Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

EHAGOEFEEINTIAU YR OES.

LLYTHYR DEINIOL WYN.

EGLWYS Y PLWYF, LLANELLI.

I-I IEGLWYSI CYMREIG MEWN…

News
Cite
Share

EGLWYSI CYMREIG MEWN TREFI SEISNIG. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Doo iawa ydoedd genyf weled llythyrau Cenhadwr Manceinion ac eraill ar y pwnc uchod. Better late than never," fel y dywed y Sais. Ond dymunwn ofyn i'r rhai hyn sydd yn awr yn deffro ar y pwnc pwysig hwn, a ydynt hwy heb wybodaeth am lafur diflino Ficer St. Ann's, Bangor, a chym. deithas Genhadol Bangor, a ffurfiwyd yn bwrpasol i lanw y gagendor sydd rhwng yr Eglwys Gymreig a'i phtant gwasgaredig ? Gwir mai i'r Wladfa Gymreig y eyfeirir gwaith y Genhadaethyn awr, ond dar- llened neb y daflen flynyddol agwêl ar unwaith mai bwriad y gymdeithas ydyw 11 dileu y gwatthrudd oddiar Eglwys y Oymry nas gall na bodoli nae ym. ledu ymysg Cymry o'r tuallan i'r sefydliad a chyn. haliaeth ei hen waddoliad." Mewn gair, dymuniad Cymdeithas Bangor ydyw dwyn breintiau Eglwys eu Tadau i Gymry ymhob man ac ymhob lleyceic: hwynt allan o'u gwlad. Onid gresyn gorfod dweyd fod y gymrleithas hon, wedi ei sefydlu er's llawer blwyddyn, eto heb alia casglu digon i dalu cost un offeiriad. Rhaid i'r South American Mission gymeryd rhan o ymgeledd trueiniaid barbaraidd Fuegia i borthi Eglwyswyr Chupat, oherwydd fod Cymru, gwlad Efengyl, yn rhy hunanol, yn rhy gul, yn rhy grintachlyd i arbed ychydig o'i chyfoeth i ymgeleddu eiphlant gwasgaredig ei hunan. Peth rhyfedd yn fy ngolwg i ydyw na chipid ein hesgeulusdra gwarthus yma gan y Dadgysylltwyr fol eybuddiad marwol yn erbyn sefyllfa yr Eglwys fel Eglwys Genedlaethol. Ond gan fy mod wedi trin ar y pwnc yma eisoes mewn llawer llith a than llawer ffagenw yn yprif newyddiaduron a misolion Cymreig a Seisnig; nid af iddo ymhellach. Terfynaf gan obeithio y gwneir Cenhadaeth Gymreig Patagonia yn Welsh Church Missionary Society, ao yn lie gadael i wahanol genhadaethau Seisnig ddyfod yn flaenaf y ceir hon yn cael y prif ystafell ymhob plwyf yn Nghymru. Eisiau mwy o Home Rule e sydd yn yr Eglwys Gymreig, gadael i'r byd weled y gall hi weithio ei ffordd ar independent lines, yn lie cardota a byw fel perthynas dlawd ar ei chwaer yn Lloegr. Dyma fel y ceir y Cymry yn ol fel Ilifeir- iant, sef gweled ynddi fel y gwel y Sais yn awr, "Our National Church, the noblest, the highest, the truest exponent of our nationality." Cymru Fu, Oymry Fydd.—Yr eiddoch, &c., W. M. ROBERTS (Ap Elis Wyn o Wyrfai). At 'Olygydd Y L Ian a'r Dywysogaeth." Syr,—-Yr ydym yn ymgymeryd 6.9 yagrifenul ail lythyr dan y genawd uchod, gan y credwn "ac air a chydwybod," y dylai gael y lie blaenaf ar feddwl a chalon pob gwir Eglwyswyr y dyddiau presenol. Ond cyn myneå. ymhellach, erfyniaf eich caniatad, Mr. Gol,, i ddiolch i'r cyfeillion fu mor garedig ag ysgrifenu llythyrau atoch er cynorthwyo i ddwyn y mater dan aylw i'r blaen; hefyd i ateb gofyniadau eich Gohebydd Arbenig o Lerpwl, o un i un, fel y maent ar lawr, goreu y gallwn. Ond dealleryn y fan yma nad wyf yn bwriadu dadleu dros fy nghyn. Ilun fel y rhagoraf yn bosibl; cynygiais ef fel math o symbyliadi rhywnn dd'od ag un rhagorach a mwy ymarferol i'r maes. Gofyna eich Gohebydd paham y oyfyngaf y c&sgliadau at yr achos dan sylw i'r ddwy Esgobaeth Ogleddol ? Meddwl yr oeddwn ar y pryd yr ysgrifenais fy llythyr cyntaf i'r LLAN ys. grifenu un yr wythnos ddilynol i awgrymu i'r ddwy Esgobaeth Ddeheuol y priodoldeb ogodi cronfa er anfon cymorth i Lundain, a manau eraill yn Neheu- barth Lloegr, lie ceir Cymry yn trigo ond methais, oherwydd piinder amser, a gwneyd hyny. Feallai y dylaswn fod wedi awgrymu hyny yn fy llythyr cyntaf. Gofyna eto, Pa le ceid oasglyddion i ymgym- eryd a'r gorchwyl, ao a fyddai yn rhaid eu talu am eu Uafur ?" Buaswn yn oynyg fod un i gael eu dalu, fel y gallai ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, a thramwyo o blwyf i blwyf er gosad y mater allan yn y goleu cryfaf yn bosibl, a phenodi dau neti ychwaneg o gasglyddion gwirfoddol ymhob plwyf i weithredu dan ei gyfarwyddid. Gofyna ymhellach, paham yr oeddwn yn cynyg boneddigesau fel casglyddion ? Awgrymais hyn gan fy mod yn gwybod trwy brofiad y gall bonedd- iges lwyddo lie nis gall boneddwr, os bydd yn ym- roddi o ddifrif i'r gwaith. Dywed ymhellach fod y cynllun olaf a awgrymais, 11 heblaw ei fod yn fwy begeraidd, yn anymarferol." Dichon hyny, ond pa foad y gall y Gohebydd Arbenig o Lerpwl roddi oyf- rif am y llaith fod y Wesleyaid, a rhai o'r enwadau eraill, yn gallu llwyddo i godi y fath swm anrhyd- eddus drwyddo ? Methu yr ydym yn ein byw a gweled beth all ein lluddias ni rhagor rhyw rai eraill i lwyddo. Ond ar ol y cwbl, fy amcan yn cynyg y cynllun hwn yw, cymell rhywun galluocach i dd'od ag un rhagorach allan parhawn i'w argymell hyd oni oheir un gweli. Yr wyf yn hollol o'r un farn &'ch Gobebydd a fy hen gyfaill hoff ac anwyl, Mr. Thomas Jones, y dylid gwneyd casgliad blynyddol yn holl Eglwysi De a Gogledd Cymru at y Genhadaeth Gartrefol." Ond yn sicr i chw:, os dibynir ar y casgliadau yn yr Eglwysi yn conhadreth lied wan fydd hi. Rtiyw (idwy flvnedd yn ol bu yr ysgrifenydd yn apelio at gynulleidfa ar ran un o gronfeydd Esgob- aeth Llanelwy na, yr wyf yn camgymeryd, Canon Howell wnaeth yr apeliad, a gwnaeth hyny mor rymus ag y gallai imrhyw un yn 'yr eagobaeth wnoyd, a chafwyd casgliad o f,2 10s., aed o dy i dy yn yr ardal, gan wneyd cyffelyb apêl, a chafwyd £ 20. Gwir y crybwylla y Gohebydd o Lerpwl am "roddion gwirfoddol," heblaw y casgliadau. Ond pwy sydd i ofalu am y rhoddion gwirfoddol hyn ? Gallasai yr Organising Secretary cyflogedig wneyd hyn. Ofni yr ydym mai heb rhyw un i gyfyngu ei lafur yn gyfangwbl i'r gwaith, mai Iled ddifywyd fydd y symudiad. Ond gobeithiwn ein bod yn cyf. eiliorni. Yn awr, gyd-Eglwyswyr, a raid i ni roddi y medd- ylddrych o anfon Cenhadon Cymreig i Loegr i fyny oherwydddiffyg cefnogaeth ? Mae yu Wigan, Bury, Barrow, Middleaboroi-igh, Hanley, &c filoedd lawer o Gymry yn trigo. A ydych am amddifadu yrhai hyn o "weinidogaeth yr iaohawdwriaeth gyffred. inol a gyhoeddir gan yr Eglwys ? A all hynawsedd a zel Eglwyswyr gwlad ein genedigaeth adael i'r niferoedd a daflwyd i'r lleoedd uchod gan Raglun- iaeth, fyw yn amddifad o'r weinidogaeth sydd yn werthfawr ao anwyl ganddynt ? Os na, deuwch allan yn awr yn gynorthwy mewn cyfyng- bwynt. Gadewch i ni, er gwaethaf pawb a phob- peth, ddiogelu safle deilwng i Hen Eglwys y Oymry yn y trefydd dan sylw. Ai i'r Enwadau yn unig yr ymddiriedodd yr Arglwydd y miloedd Cymry sydd yn ninasoedd a threfi gwlad y Sais ? Os na, pwy a rydd y £ 5 cyntaf tuag at anfon Cenhadwr dros Glawdd OSa ?" Nid ydym yn credu mewn agitations, ond er hyny nis gallwn lai na chredu y gwnai agitation. rbyw lawer o ddrwg yn y cyfeiriad yma. Codwn fel un gwr, ynte, a bloeddiwn nes y clyw y pedwar Esgob Cymreig, y Deoniaid, yr Aroh- ddiaconiaid, a'r Canoniaid. Nis gallwn fyw yn hwy ar gwyno ac achwyn oherwydd diffygion yn y gor- phenol, mae amser gweithio wedi gwawrio -Yr ,eiddoch, &c., Y CENHADWR CYMREIG. Manceinion, Mehefin 28ain.

COLEG DEWI SANT.—ARHOLIADAU…

AT Y BEIRDD.

DOSBARTH I.

Y WASG EGLWYSIG GYMREIG.