Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
IIIE. OSBOBNE MORGAN YN EILIO'R CYNYGIAD. Mewn araith druenus o wael eiliodd Mr. Oahorne^Morgan gyn- ygiad ei gyd-aelod Cymreig. Cafodd y Ty eto anerchiad ar hanesiaeth Cymra—hen a di- weo,clar-ac unwaith eto ni pheid- iwyd a son am ardderchowgrwydd rhifedi yr Ym- neilldawyr Cymreig o'n cydtnara a rhengoedd gwaelion yr Eglwys Druain o'r bobl hyn Y oaae eu hamynedd yn ail adrodd yr hen gelwydd- au yn sicr o fod yn deilwg o rhywbeth gweli. Yr oedd ymosodiad Mr. Osborne Morgan ar Mr. Byron Reed yn briodol iawn i'r amgylchiad yn ddiamheu, ond yr oedd yn yn dangos gwendid ofnadwy Beth yw'r gwahaniaeth pa un ai Sais ynte Cymro a ddywed y gwir am yr Eglwys yn LNghymru, oncl i ni gael y gwir ? O'm rhan fy hun gwell genyf y gwir o enau y Sais Byron Reed na chelwydd o enau y MUymro Osborne Morgan. Ac nid pwnc Cymreig oedd gerbron y Ty, ond pwnc yr Eglwys, ac fel y dywedodd Mr. Gladstone, flynyddau yn ol, un yw'r Eglwys yn Lloegr a Cbymru.
[No title]
———■— — DIWEDD Y DDADL. n. :J.! Cafwyd areitbiau arddercliog gan Mr. Byron Reed a'r Postfeistr Cyffredinol. Dangosodd y cyntaf fel yr oedd y cynwff presenol wedi "I lvui o ymenydaion goiygwyr y wasg uymreig, y rlaai gan mwyaf oeddynt weinidogion fmneill- dual. Rhoddodd engreifttiau o iaith goethedig y koblach hyn, a datguddiodd eu malais a'u rbagfarn dallbleidiol. Yngbanol cymeradwyaeth cyffredinol aeth ymlaen i ddangos cynydd dirfawr yr Eglwys yn y blynyddoedd diweddaf, tra yr oedd yr enwad- au yn gwywo ac yn marw. Mown modd meistrol- 8ar cymerodd Mr. Raikes y ddadl i fyny, a daogosodd y Ty ei fod yn credir pleidwyr yr Eglwys yn hytrach na'i gelynion. Cawsom fuddugoliaeth ardderchog ffaith ddylai fod yn gefeogaetli ac yn symbyliad i ni yn y dyfodol.
[No title]
ETHOLIAD BWRDD YSGOL DOLGELLAU. Cafodd yr Eglwyswyr fudd- ugoliaetth ardderchog yn Nol- gellau yr wytbnos ddiweddaf. Dygodd yr Ymneilldawyr saith o ymgeiswyr allan, gan feddwl, • -3 + debygwn, eu bOa. 1 gymeryu LLit;uult%u- llwyr o'r Bwrdd Ysgol. Gosododd yr Eg- lwys bedwar o ddynion ar y maes, gyda'r can- lyniad i ddau o honynt gael eu hethol. Pe b'ai yr Eglwys wedi dyfod & thri allan gallesid fod wedi eu gosod oil i fewn, ac y mall cyfanswm eu pleidleisiau yn profi fod hawl gan yr Eglwyswyr i dair o seddau. Fel y trodd pethau allan y mae genym bob iheswm i lawenychn, canys gosod. wyd y Rheitbor ar ben y pol, a'r Eglwyswr arall yn nesaf ato. Fel y canlyn yr oedd y bleid- lais :— Parch. W. Williams, rheitbor 791 Mr. David Owen (E.) 543 Mr. John Jones, Cefn'rowen. 511 Dr. J. Jones, Gae'rffynon (M.C.). 486 Mr. R. Wynne Williams (B.). 478 Mr. Thomas Price, Coed (A..) 464 Mr. W. Williams, Maesffynon (W.).. 446 ■, Mr. R. Jones, New Shop (M.C ). 427 Mr. W. Hughes, argraflydd (A.). 426 Mr. R. Nanney Williams (E.) 325 Mr. J. Ohidlaw Roberts (E ) 260 Nid oes bosibl darlunio buddugoliaeth yr Eglwys yn well nag yn y geiriau o eiddo y Golcuad Beth ddaeth dros bobl dda Dolgellau ? Mewn tref sydd yn drwyadl ^efmeillduol ac yn bur zelog gyda dirwest, gosodwyd y person ar ben y poll a'i gyd-Eglwyswr o dafarnwr yn agosaf ato. Mae pobl yn dechreu holi a oes rhyw ddrwg wrth (jwraidd Ymneillduaeth yn y dref hono, acypd wyf wedi cael sicrwydd par un ai dosbarth uchaf ai dosbarth isaf cymdeithas a olygir wrth y 'gwraidd.' Credii yr wyf fod eisiau tipyn o halen ar yr Ym- neillduwyr yma fel llawer lie arall. Ac nid oes eisiau celu y ffaith mai Methodistiaid sydd yn cael eu cyfrif ddyfnaf yn y gwarth o broffesu un peth a gweithredu ffordd arall. Ai nid,Qps yma angen tipyn o holi cydwybodau, a thipyn o siarad plaen ? Credu yr wyf fod, ac y rhaid dtcliieu yn lied uchel." Cader Idris, Boreu dydd Metcher.
flrluublJíon CgffrctJinol.…
flrluublJíon CgffrctJinol. v-I V DAMWAIN ALAFTIIUS.-Pellebrir o New York fod damwain (irvehinebus wedi cymeryd lle yn Kalamazoo, Michigan. Yr oedd cerbyd yn croesi yrheilffordd yn y lIe a nodwyd pan y rhedodd agerbeiriant iddo gan ei chwilfriwio yn ddarnau. Lladdwyd chwech o ferched oeddynt yn y cerbyd, a niweidiwyd dau eraill. MARWOLAETII ADFYDUS Y TAD DAMIEN.—Hys- bysir am farwolaeth y Tad Damien, yr offeiriad Pabaidd Belgiaidd a aeth allan flynyddoedd yn ol i geisio ymgeleddu y trueiniaid a ddioddefant o dan y gwahanglwyt yn nhrefedigaeth y gwahan- gleifion yn Molokai, un o ynysoedd y Sandwich. Aeth yno flynyddoedd yn ol yn ddyn iach; cysegr- odd ei fywyd i weini ar y gwahangleifion, cafodd yr afiecbyd ei hunan, a bu yn dihoeni dano am flynyddoedd. PA BAWL ARCH SYDD DDIGON AR GYFER, UN CORFF ?-Digwyddodd amgylchiad hynod iawn ynglyn a pharotoadau ar gyfer angladd yn Nghaergybi yr wytbnos ddiweddaf. Dechreu yr wythnoa bu gweddw o'r enw Mrs. Hughes, Baker Street, farw, gan adael peth eiddo ar ei hoi, i'r hyn y ceisiai dau brofi eu hawl. Gwnaeth pob un o'r ddau barotoadau ar gyfer yr angladd, a'r can- lyniad oedd i ddau arch gael eu hanfon i'r ty, ac i ddau feddrod gael eu liagoryd. Rhoddwyd y corff i ddecbreu yn yr arch a anfonasid yno gyntaf; ond yn ddiweddarach symudwyd ef i'r arch arall, ond mewn un o'r ddau feddrod yn unig y cladd- wyd y corff. Yr oedd un o'r ddau hawlydd, sef nai i'r wraig, wedi cymeryd meddiant o'r ty; ond yn uniongyrchol ar ol yr angladd daeth y llall, sef mab-yn-nghyfraith iddi (mab ei gwr), yno, a thorodd y drws er myned i mewn i gymeryd meddiant gyda'r llall.. Erbyn hyn yr oedd Ilti o bobl wedi ymgasglu o gwmpas y ty, ond gor chymynwyd i'r heddgeidwaid glirio yr hool gan Dr. Roland Williams, gan fod gwraig yn wael yn y ty nesaf, ac y buasai y trwst yn perygla ei bywyd. Dydd Mereher, symudwyd y dodrefa gan Mr. W. D. Jones, trwy gyfarwyddyd Mr. T. R. Evans, cyfreithiwr, i'r Neuadd Drefol, hyd n'es penderfynu eiddo pwy ydynt. 1 YSTORMYDD 5DYCHBYNLLYD YN NYFFRYN CLWYD. -Dydl Mawrth diweddaf, ar ol gwlawogydd toiawrion, bu llif mawr yn ardal Gyffylliog, ger Rhutbyn, pryd y bu difrod mawr ar eiddo. Daeth yn bur sydyn yn y prydnawn, gan daflu muriau a chyfodi coedydd cryfion o'r gwraidd. Yr oedd un amaethwr newydd glado gwrtaith ar ei faes, ond daeth y llif a golchodd yr oil o hono i faes arall. Taflwyd i lawr weithdy perthynol i saer, a cbludwyd ymaith lawer o'i goed a'i cffer, Hefyd cariwyd ymaith arch oedd yn cael ei gwneyd, ao aeth y llif â hi rai milldiroedd i lawr y dyffryn. Ni chollwyd bywydau. GOLYGFA GYFFBOXJS MEWN ARDDANGOSFA GREAD. URIAID.-Dydd Mereher, mewn Arddangosfa Greaduriaid yn Bangor, Gcgledd yr Iwerddon, acheswyd cyffro mawr trwy fod gwas fferm yn gwneyd yn rhy hyf a'r creaduriaid.' Rhoddodd ei law i mewn i ffau y tigrod, a synai y gwydd- fodolion wrth weled y rhai hyny yn ei llyfu yn dawel. Wedi hyny rhoddodd ei law i mewn yn ffau y llewod. Rhoddodd y llewes ei phawen yn ei lawes ar unwaith, tra y rhaddodd y llew ei bawen yn ei got. Gwnaeth y dyn ymdrech wall- gof i ddyfod yn rliydd, tra yr aeth heddgeidwad i fyny i'w gynorthwyo. Gallwyd ihyddhau yr hurtyn o'i sefyllfa beryglas, heb dderbyn rhyw lawer o niwed, a thaflwyd ef allan gan awdur- dodau yr arddangosfa. CORWYNT DINYSTRIOL YN AMERICA.—Diwedd yr wythnos ddiweddaf ymwelwyd A rhanau o'r Talaethau Unedig gan ystorm erchyll o gorwynt, pa un a wnaeth ddifrod dirfawr ar feddianau a bywydau. Yn Williamsport, Pennsylvania, tafl- wyd pabell circus Barnum, gan niweidio lliaws mawr o'r chwareuwyr a'r edrychwyr. Yr oedd nifer o ddynion yn gweitbio yn Point Rocks, Maryland, ar bout rheilffordd, pryd y Uuchiwyd hwynt i'r afon, a boddodd lliaws o honynt. Lladd- wyd un dyn yn Newport, Penn., a dyn arall yn Newhaven, Conn., ac arehollwyd lliaws yn rhagor. Dinystriwyd canoedd o anedd-dai ar hyd a lied y wlad, a bernir fod y gollec1 yn Pittsburgh a'r gymydogaeth yn 500,000 o ddoleri. DAMWAIN ANGEUOL GEP. GLOFA ABERGORCI.— Oddeutu tri o'r gloch prydnawn dydd Sul di- weddaf. cymerodd damwain angeuol ofidus iawn le ar hen bwll glofa Abergorci, trwy yr hwn y collodd Mr. John Moseley, 50 mlwydd oed, mechanic y gwaith, ei fywyd. Tra yr oedd nifer o weithwyr yn symud o'r sheaves sydd ar ben y pwll, mewn uchder o oddeutu 50 troedfedd, er cael un newydd wedi ei gosod yno yn ei lie, trwy ryw anffawd yn gysylltiedig a'r rbaff, syrthiodd yn btmdramwnwgl i'r Hawr. Yr oedd yn an- nheimladwy pan ei pigwyd i fyny, ac a fa farw mewn ychydig funydau wedi hyny. Yr oedd ganddo wyth o blant; pump o honynt gartref, a'r ieuangaf tua wyth mlwydd oed. DARGANFYDDIAD DYCHRYNLLYD YN LLANELLI. —Gwnaed darganfyddiad dychrynllyd gan weith- wyr yn nglofa y Cae, Llanelli, dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf. Yn gysylltiedig a genau y shafft, y mae dwfrgist oddeutu deuddeg troedfedd o ddyfnder, yr hwn a ddefnvddir i roddi dwfr i'r peiriant cyfagos. Yn y dwfrgist hwn deuwyd o byd i gorph marw dyn, yr hwn, oddiwrth ei ym- ddangosiad, y gellid barnu oedd wedi bod yno am o leiaf dair wythnos. Nid oedd dim yn ei logell- au ond niesied, a Is. 8e. o arian. Y mae Glofa y Cae yn un o'r rhai mwyaf yn y gymydogaeth, ac yn cael ei pherchenogi gan Mri. Nevil, Druce, a Ohyf. Y mae cymydogaethau Llanelli yn hynod am helyntion anhapus. DARGANFYDDIAD RHYFEDD MEWN PALASDY.— Cymerodd amgylchiad rhyfedd le mewn palasdy' yn Halton ddiwedd yr wythnos. Fel yr oedd gweithwyr Syr Richard Brooke, Barwnig, yn gwneyd adgyweiriadau o amgylch Norton Priory ar gyfer dyfodiad y boneddwr adref, daethant o hyd i nifer o eirch ceryg, yn y rhai yr oedd gweddillion cyrff dynol. Nid oedd un math o ysgrifcn ar yr eirch, ac nid oedd y gweddillion oedd ynddynt ond darnau o esgyrn, a'r panglogau yn unig a ddangosent mai cyrff dynol oeddynt. Yn ddiweddarach ar y dydd, daeth yr un gweith- wyr ar draws arch dderw, yr hon oedd mor ddu ag ebony. Gan nad oedd yn hon eto ond m&n esgyrn, rhoddodd y goruchwyliwr hi i'w feistr fei hen relic. Am yr eirch ceryg a'u cynwysiad, dygwyd hwy i le heb fod yn neppell o'r palas, a rhoddwyd hwy oil ya y ddaear, gan blanu cooden fechan ar y llanerch i fod yn arddangosiad o'r digwyddiad. J v ■ DYCHWELIAD MR. STANLEY.—Mae hysbysrwydd Dewydd dd'od drosodd i'r wlad hon i'r perwyl fod Mr. H. M. Stanley yn debygol o ddychwelyd i Lundain ymhen oddeatu tri mis. Dywedir ei fod yn gwthio ei ffordd tua Zanzibar, a daw tua char- tref trwy Gamlas Suez. DAMWAIN AR FYNYDDOEDD BERWYN. Cyr- haeddodd y newydd i'r Bala dydd Llun fod dam- wain ddifrifol wedi digwydd rhwng y Bala a'r gwaith dwfr yn Llanwddyn, trwy yr hyn ylladd- wyd un o geffylau perthynol i'r White Lion Hotel, Bala. Ymddengys fod dyn o'r enw John Hum- phreys yn gyru cerbyd gyda dau geffyl dros y mynyddoedd tua'r Bala. Yr oedd dyn o'r enw Ifclimael Roberts oddimewn i'r cerbyd. Tra ar y ffordd tybir i Humphreys gael gwasgfa a syrthio oddiar y cerbyd heb yn wybod i Roberts. Aeth y cerbyd ymlaen hyd nes y daeth i le peryglns uwchben nant tua 200 o droedfeddi o ddyfndei. Rywfodd syrthiodd y cerbyd a'r ceffylau i lawr yr ochr hon gan ddymchwel byd i'r gwaelod. Lladd- wyd un ceffyl a niweidiwyd y llall yn doet. Diangodd y dyn oddimewn yn ddianaf. Yr oedd y cerbyd yn chwilfriw. Wedi iddo adferyd o'r wasgfa ymddengys i Humphreys grwydro draws y mynydd ar hyd y nos. RHUTHR AR HAPCHWABEUDAI.—Oddeutu chwar- ter wedi dau o'r gloch bcreu Sul diweddaf am. gylchynwyd yr Adelphi Club, a'r Field Club, Llundain, gan nifer liosog o heddgeidwaid, a thrwy ychydig o gyfrwysdra, llwyddodd y swydd- ogion i fyned i mown, lie y canfaasant nifer o foneddigion" yn hapchwareu gyda'r hyn a elwir baccarat." Yn yr Adelpi cymerwyd pump a deugain yn garcharorion, ac ugain o berscnau yn y Field. Ymhlith y rhai eedd yn hapchwareu ar foreu y Dydd Sanctaidd yn y Field Club yr oedd Iarll Dudley, Arglwydd Lurgan, Arglwydd Henry Paulet. Barwn Ferraro, ac amryw o wyr mawr eraill. Bernir y swm o arian yr hap- chwareuid am dano oddeutu ugain mil o buna-u. Dygwyd hwy o fiaen un o ynadon cyflogedig Llundain dydd Llun. Diau y tyn y cynghawe hwn gryn sylw, gan y dywedir fod hapchwareu- actb yn cynyddu yn Jdychrynllyd yn y Brif- ddinas. LLYS METKDALIADOL BANGOR.—Dydd Iau, ger- bron y cofrestrydd Mr. J. Glynne J ones, cafodd arholiadau gohiriedig David Morris, masnacbydd defaid, Aber; George Coathupe, Bryndmas Hotel, Llanelwy a Thomas Morrison, Caernar- fon, eu cau.—Gwnaeth Ellis Roberts, ship broker. Porthdinorwig, ei ymddangosid i fyned trwy ei arholiad cyhoeddus. Yr oedd ei ddyledion yn zC961, ae i gyfarfod A liyn nid oedd ganddo ond £34 10s. Priodolai ei fethiant i golliadau, afiecb- yd, a chostau cyfreithiol. Gohiriwyd yr arholiad. -J. A. Enright, Bryn Garth, Llanerchymedd a Bangor, masnacbydd mewn dyfroedd mwnawl, a ymddangosodd hefyd i fyned trwy ei arholiad cy. hoeddus. Yr oedd ei ddyledion yn £1,407, a gwerth ei eiddo ond tua X500. Cafodd yr arhol- iad hwn ei ohirio yr un modd, megis hefyd ag y cafodd eiddo Griflith Jones, glo fasnachydd, Bau- gor, dyledion yr hwn ceddynt yn £ 1,608, i gyfar fed a'r hyn nid oedd ganddo ond £ 835. Yr oedd £ 1,400 o'i ddyled yn disgyn i Gwmni Glo a Haiarn Wigan. PYSGOTA—ACHJS o Bwys YN SIR GAERNARFON. -Yn llys sirol Caernarfon, gerbron yr Ynad Wynn Griffiths, ac ynadon eraill, dygwyd aehos ymlaen sydd yn Bier o dynu sylw cyffredinol. Cy- huddid chwarelwyr o'r eawau David Roberts, John Thomas, a William Williams, yr oil o Taly- sarn, o bysgota gyda rhwydi yn liynoedd isal Nantlle. Erlynid gan Mr. C. A. Jones, ar ran Bwrdd Gwarcheidiol yr afonydd Seiont, Gwyrfai, a Llyfnwy; ac amddiffynid gan Mr. Lloyd George, cyfreithiwr, Criccieth. Nid oedd Mr. George am ddadleu nad oedd rhwydi wedi cael eu harferyd gan y carcharorion, ond ei brif ddadl ef ydoedd, nad oedd gan y Bwrdd un hawl gyf- reithio' i gosbi, am fod y llynoedd yn rhy del i r ei bysgota er cyn cof neb, ac yr oedd yn bared i aa'od a. thystiolaethau i'r llys i brofi nad oedd neb wedi meddio ymyryd yn yr achos o'r biaec, Dadleuai yr ochr arall fod yr hawl yn eu medd- iant, ac y gellid dangos tystysgrif o eiddo ysgrif- enydd y dalaeth sydd yn profi hyny. Ond er cael ymchwiliad yn fwy manwl i'r mater, pender- fynwyd gohirio yr achos. Yn y cyfasaser, gwneir ymdrech egniol i gael y dynion hynaf yn yr ar- daloedd i roddi eu tystiolnethau. Gan fod yr achos yn test case, nid yw yn syndod yn y byd fod cvmaint o ddyddordeb yn cael ei dalu i'r snater.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. NODIADAU WYTHNOSOL GAN IDRIS. MR. DILLWYN A'R EGLWYS. Ychydig amser yn ol bu Mr. Dillwyn yn ddigon ffodns-os ffodus hefyd-i eicrhau dydd i ddwyn ymlaen ei gynjgiad er ceisio dadgysyllta yr Eglwys ar Wladwriaetn. X ddoe daeth y dydd, ac ymddangoeodd yr aelod anrhydeddus dros Abertawe yn Nhy y Cyffredin i geisio darbwyllo y Senedd i benderfynu "gan fod Eglwys Loegr yn Nghymru wedi methu cyflawni ei hamcanion proffesedig fel moddion hyrwyddiad llesiant crefyddol y genedl Gymreig, ac yn gwain. yddu i leiafrit bychan o'r boblCtgaeth yn unig, y mae ei pharhad fel Eglwys Sefydledig yn y Dywysogaeth yn afreoleidd-dra ae yn anghyf iawnder na ddylid eu goddef yn hwy."
[No title]
ARAITH JIR. DILLWYN. Yr oedd araith Mr. Dillwyta yn deilwng o'r penderfyniad. Hen chwedl gwrach wrth ei ewyllys oedd y cynygiad, & chyfres o chwedlaugwrachaidd y ceisiodd Mr. Dillwyn ei ategu. Unwaith yn ychwaneg y cafodd Ty y 11 11 Cyffredin glywed fod mwyafrif digyffelyb y Cymry Ily yn Anghydffurfwyr ac yn cashau yr Eglwys, ond ni feiddiodd Mr. Dillwyn y tro hwn fyned mor bell a dywedyd fod deg allan o bob un-ar-ddeg o'r fcoblogaeuh yn Ymneillduwyr. Ba yr aelod anrhydeddus y tro hwn yn ddigon caredig i bilio y celwydd ychydig. Erbyn hyn y mae gan yr Eglwys ddau aelod am bob saith o Ymneilldawyr y Gogledd, ac an am bob saith o Ymneillduwyr y De! Felly y dywed Mr. Dillwyn, ond pwy sydd mor wirion a'i gredu ? Am y rhan arall o'i araith bu raid i arweinydd y dadgys- ylltwyr fyned yn ol hyd at y flwyddyn 1502 (!) ac ynghanol crechwen cyffredinol, dadleuodd y dylid dadgysyllta yr Eglwys heddyw oblegid fod yr Eglwys bedair canrif yn ol wedi metha cyf- lawni ei dyledswydd—yn ol tybiaeth Mr. Dillwyn Pan yn son am Eglwys y Cymry yn y dyddiau presenol, gorfa hyd yn nod y gelyn hwn gyfaddof ei bod yn gwneyd gwaith da, ond ceisiodd ddarbwyllo y Ty fod y gwelliant wedi dyfod yn rhy ddiweddar.