Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

MARWOLAETH MR, W. SPURRILL,…

CONFFIRMASIWN.

AGORIAD EGLWYS NEWYDD CROESFAEN.

DOWLAIS.

News
Cite
Share

DOWLAIS. TysTPB.-Nos Iau, yr 2il o'r mis presenol, ymgyf- arfu nifer liosog o athrawcn yr Ysgol Sul ac aelodau cor yr Eglwys Gymreig yn yr Ysgoldy, er mwyn cyf- lwyno anrheg i Mr. Thomas Thomas, ar ei ymadaw- iad o'r lie i Gaerdydd. Fel math o ragarweiniad i'r seremoni cafwyd cwpanaid o dê a bara brith blasus iawn, gan Mrs. R. Jones, Mrs. Roberts, a'r Misses Lewis, a Lloyd. Yn y cyfarfod ar ol y tb cadeiriwyd gan ein parohus Reithor, ao ar ol egluro natur y cyf- arfod, galwodd ar y brodyr canlynol i ddweyd gair ar yr achlysur, Md. M. Lewis, John Rees, W. Francis, M. Morgans, T. Phillips, D. Griffiths, D. Evans, T. Davies, a'r Parch. R. Jones. Siaradodd pob un o honynt yn uchel iawn am Mr. Thomas, gwrthddrych y dysteb, fel aelod galluog o'r cor, ac aelod defnyddiol yn yr Ysgol Sul, ac eiddunent bob llwyddiant iddo yn Eglwys St. Andreas, Caerdydd. Cyflwynwyd yr anrheg, sef blwcbysgrifeuu (Writing Desk) tlws iawn, gan Mrs. R. Jones, a gwnaeth araith fyr, ond pwrpasol, ar yr amgylchiad. Diolch- odd Mr. Thomas yn barchus am yr anrheg a'r teimladau da a ddangosid tuag ato, Ceir colled fawr ar ol Mr. Thomas yn Dowlais, y mae yn gerddor gwych, a dyfodol addawol o'i flaen, bydd yn gaffaeliad i gor Eglwys St. Andreas. Dymunir pob llwyddiant iddo, yn dymhorol ac ysbrydol, gan drig- olion Dowlais. DYDD LLUN CYNTAF YN Y MIS.-Cedwir y dydd hwn yn wyl gan y glowyr, ond rywfodd nid ydyw pethau yn cymeryd eu lie yn esmwyth iawn yma sto. Drwg iawn oedd genym weled rhyw dair rhan o badair o'r gwaith dur a haiarn yn segur y Llun di- weddaf, am nad oedd glo at eu gwasanaeth. Ofna rhai o'r glowyr nad doeth yw cymeryd pob Llun cyntaf yn y mis yn ddydd gwyl, gan fod pris gweddol am dori glo a galwad mawr am dano ar hyn o bryd. "Cynhauafu y gwair tra fo'r tSs yn para," felly gweithio yn ddiwyd tra mae gwaih i'w gael, a phris gweddol am ei wneyd. Os byddwn byw ychydig, tebyg y ceir stop trucks," a phris bach am dori glo eto. Ar y cyfan y mae teimlad rhag. orol dda yn ffynu rhwng y Mri. Martin a'r gweith- wyr. Hir y parhao.

ABERDAR.

WHITLAND.

LLANBEDROG.;

FFEITHIAU GWERTH EU GWYBOD.

CYSTADLEUAETH II Y LLAN."

[No title]

ST. FFAGAN, ABERDAR.

Family Notices

[No title]

NODJADAU SENEDDOL. .