Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
Yr wythnos o'r blaen gelwais Y WERIN A sylw at yr hyn oedd gan y Gwalia TALANTON." i ddweyd am II Talanton," goheb- ydd Y LLAN yn Sir Fon. Yn fy myw ni fedrwn ddirnad beth oedd gan ohebydd (Llanfechell) Giualm i wneyd a. Talanton," ac ymddengys fod byd yn nod Y Werin yn synu fod newyddiadur a broflfesa egwyddorion Ceidwadol ac Eglwysig yn curo ar frawd yn dal yr un gol- ygiadau. Fel y canlyn yr ysgrifena." Equator" yn Y Werin yr wythnos ddiweddaf:— "Rhyfedd mor anghyson â,'u hunain ydyw'r newyddiaduron Esgobaethol Cymreig y dyddiau hyn. Y Qwalia yn dinoethi'r LLAN am gyhoeddi dychymyg Talanton o Fon' o barth y ddau archddiacon a'r ddau gurad ar 'stryd Bangor, pan ar yr un pryd yn oyhoeddi ei hun yr wythnos ddi- weddaf yr hyn a dybid ganddo ei fod yn anerch- iad gweinidog Eglwysig ar, amgylchiad gwledd yn Llanfechell, pan nad ydoedd wedi'r cyfan, ond dychymyg noeth. A'i tybed fod y ddau newydd- iadur dan sylw yn cael eu t&l allan o rhyw drysorfa Eglwysig am gyhoeddi dychymygion sydd yn llygru awyrgylch cymdeithas ? Mewn gair, maent yn ail am hyny i brif newyddiadur Llundain, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn ddigon isel dan draed Mr. Parnell-un o wleidyddwyr penaf yr oes. Ffrwyth ymdrech Talanton ydyw'r dychymyg a gyhoeddwyd yn Y LLAN, ond ffrwyth ymdrech pwy ydyw'r dychymyg a gy- hoeddwyd yn y Qtvalia ? Atebed parson y plwyf os medr-nid oes ganddo'r un gwrandawt a fedrai ddwyn y fath ffrwyth." Profa y paragraph nadjyw hyd yn nod y beirniad craffuk; hwn yn hollol anffaeledig a hollwybodol. Unwaith o'r blaen yr eglurais (ac y mae "Talanton" wedi myned i drafferth o egluro), mai nid Talanton adroddodd y ddychymyg am y "ddau archddiacon a'r ddau gurad ar'stryd Bangor." Cader ldris, Boreu dydd Mercher.
Advertising
JQ A N I E L QW E N AND CO. (LIMITED) Are now Showing Every Variety of OFFICE, SCRIBBLING, GENE UAL, AND POCKET DIARIES, At all prices, from ONE PENNY to 15s. Published by T. J. Smith, Letts, Pettitt, Blackwood, &c. J. WALKER AND CO.'S NOTED LOOP DIARIES With Fixed or Renewable Books, in Roan, or Limp Russia. Ask for List.
------&rt»gtitHon Csffrcinnol.…
&rt»gtitHon Csffrcinnol. ",r.A.r"r.r:r- DAMWAIN DDYCHRYNLLYD YN NOWLAIS.—Bn damwain echrydus yn ngweithiau haiarn Dowlais nos Fercher cyn y diweddaf. Ar ol I I pasio ladel yn cynwys deg tonell o metal toddedig, darfa i John Coughlin orwedd ar y llawr i ddis. gwyl iddo ddychwelyd. Yn anffodus, syrthiodd i gysgu, a phan ddychwelodd y ladel aeth dros ei gorph, nes ei lethu a'i losgi yn ddychrynllyd. Bu farw yn foan wed'yn. LLOFUDDIAETH DDYCHRYNLLYD YN NGHAER- LUDD.—Yn gynar foreu Sadwrn cafodd dyn a dynes eu trywanu wrth ymyl Yebytty Sant Thomas, Lambeth. Bu y dyn farw ymhen ych- ydig eiliadau, ond nid oedd y ddynes ond wedi ei harcholli yn ysgafn. Cymerwyd James Crick- mere, 26 oed, yn flaenorol yn gynorthwywr gyda phawnbroker, i fyny, a chyhuddwyd ef brydnawn Sadwrn o lofruddiaeth wirfoddol a cheisio llofr- uddio. Adgarcharwyd ef am wythnos. CYHUDDIAD 0 ANUDONIAETH YN NGHAERNARFON. —Dydd Llan, yn Llys Ynadon Bwrdeisiol Caer. narfon, cyhuddodd John Owen, Penycock, Mar. garet Jones, Cwmyglo, a Hugh Roberts, Moriah Square, Caernarton, o dyngu anudon mewn achos o dadogiad plentyn angliyfreithion a wrandawyd yn y dref bono ar yr 8fed o Ragfyr, y flwyddyn ddiweddaf. Collodd y diffynydd bob tro. Yn yr achos cyntaf ceisiodd un Margaret Jones, geneth o Gwmyglo neu Clwtybont, ond rhywle o'r ardal hono, dadogi ei phlentyn anghyfreithlon ar John Owen, gwr parchus o amaethwr a drigai yn Mhenycook gyda'r hwn y bu y ferch yn gwasan- aethu. Dydd Llan dywedai John Owen fod y lodes a'i thystion yn dywedyd anwiredd, a chy- huddodd hwy o dyngu anudon. Ymddangosodd Mr. S. R. Dew, Bangor, dros yr erlynydd, tra yr oMd Mr. H. L!oyd Carter yn amddiffyn Margaret Jones a Hugh Roberts. Yr oedd y llys yn orlawn yn ystod gwrandawiad yr achos, yr hwn a barha- I dd- 0 foreu hyd yr hwyr. Wedi gwrandaw tystion o bob tu taflwyd yr achos allan. STANLEY MEWN CALEDI MAWR.—Y mae yr agerlong Kinsembo, yr hon sydd wedi cyraedd Llynlleifiad o Dueddau Gorllewinol Affrica, yn dwyn newyddion yn cadarnhau l,y cwbl a fyneg- wyd am y caledi dirfawr a ddioddefwyd gan Mr. Stanley a'i ganlynwyr, a'r marwolaethau, mewn canlyniad i'r caledi, a ddioddefwyd gan yr ym- gyrch. Ar y 14eg o Fai yr oedd yr agerlong yn Banana wrth enau y Congo, a chafodd ynddo Mr. Robert Ward a 17 o ddynion allan o'r 200 a ffurfient fyddin Major Barttelot. Adroddid fod Stanley ei hun mewn carpiau ac heb esgidiau, ac yn gorfod detnyddio crwyn fel gorchudd i'w draed. Yr oedd ei wallt wedi troi yn wyn fel eira, a dywedid nad oedd ganddo ond 200 o ddyn. ion allan o 600. Bu y dynion farw ar ocbr y ffordd o newyn a gwendid. Buasai Stanley gyda Emin Pasha" yr hwn yr oedd ganddo 9,000 o ddynion, ac yr oedd yn teithio i'r tu deheuol i'r coast gyda symiau mawrion o ivory. Y mae y wybodaeth a ddygwyd gan y Kineembo wedi cael ei gasglu o wahanol ffynonellau. COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.- Y rhestr a ganlyn ydyw yr efydrydwyr yn y coleg y dy. farnwyd ysgoloriaethau, &c., iddynt ar ddiwedd y session 1888-9. Bydd yr ysgoloriaethau i efryd- wyr newydd yn cael eu dyfarnu yn nechreu y session rlesaf yn mis Medi. Ysgoloriaethau :-A. H. Leete (amodol), 30p.; A. H. Church, 25p.; A. H. Davey, 22p.; H. H. Robjohns, 25p.; John Thomas, 25p.; T. C. Worrington, 25p; W. P. Fuller, 20p; W. H. Lewis, 20p; J. T. Miles, 20p; C. E. O. Rush, 20p; E. W. Thompson, 20p; James Davis, 15p; Miss H. M. Freeman, 15p; W. H. Gregory, 15p Miss E. Morgan, 15p; Miss Perman, 15p; R. T. Thomas, 15p Miss Walker, 15p; T. L. Williams (amodol), 15p; J. E. P. Davies, lOp J. T. Davies, lOp Miss M. Davies, lOp; Miss Emmerson, 10p; S. J. Evans (amodol) lOp; James Fairgrieve, lOp Miss Gaynor, lOp; Sam Griffiths, lOp Miss Hewart, lOp G. K. Hibbert, 10p; J. E. Hooson, lOp; W. R. Jamieson (amodol), lOp W. J. Jenkins, lOp E. P. Jones, lOp M. H. Jones (amodol), lOp Miss Miller, lOp Miss Monk, lOp; Miss Pope (amod- ol), lOp W. T. Pugh (amodol), lOp Miss Bush, lOp; Miss Russell, lOp Ellis Williams, lOp H. W. G. Willliams, lOp J. J. Williams (amodol), lOp; Miss Windley, lOp; Miss L. H. M. Freeman, 5p; D. J. Hughes, 5p; J. J. Morgan (Penygarn), 5p; W. H. Thomas, 5p; Stanley Whicher, 5p; J. E. Phillips, 5p. CYFLAFAN OFNADWY YN NAPLES.—Tra yr oedd rhyw filwyr yn ymdeithio wrth ymyl Napiefc, darfu i un o'r dynion adael y rhengau, pryd y brysiwyd i chwilio am dano, a chan ymgnddie taniodd at yr ymcbwilwyr. Archollwyd dau filwr a dau arall. Cafodd un o'r swyddogion, wrth redeg i'w ddiarfogi, ei saethu yn farw, a chafodd un swyddog arall ei archolli cyn i'r gwallgo;ddyn gael saethu ei hun. CYNGOR SIR FEIRIONYDD.-Dydd Iau darlui i Gyngor Sir Feirionydd gymeradwyo penderfyn- iadau yn gwrthdystio yn erbyn casglu degwm i gadw eglwys ag sydd heb fod mewn cydymdeita- lad A'r mwyafrif mawr o bobl Cymru, ac yn dat- gan fod Deddf Cau y Tafarnau yn Nghymru yn Uwyddiant mawr yn sir Feirionydd, er gwaethaf y camddefnydd a wna y dyn ar daith o bQDi. 0 Bwys I'R GLOWYR.—Mewn trengboliad a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, yn Ngwrecsam, yn nghylch marwolaeth glowr a laddwyd drwy i nenfwd gwympo; achwynid fod y dynion yn fenn- yddiol yn gwrthod gosod props. Wrth ddychwel- yd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol," dat- ganodd y rheithwyr eu barn nad oedd y llaseman ag yr oedd y glowyr yn cael eu gorfodi gan y Llywodraeth i'w defnyddio o unrhyw wasanaotli i atal dainweiniau o'r fath, oherwydd fod y goleuni yn cael ei atal rhag cyraedd y nenfwd. DIGWYDDIAD RHYFEDD YN LLANDRINDJD,— Achoswyd cyffro mawr yn Llandrindod ddydd Gwener diweddaf oherwydd y newydd fod Hew wedi dianc o filodfa Wombwells, yr hon oedd yn dangos yn y lie hwnw. Wedi dyfod yn rhydd rhedodd y Hew i gyfeiriad gwesty, a chan ei weled yn dyfod cauwyd y drws o'i flaen. Trodd y Hew ar hyny ac aeth drwy ddrws yn yr ochr i'r drawing-room, lie yr oedd boneddwr yn eieledd. Neidiodd hwnw allan drwy y ffenestr, a chyda hyny daeth un o'r dynion o'r arddangosfa a dal- iwyd y Ilew. LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG ARALL ABLOID C'R CLAN-NA-GAEL.—Y mae bysbysrwydd newydtl gyrhaedd i'r wlad hon fod meddyg arall perthyn. ol i'r Clan-na-Gael wedi diflanu, ac ofnir ei lod wedi derbyn yr un dynged a Dr. Cronin. Ei enw ydyw Dr. M. Tunerney, gen6digol o Limerick. Dywedir ei fod wedi cael ei farcio i gael ei lofruddio yr un adeg a Dr. Cronin, John Devoy, a M'Cahey. Nid ydyw wedi cael ei weled er's canol Ebrill gan ei gyfeillion na neb arall. Tebygir yn awr ei fod wedi cael ei ddenu i Omaha, ac ar ei ffordd yno bernir iddo gael ei lithio a'i lof- ruddio. Y mae ei deulu yn byw yn Limerick. DAMWAIN DDYCHRYNLLYD YN MHENYCAB.— Digwyddodd damwain angeuol i fachgenyn yn Mhenycae, ger Rhiwabon, dydd Iau. Aeth ben wr o'r enw Daniel Jones i Lofa Stryt Las, Peny- cae, i ymofyn llwyth o lo, a chymerodd gydag ef nai, pump mlwydd oed. Yn y lofa dechreuodd y bachgenynyn chwareu hefo'r rhaff yn ngenan y pwll, a _thra yn gwneyd hyny rhoed arwydd i windio i tyny a chan fod y bachgenyn yn glynu wrth y rhaff, codwyd ef i fyny yn uebel, ond collodd ei afael, syrthiodd i lawr, a lladdwyd ef yn y fan. YMGROGIAD ALAETHUS. Achoswyd cryn gyn- wrf yn nghymydogaeth Peckforton, sir Gaer, gan ddigwyddiad alaethus a gymerodd le y dydd o'r blaen yn nhy Mr. Major, amaethwr adnabyddoe. Ymddengys i'w ferch, Miss Martha Major, ro'i genedigaeth i blentyn ryw chwech wythnos yn ol. Gadawyd y plentyn mewn ty yn Wrenbury, a dychwelodd Miss Major at ei thad yn teckfortoa foireu Sadwrn. Gwelwyd hi yn myn'd i'r ty gwair mor gynar a thri o'r gloch, a thuag awr yix ddiweddarach cafwyd hi wedi crogi ei hun. Mewn trengholiad a ddilynodd dychwelwyd rheithfarn e Hunanladdiad tra yn dymorol wallgof." Y DDIRPRWYAETH BARNELLAIDD.—Ymhlith y rhei a roes dyatiolaeth gerbron y ddirprwyaeth uchod ddydd Gwener, yr oedd Dr. Commine, A.S., yr hwn a ddywedodd ei fod yn aelod ar Bwyllgor Gweithiol Cyngrair y Tir, ac hefyd iddo fod ar Bwyllgor Gweithiol y Cyngrair Cenedlaeth- ol. Yr oedd y ddau gyngrair bob amser yn ym- drechu rhwystro'troseddau. Mr.J. F. X. O'Brien, A.S., yr hwn yn 1867 a ddedfrydwyd fel Ffeniad i gael ei grogi am deyrnfradwriaeth, ond yr hwn a ryddhawyd ar ol dwy flynedd o garchariad, a ddywedodd nad oedd dim a wnelai y Ffeniaid a throseddau na bradlofruddiaethau.
NODIA.DAU WYTHNOSOL GAN IDRIS.
NODIA.DAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. MESUR ADDYSG GANOLRADDOL I GYMRU. Beth sydd yn cael ei wneyd y dyddliau hyn gan ein harweinwyr Eglwysig i amddiffyn hawliau yr Eglwys mewn cysylltiad a'r cwestiwn o Addysg Ganolraddol el i Gymru ? Y mae pawb yn cytuno fod angen am wneyd rhywbeth, ond pan eir i geisio llunio Mesur clywir dadleu mawr o bob tn. Y tebygol- rwydd yn bresenol yw y bydd i Fesur Mr. Stuart Rendell dd'od yn ddeddf yn ystod y tymor seneddol hwn. Y mae y Badicaliaid Gladston- aidd ar eu heithaf yn ceisio cael yr boll awdurdod i'w dwylaw eu bunain drwy gyfrwng y Cyngor Sirol, ond dywedir fod yn mwriad y Llywodraeth i ddwyn gwelliantau pwysig ymlaen pan ddaw y Mesur gerbron pwyllgor y Ty. Nid wyf wedi digwydd gweled fod dim gweithgarwah neillduol yn y gwersyll Eglwysig parthed i'r pwnc hwn. Efallai fod mwy yn cael ei wneyd nag yr ym- ddengya ar y wyneb. Y mae yn ddiddadl fod gan yr Eglwys lawer at stake ae y dylai ein blaenoriaid fod yn wyliadwrus.
[No title]
MR. GLAD- STONE A'R EGLWYS. Druan o Mr. Gladstone Curo sydd ar yr Hen Wr o bob cyf- eiriad. Er ei fod, yn unol a'i egwyddorion arferol, wedi cytuno i aberthu yr Eglwys i gyn- ddaiedd y mwyafrif (?) nid yw pobpeth oto yn heddychlawn. Eel y crybwyllais o'r blaei3, addewid amodol roddodd Mr. Gladstone i'r Dad- gysylltwyr yn yr araith yn St. Anstell. Dangos. odd y byddai rhwystrau yn dyfod o angenraid, ac yn benaf oblegid yr undeb anwahanadwy a fodola rhwng yr Eglwys yn Lloegr a'r Eglwys yn Nghymru. Nid yw pawb oddadgysylltwyr I Cymru yn foddlon i'r addewid yn y ffurf hon. Y mae yn rhaid i Mr. Gladstone siarad yn groew a diamodol. Nid oes I- os." i fod yn y cwestiwn o gwbl, ac nid oes unrhyw rwystr i gael yr ystyr- iaeth lleiaf. Mae Cymru yn galw, medd yr oraclau, am ddadgysylltiad yr Eglwys, ac os yw Mr Glad. fltone am barhau i gadw ymddiried y Cymry rhaid iddo osod ei fwyell at eigwreiddiau a'i thori hi i lawr. Gwyr pawb fod yr araith yn St. Austell wedi ei tbraddodi mewn canlyniad i fygythiad Cyngrair Rbyddfrydol y Gogledd. Tybed yr a, Mr. Gladstone gam ymhellach oblegid condemniad y Cyngrair Deheuol. Yn ol adrodd. iad y Genedl, cynhaliwyd cyfarfod o Gyngrai r Rfayddfrydol Deheudir Cymru a Sir Fynwy ddydd lau, pryd y pasiwyd penderfyniadau ".o blaid gwasgu am Ddadgysylltiad Cymreig yn fawr, ac i gondemnio camgynrychioliad Mr. Gladstone ar y pWnc."
[No title]
DEDDF CAU Y TAFARNAU AR Y SUL. Cymerodd cyfariod o'r dir- prwywyr a benodwyd gan y Llyw- odraeth i ymchwilio i eCfaith Deddf Cau y Tafarnau ar y Sal yn Nghymru le yn Craig's Court, Charing Cross, Llundain, dydd Gwener diweddaf, pryd y cymerwyd tystiolaethau yn mhellach. Llywyddid gan Arglwydd Balfour o Burleigb, a'r dirprwywyr eraill oeddynt Arglwydd Emlyn, Syr Ja. Harrington, a'r Barnwr Lloyd. Y tyst cyntaf oedd Mr. R. A. Valpy, yr hwn, yn absenoldeb y weddar Mr. R. O. Jones, a weithredai fel ynad eyflogedig Caerdydd yn ystod y blynyddoedd 18801 1881, 1885, ae 1886. Dywedodd ei fod wedi 8ylwi yn y flwyddyn 1885 fod cynydd mawr yn Qifer achosion am feddwdod ac ymddygiadau af- reoIus ar y Sul, o'i gymharu &'i brofiad yn 1880 1881. Wrth ateb i Syr R. Harridgton dywed- odd y tyst fod prif heolydd Caerdydd yn well yn Q,\Vr na chyn i'r ddeddf gael ei phasio, ond yr y lleoedd lleiaf yn uffernol ar foreuau Suliau. ateb i'r Barnwr Lloyd, dywedodd y tyst y c{tnunai weled yr adran tair milldir wedi ei h loesi allan o'r ddeddf, gan ei adael i'r ynadon i erfynu pa un a oedd person yn ddyn ar » aj peidio.—Yr oedd Miss Mary Grenfell, Orl a fynegodd iddi fod am ddeugain mlynedd It: I!g y dosbarthiadau gweithiol yn Abertawe, d!bfe.rn fod y ddeddf wedi lleihau anghymedrol. Gallai llawer o ddynion a merched ddyddio eu diwygiad oherwydd i'r ddeddf gael ei phasio. Yr oedd y ddeddf hefyd wedi. gwneyd kwaban- iaeth mawr yn yr Ysgolion Sul, oherwydd yr oedd plant ag oedd yn arfer yn cael eu hanfon o'r blaen i ymofyn cwrw o'r tafarnau, yn awr yn gallu myn'd i'r ysgol. Yr oedd heddgeidwaid Aber- tawe wedi dweyd wrthi fod y ddeddf wedi gwneyd gwahaniaeth mawr yn eu gwaith-nad oedd gan- ddynt yn awr fwy na chwarter o'r hyn ag oedd ganddynt o'r blaen i'w wneyd. Yr oedd hi yn meddwl fod heddgeidwaid Abertawe wedi gwneyd eu gwaith yn nodedig o dda. Yr oedd y rhaa fwyaf o ddigon o'r gweithwyr yn ei chymydog- aeth o blaid y ddeddf.—Terfynai hyn y dystiol- aeth a ddygwyd ymlaen, a gohiriodd y ddirprwy- aeth hyd yr Hydref, pryd yr ail gychwynir yr ymchwiliad yn Nghymru.
[No title]
-+- Y DIWEDDAR MR. W. R. H. POWELL, A.S. Y mae pob ymddangosiad y bydd y frwydr am Bedd y diweddar bydd y frwydr am Beddy diweddar Mr. W. E. H. Powell yn un boeth. Dywedir mai Mr. Lloyd Morgan 5 bargyfreithiwr, a mab i'r diweddar I Broffeswr Morgan, Caertyrddin, yw dewis-ddyn y Radicaliaid. Yr oedd wedi ei ddewis gan y clique pregetbwrol cyn fod Mr. Powell wedi gwaghau ei sedd, ac yn awr y mae wedi ei ddwyn gerbron yr etholaeth fel ymgeisydd Gladstonaidd. Gobeithiaf y gellir dylan wadu ar Arglwydd Emlyn i ddyfod ,I allan i ymladd brwydr y Ceidwadwyr, ac os felly y mae o fewn terfynau posibilrwydd y bydd i'r Radicaliaid gael allan eu bod wedi gor-gyfrif eu nerth. Y mae Arglwydd Emlyn yn boblogaidd iawn yn y sir, ac efe yw'r dyn i ymladd, os gellir, ] mewn rhyw ffordd ei gael. Os gwrthoda, da ] genyf glywed fod dynion da eraill yn barbd i gy- ] raeryd yr arfau i fyny. -*w" ■■■ "<