Hide Articles List

6 articles on this Page

'-'CYFFREDINOL.

GG^EITHFA0L A MASNACHOL.

"----"r-----"-.-,-..-HELYNT…

News
Cite
Share

"r- HELYNT CAE-EINION. Hysbyswyd yn Y LLAN yr wythnos ddiweddaf fod Mr. David Evans, Gae-Einion, wedi prynu ei fferm ar ol yr holl belynt. Fel y gallo y cyboedd ddeall yr amgylchiadau yn briodol ynghyleh ar- werthiant y fferm i'r tenant, y mae Mr. Geo. H. M. Owen, Ysgrifenydd Cymdeithas Amddiffyniad Eiddo droa Ogledd Cymru, yn anfon y llytbyrau canlynol i'r newyddiaduron :— [Copi o lythyr yn y Weri-n, Ebrill 27ain, 1889.] HELYNT CAE-EINION WEDI EI DDISTEWI. "Nodwr" a ysgrifena:—Gall fod rhai o'cb darllenwyr yn cofio am helynt a fu yn nghymydog- aeth Dolgellau ynglyn a fferm o eiddo Mr. Ellis Nanney, tua haner blwyddyn neu well yn ol, pryd y bu arwerthiant ar eiddo Mr. David Evans, Cae. Einion, oherwydd fod y meistr tir wedi rhoddi i'r tenant rybudd i ymadael, ac yn hawlio codiad o 25 y cant yn yr ardreth. Cynhaliwyd cyfarfod ynglyn A'r arwerthiant, ac yr oedd Mr. T. E. Ellis, A.S., ae amryw eraill, yn bresenol. Safodd y cymydogion—gyda'r eithriadau arteroi o gyn- ffonwr neu ddau-wrth gefn Mr. David Evans yn rbagorol; ac er y dywedai y goruchwyliwr fisoedd yn ol fod Ilu yn ceisio y fferm, eto pan y daeth yr amser i gyflwyno y defaid drosodd, y gorucbwyl- iwr a ddaeth yno i'w cymeryd, ac nid neb o'r lliaws" oedd yn ceisio am y fferm." Wedi cymeryd y defaid, &c., caniataodd y goruchwyliwr yn dra charedig i'r teulu gael aros yn y ty hyd Mai yr 2il, a gofynodd i'r ben denant edrych ar ol y defaid a thrin y tir i'r tirfeddianwr 11 Er dyfal graffa, ni welwyd un arlliw o'r tenant newydd Wedi i'r fferm fod yn y farchnad am fisoedd, diwedd y siarad fu i'r goruchwyliwr roddi pris manteisiol a rhesymol ar y fferm, ac erbyn hyn y mae Cae-Einion a Maesyryn wedi eu prynu gan Mr. David Evans. Gwnaeth yr amaethwr yma waith ardderchog, yn ddistaw a di lol, ond yn dra effeitbiol. Y Werddon fach y gelwir y rhan yma o'r wlad yn awr. Estate Office, Criccietb, N. NV., Mai 3ydd, 1889. Anwyl Syr,—Yr wyf yn diolch ichwi am anfon i mi gopi o rhyw druth wirionffol a ymddangos. odd mewn wythnosolyn oddiwrth rhyw berson direidus a gyfenwa ei hun yn Nodwr" ynghyleh Cae-Einion. Yr oeddwn yn meddwl fod Nodwr ac "Un o'r Ardal" wedi cael digon ar Cae- Einion. Fodd bynag, y mae pobl Dolgellau, y rhai sydd yn adnabod y partion cysylltiedig, wedi cael digon. Rhaid fod Nodwr yn ynfytyn gwirion, neu yn ystyried fy mod i yn un felly, os meddyliai fy mod am osod Cae-Einion i denant newydd hyd nes y byddo yr hen denant wedi clirio o'r ffordd yn llwyr. Nid felly, Mr. Nodwr: ni fydd i chwi fy nghael mor wirion a hyny, fodd bynag. Yn awr, y gsvirionedd syml yw hyn :-Rhodd. wyd Cae-Einion a Maesyryn i [YAY i arwerthiant yn 1881, a byth ar ol hyny yr wyf wedi bod yn awyddus i werthu. Ar y 9fed o Ionawr diweddaf ysgrifenodd Mr. Gibson, cymydog agos i Cae- Einion, i gynyg ^1,600 am y ddwy fferm. Bu peth oediad, ac yn mis Mawrth derbyniais ei gyn. ygiad. Ond yn yr amser hwnw yr oedd wedi newid ei feddwl; ac ar foreu y 25ain o Fawrth, pan yr oeddwn yn myned i Dojgellau i gymeryd meddiant o'r fferm, cefais i'm ilaw lythyr a an- fonodd Mr. Gibson at y Mri. Jones a Jones, cyf- reithwyr, Porthmadog, yn hysbysu yn derfynol na phrynai y lie. Y mae yn bwyeig i sylwi ar hyn, gan y gwelir mai ar y 25ain o Fawrth y daetbum yn alluog i fyned i ymdrafodaeth newydd ar y mater. Nid yw haeriad Nodwr fy mod, ar ol cymeryd y defaid, wedi bod mor garedig a goddef y teulu i aros, &c., ond ei ddyfais, ae nid oes iddo sail. Yr oedd Mr. David Evans o dan y syniad fod ganddo yr hawl i'r ty a'r ad. eiladau hyd y 13eg o Fai; ond yr oedd ei gytundeb wedi ei arwyddo yn Chwefror, 1883, yn hysbysu yr amser iddo ef, sef ei fod yn terfynu ar y 25ain o Fawrth. Fe ddaeth Mr. David Evans i fy nghyfarfod i Ddolgellau ar y pwnc, a'r canlyniad ydoedd iddo ysgrifenu i mi lythyr dyddiedig y 18fed o Fawrth yn gofyn am ganiatad i aros yn y ty hyd y 13es o Fai, ao hefyd le i'r fuwch a'r eases hyd yr amser hwnw. Nid yw hyn yn gyffelyb i adroddiad It Nodwr." Dymaun oto o ddyfeisiau Nodwr efe a ddywed fy mod wedi gofyn i'r tenant i edrych ar ol y defaid ac i drin y tir." Yr oeddwn wedi trefnu ynghyleh y defaid; ond cyn- ygiodd Mr. Evans yn garedig i edrych ar eu hoi ac i wneyd yr hyn fyddai yn angenrheidiol hyd amser ei ymadawiad ar y13eg o Fai, am yr hyn wasanaeth yr oedd i dderbyn tal. Bu iddo ef a minan gytnno mewn ychydig funydau ynghylch pobpeth, a dywedodd ef nad oedd yn dymuno am neb arall i brisio ond myfi. Pan oedd priawyr y defaid yn methu cytuno, ac wedi galw eu canol- wr, a hwnw wedi setlo y pris, a phan yr oeddynt yn dechreu marcio y defaid, y galwodd Mr. Evans arnaf i'r ystabl, ac y gofynodd i mi bris y ddwy fferm. Dywedais wrtho y cawBai hwynt am yr un bris ag y cytunid gan Mr. Gibson, ond ar yr amod fod Mr. Gibson eto i roddi atebiad. Yna y perswadiais was Mr. Gibson i fyned ar unwaitb i Ddolgellau i bellebru at Mr. Gibson y byddai iddo golli ei ffermydd os na byddai iddo ef eu prynu ar unwaith. Fe wnaeth byny. Cynygiodd Mr. D. Evans £1,500 am y ffermydd yn yr ystabl. Er's hyny y mae wedi en prynu am £ lt600. Yr wyf wedi gweithredu byd y diwedd yn union yr un fath tuag at Mr. David Evans fel y gwnaetb- um drwy yr oil; ac os ydyw ere mor foddlawn ag yr ydwyf if, nis gall fod unrhyw wrthwynebiad i- ffolineb Nodwr yn perswadio ei hun ei fod yn fath o Barnell yr Ail," a'i fod ef a'i gydymaitb I I Un olr Ardal wedi eu dethol i waredu "yr Iwerddon fach." Nid ydyw pobl Dolgellau yn credu gair o bono. Yr wyf yn benderfynol i gadw y gwirionedd o'r busnes hwn o flaen y cy- hoedd. Dichon yr boffai "Nodwr" ga.elgolwg ar restr yr ymgeiswyr, ond nis gall. Tebyger am foment na ddaethai unrhyw denant ymlaen, 'does bosibl ei fod yn credn fod ei ocbr ef yn debyg o enill? Os ydyw, y mae ele yn llawer ynfytacb nag y mae ei ysgrifeniadau byd yn nod yn gwneyd iddo ymddangos.-Yr eiddoeli, WALTER B. C. JONES. Geo. H. M. Owen, Ysw., Ysgrifenydd Cymdeithas Arnddiffynol Eiddo Gogledd Cymru.

CWESTIYNAU "LLIFON."j

ADGOFION CYFFEED [NOL.I

[No title]