibl i Mr. Stevenson sicrhau y Ty ei fod wedi edrych drwyddi. Dywedodd y Llefarydd mai nid ei fusnes ef oedd hyny, ond mai y pwyllgor oedd yn eistedd at ddeis. ebau oedd i benderfynu. Yr oedd y ddeiseb mor drwm fel yr oedd yn gofyn gwaBanaeth tri o w £ r cedyrn a chyhyrog ilw iluago at y bar, Yr oedd Syr Wilfrid Lawson wrth ei j fodd. foad. Y GYNHADLEDD LAFUB. Cynygiodd Mr. C. Graham ohiriad y Ty, non Fawrtb, i alvr sylw at y oyfarwyddiadau oedd wedi eu rhoddi i'r dirprwywyr Prydeinig yn yr Interna- tional Labour Conference a gynhelir yn Barne yn mis Medi, y rhai oedd yn eu hatal i gymeryd rhan mewn unrhyw ddadleuaeth ar y cwestiwn o oriau llafur a materion eraill. Cyfeiriodd Syr James Fergusson at y mesurau a basiwycl gan y Llywodraeth i ddangos geudeb y oy. huddiad fod y Llywodraeth yn eageuluBO buddianau y dosbeirth gweithiol; a dywedodd fod y cynygion y dadleuid drostynt gan Mr. Graham yn debygol o wneyd mwy o ddrwg nag o dda. Yr oedd y Llyw- odraeth yn edryoh arnynt fel materion i'w pender- fynu rhwng cyflogwyr a chyflogedig. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr. John Morley am ei fod yn credu mai dadleu y cweatiwn oedd y dull mwyaf effeithiol i ddangos i'r dosbarth gweithiol afresymoldeb a thwyll cynygion Mr. C. Gramham. Dywedodd Mr. Morley ei bod yn drueni fod dyngar- wyr profJeswrol (professional philanthropists) mor an- nynol (misanthropic). Da iawn. wyr profJeswrol (professional philanthropists) mor an- nynol (misanthropic). Da iawn. Gwrthdystiodd Mr. Graham yn erbyn y sarhad, a cbymerodd cryn ymgiprys le rhwng y ddau Ysgar- wyr. Nid yw Mr. Morley dros y mudiad wyth awr llafur," ac edliwiai Mr. Cunninghame Graham iddo fod ei aelA ar gyfrif hyny yn anniogel yn New. castle. Ymranodd y Ty- Dros y gohiriad 124 Yn erbyn. 189 Mwyafrif 65 CREULONDEB I BLANT. Bu y mesur hwn drachefn dan ystyriaeth pwyll- gor o Dy y Cyffredin dydd Mercher. Yn ol cynygiad y mesur, yr oriau a ganiateid i blant werthu petbau yn yr heolydd yn yr haf oedd o eaith o'r gloch yn y boreu hyd naw yn yr hwyr. Pan fa y mosur dan ystyriaeth ddiweddaf cynygiodd y Twrnai Cyffredin- ol estyn yr oria.u i ddeg o'r gloch yn lie naw. Dywedodd Mr. Mundella, yn ngofal yr hwn y mae y Mesur, ei fod yn foddlon derbyn y cyfnewidiad a gynygid gan y Twrnai Cyffredinol, ond ei fod yn gobeithio y caniateid rbyddid i'r awdurdodau Heel i gwtogi neu estyn yr oriau yn ol fel y bydai amgylch- iadau lleol yn galw. C/tunwyd ar y gwelliant, a'r canlyniad ydyw fod yr oriau wedi eu penderfynu o 5 o'r gloch yn y borea hyd 10 yn yr hwyr yn yr haf, ao o 5 i 8 yn y gauaf. Gwnaed camgymeriad yn yr oriau yn y rhifyn di. weddaf o'r LLAN, Yr oedd y bedwaredd adran 0 dan ystyriaeth pan ohiriwyd y ddadi. ADDYSG GANOLRADDQL YN NGHYMRU. Dywedodd Syr Hart-Dyke, mewn atebiad i Mr. Osborne Morgan, ei fod yn disgwyl y byddai gwell- iantau y Llywodraeth i'r Mesur hwn yn nwylaw yr aelodau foreu ddydd Gwener. COFRESTRIAD ETHOLWYR SIROL. Yn Nhy yr Arglwyddi, ddydd Iau, Cynygiodd Is-Iarll Portman ail ddarlleniad Mesur, amcan yr hwn ydyw estyn cofrestriad etholwyr sirol o'r 31ain o Hydref i'r 30ain o Dachwedd. Darllenwyd y Mesur yr ailwaitb, a throsglwydd- wyd ef i bwyllgor o'r holl Dy ar y 9fed o Orphenaf. BWRDD AMAETHYDDIAETH. Darllenwyd y Mesur hwn y drydedd waith yn Nhy y Cyfiredin, nos Iau, yn nghanol banllefau o gymer- adwyaeth. Haera yr Ysgarwyr orintachlyd na all y wlad ddisgwyl dim daioni oddiwrth y Llywodraeth Undabol I ¡ MESUR Y PRIFYSGOLION (YSGOTLAND). Bu amryw adranau o'r Mesur hwn dan ystyriaeth Ty y Cyffredin, ond gan fod y dadleuon o gymeriad hollol Ysgotaidd, nid oedd fawc o ddyddordeb cyS- redinol yn y gweithrediadau. Bu y Mesur drachefn dan sylw y Ty nos Wener, a chynygiwyd amryw welliantau i adran 10, yr hon sydd yn apwyntio dirprwyaeth frenhinol i ad-drefnu y Prifysgolion Ysgotaidd. Cynygiodd Mr. E. Robertson welliant i ddiddymu y gadair dduwinyddol, a dywedodd Syr G. Campbell ei fod yn awyddus i ddiddymu y gadair dduwinyddol a'r gadair feddygol. (Clawerthin.) Nid oedd neb o'r aelodau Soisnig, Cymreig, na Gwyddelig yn bresenol, ae yr oedd Ty y Cyfiredin I wedi ei adael yn hollol yn meddiant yr aelodau Yagotaitd, i ymwneyd & rhanau celfyddydol y Mesur I fel cynifer o University experts. ARMENIA. Yn Nhy yr Arglwyddi, dydd Gwener, galwodd Iarll Caernarfon sylw at sefyllfa ddifrifol pethau yn Armenia, yr hyn oedd yn peryglu heddweh Ewrop. Yr oedd yn awyddus i wybod a oedd ymrwymiadau Twrci tuag at yr Armeniaid wedi eu oadw. Cynyg- iodd ei arglwyddiaeth fod i'r ohebiaeth at sefyllfa pethau yn Armenia gael ei chyhoeddi. Cefnogwyd y oynygiad gan Archeagob Caergaint ar gyfrif y dyddordeb a deimlai yn y bobi Gristion- ogol hyn. Dywedodd Arglwydd Salisbury mai yr achoa o'r holl greulonderau yn Armenia oedd yr elyniaeth rhwng y Cristionogion a'r Mahometaniaid, ond nid oedd ei arglwyddiaeth yn credu fod Llywodraeth Twroi i'w beio am yr ymesodiadau hyn at ran o'i deiliaid, Yr oedd y Llywodraeth Dyrcaidd yn dlawd lotwa, ao yn amddifad o'r adnoddaa IDsenrheidiol i amddiffyn ei deiliaid drwy ei holl diriogaothau. Nid oedd yr holl gyfrifoldeb o leiaf yn gorphwya ar y Llywodraeth Dyrcaidd. Ystyriai ei arglwyddiaeth y cais am y papyrau yn un rhesymol, a buasai ya alluog i'w ganiatau. Ymddengys fod Armenia, yn cael ei goresgyn garr heidiau o garn-ladron o'r mynvddoedd, y rhai a. wnant hafoo ofnadwy ar y Cristionogion; a dywedic fod Befyllfa yr olaf yn gwaethygu oddiar Gytundeb Berlin; ond, pa fodd bynag, y mae'r Llywodraethc Dyrcaidd yn gwadu yn y modd mwyaf penderfynol, ei bod wedi profi yn anffyddlon i'w hymrwymiadau. Rhaid rhoi pen ar y mwdwl yr wythnosyma. Nid oedd dim o ddyddordeb cyffredinol yn Nhy y, Glebar."

MARWOLAETH YR ARCHDDIACON…

CONFFIRMASIWN.

DRUNKENNESS CURED.

AD-HNDEB CREFYDDOL.