Hide Articles List

2 articles on this Page

NODJADAU SENEDDOL. ifr

News
Cite
Share

NODJADAU SENEDDOL. ifr [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Y FASNACH FEDDWOL YN AFFRICA. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf, yn Nhy yr Arglwyddi, cymerodd ymdrafodaeth bwysig a dy- ddorol le ar y fasnach mewn gwirodydd yn Affrica, ond ni chynygiwyd unrhyw benderfyniad neillduol yngtyn a'r mater. Galwodd Due Westminster sylw y Ty at y drygau ynglyn & dygiad i mewn wirodydd tramor i fysg y llwythau brodorol, a galwai ar y Llywodrasth i barhau yn eu hymegnion i gwtogi, neu oa yn bosibJ, lwyr atal y fasnach mewn gwirodydd poethion. Dy- wedodd nas gallai dim fod yn fwy boddhaol na'r sicrwydd a roddwyd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog i'r ddirprwyaeth oedd wedi galw arno mewn perthynas a'r owestiwn. Yr oedd ef (Due Westminster) wedi dwyn y cwestiwn ymlaen ar s-nogaeth cymdeithasau dirwestol a ohenhadol. Yr oedd y fasnach mown diodydd meddwol yn gymaint o felldith i Affrica a'r gaeth-fasnach, ac yr oedd yn deilwng o ymdrechion pob gwlad wareiddiedig i roddi atalfa ami. Nid oedd y fath beth ymhlith y brodorion ag yfed cymadrol—yr oedd eu gv/anc am wirodydd yn anniwail. Yr oedd yn rhaid iddynt yfed tra gallent dd'od o hyd i'r gwirod. Yr oedd Llywodraethau blaenoroi wedi bod yn coisio ym- wneyd a'r drwg, ac yr oedd ef yn hyderu y gwnai y Llywodraeth bresenol gario ymlaen y gwaith ben- dithiol hwn. Sicrhaodd Arglwydd Caernarfon-y Ty nad oedd ei gyfaill urcidasol mewn un modd wedi gorliwio ffeith- iau mewn perthynas a'r fasnach feddwol yn Neheu- barth Affrica. Siaradodd Arglwydd Aberdar ar^effeithiau dinystr- iol y fasnach yn Affrica, ac anogai ar fod i doll gael ei rhoddi ar ddygiad i mewn wirodydd tramor. ei rhoddi ar ddygiad i mewn wirodydd tramor. Dywedodd Archesgob Caergaint nad oedd y owestiwn wedi ei ddwyn gerbron yn hollol ar egwyddorion llwyrymataliaeth, ond yr oedd ef yn teimlo fod eu gallu fel Cristionogion i wneyd rhyw lawer dros wareiddiad y liwythau brodorol yn Affrica yn cael ei lesteirio gan ddifrawder ao anweithgarwch Llywodraethau Cristionogol. Ni ofynid ar fod i waharddiad llwyr gael ei gynyg, ond barn ei Ras- lonrwydd ydoedd y dylent wneyd ymdrechion mewn undeb a gwledydd eraill i arosod toll warafunol uchel sir ddadforiad gwirodydd.' Wedi i Esgob Llundain ac latil Meath siarad yn mhellach ar y mater, Dywedodd Arglwydd Knutsford nad oedd ganddo, heblaw y papyrau a gyflwynasid eizoes i'r Senedd, fawr o hysbysrwydd swyddogol i'w loddi. Nid oedd y eynygion i osod tollaa nchel ar ddadforiad gwirod- ydd wedi cael derbyniad fEafciol, yn enwedig yn y 7 Pecrhyn, ao ni wnai eu gosod mewn grymtmd yn unig yohwanegu rkednwyddaeth (smuggling) i raddau aruthrol. Yr oedd y Llywodraeth yn awyddua i roddi y fasnach i lawr mor gynted ag oedd bosibl, ac ni fyddai yr apei a wnaed atynt i barhau yn eu hymdrechion yn y cyfeiriad hwnw fyned yn ofer. Ar hyn terfynodd yr ymdrafodaeth. DADL GYNHYRFUS. Cymerodd dadl gynhyrfus le, yn Nhy y Cyfiredin, nos Lun mewn perthynas i ymddygiad yr hedd- geidwaid ar aohlyaur y troad allaa o dai yn Fal- carragh yn yr IwerddoD. Cynygiodd Mr. Atherley Jones ohiriad y Ty i alw sylw, yn benaf, at ymddygiad yr heddgeidwaid yn cymeryd. Mr. Harrison i'r ddalfa ao erlyniad Mr. Conybeare. Galwodd y Llefarydd ei sylw at yr afreoleidd-dra o gyfeirio at aohos ag oedd eto heb ei benderfynu yn y llys gwladol, a gwnaeth Mr. W. H. Smith ymgais i apelio at Mr. Jones i beidio dadleu achos ag oedd eto heb ei wrando yn llys yr apêl, ond hysiwyd ef i lawr gan yr aelodau Gwyddelig, ac ni chaniatawyd iddo orphen ei sylwadau. Cymerwyd rhan yn mhellach yn y ffrwgwd gan Gyfreithiwr Oyffredinol yr Iwerddon, Syr H. Davey, Mr. Lowther, Mr. Conybeare (yr hwn a alwyd i "drefn" amryw weithiau gan y Llefarydd), Mr. Bradlaugh, Syr William Harcourt, Mr. Gladstone, .ac eraill. Dywedodd Mr. Gladstone fod areithiau Prif Ysg- rifenydd yr Iwerddon, ac ymddygiad y Llywodraeth Wyddelig drwy ea goruchwylwyr, yh cael eu nod- Weddu gan ddifatetwch bwriadol o iawnderau per- Sonal a rhyddid y doiliaid—(" Oh ")— ac er eu bod yn galw eu hunaia yn amddiffynwyr oyfraith a threfn, cyhuddai hwynt o fod ymysg gelynion gwaethaf heddwoh y wlad a theyrngarwoh y bobl. Dywedcdd Cyfr3ithiwr Cyffredinol Lloegr fod Mr. Gladstone wedi dwyn cyhuddiad difrifol yn erbyn y llywodraeth, ond nad oedd y rhithyn lleiaf o sail iddo. Yr oedd ymddygiad y Prif Ysgrifenydd yn cael ei gyfiawnhaa gan gyfraith Lloegr a chyfraith Yr Iwerddon. Gwadodd y cyhuddiad yn y modd JUwyaf penderfynol fod y Llywodraeth yn yr Iwerddon, na.c ya un lie arall, yn defnyddio modd- On anghyfreithlon er cyraedd eu hamcanion. Trodd y Gyfreithiwr CySredinol y byrddau yn Ian ar Wweinydd mawr y gwr",bryfelwyr,. Gwyddelig, a gwnaeth y buguhvr mawr (Syr W. Harcourt) ei oreu i'w atal i fyned ymlaen. Dywedodd Mr. Balfour nad oedd yr heddgeidwaid Wedi gwneyd dim ond eu dyledawydd, ac y buasent yn fyr o gyflawni eu dyledswydd pe bussent heb wneyd yr hyn a wnaethant. Yr oedd y parth hwnw o Donegal mewn sefyllfa o chwyldroad, c yr oedd y gwaith a gyflawnid gan yr heddgeidwaid yn waith I anhawdd a pheryglus. I-- Ymranodd y Ty- Dros y gohiriad 153 Yn erbyn 250 Mwyafrif yn erbyn. 97 Cant ond tri o fwyafrif yn erbyn y Goleuad mawr o Benarlag, a'r miln louadau dilewyroh sydd yn ym- rolio o'i gwmpas Well done 1 MB SUE ADGYFNERTHIAD Y LLYNGES. Ar ail ddarlleuiad y Mesur hwn Cynygiodd Mr. Labouchere fod iddo gael ei ddar- llen ymhen chwe' mis i'r diwrnod, a ohefnogwyd ef gan Syr William Harcourt. Parhaodd y ddadl hyd haner nos, a gohiriwyd hi byd brydnawn ddydd Mawrth. PiRHAD Y DDADL. Adnewyddwyd y cldadl ohiriedig ar adgyfnerthiad y Llynges nos Fawrtb. Dywedodd y Milwriad Hill nad oedd yr arian a ofynid gan y Llywodraeth ond SWIE byohan fel ys- wiraeth ar ein masnach a'n trafnidiaeth. Dywedodd y Llyngesydd Mayne, yr aelod dros fwrdeisdrefi Penfro, fod y wlad|5yn gwybod ymha ochr o'r Ty i roddi ymddiried mewn adeg o berygl, (Bloeddiadau o gymeradwyaetb.) Hit ardderchog oedd hon. Gwrthwynebwyd y Masur, wrth gwrs, gan Mr. Shaw Lefevre fel gwastraff anesgusodol. Bath mae y pensioner Gladstonaidd hwn yn hidio am ddiogelwoh yr Ymerodraeth tra, fyddo ei X2,000 yn y flwyddyn yn ddiogel ? Oymeradwyai Arglwydd§ Charles Bexesford y Mesur mor belled ag yr oedd yn myned ond, yn ei farn ef, nid oedd yn myned yn ddigon pell. Dywedodd Arglwydd Claude Hamilton fod yr olwg a gymerai Arglwydd C. Beresford ar anghenion y wlad yn ua eithafol. Po fwyaf a, fyddai dylanwad Lloegr yn mwyaf i gyd a fydd- ai y sicrwydd am heddwcb, a pho fwyaf a fyddai y gallu amddiffynol o'r tu cefn iddi, mwyaf i gyd a fyddai ein dylanwad. Ar ol rhai sylwadan pellach gan Mr. S. William- son. vmranodd v T.y- Dros yr ail daarlleniad 277 Yn erbyn 136 Mwyafrif o blaid 141 Derbyniwyd y canlyniad gyda tharanau o gymer- adwyaeth o'r meinciau Undebol. Nid oedd yn y Gladstoniaid ddim calon i wrthwynebu ty Mesur. Gwyddent fod y wlad o'r tu cofnl i'r Llywodraeth. Rhedodd rhai o honynt allan o'r Ty heb bleidleisio o gwbl, ac nid oedd Mr. Gladstone, Syr W. Harcourt, na Mr. John Môrrey yn meddu ar ddigon o wroldeb i siarad na phleidleisio yn erbyn y Mesur. Allan o'r TycGndemniodd Mr. Gladstone gynygion y Llywodr- aeth ar amryw aohlysuron, ao i ba beth y gellid priodoli ei ddistawrwydd ? Treoh gwlad na Glad- stone. COSBEDIGAETH GORPHOROL. Yn Nhy y Cyffredin, prydnawn dydd Marcher, cynygiodd Mr. Milvain ail ddarlleniad y Mesur uchod, amean yr hwn ydyw gwella y gyfraith mawn perthynas i gosbedigaeth gorphorol. Mae y Mesur yn cynyg diddymu y gosb o fflangellu dyhirod an- obeithiol, a'i cbymhwyso at dy-darwyr arfog, a phersonau a fyddo yn euog o drais a throseddau anDaturiol." Oynygiodd Mr. Bradlaugh wrthodiad y Mesur, ar y tir ei fod yn gam yn y gwrthol, ac yn tueddu at fatbareiddio y troseidwr. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Jacob Bright, am nad oedd dim tuedd ynddo i atal dynion i gyflawni tro- seddau. Lol- wirion 1 Cefnogwyd y Mesur gan Mr. George Russell, yr hwn oedd o'r farn y gwnai fflangellu roddi y cyfryw droseddau anfad i lawr. Gwrthwynebwyd y Mesur gan Mr. Osborne Mor- gan, ar y tir nad oedd dim tuedd mewn fflangellu i leihau y cyfryw droseddau. Dywedodd yr Ysgrifenydd Cartrefol y gwnai ef bleidleisio droa yr ail ddarllenittd am ei fod yn ym. wneyd a'r bollgwestiwn o fflangellu, yn diddymu hen gyfreithiau, a" yn nodi y fcroseddau am ba rai y dylid defnyddio y filangell. Gwawdiai y meddyl- ddrych fod tuedd mewn fflangellu i farbaraiddio y dyhirod oedd i dderbyn y fflangell. Ar ol peth siarad pellach o blaid ac yn erbyn y Mesur gan Mr. Hunter, Mr. Swetenham, a'r Cyf- reithiwr Cyffredinol, ymranodd'y Ty- .Y Dros yr ail ddarlleniad 194 Yn erbyn. 126' Mwyafrif dros 68 MESUR ADDYSG GELFYDDYDOL. Ar gynygiad Syr H. Rosooe darllenwyd y Mesur hwn yr ail waith yn nghanol ohwerthiniad y Ty yn ddiwrthwynebiad, ao hysbysodd y boneddwr gwir anrhydeddus nad oedd y Llywodraeth yn oi wrth- wynebu. PRIODAS A CHWAER GWRAIG DRANCEDIG. Dydd Iau, yn Nhy yr Arglwyddi, cynygiodd Due St. Albans ail ddarlleniad y Mesur uchod, amcan yr hwn ydyw cyfreithloni priodas â chwaer gwraig drancedig. Dywedodd ei arglwyddiaeth fod y oyf- newidiad cynygiedig yn unol a, dymuniad y mwyaf- rif o'r dosbarfchiadau gweithiol, ac yn enwedig y dos. barthiadau amaethyddol. Hen haeriad heb un rhithyn o sail iddo. Cynygiodd Iaril Percy wrthodiad y Mesur am nad oedd un rheswm dealladwy wedi oi ddwyn drosto. Os gwnant dalu un syiw i farn merched ary mater, yr oeddynt yn rhwym o wrthod y Mesur. Cefaogwyd y Meeur gan Arglwydd Grimthorpe er budd y tlodion Hyderai Arglwydd Selborne y gwnai eu hargl. wyddiaethau eto wrthod y Mesur. Cymerai wyth- nos i ateb araith Arglwydd Grimthorpe. Cefnogwyd y Mesur gan Arglwydd Herchell ar y tir y gwnai ychwanegu at ddedwyddwch llawer heb niweldio neb. Gwrthwynebwyd y Mesur gan Due Argyll so Arch- esgob Caergaint, ao ymranodd y Ty- D ros yr. ail ddatllemad. 120 Yn erbyn 147 Mwyafrif yn erbyn 27 PENDERFYNIADAU Y GYLLIDEB. Cydunwyd ar banderfyniadau y Gyllideb nos Iau, a dygwyd mesur i mewn yn seiliedig arnynt, yr hwn a. ddarllenwyd y waith gyntaf. Wedi hyny ym- ffurfiodd y Ty yn BWYLLGOR CYFLENWADOL, yn yrhwn y bu cryn. adadleu mewnperthyna3 i'r Ddirprwyaeth Elusengar, a gwnaed cais i estyn ei hymchwiliadau i Gymru. Ond dywedodd Mr. Jackson ei fod yn awyddus i wybod canlyniad yr ym- chwiliadau a wneid yn Sir Ddinbych cyn myned i ychwaneg o draul. Yr oedd Mr. Thomas Ellis yn brysur iawn yn ei holiadau o berthynas i'r elusenau Cymreig. Eisiau ysbeilio y tlodion sydd ar y gwr tosturiol hwn, a chyflwyno eu dognau prinion i gynal ysgolion canol. raddol i Gymru 1 O Gymru, ai dyma dy dduwiau ? Y GYFUNDREFN ADDYSG NEWYDD. Dydd Gwener, yn Nhy yr Arglwyddi, galwodd Archesgob Caergaint, ar ddymuniad nifer liosog o bersonau yn teimlo dyddordeb mewn addysg wir- foddol, sylw at y C6d Addysg newydd. Yr oedd yn cynwys llawer o ddarbodion am y rhai y dylent fod yn ddiolcbgar fel blaenffrwyth llafur y Ddirprwy- aeth Frenhinol, ond gofynid am amser i ystyried y oyfnewidiadau hyn ar gyfrif yr anbawsderau oedd ar ffordd eu dygiad i weithrediad. Galwodd ei Ras sylw y Ty at y pwyntiau amheus yn y cynllun newydd. Siaradodd Esgob Llundain i'r un perwyl, ond gwnaeth Iaril Harrowby ac Iaril Beuchamp ym- osodiad llym ar yCôd Newydd ac yr oedd y blaenaf o'r farn y gwnai ychwanegu at draul ysgolion yn gyffredihol, atr dlaf y Jirofai yh niweididi i'r ysgolion gwirfoddol. ..Dywedodd Arglwydd Harries, cyarychiolydd y Pabyddion, fod ei gyd-grefyddwyr yn unfryd unllais yn eu dymuniad am fwy o amser i astudio y cynllun newydd. Dywedodd Arglwydd Cranbrook na ddelai y cyn. Hun i weithrediad cyn mis Hydref, a'i fod yn ystyried hyny yn ddigon o oodiad, Gwadai yn y modd mwyaf penderfynol ei fod ef yn elynol i'r ysgolion gwir- foddol. Galwodd sylw at y ffaith fod y gyfundrefn wirfoddol mewn deng mlynedd wedi gwario chwe' miliwn o bunau i adeiladu ysgolion. Yr oedd y gyfundrefn hono wedi llwyddo er gwaethaf ysgolion y byrddau, ao yr oedd ef yn y swydd o weinyddwr wedi ymdrechu hyd eithaf ei allu i ddal y glorian yn deg rhwng y ddwy gyfundrefn fawr addysgol. Nid oedd un penderfyniad gerbron y Ty, ond bu yr ymdrafodaeth yn foddion i agor llygaid Arglwydd Cranbrock i'r gwrthwynebiad cryf oedd i'r Newydd. CYNRYCHIOLAETH Y PRIFYSGOLION. Yn yr eisteddiad hwyrol, yn Nhy y Oyffredin, ar y oynygiad fod y Ty i ymffurfio yn bwyllgor cyflenwadol. Cynygiodd Mr. E. Robertron welliant yn con- demnio cynrychiolaeth Seneddol y Prifysgolion, Eiliwyd y gwelliant gan Dr. Farquharson. Dywedodd Cyfreithiwr CyfEredinol Ysgotland mai yr achos fod y boneddwr anrhydeddus yn awyddus i ddifuddio y Prifysgolion o'u oynrychiolaeth Seneddol ydoedd-fod y Prifysgolion wetli troi oddiwrth y blaid Ryddfrydol. Yr oedd yn awyddus, o ganlyniad, i gyhoeddi dedfryd marwolaeth arnynt. (Bloedd- iadau o gymeradwyaeth,) Dyna daro yr hoel ar ei chlopa. Condemniodd Mr. Haldane y gyfundrefn o gyn- nrychiolaeth y Prifysgolion mewn egwyddor ac ymarferiad. Dywedodd Mr. Mowbray ei bod yn ofynol cyn y dylid oymeryd oddiar y Prifysgolion eu cynrychiol- aeth Seneddol iddynt allu profi fod y gynrychiolaeth yn niweidiol i'r wlad neu i'r Ty. Cafaogwyd y gwelliant gan Syr George Pliable" Trevelyan, wrth gwrs. Dywedodd Iilr. Raikes fod pob Prif Weinidog, ond UD, am ddeugain mlynedd wedi bod yn gynryohiol- ydd Prifysgol. Yr oedd cynrychiolactkau y Prif- ysgolion wedi bod Ó wasanaeth neillduol i'r Wladwr- iaeth ao aid oedd ef yn credu y gwnai y wir blaid Ryddfrydig gefnogi am lawer o flynyddau i ddyfod freinioliad anwybodaeth a difreiniad addysg. Ymranodd y Ty- Dros y gwelliant 126 Yn erbyn 217 Mwyafrif 91 Gohiriodd y Ty am wyth munyd wedi un o'r gloch boreu ddydd Sadwrn.

Slnutjluton. .............