Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR ARSYLLFA. .

News
Cite
Share

YR ARSYLLFA. NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. O'r diwedd y mae y Faner wedi CYFRIFIAD cyhoeddi y ffigyrau a gymerwyd MR. GEE. yn ngwahanol siroedd Gogledd Cymru ar Sal y 9fed o Ionawr, 1887. Rheswm Mr. Gee am gyhoeddi y cyfrifiad yr adeg bresenol ydyw yr her a roddodd Mr. Byron Reed yn y ddadl ar gynygiad Mr. Dillwyn Tybiaf na fydd i unrhyw Eglwyawr addef am foment fod ffigyrau Mr. Gee yn gywir. 0 bob gelyn nid oes i'r Eglwys yn Nghymru elyn mwy ffyrnig, mwy maleisus, ac annheg na Mr. Gee. Diau mai pobl debyg iddo a ddewiswyd ganddo i weithredu fel eyfrifwyr. Gwnaethpwyd y cyf- rifiad gyda'r unig amcan o niweidio yr Eglwys a dangos ei bycbander. Yr oedd pawb cysyllfciedig a'r cyfrifiad am wneyd yr Eglwys i edrych mor gywilyddus o fycban ag oedd yn bosibl. 0 dan y fath amgylchiadau pa reswm sydd genym dros gredu fod ffigyrau Mr. Gee yn gywir. Eto, nid oes eisiau i'r Eglwys gywilyddio. Ceir un Eg- lwyswr yn Ngogledd Cymru i bob tri a haner o Ymneillduwyr o bob 11iw a llun. Y mae Mr. Gee wedi gwneyd un peth o leiaf, sef profi fod haer- iadau y dadgysylltwyr ar y pwnc hwn yn y gor- phenol, fel eu haeriadau yn gyffredin, yn gelwydd. Arferwn glywed fod Ymneilldnwyr Cymru yn un-ar-ddeg i bob un o Eglwyswyr y Dywysogaeth. Y mae y cyfartaledd ar unwaitb wedi syrthio i lawr deirgwaith drosodd, diolch i gyfrifiad Mr. Gee. Nis gellid cael prawf cryfach fod y ffigyrau yn hollol ddiwerth ac yn annheilwng o ymddiriedaeth na'r ffaith fod hyd yn nod ayfeill- ion dadgysylltiol Mr. Gee yn eu derbyn gyda sarhad. JPfuaLn o Gee

[No title]

[No title]

[No title]

jMujjTrtJton CKffrctJinol.…

Advertising