Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"PAHAM Y BEDYDDIR HWY DROS…

News
Cite
Share

"PAHAM Y BEDYDDIR HWY DROS Y MEIRW?" At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Gwnaf fy atebiad i'r pwnc uchod mor fyr ag y medraf. Pan yn darllen yr ymofyniad daeth i'm cof ddarfod i mi fedyddio baban nnwaith uwchben ei fam yn ei harch agoredig, cyn cychwyn y corph i'r gladdfa, yn nnol ag arferiad ffynodig yn Esgobaeth Dnrham, yr hyn a wnaethpwyd yn hysbys i mi ar y pryd, ac nfudd- heais i ymgymeryd a'r ffarf, yn ol dymuniad y teuln. Yr oedd y peth tebycaf a welaia erioed i fedyddio dros y meirw." Ond nid ydwyf yn credn mai at arfer- iad felly y raae St. Paul yn cyfeirio yn vr adnod hon, eithr yn hytrach fod ymgymeryd a'r dall uchod yn cyf- eirio efallai at eiriau yr apostol. Darlleniad ABDFK, a'r MS. Sinaidd, sef yr awdur- dodau goren, yw "Tl KCI.¿ f3a7T"Tl.tovTCI.¿ virep airdv' ac a gyfieithir gan y Vulgate, II Quid et baptizantar pro illis V' Paham ynte y bedyddir hwy droatynt ?" Dywed Ambrose, Anselt-D, Grotins, Tertullian, Chrysos- tom, Billroth, Ruckert, Meyer, a De Wette e bod yn hen arferiad gan rai pobl i ymostwng i gymeryd eu bedyddio "dros," nen yn lie," rhai fyddai wedi marw heb eu bedyddio, er mwyn ceiBio gwneyd ifyny am y golled. Yr ydym yn cael ein sicrhau gan hanesydd- iaeth fod y Cerinthiaid a'r Marcioniaid yu gwneuthnr hyny, ond dadlenir gan rai nad oedd yr arferiad mor foreu a St. Paul; eto, y mae St. Paul yn ei ymreBymiad yma yn cyfeirio at y ffaith. Darllena Trollope, "virep rf/s dvaardireus TWV veKpwv dros adgyfodiad y meirw," neu fel arwydd o'r adgyfodiad. Ond nid yw yr awdwr hwn yn sylfaenn ei ddarlleniad ar un o'r awdurdodau gwreiddiol. Y meddwl yw, "Paham y mae y rhai byw yn cymeryd eu bedyddio dros y rhai sydd wedi marw heb eu bedyddio, 'os na chyfodir y meirw hyjiy ?"—Yr eiddoch, &c., Meyllteyrn. JOHN DANIEL, O.Y.—Y mae "Paham ynte" St. Paul yn fwy o ^erydd nag o gefnogaeth ar y dull uchod o fedyddio.— At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Y mae llawer iawn o amrywiaeth barn yn nghylch meddwl yr Apostol Paul, pan mae of yn dy- Wedyd fel hyn, "Os amgen, b3th a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim ? Paham, ynte, y bedyddir hwy dros y meirw ? A phaham yr ydym ninau mewn perygl bob awr ? ■' 1 Cor. xv. 29, 30. Yn amddiffyn mae'r Apostol yr athrawiaeth ag yrgoedd rhai yn Nghorinth yn ei gwadu, o adgyfodiad y meirw. "Os amgen," medd ef, hyny yw, os na fydd adgyfodiad y meirw, beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim ?" Ymha ystyr, ynte, yr oadd neb yn cael eu bedyddio dros y meirw ? Yr oedd llawer yn cael eu rhoi i farwolaeth y pryd hwnw dros grefydd lesu Grist fel merthyron. Ond fel yr oedd- ynt hwy a'u tystiolaeth yn darfod trwy eu marwol- aeth, yr oedd rhai eraill, yn olynol, yn barod i gymeryd eu lie trwy ddwyn yr un dyst- iolaeth a hwythau, ac fel yma. yr oedd y Crist- ionogion adnewyddol hyny fel rhai oedd yn cael eu bedyddio dros y meirw, sefyn gwneyd yr un broffes ag yr oedd y rhai meirw wedi ei gwneyd yn eu bywyd. Os na fyddai y fath beth ag adgyfodiad y meirw, nis gellid yn briodol ddywedyd fod neb o'r newydd yn cael eu bedyddio dros y meirw. Gferedd felly fu&sfti aywedyd y fash beth. Ac fel yma: rhaid i ni ddeall am bawb a fedyddid o'r newydd, eu bod hwy yp cael eu bedyddio i'r broffes o'r athrawiaeth hon, saf y bydd adgyfodiad y meirw, ac mai fel yma droo y ineirw, mewn ystyr, y bedyddid hwynt. Yr oedd y rhai a ddeuent ar ol eu gilydd o'r newydd i gael eu bedyddio, fel pe b'ai yn cymeryd 11a y rhai oeaa wedi eu merthyru. Yr oeddynt yn gwneyd yr Un broges a hwythau, he fel yma, mewn ystyr, yn cymeryd eu lie hwynt. Yroodlyntyneaeleu bedyddio Oroa y meirw virep TWV peicpuv. Tebyg yw hyn i rengau milwvr mewn rhyfel, sef y rhai byw yn dyfod 1 Ie y meirw.—Yr eiddoch, &c., Mehefin 21ain. J. W.

HYMNAU A THONAU CYMREIG YREGLWYS…

Y WASG EGLWYSIG GYMREIG.

LLANTRISANT, MON.

THE NEW CANON AT LLANDAFF…

YMHLITfl Y TREGBTHWYS.

[No title]