Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

LLANBEDR. !

LLANELLI.

News
Cite
Share

LLANELLI. PLWYF ST. PAUL'S.-Yr wythnos ddiweddaf rhoddais fraslun o weithgarwch ein parchus Ficer yn y cyf- eiriad teilwng a chanmoladwy o adeilada Eglwysi, Capeli Cenhadol, ac adgyweirio y Fam Eglwys. Y mae Ficer St. Paul's yn deilwng o efelychiad i lawer o ficeriaid mewn codi adeiladau sylweddol a da, heb fod yn gostfawr. Y mae genym engreifftiau o rai ficeriaid heb fod ymhell iawn o'r plwyf hwn, yn treulio miloedd lawer o bnnan ar Gapel Anwes, ac yn gadael y Fam Eglwys yn warth i'r plwyf ac i'r gynulleidfa a addolant ynddi! Ar ol rhoddi cip-drem felly ar yr allanolion, Bef y coed a'r ceryg, yn mhlwyf St. Paul's, byddai yn briodol gofyn, a yw y gweitbgarwch mewn cysylltiad a'r materawl yn arddangosiad teg o fywyd mewnol, neu setyllfa ysbrydol ein plwyf ? Y mae yn rhaid cyf- addef nad ydyw cystal ag y dymunem iddi fod. Nid wyf am roddi teimlad i neb, ond y mae yn rhaid ymateb cydwybod yn hyn o beth. Y mae yma dri offeiriad ac nn diacon, sef y Parchn. D. D. Jones, B.D. (ficer), D. Davies, B.A., Timothy Richarde, a Lloyd Jones, B.A. (diacon). 1 mae y pedwar yn byw o fewn gwaith pum' munyd i Eglwys y plwyf. Oni ddylai y pedwar hyn fod yn fwy cydwybodol mewn cario allan orchymyn pendant eu Llyfr Gweddi, yr hwn a ddywed mor eglur:—" A'r curad, sef y Periglor, a fo yn gwas- anaethu ymhob Eglwys blwyf neu Gapel, ao efe gartref, heb luddias rhesymol arno, a ddywed y gwasanaeth hwnw (sef beunydd y FOrenol a'r Brydnawnol Weddi) ynyr Eglwys neu'r Capel lie y b'o efeyngwasan- aetbu; jac a bair ganu cloch iddo amser cymhesur, cyn y dechreno, modd y gallo'r bobl ddyfod i wrando Gair Daw, ac i weddio gydag ef." A oes rhyw "luddias rhesymol," tybed, ganddynt i'w roddi am doriad o'r ddeddf wladol ac Eglwysig hon ? Nis gall- ddadleu afiechyd, obiegid nid oes yr un ffarmwr yn ym- weled a thref Llanelli ar ddydd marchnad, a all ddangos corff cryfach, iaohach, a mwy hardd na'r pedwar offeiriad yn mhlwyf St. Paul's! Oni fyddai cynal gwasanaeth orchymynedig yr Eglwys am wyth O'r gloch yn y boreu yn iechyd ao yn adgyfnerthiad ysbrydol iddynt ? Ni fyddai wyth o'r gloch yn rhy foreu; beh am y miloedd gweithwyr a'r canoedd merched ein plwyf sydd yn gorfod bod yn y gwahanol weithfaoedd alcan erbyn chwech o'r gloch y boreu ? Yr oeddwn wedi bwriadn pwyso a mesur yr offeiriaid, y Eliacon, ar ddatt bregethwr Ileyg sydd yn llafnrio yn ein plith, ond ar ol ail ystyriaetb, yr wyfyn credn y fcydaai rhoddi ychydig gynghorion iddynt yn fwy dymunol. Nid amean ein Ficer gweithgar ydoedd codi colofnau coffadwriaethol o hono ei hun, nac er mwyn dwyn ei hun i eylw, i'r diben o sicrhau dyrchafiad Eg- lwysig, wrth adeilada Eglwysi newyddion; ond er mwyn i'r miloedd sydd o'i amgylch gael mantais i addoli Dnw. Wele y temlau yn barod, bellach y mae eisiau en llanw ag addolwyr defosiynol. Gwag iawn ydynt hyd yn hyn! Sat mai dwyn hyn oddiamgylch ydyw y cwestiwn ddylai gael ein hystyriaeth. Yr wyf yn credn mai y ffordd i lanw ein Heglwysi ydyw, i'n hoffeiriaid fod yn ddyfal yn eu hymweliadau ym- weled i. phob gradd a sefyllfa o bobl, y tlawd yn gystal a'r cyfoethog, y claf felyr iach, gan eu cymell oil i ddyfod i fewn, fel y llanwer temlau'r Arglwydd, Ar ol cael y bobl i bresenoli eu hanain yn nhy'r Arglwydd gofaln rhoi ymborth iachus iddynt. Y mae rhyw syniad ffol wedi meddia.nu rhai offeiriaid, mai y bregeth ydyw y peth olaf y dylent hwy ofalu am dano, ac mai cael gwasanaeth da yw y ewbI sydd eisiau; ond camBynied ofnadwy ydyw! Nid oes neb yn earn gwasanaeth da a bywiog yn fwy myfi, ond Die gallaf anghofio geiriau St. Paul, "fe welodd Dnw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." Nid vw Isvniad v Saeson mai preaching is nothing. the service is everything," i fyny ag archwaeth y Cymrot Na, pregeth dda i'r Cymro. Nid yw Eglwysi Cymreig, ond temlau gweigion yn y lleoedd hyny ac a wn i am danynt, lie mae pregethwyr gwael yn offeiriaid. Os ydym gan hyny am weled ein Heg. lwysi wedi eu llanw gan wrandawyr aatud, gofaled yr offeiriaid am y bregeth i fod of the best quality, a gofalu am ddwyn athrawiaethau iachas yr Eglwys mewn iaith ddealladwy o flaen y bobl. Rhoddwch ar ddeall hefyd i'ch cynulleidfaoedd eich bod yn deall yr hyn yr ydych,yn ymdrin ig ef; byddwch feistriaid ar eich materion. Ni charemarun cyfrif weled offeiriad mewn pwlpud heb fod ganddo ei bregeth yn ysgrifenedig o'i flaen, ond ar yr un pryd nid ydym yn caru gweled y cyfryw yn ymddiried yn holiol ilw hapyr ysgrifenedig. Pe digwvddai y nwy (gas) rhyw noson fyned allan pan y mae llawer un yn pregethu, elai yn dywyllwch Aiphtaidd arao yn y fan Gan fod fy llith eisoes wedi myned yn faith, rboddaf heibio sylwi ar ein pregethwyr Ilsyg y tro hwn, ond gwnaf hyny yr wythnos nesaf. Wrth ein Ficer parchus dywedaf, byddwch ddyfal wrtbi, hyd yn hyn yr ydych wedi gweithio yn egniol ac yn galea iawn. Llawer, yn ddiau, sydd wedi ac yn parhau i weitbio yn galed mewn cysylltiad a'r Eglwys yn Nghymru, ond yr wyf yn credu yn hollol y gellir dyweayd am Ficer St. Paul's, "Ti a ragoraist arnynt oil." Wrth ein curadiaid dywedaf, gwneweh yr hyn oil ag y gellwch i gynorthwyo eich Ficer. Y mae rhai o honoch, efallai, yn awyddus am fywoliaeth, ond y mae yn gynar i'r un o honoch feddwl am hyny eto. Y mae yn rhaid cael prawf pellach na dtyy neu dair blynedd yn y weinidogaeth tuag at sicrhau bywoliaeth, ac nid yw ond ffolineb i unrhyw offeiriad sydd wedi bod mor lleied o amser yn y weinidogaeth i dybied fod eidalent- auefyn gofyn sylw arbeqfo ac megis yn hawlio immediate promotion. Gwneweh eich gwaith yn wrol, dogn dydd yn ei ddydd, fe wel eich hesgob chwi maes o law, ac efe a rydd i chwi, yn ddiau, eich cyflawn werth. —Myrddm Cock.

BETHESDA. I

LLANFWROG(RHUTHYN).

--LLANFIHANGEL-Y. PENNANT…

NODION 0 FON.

DAFEN.

MOSTYN.

RHUTHYN.

LLANRHYDD.

ICWMBWRLA, ABERTAWE.

FERNDALE.

LLANWNEN.

DINBYCH.

ABERGORLECH.