Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYFARFOD CHWARTEROL DEONIAETH…

I---HYMNAL A THONAU OYMREIG…

LLITH 0 LEKFWL.

Advertising

Y WASG EGLWYSIG GYMREIG.

News
Cite
Share

Hyderwo y, daw*'z tanysgrifiadau i law eleni mor fuan ag y byddo modd, ao y byddant gan mwyaf yn ddwbl yr hyn oeddent y Uynedd, fel y gallom eu danfon i'r Parch. Ganon Lewis, o Dy Ddewi, yn ddi- oodi. Hyderwn hefyd y cawn danysgrifiadau newyddion eleni eto. Diolchwn amyr addewidion i'r perwyl yma. Nid ydym yn addaw danfan ad- roddiadau am weithrediadau Eglwysig i'r LLAN ond o'r plwyfi hyny a'i pleidiant, gan nad ydym yn elwa dim oddiwrth hyn ao mai abertbu ein hamser yn unig er mwyn y LLAN ydym. Nis gall neb feio arnom am ymgadw aty rlieol uohod. eleni.-Yr eiddocb, &c., GOHEBYDD HENDY GWYN-AE-DAF. At Olygydd YLlan a'r Dywysogaeih." Syr,—Yr ydys wedi yggrifenu.cry n lawer yn ddi- weddar yn Y LLAN, ar y penawd uchod, ac efallai fod digon wedi ei ysgrifenu arno ar hyn o bryd. Y. mae perygl i yagrifenu gormod yn gystal a rhy fach. Er mwyn oagoi y blaenaf, ni wnaf fi heddyw ysgrif* enu ar Y Wasg Eglwysig Gymreig yn gyffredinol 'fel oyfangorph, ond yr wyf am, drwy eioh oaniataid, alw sylw at un gangen o'r pwnc uchoa. Y mae'r pwnc yn un mor fawr ae amlochrog fel nas gellir gwneyd cyfiawnder ag ef mewn cylch bychan. Y mae y pwne mor fawr fel y mae eioh gohebwyr yn ai. drin, gan osod eu hysgwyddau wrtho, yn methu ei gyffro. Yr ydym ni, gan hyny, yn ei adael fel cyfangorph heddyw, ae yn panderfynu cymeryd mewn llaw un gangen o hono. Bydd hon yn llai i'r Haw na'r Hall i'r ysgwydd. Os llwyddwn i gyffro y gangen y tro hwn, gwnawn gymeryd cangen arall o'r pwno rywbryd eto. Gwell rbanu pwnc mor fawr yn dameidiau man fel y gellir ea trafod. Y mae eich gohebwyr wedi anghofio hyh yn druenus yn ddi- weddar. Un gangen ar y tro, ynte. Pan yn ysgrifenu ar y pwnouchod yn YLLAN am yr wythnos ddiweddaf, dywed eichgohebydd "L.J. Rhyl, fel hyn:—" Efallai y goddefir, i mi, mewn oysylltiad a'r pwno yma, gyfeirio yn fyr at y Parish Magazines fel cyfryngau rhagorol yn ngwasanaeth yr Eglwys a datgan fy llawenydd etf bod mewn nifer ar gynydd dirfawr. Yr wyf yn gydnabyddus a swyddfa lie yr argreffir rhai i chwech o wahanol blwyfydd o fewn cylch o lai nag ugain milldir, tra nad oedd ond un o honynt mewn bodolaeth bum' mlynedd yn ol. Mewn pedwar o'r plwyfyddhyny. mae'r Cyfaill Eglwysig yn cael ei I leoli'; A'm crêd yw y dylai. pob ptwyf yn yi: hwn y ceir haner cant o gymunwyr, 08 na:111ai, faddu ei gylchgrawn plwyfol." Dyna'r gangen yr wyf am alw sylw ati heddyw. Buwyd yn ddiweddar yn ymdrin a'r mater hwn yn Aberaeron-yn un o gyfarfodydd Deoniaeth Wladol Glyn Aeron. Ceiais fy mhenodi ynycyfarfod hwnw i ohebu a pherchenogion y Cyfaill Eglwysig, er mwyn ei leoli," os yn bosibl, yn y gwahanol blwyfi yn y Ddeoniaeth. Yn unol âhyn ysgrifenais at y perchenogion, gan ddywedyd wrthynt ein bod am "leoli" y Cyfaill Eglwysig, gan ei wneyd yn gy. hoeddiad plwyfol neu ddeoniaethol, fel y byddid yn gweled yn oreu. Yr oeddem an gofyn amlen newydd iddo-printio y teitl ar y tudalen gyntRtf-newyddiön lleol ar yr ail a'r trydydd tudalen, a gadaal y tudalen olaf yn wag. Yr oeddem am gael gwybod bath y cant fyddai y pria ychwanegol am hyn. Er mwyn bodyn eglur a chywir rhoddaf yr atebiad yn y fan hon, yn yr iaith Saeene, fel ag y daeth i law :— "37, King Street, Carmarthen, April 24eh, 1889. "Dear Sir,—Yonr favour of the 16th reLoealizing the Cyfaill came daly to han. Onr price for printing wrappers, same sample sent, would be as follows:— Standing Title, 2nd and 3rd p.p. new matter, and 4tb;p. blank-300. 7s. 6d 200, 9s. 6d.; 300, lis. 6d.; 400,13a, 6d.; 500, 15s 6d; 600, 17a. 3d. per 100 extra for stitching if neceasary. We shall not: raebj any charge for the extra postage.—Yours very truly, W. SPURKELL & SON." Ymae yr atebiad hwn, fel y gwelir, yn un afrosymol So anymarferol, gan ei fod yn rhy uchel o ran pris. Y mae atebiad fel hwn yn ddigon cerllyd i rewi teimladau rhai lied dwymn a brwdfrydig. Yn wir, pan y derbyniais yr atebiad, yr oeddwn yn meddwl fod lleoliad y Cyfaill wedi cael brathiad marwol yn nhy ei gyfeillion yn Nghaerfyrddin. Dan yr am- gylchiadau hyn, darllenais gyda bias anghyffredin y paragraph erybwylledigyn llythyr L. J. Rhyl. Y mae localiso Magazines Seisnig, gan eu gwneyd yn gyfryngau plwyfol, yn waith rhwydd a rhad, fel ag yr ydym yn gwybod, ond y mae y gorchwyl, fel ag yr wyf yn deal), yn llawer mwy anhawdd pan yr ymgymerir a lleoli cyhoeddiadau Cymreig. Yn awr, gan fod y peth yn ddichonadwy ac yn cael ei wneyd yn barod yn y Gogledd, yr wyf yn galw ar L. J." i'n cyfarwyddo a'n cynorthwyo yn y mater, fel y gallom weithio allan y cynllun yn y Deheudir yma. Wrth wneyd hyn dymunwn i ohwi gofio nad oes genym un argraffydd cyhoeddas yn y ddeoniaeth. Y mae hyn yn ein gorfodi i fynod at y perchenogion i Gaerfyrddm. fe Dyaaerr. yn cytuno ag argraffwyr mewn rhyw dref arall, byddai hyny yn ein gorfodi i dalu cludiad y sypyn ddwywaith cyn y cyrhaeddai ben ei daith, hyny yw, cludiad y Cyfaill o Gaerfyrddin i'r swyddfanewydd lie y gwneij ef yn gyhoeddiad lleoll, ac oddiyno i ben ei daith. Wel, yn lie ymhelaethu rhagor ar hyn o bryd, gan fod ounce o brofiad yn well na bushel o siarad am- gylchynol, yr wyf yn apelio yn y modd mwyaf carol edig at L. J." ein gosod ar yr iawn ffordd i leoli y Cyfaill Eglwysig yn Neheudir Oymru. Y mae ugeiniau o blwyfi yn y Deheudir yn "lleoli" oy- hoeddiadau Seisnig, ac yr ydym .am wneyd hyn &'r Cyfaill Eglwysig, os gellir gwneyd hyny yn gymedrol râd. Bydd lIawer yn ymhyfrydu clywed am leol- iad y Cyfaill yn y Gogledd, ao yr wyf yn gobeithio y rhydd eioh manylion am y oyfryw anogaeth i ninau yn y Deheudir ymgymeryd a'r peth ar un. waith. Os bydd eich cyfarwyddiadau yn foddhaol, bydd ugeiniau o blwyfi yn debyg o fabwysiadu'r cynllun o hyn i ddechreu'r flwyddyn nesaf. Felly y bo hi, ynte.-Yr eiddoch, &c., Llandysiliogogo. DEWI CYNFAB.