Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

COCKETT, GEE ABEETAAVE.

LLITH O'R BWIHYN GWLEDIG.

News
Cite
Share

LLITH O'R BWIHYN GWLEDIG. LGAN HEN DOMOS.] Yr oeddwn i wedi bwriadu ymneillduo o'r maes newyddiadurol, a gwneyd acsiwn i werthu y cert, yr asyn bach, a'r hen ffon. Ond y mae argoelion fod cynghorion Hen Domos, di'r help, yn dechreu dwyn ffrwyth. ESGOBAETH LLANDAF. Pob parch i'r Esgob Lewis am roddi y ganoniaeth wag i Gymro, acar y telerau ei fod i roddi ei fyw- oliaeth i fyny, a gwasanaethu yr esgobaeth. Y mae y Canon newydd yn cofio, o bosibl, i Hen Domos, di'r help, anfon llith i'r LLA.N ar y pwno hwn pan oedd efe yn olygydd, ao iddo wrthod rhoddi lie iddi rhac, digio yr urddasolion Egiwysig. Ni ddarfu i mi ei flino A- un gohebiaeth ar ol hyny. Wedi i'r gol- ygydd presenol gael yr awenau i'w law, anfonais fy llith ar unwaitb, ac os y byddweh chwi cystal a sylwi, yr oedd y ffon yn dyrnu yn ddiarbed ar y gwasfcraff arianol mewn cysylltiad a'r Eglwysi Cad- eiriol. Yr wyf o hyd o'r farn fod yn rhaid cael di- wygiad tua. brig y pren. Y mae rhyw clerical rookery o arngylch pob Eglwys Gadeiriol neJd ydynt o fawr les i'r esgobaeth, ac y mae yn rhaid eu gwasgaru cyn y byddant o un daioni. Da genyf weled Esgob Llandaf yn oymeryd ei ffon fawr fugcil- iol yn ei law, ao yn dechreu gwaeddi Whishw ar rai o honynt. Y mae yn llawn bryd i bob esgob wneyd yr un path. Beth yw y Ganoniaid a'r is-Gan- oniaid da mewn ystyr grefyddol neu fydol ? A all rhywun atab ? Ychydig amser yn ol, yr oedd offeinad yn glaf yn y Gogledd, ac nid oedd ganddo neb i gymeryd ei ddyledawyddau ar y Sul. Gan fod ei afiechyd yn drwm, ysgrifenodd ei briod am gymorth rbywun o'r Eglwys Gadeiriol; ond er fod yno dyrfa o offeiriaid, heb ddim i'w wneyd ond edrych ar eu gilydd, ni chafodd help gan un o honynt, ac yr cedd yr atebiad i'w llythyr oddiwrth un o'r urddasolion hyn mor syoh a dideimlad ag asglodyn gwernen, Y mae y llyfchyrau i gyd o fy mlaen. Anfonwyd hwy i mi. Pwy all amddiffyn rhyw bethau fel hyn ? Llawenydd mawr i mi oedd gweled Esgob Llandaf yn dechreu chwalu yr hen rookery, ac yn troi swydd y Canoniaid i ryw ddefnvdd. Onid er mwyn llenyddiaeth y sefydlwyd y canon. iaethau gyntaf ? Os felly, rhodder y ganoniaeth nesaf i Gymro galluog, yr hwn a allai olygu Y LLAN, yr I-raul, &c., yu lie talu am y gwaith hwn fslyn bresenol. Gwir nad yw y Parch. Ll. M. Williams, Beaufort, na'r Parch. N. Thomas, Llanddarog, yn cael yr un geiniog goch am eu gwaith. Nid yw yr olaf wscli cael ceiniog erioed i dalu am stamps gan y pwvllgor. Bu "Ponfro yn olygydd fcarddoniaeth Y Dywysogaethaill flynyddau. Ni chafodd gymaint â diolch gan neb am ei waith. "More kicks than ha'pence" yw'r drlniaeth. Y oanoniald ddylent wneyd y gwaith hwn. Cyflog ddo. i olygydd fyddai £ 350 y flwyddyn. Pa reswm rhoddi hyn i ddyn am esgeuluso ei blwyf am dri mis yn y ilwyddyn. ESGOBAETH LLANELWY. Y mae lliaws yn eiddigeddus wrth Esgob Edwards yn y Gogledd &'r Do, a,c yn ceis;.o pwyntio allan ei fanau gweinion, ond aiomedigion yw y rhai hyn. Y mae y Deon Owen hefyd yn y glorian, ac y mae llawer yn ei gael yn brin oblegid ei ieuenctyd. Ond y mae Hen Domos, di'r help, yn credu y lleinw ei swydd yn rhagorol. Y mae ei lythyr yn Y LLAN yn rhoddf ar ddeall i ni ei fod yn deall Cymru. Pob parch i'r Deoniaid eraill, ond yr wyf yn credu y gwneir mwy o waith sylweddol gan Deon Owen na hwynt oil. Y mae Hen Domos, di'r help, wedi cael yr hyfrydwch o ysgwyd Haw fig ef amryw o weithiau, ac nid oes dyn mwy dirodres, difplch, a serchog nag ef yn Nghymru. Yr oedd parch mawr iddo yn LIan- bedr a Llanymddyfri, ac os na pherchir ef yn Llan- elwy, arnoeh chwi, y Gogleddwyr, y bydd y bai, ao nid arno of. Da genyf ei fod i ymgymeryd a'r Wasg Gymreig. Gwelaf fod Esgob Edwards ar daith o fan i fan, ao yn lion a serchog i bawb. Bydd yn adwaen ei glerigwyr i gyd yn fuan. Bendith ar ei ben. Y mae yn ddyn bach wrth fodd calon Hen Domos, di'r help. Rhaid myn'd ar drot wyllt i ladd gwair. O. Y.-Da genyf weledyn Y LLAN fod boys Llan- ddarog wedi glanhau y fynwent eleni. Ni chawsech chwi yr hen ffoa llyaedd pe buasai pob peth fel y mae elani. I Pa le y mae tysteb John Harries, eh ?

,aste&ti gr anjoigggtsD,

$Bit rryy- iizi*U- ot&'hv…

! LLANFWROG, RHUTHYN.

' - DOLGELLAU.

FFESTINIOG.

t LLANGADWALADR, MON.

«HI DOWLAIS.

LLANGYNWYD.

MARDY.

ABERYSTWYTH.