Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

at em 6ob£blul1r. .-----,,

[No title]

"CYMDEITHAS EHYDDHAD CREFYDD."

News
Cite
Share

"CYMDEITHAS EHYDDHAD CREFYDD." AR y dydd cyntaf o Fai ymgynullodd cefn- ogwyr y gymdeithas uchod yn nhý cwrdd Mr. SPURGEON, y Metropolitan Tabernacle. Llundain, er cynal eu cyfarfod blynyddol. Yn y boreu daeth swyddogion y gymdeithas ,ynghyd i'r Memorial Hall, Farringdon Street, lie y cynhaliwyd cynhadledd i drin hoff bwnc caseion yr Eglwys. Y mae llawer iawn o faterion o ddyddordeb i sylwi arnynt mewn cysyllbiad a'r cyfarfodydd hyn. Yn gyntaf, ar adeg ei chyfarfod blyn- yddol y gellir yn hawddaf ddeall sefyllfa y mudiad a ddygir ymlaen gan y gymdeithas. Fel y treigla un flwyddyn ar ol y Hall y mae llwyddiant neu aflwyddiant symudiadau cy- hoeddus yn dyfod yn fwy amlwg. Ar ol bodolaeth yn estyn dros yn agos i haner can' mlynedd, y mae safle Cymdeithas Rhyddhad Crefydd yn dyfod yn fwy amlyg- edig bob blwyddyn. Os ydyw cefnogwyr Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yn ystyried y cyfarfod blynyddol eleni yn Ilwyddiant ac yn arwydd o allu a dylanwad y gymdeithas sydd yn famaeth i'w hamcanion yn erbyn yr Eglwys, yr oil sydd genym i'w ddweyd yw ea bod yn hynod fyr yn y gyneddf hono a elwir wrth yr enw-synwyr cyffredin. Ni fu erioed gynulliadau mwy difywyd, ac yr oedd yn hollol amlwg fod holl weithred- iadau y dyrnaid ydoedd ynbresenol yn holl- ol ffurfiol. Y canlyniad ydyw hyn y mae y cyfarfodydd erbyn hyn wedi eu hanghofio, a'r fiSloreg anwireddus a draddodwyd ar y llwyfan ar ei daith i eithafoadd ebargofiant. Dim ond un o newyddiaduron Llundain ar- graffodd adroddiad o'r froliaeth ddisynwyr a syrthiodd dros efusau y llefarwyr dewis- edig. Y mae hynyna yn brawf eglur fod dylanwad y gymdeithas yn isel iawn, a bod hyd yn nod Ymneiliduwyr goleuedig yn cadw draw oddiwrthi. Nid yn unig yr oedd yr arweinwyr Ymneillduol yn absenol, ond yr oedd gwleidyddwyr parch- usaf y- blaid Radicalaidd vn eisiau yn y cyfarfodydd. Y mae hyn yngtyn a'r ffaith fod y cyfarfodydd mor farw a llipa yn dangos nad ydyw dyddordeb y cyhoedd yn ngwaith y Gymdeitbas ond y peth nesaf i ddim. Ehaid fod gweifrdynwyr y mudiad Dadgysylltiol yn ymwybodol o hyn yna pan yn dewis y boneddigion oadd- ynt yn bresenol i anerch y eyfarfodydd. Ni welwyd eu salach ar unrhyw Iwyfan erioed, a gellir yn hawdd egluro y diflasdod oedd i'w weled ar weithrediadau y dydd, pan y dywedir mai Mri. T. STANSFELD, W. SUMMERS, a T. E. ELLIS ydoedd arwyr y cyfarfodydd. Ar ol ceisio dylanwadu ac addysgu y wlad am haner canrif, nis gall y Gymdeithas heddyw hawlio cynorthwy neb yn ei-chyfarfod blynyddol ond gwleidydd- wyr clinod, a rhai o'r rhai hyn a'u plyf heb lawn dyfu. Nid ydyw yn werth sylwi ar yr hyn ddywedwyd gan y boneddigion hyn, oblegid ni ddygwyd un fiaith na dadl newydd ymhlaid yr egwyddorion a broffesir ganddynt. Naturiol ydoedd disgwyl i'r aelod ieuanc dibrofiad sydd yn cynrychicli sir Feirionydd ddywedyd pethau ffolach na'r lleill, oherwydd ei fod yn fyr o brofiad tebyg i Mri. STANSFELD a SUMMERB. Yn ei araith dywedodd Mr. ELLIS nad oedd dosbarth mwy diwerth o ddynion yn y deyrnas na'r clerigwyr Cymreig. Yn mhlwyfydd gwledig Cymru gwnelid yr holl waith yn grefyddol, moesol, cymdeithasol, a llenyddol, gan y gweinidogion Ymneillduol, ond yr ofieiriad dderbyniai y degwm. Y mae tair ffordd i egluro'r ffaith fod hyd yn nod Mr. ELLIS wedi arfer y fath eiriau athrodus. Yn gyntaf, y mae yn bosibl fod y geiriau wedi eu llefaru ganddo er mwyn camarwain ei wrandawyr, ac yntau yn gwybod eu bod yn gelwydd. Nis gallwn gredu ei fod yn euog o hyn yna. Yn ail, arferodd Mr. ELLIS hwynt am ei fod yn anhyddysg yn hanes ei wlad yn y gor- phenol, ac yn analluog i ystyried ffeithiau ynglyn â'n bywyd cymdeithasol yn y pres- enol yn ddiragfarn neu ynte, yn drydydd, llenwir ef gan ddigasedd tuag at ddosbarth o'i gydwladwyr i'r fath raddau ag i'w rwystro i roddi iddynt gymaint o glod ag y maent yn oi haeddu yn unol a, deddfau cyf- iawnder. Gresyn fod iaith enllibaidd fel geiriau Mr. ELLIS yn cael eu harfer, a gresyn hefyd nas gellid gorfodi y boneddwr hwn i brofi ei osodiadau anghywir. Nid ydym am ei rwystro i ganmol y gweini- dogion Ymneillduol, ond na foed iddo sarhau ei grefydd ei hun, oherwydd mai Calfin ydyw, drwy ddangos y fath anghariadoldeb. Cyn terfynu dymunem osod ger bron ein darllenwyr un agwedd "III. bwysig o'r mudiad a gynrychiolir gan y gymdeithas uchod. Oherwydd daliadatl crefyddol IIawer o'i phrif gefnogwyr y siae Ymneillduwyr duwiol yn ymddidoli oddi- wrthi, ac y mae ei dylanwad, felly, yn llawer llai nag ydoedd flynyddoedd yn 01. Ond y mae wedi llwyddo i ddarbwyllo Y blaid Gladstonaidd i'w chynorthwyo yn y Senedd. Yn hyn yna y gorwedd y perygl- Ein dyledswydd fel Eglwyswyr, felly, ydyw parhau i drefnu ein rhengoedd gogyfer I't frwydr, addysgu y werin bobl yn haneS, safle, a gwaith yr Eglwys, a hoelio ar y bwrdd, gyda dyfal-barhad, bob celwydd a draethir gan ein gelynion am danom 0 Eglwyswyr.

[No title]

NODJADAU SENEDDOL. .