Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NANTCWNLLE.

News
Cite
Share

NANTCWNLLE. BTRGOFIANT.—Y mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mr. J. B. Daviss, Brynhyfryd. Yr oedd gwrthddrych einbysgrif ynddyn Hetegtitiion Cgmrrig. NANTCWNLLE. BTRGOFIANT.—Y mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mr. J. B. Daviss, Brynhyfryd. Yr oedd gwrthddrych einbysgrif ynddyn ieuanc hynod obeithiol, o dalentau disglaer, yn Gristion gloew, yn gyfaill twymngalon, ac yn un a hoffid gan bawb a'i hadwaenai; ond cafodd ei dori i lawr yn sydyn wedi byr gystudd, yn mlodeu ei ddyddiau pan ond 26am mlwydd oed, a hyny ychydig ar ol iddo gyroedd yr anrbydedd uchaf yn Athrofa Edinburgh. Addysgwyd ef yn Atbrofa Aberystwyth a Chaerdydd. Tra yn Aber- ystwyth paaiodd yr arholiad yny London Matriculation yn y doabarth blaenaf. Ar ei fynediad i Gaerdydd enillodd ysgoloriaeth, ao yn ystod ei arhosiad yno amryw fan wobrau eraill; oddiyno aeth i Edinburgh, lie y bu mor llwyddianus fel yr anrhegwyd ef H Silver and Gold Medals. Dywedir wrthym fod hyn yn gyfartal H dweyd mai efe oedd yr ysgolhaig blaenaf yn yr athrofa, ac felly ei fod wedi enill y gamp ar ei holl gyd-redegwyr. Nid wyf yn meddwl y byddwn yn cyfeiliorni wrth ddweyd fod ei holl_ fywyd athrofaol yn cael ei ysgogi gan ysbryd y ddwy linell hyny o eiddo George Herbert "In hia Country Parson," lie y clywed:- He who aims at the sky Shoots higher much than he who means a tree." Yr oedd y n6d ag oedd wedi osod o'i flaen yn un uchel, ond yr oedd wedi llwyddo ei gyraedd, a phan nad oedd ond prin yrnaflyd yn y goron y mae yn trengu yn yr yrfa. A barnu wrth ysgolheigdod a'i lwyddiant bron anghydtuarol yn y gorphenol, gellid meddwl fod dyfodol disglSer o'i flaen fel meddyg. ond nid felly yr oedd trefn y doeth a'r anfeidrol Dduw. Cyfiawnodd ei waith o fewn ei dymor, ac y mae heddyw yn gorphwys oddiwrth ei lafur. Hebryngwyd ei weddillion marwol i fynwent Nantcwnlle dydd Mawrth y lSfed cyfisol, gan dorf liosog o gyfeillion a ddaethant ynghyd i dala y gy- mwynas olaf. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. Howell Lloyd, Bwlchyllan. Darllenwyd y llith yn yr Eglwys gan gyfaill yr ymadawedig, y Parch. E. Jones, cnrad Llanfaircaereinion, a phregethwyd gan Ficer y plwyf (y Parch. E. Williams). Cymerodd ei destyn o 2 Samuel xv. 26, Wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg." Siaradodd yn uchelam yr ymadawedig fel ysgolhaig ac fel Cristion, a dangosodd mewn modd difrifol ac effeithiol mai dyledswyddpawb yn ngwyneb y golled oeddent wedi gael oedd ymostwng i driniaeth yr Arglwydd Oherwydd nid yw efe erioed wedi gwneyd cam a. gwr yn ei fater." Duw fyddo'n nodded i'r teula sydd wedi en gadael ar ol yn yr anial i wylo ei golled. Heddwch i'w lwch hyd foren udganiad yr udgorn pan fyddo Dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd."

LLANGWM DINMAEL.

YSTRADGYNLAIS.

".ABERMA W.t

DYFFRYN ARDUDWY.

MANCHESTER.

DAROWEN.

PENYGROES.

HENDY GWYN AR DAF. I

!LLANWENOG.

NODION 0 FON.