Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

TALYSARN, NANTLLE.

\ BOTTWNOG.

LLANELLI.

LLANERFYL.

LLEYN.

LLANDDAROG.

ABERAYRON.

GARTHBRENGI.

ABERHONDDU.

CRAIGTREBANWS, PLWYF CLYDACH.

CLYDACH.

DINBYCH. :

RHUTHYN.

ILLANRHYDD.

HENDY GWYN AR DAF.

ABERDAR.

; BETHESDA.

News
Cite
Share

BETHESDA. SYMUDIAD MR. TH. O. OWEN.-Mae'n hysbys erbyn i hyn fod Mr. Owen, Brynllwyd, yn symud i Llandegai 1 i balasdy hardd, helaeth, ac iachus. Teimlir rywfodd ynchwith golli y boneddwr o Brynllwyd, er nad ydyw I yn myned o'r plwyf, nac yn rhoddi gofal ei swydd i bwysigifyny. Bydd ya fanta,ia nas gv"vyr neb pa faint i gael Mr. Owen yn Llandegai, gan ei fod yn ddyn teilwng, cymydog caredig, yn Geidwadwr ymroddgar, c ac yn Gristion cywir. Rhaid dweyd fod Mr. Owen iwedi gwneyd ei ô1 yn ddwfn ar ardaloedd Bethesda; efe ydyw tad y Gymdeithas Geidwadol, yr hon sydd yn rhifo ymhell uwchiaw mil. Mae wedi bod yn blaid i'r gweith- wyr ao i bob acboa da. Yr oedd ei dy yn gyrchfan pobloedd lawer, ie, arglwyddi a phendefigion, ac yn gyrchfan i'r tiodion a'r anghenus. Nid gormod dweyd fod Mr. Owen yn cyfrana canoedd o banaa yn flyn- yddol at achoalon elusenol. Nid ydym yn gwybod am ) neb erioed wedi bod ar ei ofyn ac yn cael ei nacau. Yr i oedd yn ddall i bleidiau ac enwadau, geIlir dywedyd am dano Bendich yr hwn oedd ar ddartod am dano a 1 ddenai arnaf, a gwnawn i galon. y wraig weddw lawenycbn, gwisgwn gyfiawnder a hithau a wisgai am ) danaf ii, a'm barn a fyddai fel mantell a choron. i Llygaid oeddwn i'r dall, a thraed oeddwn i'r cloff. Tad oeddwn i'r anghenog, a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. Dryliiwn helyd gil-ddanedd yr anghvfiawn, ac a dynwn yr ysglyfaeth ailan o'i ddanedd ef." Dymunwn 1 bob Uwyddiant iddo, ynghyd &'i briod hawddgar Mrs. Owen, yn ei balasdy newydd. R IAWN AM GAELDRAFTH.-Fel ag y mae yn wybyddua i lawer, cynhaliodd yr Annibynwyren cyfarfod chwarterol yn Bethesda y llynedd, ac ymhlith gweithrediadclu eraill cynygiodd un o'r gweinidogion bleidlais o gerydd r ar y Llywodraeth, yn neillduol yn achos yr Iwerddon, ond cododd Dr. Williams, Bryn Meurig, Bethesda, a 3 meddyg Ysbytty Chwarel y Penrhyn, yr hwn sydd yn r flaenor gyda'r Annibynwyr, ar ei draed, a dywedodd mai nid lie i ymdrin a. materion gwleidyddol oedd y capal. Ond yn fuan gwnaeth y Gelt sylwadau athrodoi ar y meddyg. Anfonodd Dr. Williams lythyr at olyg- ydd y Celt i ofyn iddo wneyd ymddihenrad, ond sarha- hawyd ef mor bell ag y ipae distawrwydd yn sarhau. Cymerodd y meddyg gan h-yny gwra gorfodoi, a chasgl- ? odd ystadegau o gleifion a fu dan ei ofal, ac o'r rhai 1 oedd wedi Cyfarfod a damweiniau yn y ehwarel, y rhai 1 a fu farw a'r a iachawyd, a'u cydinaru gyda'r amser a basiodd ac a gwahanol gymydogaethau. Dirwynodd yr achoa i'r uchel lys yn Llundain, a throdd y dyfarniad o blaid Dr. Williams., ae yn erbyn y Celt, gyda Xloo o iawn i'r Meddyg a'r holi gostau.—Cofnodydd.

LLANFWROG (RHUTHYN).

LLANBEDROG.