Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

Advertising

------&rt»gtitHon Csffrcinnol.…

News
Cite
Share

&rt»gtitHon Csffrcinnol. ",r.A.r"r.r:r- DAMWAIN DDYCHRYNLLYD YN NOWLAIS.—Bn damwain echrydus yn ngweithiau haiarn Dowlais nos Fercher cyn y diweddaf. Ar ol I I pasio ladel yn cynwys deg tonell o metal toddedig, darfa i John Coughlin orwedd ar y llawr i ddis. gwyl iddo ddychwelyd. Yn anffodus, syrthiodd i gysgu, a phan ddychwelodd y ladel aeth dros ei gorph, nes ei lethu a'i losgi yn ddychrynllyd. Bu farw yn foan wed'yn. LLOFUDDIAETH DDYCHRYNLLYD YN NGHAER- LUDD.—Yn gynar foreu Sadwrn cafodd dyn a dynes eu trywanu wrth ymyl Yebytty Sant Thomas, Lambeth. Bu y dyn farw ymhen ych- ydig eiliadau, ond nid oedd y ddynes ond wedi ei harcholli yn ysgafn. Cymerwyd James Crick- mere, 26 oed, yn flaenorol yn gynorthwywr gyda phawnbroker, i fyny, a chyhuddwyd ef brydnawn Sadwrn o lofruddiaeth wirfoddol a cheisio llofr- uddio. Adgarcharwyd ef am wythnos. CYHUDDIAD 0 ANUDONIAETH YN NGHAERNARFON. —Dydd Llan, yn Llys Ynadon Bwrdeisiol Caer. narfon, cyhuddodd John Owen, Penycock, Mar. garet Jones, Cwmyglo, a Hugh Roberts, Moriah Square, Caernarton, o dyngu anudon mewn achos o dadogiad plentyn angliyfreithion a wrandawyd yn y dref bono ar yr 8fed o Ragfyr, y flwyddyn ddiweddaf. Collodd y diffynydd bob tro. Yn yr achos cyntaf ceisiodd un Margaret Jones, geneth o Gwmyglo neu Clwtybont, ond rhywle o'r ardal hono, dadogi ei phlentyn anghyfreithlon ar John Owen, gwr parchus o amaethwr a drigai yn Mhenycook gyda'r hwn y bu y ferch yn gwasan- aethu. Dydd Llan dywedai John Owen fod y lodes a'i thystion yn dywedyd anwiredd, a chy- huddodd hwy o dyngu anudon. Ymddangosodd Mr. S. R. Dew, Bangor, dros yr erlynydd, tra yr oMd Mr. H. L!oyd Carter yn amddiffyn Margaret Jones a Hugh Roberts. Yr oedd y llys yn orlawn yn ystod gwrandawiad yr achos, yr hwn a barha- I dd- 0 foreu hyd yr hwyr. Wedi gwrandaw tystion o bob tu taflwyd yr achos allan. STANLEY MEWN CALEDI MAWR.—Y mae yr agerlong Kinsembo, yr hon sydd wedi cyraedd Llynlleifiad o Dueddau Gorllewinol Affrica, yn dwyn newyddion yn cadarnhau l,y cwbl a fyneg- wyd am y caledi dirfawr a ddioddefwyd gan Mr. Stanley a'i ganlynwyr, a'r marwolaethau, mewn canlyniad i'r caledi, a ddioddefwyd gan yr ym- gyrch. Ar y 14eg o Fai yr oedd yr agerlong yn Banana wrth enau y Congo, a chafodd ynddo Mr. Robert Ward a 17 o ddynion allan o'r 200 a ffurfient fyddin Major Barttelot. Adroddid fod Stanley ei hun mewn carpiau ac heb esgidiau, ac yn gorfod detnyddio crwyn fel gorchudd i'w draed. Yr oedd ei wallt wedi troi yn wyn fel eira, a dywedid nad oedd ganddo ond 200 o ddyn. ion allan o 600. Bu y dynion farw ar ocbr y ffordd o newyn a gwendid. Buasai Stanley gyda Emin Pasha" yr hwn yr oedd ganddo 9,000 o ddynion, ac yr oedd yn teithio i'r tu deheuol i'r coast gyda symiau mawrion o ivory. Y mae y wybodaeth a ddygwyd gan y Kineembo wedi cael ei gasglu o wahanol ffynonellau. COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.- Y rhestr a ganlyn ydyw yr efydrydwyr yn y coleg y dy. farnwyd ysgoloriaethau, &c., iddynt ar ddiwedd y session 1888-9. Bydd yr ysgoloriaethau i efryd- wyr newydd yn cael eu dyfarnu yn nechreu y session rlesaf yn mis Medi. Ysgoloriaethau :-A. H. Leete (amodol), 30p.; A. H. Church, 25p.; A. H. Davey, 22p.; H. H. Robjohns, 25p.; John Thomas, 25p.; T. C. Worrington, 25p; W. P. Fuller, 20p; W. H. Lewis, 20p; J. T. Miles, 20p; C. E. O. Rush, 20p; E. W. Thompson, 20p; James Davis, 15p; Miss H. M. Freeman, 15p; W. H. Gregory, 15p Miss E. Morgan, 15p; Miss Perman, 15p; R. T. Thomas, 15p Miss Walker, 15p; T. L. Williams (amodol), 15p; J. E. P. Davies, lOp J. T. Davies, lOp Miss M. Davies, lOp; Miss Emmerson, 10p; S. J. Evans (amodol) lOp; James Fairgrieve, lOp Miss Gaynor, lOp; Sam Griffiths, lOp Miss Hewart, lOp G. K. Hibbert, 10p; J. E. Hooson, lOp; W. R. Jamieson (amodol), lOp W. J. Jenkins, lOp E. P. Jones, lOp M. H. Jones (amodol), lOp Miss Miller, lOp Miss Monk, lOp; Miss Pope (amod- ol), lOp W. T. Pugh (amodol), lOp Miss Bush, lOp; Miss Russell, lOp Ellis Williams, lOp H. W. G. Willliams, lOp J. J. Williams (amodol), lOp; Miss Windley, lOp; Miss L. H. M. Freeman, 5p; D. J. Hughes, 5p; J. J. Morgan (Penygarn), 5p; W. H. Thomas, 5p; Stanley Whicher, 5p; J. E. Phillips, 5p. CYFLAFAN OFNADWY YN NAPLES.—Tra yr oedd rhyw filwyr yn ymdeithio wrth ymyl Napiefc, darfu i un o'r dynion adael y rhengau, pryd y brysiwyd i chwilio am dano, a chan ymgnddie taniodd at yr ymcbwilwyr. Archollwyd dau filwr a dau arall. Cafodd un o'r swyddogion, wrth redeg i'w ddiarfogi, ei saethu yn farw, a chafodd un swyddog arall ei archolli cyn i'r gwallgo;ddyn gael saethu ei hun. CYNGOR SIR FEIRIONYDD.-Dydd Iau darlui i Gyngor Sir Feirionydd gymeradwyo penderfyn- iadau yn gwrthdystio yn erbyn casglu degwm i gadw eglwys ag sydd heb fod mewn cydymdeita- lad A'r mwyafrif mawr o bobl Cymru, ac yn dat- gan fod Deddf Cau y Tafarnau yn Nghymru yn Uwyddiant mawr yn sir Feirionydd, er gwaethaf y camddefnydd a wna y dyn ar daith o bQDi. 0 Bwys I'R GLOWYR.—Mewn trengboliad a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, yn Ngwrecsam, yn nghylch marwolaeth glowr a laddwyd drwy i nenfwd gwympo; achwynid fod y dynion yn fenn- yddiol yn gwrthod gosod props. Wrth ddychwel- yd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol," dat- ganodd y rheithwyr eu barn nad oedd y llaseman ag yr oedd y glowyr yn cael eu gorfodi gan y Llywodraeth i'w defnyddio o unrhyw wasanaotli i atal dainweiniau o'r fath, oherwydd fod y goleuni yn cael ei atal rhag cyraedd y nenfwd. DIGWYDDIAD RHYFEDD YN LLANDRINDJD,— Achoswyd cyffro mawr yn Llandrindod ddydd Gwener diweddaf oherwydd y newydd fod Hew wedi dianc o filodfa Wombwells, yr hon oedd yn dangos yn y lie hwnw. Wedi dyfod yn rhydd rhedodd y Hew i gyfeiriad gwesty, a chan ei weled yn dyfod cauwyd y drws o'i flaen. Trodd y Hew ar hyny ac aeth drwy ddrws yn yr ochr i'r drawing-room, lie yr oedd boneddwr yn eieledd. Neidiodd hwnw allan drwy y ffenestr, a chyda hyny daeth un o'r dynion o'r arddangosfa a dal- iwyd y Ilew. LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG ARALL ABLOID C'R CLAN-NA-GAEL.—Y mae bysbysrwydd newydtl gyrhaedd i'r wlad hon fod meddyg arall perthyn. ol i'r Clan-na-Gael wedi diflanu, ac ofnir ei lod wedi derbyn yr un dynged a Dr. Cronin. Ei enw ydyw Dr. M. Tunerney, gen6digol o Limerick. Dywedir ei fod wedi cael ei farcio i gael ei lofruddio yr un adeg a Dr. Cronin, John Devoy, a M'Cahey. Nid ydyw wedi cael ei weled er's canol Ebrill gan ei gyfeillion na neb arall. Tebygir yn awr ei fod wedi cael ei ddenu i Omaha, ac ar ei ffordd yno bernir iddo gael ei lithio a'i lof- ruddio. Y mae ei deulu yn byw yn Limerick. DAMWAIN DDYCHRYNLLYD YN MHENYCAB.— Digwyddodd damwain angeuol i fachgenyn yn Mhenycae, ger Rhiwabon, dydd Iau. Aeth ben wr o'r enw Daniel Jones i Lofa Stryt Las, Peny- cae, i ymofyn llwyth o lo, a chymerodd gydag ef nai, pump mlwydd oed. Yn y lofa dechreuodd y bachgenynyn chwareu hefo'r rhaff yn ngenan y pwll, a _thra yn gwneyd hyny rhoed arwydd i windio i tyny a chan fod y bachgenyn yn glynu wrth y rhaff, codwyd ef i fyny yn uebel, ond collodd ei afael, syrthiodd i lawr, a lladdwyd ef yn y fan. YMGROGIAD ALAETHUS. Achoswyd cryn gyn- wrf yn nghymydogaeth Peckforton, sir Gaer, gan ddigwyddiad alaethus a gymerodd le y dydd o'r blaen yn nhy Mr. Major, amaethwr adnabyddoe. Ymddengys i'w ferch, Miss Martha Major, ro'i genedigaeth i blentyn ryw chwech wythnos yn ol. Gadawyd y plentyn mewn ty yn Wrenbury, a dychwelodd Miss Major at ei thad yn teckfortoa foireu Sadwrn. Gwelwyd hi yn myn'd i'r ty gwair mor gynar a thri o'r gloch, a thuag awr yix ddiweddarach cafwyd hi wedi crogi ei hun. Mewn trengholiad a ddilynodd dychwelwyd rheithfarn e Hunanladdiad tra yn dymorol wallgof." Y DDIRPRWYAETH BARNELLAIDD.—Ymhlith y rhei a roes dyatiolaeth gerbron y ddirprwyaeth uchod ddydd Gwener, yr oedd Dr. Commine, A.S., yr hwn a ddywedodd ei fod yn aelod ar Bwyllgor Gweithiol Cyngrair y Tir, ac hefyd iddo fod ar Bwyllgor Gweithiol y Cyngrair Cenedlaeth- ol. Yr oedd y ddau gyngrair bob amser yn ym- drechu rhwystro'troseddau. Mr.J. F. X. O'Brien, A.S., yr hwn yn 1867 a ddedfrydwyd fel Ffeniad i gael ei grogi am deyrnfradwriaeth, ond yr hwn a ryddhawyd ar ol dwy flynedd o garchariad, a ddywedodd nad oedd dim a wnelai y Ffeniaid a throseddau na bradlofruddiaethau.

NODIA.DAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.

[No title]

[No title]

[No title]