Hide Articles List

12 articles on this Page

COCKETT, GEE ABEETAAVE.

News
Cite
Share

COCKETT, GEE ABEETAAVE. Llun y Sulgwyn oedd y dydd y bu hir ddisgwyl am dano yn y gymydogaeth hon, Waenarlwydd, a Ghwmbwrla, sef dydd i roddi y croesawiad cyntaf i'r ddwy feroh Eglwysig. Oychwynodd y tair Ysgol Sul o'u hysgcldai tuag un o'r gloch i gwrdcl â'u gilydd wrth y Blueford. Yr oedd y cydgordiad yn olygfa hardd dros ben, yr haul yn ei wres tanbeidiol yn gwenu arnom, a ninau & banerau yn chwifio yn yr awelon balmaidd, ac anthemau o fawl i Dduw yn esgyn i fyny, yr oedd y gymydogaeth yn methu a deall o ba le yr oedd yr oil wedi dyfod-dros ddeu- ddeg cant mewn nifer. Cafwyd araith bwrpasol i'r achlysur gan y Parch. D. Roderick, Aethpwyd yn ol bob yn ddau a dau i'r fam Eglwys, pryd yr awd trwy wasanaeth yr hwn oedd yn gorawl drwyddo. Darllenwyd y ddwy lith gan y Parch. E. G. Williams, intoniwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. G. Mathias, B.A., Waenarlwydd, rhoddwyd yr emynau allan gan y Ficer. Canwyd yr anthem "Oh taste and see," gan y tri chor yn un, dan arweiniad Mr. D. Jones, ysgolfeistr chwareuwyd gan yr organydd, Mr. D. Hughes. Cafwyd anerchiad rhagorol i'r Ysgol Sul, gan y Parch. Canon Gauntlett, M.A., Eglwys y Drindod, Abertawo. Ac i ddiweddu canwyd yr hen døn anwyl "Huddersfield," ar y geiriau "Duw mawr y rhyfeddodau maith." Yr wyf yn sicr fod pawb yn yr ysbryd, hefyd y gynulleidfa yn gyffred- inol, ac yr oedd llawer mwy na aUai yr eglwys ddal. Wedi cael gwledd o'r fath oreu i'r meddw), cafwyd yr un fath i'r corff. Yr oedd digonedd o de a bara brith gan y gwragedd a'r merched ieuainc, aelodau yr Ysgolion Sul, y rhai a wnaethant eu gwaith yn anrhydeddus. Cafodd y plant amryw chwareuon i'w difyru. Dydd Iau, Mehefin 20fed, cynhaliwyd gwledd o de a bara brith gan Eglwys St. Luke, Owmbwrla, ar y Grand Stand, Manselton. Yr oedd yr Mu yn ddy- munol dros ben, ac yr oedd canoedd wedi presenoli eu hunain yno, a thalu swllt yr un am dano. Yr oedd nifer arbenig o Ymneillduwyr zelog wedi d'od i fwynhau eu hunain, a dywedaf yn ddiofn fod gweitbgarwcn diflino a diwydrwydd Mr. Lloyd, y curad, wedi cael argraff neillduol yn y lie, nidar yr Eglwyswyr yn unig, ond ar w9"r y capeli 'run fath cyn byth y byddent yn dangos cymaint o barch icldo, sef rhoddi help llaw iddo i glirio y ddyled fydd ar yr Eglwys newydd. Dymunwn ddweyd fod gofal y wledd hon yn gorphwys arno ef ei hun, ac hefyd ar yr aelodau gweithgar sydd dan ei ofal. Gobaith pawb yn y lie yw, y bydd iddo gael byw hir einioes yn einplitb, i ddwyn miloedd eto i ymofyn am y gwir a'r bywiol Dduw. Hyn hefyd yw gwir ddy- muniad calon-Dewi Marlais.

LLITH O'R BWIHYN GWLEDIG.

,aste&ti gr anjoigggtsD,

$Bit rryy- iizi*U- ot&'hv…

! LLANFWROG, RHUTHYN.

' - DOLGELLAU.

FFESTINIOG.

t LLANGADWALADR, MON.

«HI DOWLAIS.

LLANGYNWYD.

MARDY.

ABERYSTWYTH.