Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

.-.....,,........ GORSEDDIAD…

News
Cite
Share

GORSEDDIAD ESGOB LLANELWY. Dydd Iau diweddaf, yn uinas esgobawl henafol Llanelwy, y cyflawnwyd y seremoni olaf ynglyn a phenodiad y Tra Pharchedig A. G. Edwards i esgobaeth Llanelwy. Yr oedd y tywydd yn ddy. munol, a galluogwyd nifer mawr o glerigwyr a lleygwyr o bob cwr o'r esgobaeth i fod yn bresenol fel yr oedd y dref yn orlawn o ddieithriaid yn gynar yn y dydd. Yr oedd y trefniadau wedi eu cario allan yn foddhaol iawn gan nifer o fonedd- igion a apwyntiwyd i'r gwaith, eef Mri. R. F. Sisson, Alun Lloyd, R. E. Griffiths, John Jones (Riverdale), Joseph Webster, F. Ball, Thomas Williams, a'r Milwriad Hore. Ymhlith y nifer mawr o foneddigion a sylwyd yn bresenol yr oedd Syr Watkin Williams Wynn, Syr W. Grenville Williams, Mr. E. Swetenham, A.S., y Milwriad Mesham, Meistri J. Scott Bankes, W. Trevor Parkins, Corbet Yale, W. D. W. Griffith (maer Dinbycb), T. Morgan Owen, &c. Ymhlith y clerigwyr y Tra Pharchedig H. A. James, deon Llanelwy a phrifathraw Coleg Cheltenham Dr. Jeune, canghellydd yr esgobaeth; yr Arch- ddiaconiaid Edward Smart a David Thomas; y canoniaid trigianol, H. Jones (Llanrwst), a David Howell (Gwreesam); minor canons, Parchn. David Lewis (Trefnant), W. Howell Evans, M. H. Lee (Hanmer), T. B. Ll. Browne (Bodffari), W. Richardson (Corwen), W. Morton (Llanelwy), D. Williams, ac R. Williams; vicars choral, Parchn. W. G. Thomas, T. LI. Williams, Thomas Lloyd, ac E. J. Evans deoniaid gwladol yr esgobaeth; caplaniaid; Canoniaid Howell ac Evans, a'r Parchn. W. H. Williams (Bodel- wyddan), a J. O. Owen (prif-feistr Ysgolion Llan- ymddyfri); caplan teuluaidd, Parch. E. M. Roderick; gyda chofrestrydd yr esgobaeth, Mr. E. J. Sisson, a'r is-ddirprwy-gofrertryddd, Mr. H. A. Cleaver. Tra yr oedd y clerigwyr, y rhai a rifent tua 300, yn asawisgo yn ystafell y siapter, chwareuodd Mr. Llewelyn Lloyd amryw ddarnau ar yr organ, ac yna ffurfiwyd yn orymdaith i fyned at fynedfa gardd y Palas, yr hon a agorai i'r fyn- went, i gyfarfod ei arglwyddiaeth. Ymunwyd a'r orymdaith yn y fan hon gan Mr. Evan Morris, maer Gwreesam, a Dr. Jenkins, maer Rhuthyn, yn eu gwisgoedd swyddogol; ac yn fuan daeth yr Esgob i'r golwg, yn cael ei ddilyn gan ei gaplan- iaid, y rhai a enwyd uchod; Ymaflodd y Deon James yn un Haw iddo, a'r Canon Hugh Jones, Llanrwst, yn y llaw arall; ac arweiniwyd yr Esgob, yn cael ei-flaenori gan yr orymdaith yn y wedd hono, trwy y drws gorllewinol i'r Eglwys. Wedi cerdded i fyny at y gangell a sefyll gerllaw yr orsedd tra yr oedd y gynulleidta yn canu yr emyn The Church's one Foundation," trosglwyddodd yr Esgob, y weithred awdur- dodedig oddiwrth Archesgob Caergaint i law y Deon, yr hwn yn ei dro a'i trosglwyddodd i'r cof- restrydd i'w darllen. Wedi ei darllen, gweinydd- odd y cofrestrydd y llw arferol, yr hwn a gymer. wyd gan yr Esgob. Yn ddilynol i hyn, y Deon a arweiniodd yr Esgob i'w orsedd yn y ffurf arferol, gan ddweyd ei fod ef mewn cydsyniad a gor- chymyn yr Archesgob yn gorseddu ei arglwydd- iaeth, ac yn ei osod mewn Ilawn feddiant o'r esgobaeth hono, a'r oil a berthynai iddi. Wedi hyny offrymwyd gweddiau arbenig gan y Deon, ac yn ddilynol aethpwyd trwy y foreuol weddi. Yr oedd byrbryd wedi ei barotoi i'r clerigwyr a'r lleygwyr a gymerasant ran yn y gweithred- iadau yn yr Ysgol Genedlaethol. Cynygiodd Syr Watkin Wynn iechyd yr Esgob, yr hwn wrth ateb a gyfeiriodd at yr anhawsder ddwy-ieithog. Dy. wedodd fod yr iaith Saesneg yn ymledu ae yn cynyddu yn gyflym yn Nghymra, ond tybiai ef (yr Esgob) ei bod yn ddyledswydd ar yr Eglwys Genedlaethol weinyddu i bob dyn yn yr iaith y gweddiai, ac yn yr hon iaith y byddai iddo, pan ar ei wely angau, gyflwyno ei enaid i Dduw. Cyf- eiriodd yr Esgob at anhawsderan eraill i waith yr Eglwys yn yr esgobaeth, a cheisiodd argraffu ar feddyliau yr offeiriaid a'r lleygwyr yr angen mawr am undeb a chydweithrediad.—Wedi i amryw lwnc-destynau eraill gae] eu cynyg a'u hateb, ter- fynwyd y gweithrediadau.

I ---I MARWOLAETH CANON JONES,…

HARLECH.

---'-"-DEONIAETH UCHAF LLANDAF.

TAIBACH, PLWYF MARGAM.

- NODIADAU SENEDDOL.

-.,>æ;'IrJ!I::Ilf'Si:". YR…

NODIADAU GWLEIDYDDOL.