Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Utiabpiaimtt JltasnacljflL .r.r- u PY MOOD IWNEYD EICH DIOO EIGH HUNAIN Gwna Potel Chwe' Cheiniog Chwe' Galwyn o honi. 4mm^ -ts4 £ WELSf*/ AVN Y^uobobmmdb^ °^T ^$0" TEADE MARK. Sylwedd dwysedig 0 Lysiau Chwerw, Peraidd, a Pheraroglaidd, a Brag, a hopys. Cynyrcha ddiod flasus, iachus, a dymunol. Yn meddu bias naturiol, llivv gloew, ac ewyn (foam) dysglaer, cyfartal 1 unrhyw ddiod mewn poteli. Mawr ganmolir hi gan bawb a'i profasant. Q Ar werth gan Grocers a gwerthwyr meddyginiaeth Breintebig (Patent Medicines). Telir cludiad symiau 0 dri dwsin o boteli ac uchod i unrhyw orsaf rheilffordd yn y deyrnas. Anfonir potelaid fel sample trwy y Post ar dderbyniad 7ic ^||L. jgBf "lew# Stamps. Rhoddir Telerau Cyfanwerthol (Wholesale), i'r neb J K/y^r J||& a'u ceisiant. Cyflenwad O SHOW CARDS a HANDBILLS i werthwyr. •jJf Goruchwylwyr yn eisiau yn mhob tref a phentref yn y Deyrnas Gyfunol. Darganfyddwr ac unig wneuthurwr, k MORGAN W. JAMES, Wholesale & Manufacturing Chemist, _^GS £ S^G~^|;|| DFO LLAMELLY, SOUTH WALES. -v n ŒíshtU, &c. LAY READER Seeks re-engagement; educated; experienced; bilingual; married; highest references.—Address, R. Price Hughes, Pren- te,r, near Tremadoc. 413 &c. J- CANTATA GYSEGREDIG, Pris 6c. yn yr Hen Nodiant; 4c. yn y Tonic Solffa. Dwsin o'r Hen Nodiant, 5s.; dwsin o'r Tonic Solffa, 3s.; ya rhydd trwy y Post.-Anfoner at Griffith Williams, Curate, Wrexham. 372 ffgsbjjsiaimu Atasnarbal. .r- "^QimSF^BlTTERS GrWILYM EVANS. DAEQAXFYDDIAD PENAF YR OES BRESENOL mewn MEDDYGIN- IAETH LYSIEUOL YW QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Ar gyfrif ei rinweddau iachaol rhyfeddol cymeradwyir hwn gan brif feddygon gwahanol wledydd fel meddyginiaeth sicr a diogel at holl anhwylderau y Cylla, yr Afu, a'r Giau.—Ceir miloeda 0 dystiolaethau 0 bob parth o'r byd yn tystio i'w effeithian iach- usol, ac ystyrir ef gan luoedd yn Feddyginiaeth Anmhrisiadwy. I TYSTIOLAETHAU DIWEDDAB. Trallwyn Terrace, Carmel, Upper Llandwrog, Hydref 24ain, 1888.— Anwyl Syr,—Yr wyf yn credu y buaswn wedi marw, oni bae am Quinine Bitters Gwilym Evans. Bum am ddwy flynedd yn methu gorwsdd, gan mor ddrwg yr oedd fy lungs wedi myned, ac mor wan- llyd nes byddwn yn chwysu hyd yn nod ar fy eistedd; cymeraia chwe' potelaid o'r QuinineTBitters; ac erbyn hyn yr wyf yn ddyn iach, ao yn dilyn fy ngorchwylion bob j dydd yn y chwarel. Yr eidd- och yn wir, H. WILLIAMS. CRYNIAD Y GALON A PHOEN YN YR OCHR.—4, Tanner Terrace, Porth- madog, Rhag. 16eg, 1888.—Anwyl Syr,—Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyginiaeth wertbfawr. Yr wyf wedi bod yn dioddef gan gryniad y galon, a phoen mawr yn fy ochr, ao yn methn cael dim i wneyd Ilea i mi, I er treio llawer. Ond cymheUwyd fi gan gyfaill i ro'i prawf ar un botelaid, 4s. 6c., 0 Qainine Bitters Gwilym Evans, a heddyw yr wyf yn holliach, ELLEN OWEN. CLEFYD YR YSGYFAINT.—16, Upper Gongh Street, Birmingham, Rhag. 3ydd, 1888.—Anwyl Syr,—Bum yn dioddef am ddeng mlynedd gan Glefyd a Llid yr Ysgyfaint ("Bron- chitia* and Inflammation of the Lungs"), Oerfel yr Arenau, a Phoenau yn y Cefn. Cymbellwyd k fi i roddi prawf ar Quinine Bitters Gwilym Evans. Yr wyf wedi oym- eryd dwy o boteli bychain, ae un botel fawr, a gallaf eich sicrhau fy mod eiaioes yn teimlo yn ddyn arall hollol, a gaUaf ddilyn fy ngorchwylion lawer yn rhwydd- ach yn awr. — Yr eiddoch yn ddiolchgar, J. PEATT. Swyddfa'r Observer, Mumbles, Mawrth 25ain, 1889.-Anwyl Syr,— Mae yn bleser mawr genyf allu tystio i effeithiolrwydd Quinine Bitters Gwilym Evans mewn achosion 0 NVendid, Diffyg Yni, ac Iselder Meddwl. Profodd un botel- aid o les annhraethol i mi. Yr eiddoch yn gywir, ROBT. MORRISON (ien.), Golygydd y Mumbles Observer. Peidiwch dioddef poenau tra y gellir eich gwella trwy ddefnyddio QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Pris, poteli, 2a. 9c.; eto dwbl faint, 4a. 60. j blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12B. 60. Gellir cael Qoinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif orachwyliwr, R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Pean. I'w gael ymhob man. Goruchwyliwr ymhob partb o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonii ef ati, y priBiau uchod yn rhad a diogel drwy y Post i uniLyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol yn union- gyroSiol oddiwrth y perchenogion — Quinine Bitters' Manufacturing Company, Limited, Llanelly Soatb YY died. 4rtrnis for &Abbrrtisittg. Class ol Advertisementa, s. d. Parliamentary Notices 1 0D. per Line Legal and Public Notices .) per Insertion Auction Announcements .1 4D. per Line per Insertion Religious Services and Lectures 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & Eisteddfodau | ( 6 to 11 I 6 Publishers and Educational >< 12 to 25 I 3 Announcements I Business Addresses 26 and up. | Q PREPAID ADVERTISEMENTS. Words 0ne Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. d. 20 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 THESE CHARGES, which must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the following classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments to Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for Sale, Lost and Found, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. THE GREATEST CARE is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly printed; but we cannot be responsible for inaccuracies in either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. IF THE INSERTIONS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less than three shillings. ADVERTISEMENTS must reach the office not later than Thursday morning. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. Y Llan Offices, Cardiff, C £ g(j0*&ttta £ rati, &r. pABELL DOFYDD: SEF CYFRINION Y GREFYDD DDERWYDDOL, Wedi en dadgnddio (Pamp ar hngain 0 denodan) gan MORIEN, B.B.D., Llwyn Onn, Trefforest, S.W. Rhydd gyda.'r post am 2s. 2c., oddiwrth yr awdwr. Principal Edwards-" Llyfr dyddorol iawn." Glan- ffrwd-11 I ]Pabell Dofydd' yw nn o'r llyfrau mwyaf dyddorol ag Bycld wedi dyfod allan o'r wasg Gymreig oddiar amser Iolo Morganwg. Fel Ilawlyfr i'r Orsedd nid oes genym ddim cyffelyb iddo mewn nn iaith." Y Parch. W. Parry, Pontypridd—"Y mae Pabell Dofydd yn hynod o ddyddorol." 391
Family Notices
oriirbillartbau,. ^rioHasfau, a Æarluo lattfJau. GENEDIGAETHAU. BitADNEY.-Mehefin 22ain, yn Nhalycoed, sir Fynwy, priod Mr. Joseph Alfred Bradney, M.A., nchel-sirydd, ar fab. DAVIEs.-Mehefin 24ain, priod Mr. H. H. Davies, photographer, 25, Pier Street, Aberystwyth, ar fab. PRIODASAU. PUGH—PUGHE.—Mehefin Heg, yn Eglwys St. Tadnr, Darowen, trwy drwydded, gan y Parch. R. Jones, rheithor, Mr. Richard Pngh, Abergwydol, a Miss Jane Paghe, ail ferch Mr. Evan Paghe, Caenhen. MARWOLAETHAU. THOMAs.-Mehefin 15fed, yn 28 mlwydd oed, Mr. John Thomas, mab David a Margaret Thomas, Bank, Felinfoel. Yr oedd yn araf ddarfod er's Ilawer o amser. Y dydd Meroher canlynol talwyd y gymwynas olaf iddo trwy hebrwng ei weddillion marwol i orph- wys yn mynwent Eglwya y Drindod, Felintoel. Dar- llenwyd a gweddiwyd wrth y ty gan y Parch. D. C. Davies. Darllenwyd y llith yn yr eglwya gan y Parch. Mr. Richards, enrad St. Pant's, Llanelli, ao ar lan y bedd ganr y Parch. D. D. Jones, ficer St. Paul's, Llaneili. Bydded y Cysnrwr mawr yn gyanrwr i'r perthynasau a'r tenia sydd yn eu galar. Heddwoh i'w lwoh.
Advertising
at nn Dymullwn alw syiw in darllenwyr, gohebwyr, a dosbarth- wyr at y cyfnewidiadau canlynol sydd wedi eu gwneyd mewn cysylltiad a dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan eyfeirier NEWYDDION LLEOL A HYSBYSIADAU fel y canlyn THE EDITOR, LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BAKDDONIAETH Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADAU, YSGRIFAU, A GOHEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd 8. Llyfrau i'w hadolygu: — Rev. LL, M. WILLIAMS, The Vicarage, Beaufort, Mon. Dylai yr oil fod mewn llaw ddim yn ddiweddarach na boreu ddydd Mawrth. Buasai yn dda gan y Cyhoeddwyr benodi dosbarthwyr i werthu Y LLAN lie nad oes rhai eisioes. Am y telerau anfoner i'r swyddfa. DALLER SYLW.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn addaw gosod i fewn ysgrifau meitliioxi; a chan fod nifer ein goheù- wyr caredig mor lliosog, erfyniwn arnynt fod yn fyr a cliryno. Rhoddir y flaenoriaeth bob amser i adroddiodau a newyddion Ileal. LLANGARWR (Abertawe).-Diolchwn i chwi am eich dy. muniadau da, ond nid ydym yn meddwl yr atebid unrhyw bwrpas with gyhoeddi eich llith. YN EiN NESAF.—Ap Elis Wyn 0 Wyrfai, Gomer Llwyd, Hendy Gwyn. MEWN LLAW, DAN YSTYRIAETH.—Myrddin Coch.
AD-UNDEB OBEEYDDOL,
AD-UNDEB OBEEYDDOL, CEISIWN yn awr ateb dau ddosbarth o wrth- ddadleuwyr. (1) Daw rhai ymlaen i haeru fod y gwahanol bartion sydd yn yr Eglwys yn ei dwyn i'r un safle a'r ymraniadau sydd tu allan iddi. (2) Daw eraill i'n cyhuddo o fod yn o'r hyn a gondemniwn, sef ym- wrthod a'r Eglwys yn amser y Diwygiad, a ffurfio sect neu enwad newydd. (1) Wrth gyfarfod a haeriadau y dosbarth blaenaf (y rhai yn y cyffredin ydynt Ym- neillduwyr), cyfaddefwn gyda galar fod ysbryd partiaeth ac ymbleidiaeth yn wrthun ac yn wrth-Ysgrythyrol ymha Ie bynag y bodola. A rhaid ychwanegu fod gormod o hyn hyd yn nod yn yr Eglwys ei hun y mae wedi bod felly bob amser, a digon tebyg nad ymedy yr ysbryd drwg yma a hi tra y parhao amser, Clywir un yn ymffrostio mai uchel-Eglwyswr yw, arall mai isel-Eglwyswr yw, a'r trydydd ei fod yn llydan ac eang o ran ei olygiadau. Ac weithiau y mae geiriau chwerwon a theimladau cynhyrfus yn ymgodi ac yn tori allan. Rhaid yw dweyd na ddylai y pethau hyn fod felly. Ond tra yn cydnabod hyn, y mae pob dyn diragfarn yn gallu can- fod fod gwahaniaeth dirfawr rhwng anghyd- welediad ac ymraniad, rhwng amrywicieth ac ymneillduaeth. Pe ymlidid pob anghariad a chwerwder, nid ydyw gwahaniaeth barn ynddo ei hun yn ddrwg, nac yn arddangos- iad 0 wendid mewn unrhyw gyfundrefn. Tra y mae gwahanol ddosbeirth o feddyl- wyr yn yr Eglwys, nid oes ond un allor. Pan y mae teulu yn methu cydolygu, os gwna yr aelodau ymgasglu o amgylch yr un bwrdd, a gweddio wrth yr un allor deulu- aidd, ceidw ei undeb. Pan y mae cym- deithas yn amrywio mewn perthynas i ddaliadau ei haelodau, tra y parchant ei rheolau, ac yr ymostyngant i'r llywydd sydd yn ei llywodraethu, ni ddinystrir mo'i hundeb. Tra y mae deiliaid mewn teyrnas yn cydnabod yr un teyrn, yn ddarostyng- edig i'r un orsedd, yn amcanu at lwyddiant yr un wlad, sicr yw y gwelir yn amlwg undeb cenedlaethol, er i rai fod yn Geid- wadwyr, eraill yn Rhyddfrydwyr, ac eraill yn tueddu at fod yn Radicaliaid. Felly yn union y mae hi yn yr Eglwys. Y mae yn un o ran ei sacramentau, ei hurddau, ei chredoau, ei herthyglau, ei haddoliad, a'i gweithrediad, er nad yw pawb o'i meibion yn gallu edrych ar y pethau hyn yn yr un goleuni. Nid ydym yn gwybod am unrhyw blwyf lie mae un Eglwys i'r "defodwyr" ac un arall i'r 11 efengylwyr ochr yn ochr, ac eto yn an- hibynol ac anghysylltiol a'u gilydd. Yr un yw eu Hesgob, yr un yw eu Llyfr Gweddi, a chyfarfyddant yn ami wrth yr un allor. Gwir fod eithafwyr weithiau bron tori yr undeb, eto, tra y parhaont yn yr Eglwys, y maent 0 fewn yr un cyleh. Ond cofier nad yw yr eithafwyr ond bychan iawn mewn nifer o'u cydmaru "r cyfangorph. Os cymerwn aelodau yr Eglwys gyda'u gilydd, yn wfr lien a lleyg, y maent yn hynod unedig, ac fel un fyddin fawr yn brwydro yn erbyn y gelyn, ac 0 blaid Duw a'i achos. Buasai yn arwydd 0 farweidd-dra, os nad o farwol- aeth, pe na buasai amrywiaeth mewn corph mor fawr a'r Eglwys. Mae amrywiaeth bob amser yn brawf 0 fywyd. Pan y mae natur yn gloedig yn y gauaf, y mae ei hunffurfiaeth braidd yn boenus i'r llygad. Ond fel y mae yn dadebru ac yn deffroi, y mae ei bywyd yn troi allan mewn blodau a llysiau amryliw yr hyn sydd ddeniadol a boddhaol i'r golwg. Nid oes un creadur o waith Duw, bydded lysieuyn, anifail, neu ddyn; heb wahan- iaeth, ac eto y mae digon 0 debygolrwydd rhyngddynt, fel ag i gyfeirio at un meddwl mawr fel eu cynllunydd. Felly, tra y mae amrywiaeth yn yr Eglwys, y mae digon 0 debygolrwydd yn ei phlant i brofi eu bod yn perthyn i'r un Fam. (1) Wrth ateb y dosbarth arall o wrth- wynebwyr (y rhai gan mwyaf ydynt Bab- yddion) rhaid dweyd yn bendant nad oes y gronyn lleiaf o wirionedd yn y cyhuddiad 0 ffurfio Eglwys newydd yn amser RARRI VIII. Nis gellir bod yn rhy benderfynol pan yn traethu hyn, gan fod genym y sail gadarnaf 0 dan ein traed. Pe buasai hanes- yddiaeth yn profi tuhwnt i bob ainheuaeth fod Eglwys Loegr wedi tori oddiwrth hyd yn nod Eglwys lygredig Bhufain, a chreu o'r newydd Eglwys arall (yr hyn, i'n tyb ni, fyddai yn anmhosibl)-nis gallem ymdawelu heb gael o hyd i'r Eglwys Apostolaidd. Ond nid felly y mae. I'r gwrthwyneb, Eglwys Rhufain dorodd y cysylltiad ag Eglwys Loegr yn nheyrnasiad y Frenhines ELIZABETH. Ni wnaeth Eglwys Loegr ond ymysgwyd oddiwrth lygriadau EglwyS Rhufain, ac ail hawlio ei hiawnderau a'i rhyddid, y rhai a gollodd yn raddol yn y canol.oesoedd tywyll, er nid heb lawer 0 ymdrech ar ei rhan i'w cadw. Dywed rhag- ymadrodd y Llyfr Gweddi, nad oedd Eglwys Loegr yn rhy syth i wrthod, nac yn rhy hyblyg i oddef cyfnewidiadau," ac eto fod yr holl ranau cyfunol a hanfodol o honi yn wastad safadwy, ac y safent eto yn gadarn a diysgog, a'i bod yn unig wedi diwygio yr hen, ac nid wadi creu unrhyw beth newydd. I fod yn gyson, dylai ein gwrthwynebwyr beidio arfer y gair^'Diwygiad" 0 gwbl wrth gyfeirio at y cyfnewidiadau a gymerasant le tua 300 mlynedd yn ol, am ei fod yn gon- demniol yn eu genau hwy, tra yn ffafriol i ni. Nid ffurfiad peth newydd yw diwygiad. Rhaid cael hen beth i'w ddiwygio; a cheidw yr hen ei hunaniaeth a'i barhad didor er ymddangos mewn diwyg neu agwedd newydd. Pan y mae coeden yn tyfu yn ei phrydferthweh, gall eiddew neu iorwg ym- lusgo yn raddol ar hyd-ddi ac o amgylch ei boncyff, hyd nes ei guddio o'r golwg, ac efallai beryglu ei dyfiant. Ond pan y tyner yr eiddew ymaith, daw y boncyff i'r golwg drachefn, a phery y goeden yr un. Felly planwyd eginyn y grefydd Gristionogol yn Mhrydain yn foreu iawn, mor foreu, cyn belled ag y gallwn gasglu, ag oes yr Apostol- ion. Cawn fod yr eginyn wedi dyfod yn bren iraidd a bywiol erbyn y bedwaredd ganrif, gan fod ynddi esgobion, offeiriaid, a diaconiaid, ynghyd a Chredoau a ffurf-was- anaeth. (Gwel hanes Cyngor Aries O.C. 314.) A phan ddaeth AWSTIN FYNACH drosodd o Rufain yn 596 O.C., cafodd Eg- lwys wedi ei sefydlu er's dau neu dri chan' mlynedd (o'r hyn lleiaf), ac yn ddigon dewr i'w wrthwynebu, ac i wrthod ymostwng i'w lywodraeth. Ond yn raddol, ac oherwydd amgylchiadau nas gallwn yn awr eu hegluro, cafodd Eglwys Rufain yr oruchafiaeth (er nad yn llwyr); ac fel ag yr oedd yr EglwyS Babaidd yn cynyddu mewn eyfeiliornadatl ac ofergoelion, gafaelodd y pethau hyIl hefyd yn yr hen bren. Ond yn amser y Diwygiad, datodwyd y rhwymau, diwreidd- iwyd y cyfeiliornadau, a thaflwyd hwy ymaith, tra yn awr y mae yr hen goedeu mor dalfrigog ag erioed, wedi gwrthsefyll a goroesi llawer ystorm derfysglyd. Ac fel pob coeden fywiol arall, nid yw yr ystorm* ydd a'r gwyntoedd ond yn peri i'w gwraidd wreiddio ddyfnach, ddyfnach, a thrwy hyny enilla nerth a phraffder, Felly y mae ar" wyddion amlwg 0 ymledaeniad EglwyS Loegr ymhob parth o'r byd, ac 0 ymwreidd- iad yn serchiadau a chalonau ei haneirif aelodau. Gan hyny, nid ydyw y ddau wrthwyneb- iad uchod i undeb yr Eglwys ond rhith heb sylwedd. Ond gan eu bod weithiau & bwganod dychymygol yn cyfodi yn meddyl" iau dynion anwybodus ac ofnus, y mae y11 angenrhteidiol eu hymlid a'u chwalu, er boenus yw ail adrodd yr un peth drosodd drachefn a thrachefn. Gwyn fyd na fyddai i ragfarn a dallbleidiaeth eu gadael yn lloo' ydd yn y bedd, lie y maent wedi eu claddt* lawer gwaith; yna ni ddeuent i gythrybl11 na chynhyrfu neb, a byddai i'r hen fatIl- Eglwys ail ddenu (fel y mao yn gwneyd) i'w chol y crwydriaid sydd ar wasgar. 1 hyn 0 bryd, terfynwn gydag un ",thygl ychwanegol trwy gynyg i sylw ein darllel" wyr gynlluniau ad-undeb, a'r llinellau ar rai y dylem weithredu.
CHWIRLIGWGAN G WLEIDYDDOL.
CHWIRLIGWGAN G WLEIDYDDOL. PAN yn adolygu llyfryn a gyhoeddwyd J flwyddyn 1839 gan Mr. W. E. GLADSTONE ?: bwnc Yr Eglwys a'r Wladwriaetb," S0li