Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

AT Y BEIRDD.

AWDL: GWYBODAETH.

[No title]

IlLITE 0 LEttPWL.

News
Cite
Share

IlLITE 0 LEttPWL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.J EGLWYS I'R CYMRY YN BIRKENHEAD. Yn y rhifyn diweddaf o'r LLAN aidewais alw sylw at anerchiad Esgob Caerlleon ar ran y Birkenhead Church Aid Society, os gwnelai ei &rglwyddiaeth unrhyw gyfeiriad at y mudiad sydd ar droed i ad- eiladu Eglwys i'r Cymry yn y dref. Yn niwedd ei araith galwodd yr Esgob sylw at yr ymdreohiou a wneid i sefydlu Eglwys i'r Cymry trigianol yn y fwrdeisdref, gan gymeradwyo yn galonog y cynllun i haelioni Eglwyswyr yn gyffredinol. Yr oedd yr achos yn gryf, a dylent wneyd yr oil ag oedd yn eu gallu i'w gefnogi ar unwaith. Gyda golwg ar un o reolau y gymdeithas, Bef cynorthwyo i adeiladu Eg- lwysi haiarn, neu ystafelloedd cenhadol, yn y parthau mwyaf poblog o'r dref, dywedodd ei ar- glwyddia.eth ei fod yn ameu y dosthineb o wario arian ar adeiladan amserol o'r fath. Nis gallai ef edrych ar y cynllun hwnw fel dull oynil o wario arian ar adeiladau Eglwysig. Yr oedd o'r farn, yn hytracb, oa oeddynt i wario arian ar adeiladau cenhadol y dylai yr adeiladau hyny fod yn rhai parhaol, wedi eu hadeiladu o geryg neu briddfeini. Ni fyddent drwy hyny yn taflu arian ymaith, ond byddai ganddynt adeiladau parhaua i gynal gwas- anaeth Dwyfol, nen yn ol llaw, os adeiledid rhai gwell a mwy cyfleus, gellid ei defnyddio fel ysgoldai neu yetafelloedd i gynal eyfarfodydd plwyfol a chym. deithasoi o bob natur. Mae yr awgrymiad hwn o eiddo yr Esgob yn wir deilwng o ystyriaeth pawb sydd yn awyddua i hyrwyddo gwaith Eglwysig. Nid yw yr addolwyr yn teimlo yn gartrefol mewn adeiladau cenhadol am dymor, neu aneddau symudol. Gwnaed llawer ym- gaia yn nghof yr ysgrifenydd i sefydlu Eglwys i'r Oymry yn Mhenbedw. Mae arch Duw wadi bod yn trigo yno mewn pebyll, mewn ysgoldai (fel yn bres- enol), ae mewn tai anedd. Yr wyf yn cofio Eglwys haiarn yno ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ol ar safle gyfleus ac amlwg yn Conway Street; ond ni fu y babell amserol hono yn hir cyn cael ei 11 datod." Bu yno Eglwys haiarn drachefn. Bu y diweddar Ddr. Baylee yn cynal gwassnaothau Cymreig yn Ngholeg St. Aidan am beth amser, ond ni fu gan y Cymry yn Birkenhead yr un anedd barhaua a sefydiog erioed i addoli Duw yn ben iaith eu tadau, yn ol defodau Eglwys Gatholig ao Apoatolaidd ein gwlad. Ac i byn y gellir priodoli, i raddau helaeth, yr aflwyddiant sydd- wedi dilyn yr ymdreohion a wnaed mewn blynyddau a aethant heibio i sefydlu Eglwys i'r Cymry yn "ninas y dyfodol." Prif an- hebgorioB llwyddiant yr achoa Cymreig yn Birken- head ydyw eglwysdy cyfleus a phregethwr galluog a phoblogaidd. Gosodai yr Esgob yn ei anerchiad lawer iawn mwy o bwys ar y living agents" nag ar adeiladau Eglwysig. Nid oes dadl na fydd y gefnogaeth a ddyry Esgob newydd Caerlleon yn fantaia neillduol i'r achos teilwng hwn. ESGOBLERPWL AR Y "CONWAY." Oymerodd golygfa ddyddorol le yr wythnos ddi. weddaf ar y Llong Hyftorddiadol, y Conway," sydd yn rhwym wrth angor yn y Mersey, yn agoa i Rook Ferry. Mae 180 o ysgolheigion ar yr ysgol-long hon yn parotoi ar gyfer y Llynges a thrafnidiaeth forawl. Dydd Mercher aeth Arglwydd Esgob Lerpwl ar fwrdd y Conway i weinyddu y dda/od sanctaidd o gonffirmasiwn, neu arddodiad dwylaw, i 33 0'1; miiwyr a'r morwyr ieuaino hyn, y rhai a gyflwyn. wyd iddo gan gaplan y "Conway." Yr oedd an- erchiad yr Esgob i'r conffirmiedig yn alluog a di- frifol dros ben, a gwnaeth argraff neillduol ar feddyliau yr ymgeiswyr a'r rhai oedd yn bresenol. Dygwyd y gwasanaeth ymlaen ar brif fwrdd y Hong, yn yr hwn yr ymunai yr holl ysgolorion a'r ym. welwyr. Yr oedd nifer liosog yn bresenol o brif foneddigesau a boneddigion Lerpwl a'r amgylch- oedd. Yr oedd yr hin yn ddymunol a'r olygfa yn gyfryw nad anghofir ganddynt am dymor hir. Y GYMDEITHAS GENHADOL EGLWYSIG. Nos Sul diweddaf, pregethood yr Esgob yn Eg- lwys St. Silas, High Park Street, ar ran y Church Missionary Society, oddiwrth 1 Cor. xv. 57, 58, Ond i^ Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hyny, fy mrodyr ftnwyl, byddweh sicr, a diymod, a helaethion yn ngwaith yr Arglwydd yn wagtadol," &e. Prif wersi y testyn ydoedd—diolch- garweh Cristionogol, buddugoli&eth Gristionogol, a dyledswydd Gristionogol, Yr oedd ganddynt lawer o achos i fod yn ddiolchgar am y bendithion a fedd- ent. Os edrychent ar yr ysmotiau duon ar y ddarlunlen (map) genhadol canfyddent fod-miliynau, a degau o filiynau, o bobl heb feddu y ganfed ran o'u gwareiddiad. Ni fedrai neb gymeryd y Beibl oddi-arnynt. Nid oedd arnynt eisiau dim mwy newydd—dim gwell na.'r hen wirioneddau. Dyna y gwirioneddau, fel yn Lloegr, a ddylid ddysgu yn India, yn Affriea, yn China, yn Japan yn yr holl ranau hyny o'r byd dylent ddysgu y gwirionedd ^yml fel yr oedd yn yr Iesu. Talodd yr Esgob warog- abth uchel i fywyd a gweifchgarweh y Gymdeithas Genhadol Eglwysig. Yr cedd Duw wedi bendithio ei gweithrediadau i raddau anghyffredinol, a gwnai barhau i'w bendithio tra daliai yn ffyddlon i'r gwir- ionedd. Gwnaoth ei arglwyddiaeth apeliad grymus am gefnogaeth i'r gymdeithas fendithfawr hon. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o wrandawyr. Daillen- wyd y gwasanaeth gan y Parob. Canon Woodward. YR YSGOL SUL. Nos Sul diweddaf pregethodd y Parch, W. A, Ellis, yn Eglwys Gymreig St. Nathaniel, ar yr Ysgol Sul! Sylfaencdd oi sylwadau ar 2 Tim. iii. 15, Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr ]â.n," &c. Y prif faterioD yr ymdriniodd â hwynt ydoedd (1) Elfenau addysg grefyddol, (2) manteision addysg foreuol, ac (3) y caalyniadau. Sylwodd mai mewn ieuenctyd yr oedd y meddwl yn fwyaf agored i dderbyn addysg; dyna yr amser y gwneid yr argraff ddyfnaf ar y meddwl; ao yr oedd addysg foreuol yn ein gallu i droi yn y cylchoedd uwchaf o ddefnyddio!deb. Yr oedd addysg foreuol yn dwyndyn i adnabod ei hunan, adnabod Duw, ac yn ei wneyd yn ddoeth i iaohawd- wriaeth. Sylwadau da a buddiol ar werth addysg foreuol, a gresyn na fuasai mwy o rieni a dynion ieuainc yn eu clywed. If

AWGRYMAU I AMAETHWYR.

[No title]

DOSBABTH I.

MERCH IEUANO 0 LANBERIS -…

[No title]