Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

LLANBEDR. !

News
Cite
Share

LLANBEDR. YSGOL Y COLEG.-Bydd yn dda gan lawer glywed fod Mr. D. 0. Marden wedi ei ethol i Ysgoloriaeth Metirig, am Hanesyddiaeth, yn Ngholeg yr lean, Rhydychain. Y mae yr ysgoloriaeth yn werth £ 80 y flwyddyn. Yn Mehefin diweddaf, pan eto yn Ysgol y Coleg, pasiodd Mr. Marsden arholiad Besponsions yn Ngholeg Dewi Sant. Rhoddwyd ef yn y dosbarth cyntaf gydag an- rhydedd mewn Hanesyddiaeth, a rhanwyd y Bates Prize rhyngddo ef ag un arall. Yn union, braidd, wedi hyny, enillodd Ysgoloriaeth Phillips yn y Coleg am Hanesyddiaeth. Oddiar hyny, y mae wedi bod yn efiydn yno, dan ofal y Proffeswr Tout. Y mae llwydd- iant Mr. Marsden yn adlewyrchu clod mawr ar Ysgol y Coleg, a gellir liongyfarch y Prifathraw, y Parch. T. M. Evans ar lwyddiant ei ymdrechion.—Y dydd o'r blaen, hefyd, etholwyd Mr. Edward Jenkins, yr hwn, fel Mr. Marsden, a gafodd ei addysg yn Ysgol y Coleg, ac yn Ngholeg Dewi Sant, i ysgoloriaeth agored am Rifyddiaeth yn Ngholeg Magdalen, yn Nghaergrawnt. CYFARFOD CYSTADLEUOL. Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol llwyddianus dros ben Ysgoldy Cenedlaethol Silian, nos Fercher, Mai laf, o dan lywyddiaeth Mr. T. H. R. Hughes, Y.H., Neuaddfawr. Yr oedd yr adeilad yn orlawn, ac yr oedd yr adeilad yn orlawn, ac yr oedd y cystadleuaethau yn ddyddorol ac adeiladol iawn. Y beirniaid oeddyntYr adroddiadan a'r gerddoriaeth, y Parch. T. M. Evans, B.A., prifathraw Ysgol y Coleg, Llanbedr, a Mr. L. J. Roberts, A.C., Coleg Dewi Sant; tnethodau, &c., y Parch. B. C. Davies. Enillwyd y brif wobr gorawl, ar ol cystadlenaeth ragorol, gan G6r Uadebol Llangybi, dan arweiniad Mr. Jenkin Davies. Yr oedd y trefniadau (yrhai a gariwyd allan yn dde- heuig iawn) yn Haw y ficer (y Parch. D. Morris), a phwyllgor o'r ardal.

LLANELLI.

BETHESDA. I

LLANFWROG(RHUTHYN).

--LLANFIHANGEL-Y. PENNANT…

NODION 0 FON.

DAFEN.

MOSTYN.

RHUTHYN.

LLANRHYDD.

ICWMBWRLA, ABERTAWE.

FERNDALE.

LLANWNEN.

DINBYCH.

ABERGORLECH.